Llefydd hygyrch i aros yn y De

Mae’r De yn hwylus i bawb sy’n ymweld, ac mae digon i’w weld yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Dyffryn Gwy. Mae yna ddewis o amrywiaeth o lefydd i aros, gan gynnwys byngalos pwrpasol, gwestai 4* sy’n addas i gadeiriau olwyn a phobl sy’n cael anhawster i symud, a safleoedd gwersylla cynhwysol. Beth bynnag fyddwch am ei wneud yn Ne Cymru, mae yna lety sy’n addas i bob ymwelydd.

I gael ysbrydoliaeth am bethau i’w gwneud yn ystod eich ymweliad, edrychwch ar y dolenni isod:

Atyniadau hygyrch i bawb yn Ne Cymru

Gwyliau hygyrch yng Nghymru

Bythynnod gwyliau hygyrch yn y De

Homefield Bungal

Grysmwnt, Y Fenni NP7 8EP

  • Hygyrch ym mhob man
  • Un ystafell wely gydag ystafell ymolchi en-suite, gwely sy’n codi a theclyn codi trydan
  • Cyfarpar ychwanegol ar gael drwy gais

Mae Homefield ym mhentref prydferth Grysmwnt, yn gartref gwyliau hunanarlwyo gyda thair ystafell wely ac wedi’i greu gan ystyried anghenion ymwelwyr anabl. Gydag un ystafell wely mae ystafell wlyb en-suite sy’n addas i gadair olwyn a phobl sy’n cael anhawster symud. Mae amrywiaeth eang o offer a chymorth ar gael drwy wneud cais. Mae yna lwybrau wedi’u cynllunio i bobl mewn cadair olwyn gael mwynhau’r ardd, ac mae croeso i gŵn. 

Taking bookings for 2021 all year round. Homefield Bungalow. Wheelchair accessible. Roll-in wet room. Large garden....

Posted by Homefield - Disabled Holiday Accommodation - Wales on Monday, September 14, 2020

Bythynnod Gwyliau Parc Coed Machen

Llansanffraid–ar-Elai, Caerdydd CF5 6EZ

  • Lloriau gwastad heb risiau i gadeiriau olwyn
  • Ystafelloedd ymolchi hwylus gyda baddonau a chawodydd a rheiliau cymorth
  • Systemau galw gyda phadiau crynu ar gyfer larymau tân, clychau’r drws a theleffonau i ymwelwyr sy’n drwm eu clyw neu gyda nam ar eu llygaid.

Yn harddwch Bro Morgannwg mae pump o dyddynnod gwyliau Parc Coed Machen, pedwar gyda dwy ystafell wely ac un gyda thair. Maent ryw saith milltir o ganol Caerdydd ac mewn man da i ymweld ag atyniadau fel Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac yn gyfleus i’r arfordir a chefn gwlad. 

Yew Tree Barn

Gwernesni, Brynbuga, Sir Fynwy NP15 1DB

  • Mynediad ar lefel y ddaear i bob man gyda drysau llydan i gadeiriau olwyn
  • Ystafell wlyb hwylus gyda chawod i rolio i mewn iddi
  • Sedd cawod ar gael drwy wneud cais

Yng nghefn gwlad werdd Sir Fynwy mae Yew Tree Barn ac mae’n darparu llety hygyrch i hyd at chwech o bobl. Mae’r cyfan ar un lefel gyda drysau llydan a mynediad i’r tu allan. Mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl mewn cadair olwyn a phobl sy’n cael anhawster i symud. 

 

Bythynnod Winchfawr – Mountainside Lodge

Heol Gerrig, Merthyr Tudful CF48 1RD

  • Lloriau gwastad heb risiau a drysau llydan i gadeiriau olwyn
  • Ystafell wlyb hwylus.

Mewn man uchel ger Merthyr Tudful, mae Bythynnod Winchfawr yn ganolbwynt gwych i grwydro ardal sy’n llawn o dreftadaeth a natur godidog. Mae Mountainside Lodge ar y llawr isaf ac yn hwylus i bobl mewn cadair olwyn a phobl sy’n cael anhawster i symud. 

The Chalet

Dôl-y-gaer, Pontsticill, Merthyr Tudful, Powys CF48 2UR

  • Dwy uned hwylus gyda nodweddion sy’n cynnwys ystafelloedd gwlyb hwylus ar gyfer yr anabl.

The Chalet yw’r ychwanegiad diweddaraf at ganolfan awyr agored Dôl-y-gaer Parkwood gyda lle i hyd at 26 o bobl, a gellir eu rhentu bob yn ystafell. Saif The Chalet yng nghanol Bannau Brycheiniog ac mae’n cynnig dwy uned gyfleus gydag ystafelloedd gwlyb, yn ganolfan berffaith i roi cynnig ar rai o’r gweithgareddau awyr agored niferus yn Oakwood a chrwydro’r ardal ehangach. 

tu allan i'r adeilad gyda'r ail adeilad yn y cefndir.
ystafell wely gyda gwely dwbl a gwely bync.
Ystafell wlyb hygyrch gyda chawod gyda sedd a drws llydan ar agor yn dangos ystafell wely.

The Chalet, Dôl-y-gaer

Gwestai hygyrch yn Ne Cymru

Park Plaza Caerdydd

Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd CF10 3AL

  • Dewis o ystafelloedd hygyrch gydag ystafelloedd ymolchi wedi’u haddasu
  • Lifftiau braille i bobl â nam ar eu golwg
  • Cyntedd, mynedfa ac ystafelloedd ymlacio hygyrch i bob ymwelydd

Mae Park Plaza Caerdydd yn westy moethus 4-seren gydag amrywiaeth o gyfleusterau hwylus sy’n cynnwys dewis o ystafelloedd wedi’u haddasu sy’n addas i gadeiriau olwyn a phobl sy’n cael anhawster symud. 

Ystafell wlyb hygyrch gyda rheiliau cydio a chawod cerdded i mewn.
Ystafell wely mewn gwesty gyda gwely dwbl a desg.

Ystafelloedd hygyrch yn Park Plaza, Caerdydd

Premier Inn Canol Dinas Caerdydd

10 Heol Churchill, Caerdydd CF10 2HE

  • Dewis o ystafelloedd sy’n garedig i’r anabl gyda gwelyau sy’n codi ac ystafelloedd ymolchi hygyrch gyda baddonau isel neu gawodydd i rolio i mewn iddynt

Perffaith i ddarganfod prifddinas Cymru. Ewch i wefan Premier Inn i drefnu a chael gwybodaeth.

Best Western Heronston Hotel

Ffordd Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5AW

  • Un ystafell wely hygyrch gydag ystafell ymolchi en-suite wedi’i haddasu
  • Mynediad heb risiau i’r dderbynfa
  • System ddolen symudol ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu clyw.

Mae’r Best Western Heronston Hotel ychydig funudau mewn car o Arfordir Treftadaeth Morgannwg ac o fewn cyrraedd hawdd i Abertawe a Chaerdydd. Mae’r staff wedi’u hyfforddi i helpu gwesteion anabl, ac mae mynediad heb risiau i’r dderbynfa, sydd â system ddolen symudol i bobl sydd â nam ar eu clyw. Ymhlith y cyfleusterau mae pwll cynnes dan do, sauna, ystafell ager a sba. .

Travelodge Merthyr Tudful

Pentref Hamdden Merthyr Tudful, Merthyr Tudful CF48 1UT

  • Ystafelloedd en-suite hygyrch

Saif ar gyrion tref Merthyr Tudful, ac mae Travelodge yn cynnig llety fforddiadwy mewn lleoliad cyfleus. Mae’n agos i Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac yn lleoliad gwych i archwilio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Premier Inn Ynys y Barri – Maes Awyr Caerdydd

Safle Triangle, The Waterfront, Hood Road, Ynys y Barri CF62 5QN

  • Dewis o ystafelloedd sy’n garedig i’r anabl gyda gwelyau codi ac ystafelloedd ymolchi gyda baddonau isel neu gawodydd i rolio i mewn iddynt.

Mae’n cynnig dewis o ystafelloedd hygyrch. Mae Premier Inn Ynys y Barri – Maes Awyr Caerdydd yn le gwych i ymwelwyr sy’n dymuno crwydro Bro Morgannwg. Gweler gwefan Premier Inn am fanylion llawn.

Parciau carafanau gwyliau hwylus yn Ne Cymru

Parc Teithio Happy Jakes

1 New Barn Holdings, Trefflemin, Bro Morgannwg CF62 4QL

  • Bloc cawodydd hygyrch

Mae Happy Jakes yn barc gwersylla a charafanau sy’n addas i’r anabl ac wedi ei enwi ar ôl mab y perchennog a aned gyda Trisomy 21 (Syndrom Down). 

Straeon cysylltiedig