Diwrnodau hygyrch i bawb yng Ngogledd Cymru

Yng Nghymru, rydym yn ymfalchïo yn ein hymdrech i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau ein golygfeydd hardd, ein henebion hanesyddol a’n huchafbwyntiau diwylliannol. Mae cymaint i'w gweld a'u gwneud, byddwch am aros am sbel – ac mae yna ddigonedd o opsiynau llety hygyrch ar draws Gogledd Cymru.

Amgueddfeydd ac orielau hygyrch

Oriel Mostyn

12 Stryd Vaughan, Llandudno LL30 1AB

  • Mae'r adeilad yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig

Mae Oriel MOSTYN yn ofod celf gyfoes a’i nod yw cynnig ysbrydoliaeth newydd ar bob ymweliad, gydag arddangosfeydd o luniau, cerflunwaith, crefft a fideos Cymreig sy’n newid yn gyson. Yn y gorffennol mae’r rhaglenni wedi cynnwys gweithdai therapi celf a sesiynau dysgu i'r rhai sydd â nam ar eu clyw, eu golwg a'u symudedd. 

 

Person mewn cadair olwyn a ffrind yn edrych ar gelf mewn oriel

Oriel MOSTYN Gallery, Llandudno

Oriel Môn

Rhosmeirch, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TQ

  • Mae'r adeilad yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
  • Dolen sain ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu clyw
  • Croeso i gŵn cymorth

Mae Oriel Môn yn adeilad celf a hanes lleol sydd wedi’i ddylunio’n hyfryd ac mae’n cynnwys casgliadau sylweddol o weithiau gan y peintiwr tirluniau enwog o Ynys Môn, Kyffin Williams, y darlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe ac artistiaid Cymreig blaenllaw eraill. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys system dolen sain a pharcio i'r anabl, ac mae'r orielau a chaffi Blas Mwy yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn. 

Carchar Rhuthun

46 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1HP

  • Mae'r adeilad yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig.

Mae Carchar Rhuthun, oedd yn garchar gweithredol tan 1916, yn rhoi cipolwg sobreiddiol ar fywyd carcharor yn oes Fictoria. Mae'r adeilad hanesyddol wedi'i droi yn gwbl hygyrch, gyda lifft i'r lloriau uwch. Cynghorir defnyddwyr cadeiriau olwyn i fwcio ymlaen llaw. Mae staff cyfeillgar, gwybodus wrth law i gynnig gwybodaeth a chymorth, a cheir mynediad arbennig i arddangosion ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg.

 

Arddangosfa yng Ngharchar Rhuthun yn dangos ffigwr y tu ôl i fwrdd gydag offer cegin.
Arch yn cael ei harddangos yng Ngharchar Rhuthun.
Celloedd y tu mewn i Garchar Rhuthun.

Carchar Rhuthun

Natur hygyrch yng Ngogledd Cymru

Llyn Brennig

Cerrigydrudion, Corwen, Sir Ddinbych LL21 9TT

  • Mynediad gwastad i ganolfan ymwelwyr, caffi a thoiledau

Yn llydan, yn las ac yn ffinio â choedwig, mae Llyn Brennig yn gronfa ddŵr ac iddi ganolfan ymwelwyr fodern, llwybrau beicio ag arwyddbyst, llwybrau natur a gweithgareddau dŵr. Pysgota plu am frithyllod yw'r prif atyniad a hynny oddi ar Gychod Olwyn rholio-ymlaen, rholio-i-ffwrdd y gall defnyddwyr cadeiriau olwyn eu llogi: argymhellir bwcio ymlaen llaw. 

Pobl yn pysgota mewn cwch ar y llyn.

Llyn Brennig, Sir Ddinbych

 

Rheilffordd yr Wyddfa

Llanberis, Gwynedd LL55 4TT

  • Cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn
  • Cadair olwyn ar gael i'w defnyddio yng ngorsafoedd Llanberis a'r Copa
  • Croeso i gŵn cymorth

Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn igam-ogamu'r holl ffordd o Lanberis hyd at Hafod Eryri, Canolfan Ymwelwyr y Copa sydd ychydig lathenni o gopa mynydd uchaf Cymru. Mae gan y trenau, sy'n cael eu gwthio gan locomotifau disel neu ager o dras, gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn er mwyn i chi fwynhau'r golygfeydd anhygoel. Mae’n hanfodol bwcio lle ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod cymorth wrth law. Gwiriwch ddatganiad mynediad Rheilffordd yr Wyddfa am ragor o wybodaeth.

Y cerbyd Lili’r Wyddfa yn teithio i fyny Rheilffordd yr Wyddfa.

Rheilffordd yr Wyddfa, Llanberis

Gwarchodfa Natur RSPB Conwy

Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9XZ

  • Mae'r ganolfan ymwelwyr yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
  • Croeso i gŵn cymorth
  • Caiff cynorthwywyr personol fynediad rhad ac am ddim
  • Detholiad o lwybrau a throedffyrdd ag arwynebau gwastad

Dewch i ddarganfod hwyaid, cornchwiglod ac adar eraill yng Ngwarchodfa Natur RSPB Conwy, sy'n edrych dros yr aber a'r castell. Mae'r ganolfan ymwelwyr, y man chwarae a'r llwybrau yn hygyrch i gadeiriau olwyn, yn ogystal â'r mannau gwylio a'r cuddfannau, sydd â sgriniau a slotiau ar wahanol uchder. Caniateir cŵn cymorth cofrestredig; gellir llogi cadeiriau olwyn am ddim a cheir mynediad am ddim i gynorthwywyr personol. 

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Dolgefeiliau, Dolgellau LL40 2HZ

  • Mae'r ganolfan ymwelwyr yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
  • Llwybrau beicio addas ar gyfer beiciau addasedig
  • Dau lwybr cerdded sy'n addas ar gyfer sgwteri symudedd oddi ar y ffordd
  • Cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd ar gael i'w llogi (archebu ymlaen llaw yn hanfodol)
  • Mannau picnic hygyrch

Mae canolfan beicio mynydd pwrpasol gyntaf y DU, Coed y Brenin, yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer anturiaethau mewn coetir hygyrch. Mae yma ddetholiad o nodweddion sy'n addas ar gyfer yr anabl e.e. mannau chwarae a llecynnau picnic hygyrch, safleoedd parcio i'r anabl a llwybr cerdded hygyrch gyda cherfluniau cyffyrddadwy. Mae yma hefyd lwybr beiciau MinorTaur, lle mae tair o'i bedair dolen wedi'u cynllunio ar gyfer beicwyr anabl sy'n defnyddio beiciau addasedig. 

Llwybr Arfordir Cymru

Mae gan sawl rhan o Lwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru arwynebau caled sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae llwybr gwych ar hyd Afon Dyfrdwy rhwng Doc Cei Connah, i’r de-ddwyrain o’r Fflint, a Chaer. Mae’r darn rhwng Prestatyn a Chonwy, sy’n hawdd i’w ddefnyddio gan deuluoedd, bron yn gyfan gwbl yn bromenâd glan môr. Am ragor o syniadau, edrychwch ar y detholiad o lwybrau cerdded mynediad hwylus ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Golwg o lan môr y Rhyl oddi fry.

Y Rhyl

Gweithgareddau hygyrch yng Ngogledd Cymru

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Lôn Raikes, Yr Wyddgrug CH7 1YA

  • Adeilad sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
  • System glyw dolen sain a pherfformiadau capsiwn ar gyfer y rhai â nam ar y clyw
  • Sain-ddisgrifiad a theithiau cyffwrdd cyn y sioe ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu golwg
  • Sioeau hamddenol i'r rhai sydd ag awtistiaeth, dementia, anableddau dysgu ac anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu

Mae Theatr Clwyd yn ganolbwynt diwylliannol poblogaidd, sy’n cynnig rhaglen gydol y flwyddyn o ddigwyddiadau theatr, sinema, cerddoriaeth, dawns a chomedi. Mae pob llawr yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac mae system dolen sain ym mhob awditoriwm. Caiff rhai perfformiadau a dangosiadau eu hisdeitlo, gyda chapsiynau neu sain-ddisgrifiad, a cheir rhaglen o sioeau hamddenol sy’n darparu ar gyfer oedolion a phlant ag awtistiaeth, dementia neu anawsterau cyfathrebu. 

 

Yr awditoriwm gyda seddi coch a llwyfan, wedi’i dynnu o'r adain.

Yr awditoriwm o'r adain, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Pŵer Pedal / Pedal Power

Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, Wrecsam LL11 4AG

  • Dewis o feiciau addasedig sy'n addas ar gyfer defnyddwyr ag amrywiaeth o namau corfforol

Mae Pŵer Pedal/Pedal Power yn ymroi i wneud beicio yn hygyrch i bawb. Mae’r elusen yn llogi amrywiaeth o feiciau – gan gynnwys treiciau, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn a beiciau ochr-yn-ochr – yn Alyn Waters, parc gwledig mwyaf Wrecsam. Mae yma ardal hyfforddi, llwybr milltir o hyd i feicio o’i gwmpas, a llwybr cerfluniau sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Atyniadau gwyliau hygyrch yng Ngogledd Cymru

Castell Caernarfon

Caernarfon, Gwynedd, LL55 2AY

  • Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar brosiect mawr er mwyn bod yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
  • Mynediad am ddim i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chynorthwywyr personol

Mae caer ganoloesol gadarn Castell Caernarfon wedi tra-arglwyddiaethu dros y dref ers canrifoedd. Mae’n her troi caer ganoloesol yn fan hygyrch i bobl â phroblemau symudedd. Fodd bynnag, mae prosiect gwerth £4 miliwn, sy’n cynnwys lifft newydd, yn addo agor mwy o’r Safle Treftadaeth y Byd hwn i ymwelwyr anabl nag erioed o'r blaen. Hyd nes y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, ceir mynediad drwy set o risiau: mae’n hanfodol ffonio ymlaen llaw am gymorth ar 01286 677617. Mynediad am ddim i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chynorthwywyr personol. 

castell yn y cefndir â chychod o’i flaen
Ardal laswelltog oddi mewn i gastell mawr.

Castell Caernarfon

Castell Penrhyn

Castell Penrhyn, Bangor LL57 4HN

  • Mynediad cadair olwyn i'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf
  • Rhannau mawr o dir sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn

Mae Castell Penrhyn yn gastell ffug-Normanaidd syfrdanol ac yn amgueddfa reilffordd. Mae grisiau, staerau, llethrau a choblau i'w goresgyn ond mae sawl rhan o'r tŷ a'r tir yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Ceir mynediad â ramp i lawr gwaelod y prif dŷ ac, yn y bloc stablau, lifft i orielau ac amgueddfeydd y llawr cyntaf. 

Straeon cysylltiedig