Bythynnod gwyliau hygyrch yng Ngogledd Cymru

Bythynnod Bryn Dowsi, Conwy

Bythynnod Bryn Dowsi, y Gyffin, Conwy LL32 8YF

  • Cadeiriau olwyn ar gael i’w llogi ar gais
  • Cawodydd hygyrch, cadeiriau breichiau sy’n codi a lledorwedd a chanllawiau bachu

Fferm organig weithredol yn Nyffryn Conwy yw Bryn Dowsi, ychydig dros filltir o dref castell Conwy. Troswyd nifer o adeiladau yn fythynnod hunanarlwyo ar lefel y ddaear. Ysgubor oedd y Bwthyn yn wreiddiol, ond mae bellach yn fyngalo clyd â dwy ystafell wely. Adeilad ecogyfeillgar yw hen adeilad y Beudy, gyda gwres geothermol a thair ystafell wely. Mae gan y ddau gawodydd hygyrch, cadeiriau breichiau codi a lledorwedd a chanllawiau bachu. Mae cadeiriau olwyn ar gael i’w llogi ar gais. 

A wetroom with a movable chair.

Fferm Bryn Dowsi, Conwy

Llety byngalo a fflat hygyrch yng Ngogledd Cymru

Beach Bungalow, Bae Cinmel

Alexandra Court, Southlands Rd, Bae Cinmel, Conwy LL18 5BG

  • Llety un llawr sy'n addas i gadeiriau olwyn
  • Cawod ystafell wlyb hygyrch

Mae Beach Bungalow ar ffordd bengoll dawel gyda mynediad i draeth tywodlyd hyfryd. Mae ganddo bum ystafell wely en-suite, a phob un ar y llawr gwaelod gyda drysau tân mynediad eang, a chawod ystafell wlyb fawr gyda chyfleusterau i westeion anabl, gan gynnwys cadair comôd yn y gawod (hunan-yrru) a chanllawiau bachu. Mae'r traeth a'r harbwr 200 llath o'r eiddo, ac mae safle bws, tafarndai a bwytai, archfarchnad a swyddfa bost gerllaw. 

Traeth tywodlyd gyda llwybr pren eang yn y twyni.

Traeth Bae Cinmel

Manaros, Aberdaron

1 Tŷ Dolfor, Ffordd Capel Deunant, Aberdaron, Pwllheli LL53 8BP

  • Bygi pob tir Tramper ar gael am ddim i westeion sy’n brin eu symudedd
  • Gwely addasadwy trydan a chadair freichiau sy’n codi a lledorwedd
  • Cawod hygyrch gyda chadair gawod hunan-yrru

Byngalo gwyliau pedair seren gyda phedair ystafell wely yw Manaros ger trwyn Pen Llŷn mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'n cynnig dewis o lety hunanarlwyo neu lety gwely a brecwast â gwasanaeth, a gall gwesteion sy'n cael trafferth cerdded fanteisio ar fygi pob tir am ddim am drip i'r pentref neu'r traeth. Mae nodweddion hygyrchedd yn cynnwys gwely addasadwy trydan a chadair gawod hunan-yrru. Ceir rhagor o fanylion yn y Datganiad Hygyrchedd ar wefan Manaros.

Aerial view of a seaside village.
Ystafell gyda phâr o welyau.
Cawod hygyrch mewn ystafell wlyb.

Pentref Aberdaron ac ystafell Ynys Enlli ym Manaros, Pen Llŷn

Fflat y Gromen, Portmeirion

Pentref Portmeirion, Minffordd, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6ER

  • Fflat llawr gwaelod gydag ystafell ymolchi wedi'i haddasu

Yng nghanol pentref arfordirol Eidalaidd hudolus Portmeirion mae Fflat y Gromen, sef ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod gydag ystafell ymolchi wedi'i haddasu a golygfeydd godidog o'r pentref a'r arfordir. Ceir llawer o lethrau a grisiau serth ym Mhortmeirion, felly gall fod yn werth codi map o'r llwybr sy'n addas i gadeiriau olwyn drwy'r pentref.

Llun o adeilad pinc a gwyn mewn arddull Eidalaidd

Portmeirion

Gwestai hygyrch yng Ngogledd Cymru

Gwesty Ramada Plaza, Wrecsam

Ellice Way, Wrecsam LL13 7YH

  • Pedair ystafell hygyrch gyda chanllawiau bachu drwyddi draw
  • Cawodydd cerdded i mewn gyda sinciau a thoiled is

Mae’r ystafelloedd gwely yng ngwesty Ramada Plaza ar y lloriau uchaf a cheir atynt mewn lifft. Maent yn cynnwys pedair ystafell hygyrch ar y llawr cyntaf gyda chordiau argyfwng, canllawiau bachu, cawodydd cerdded i mewn a sinciau a thoiledau is. Mae'r ystafelloedd hygyrch yn cydgysylltu ag ystafell â phâr o welyau, pe bai angen llety ychwanegol. 

Cyntedd y gwesty gyda desg dderbynfa a byrddau a chadeiriau.
Ystafell wely fawr yn y gwesty gyda soffa.

Ystafell wely hygyrch, Ramada Plaza Wrecsam

Estuary Lodge, Talsarnau

Stryd Fawr, Talsarnau, Harlech, Gwynedd LL47 6TA

  • Ystafelloedd llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau i ystafell fwyta a chyfleusterau eraill
  • Ystafelloedd cawod hygyrch ystafell wlyb

Mae'r holl ystafelloedd yn Estuary Lodge ar y llawr gwaelod gyda lleoedd parcio yn syth y tu allan. Mae gan un ystafell ddrws llydan am fynediad hawdd i gadeiriau olwyn, ac mae cyfleusterau cawod ystafell wlyb yn yr ystafell hon ac un ystafell arall. Mae gan ddwy ystafell arall gawod yn hytrach na chyfleusterau bath. Mae’r ystafell fwyta a chyfleusterau eraill ar y llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau. 

Gwesty'r Imperial, Llandudno

Vaughan Street, y Promenâd, Llandudno LL30 1AP

  • Gwesty cwbl hygyrch gyda lifftiau i bob llawr
  • Dewis o ystafelloedd hygyrch gyda chyfleusterau cawod rholio-i-mewn wedi'u haddasu
  • Mynediad hygyrch i gyfleusterau pwll nofio ar gael ar gais

Mae gwesty'r Imperial yn meddu ar olygfeydd gwych o'r môr, a'r holl staff wedi'u hyfforddi i fod yn ymwybodol o anabledd. Mae ystafelloedd hygyrch ar gael, gan gynnwys ystafell sy'n wynebu'r môr gyda chyfleusterau cawod rholio i mewn, ac un arall yng nghefn yr adeilad. Mae canllawiau bachu ar gael, ynghyd â matiau cawod gwrthlithro. Mae'r gwesty'n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, gyda lifftiau i bob llawr. Mae bwytai a bariau ar y llawr gwaelod, a gellir gwneud cyfleusterau'r pwll nofio yn hygyrch drwy drefnu ymlaen llaw. 

Tu allan y gwesty mawr wedi’i beintio’n llwyd a gwyn.
Bar y gwesty gyda ffenestr grom a seddi cyfforddus o amgylch byrddau.
Pwll nofio dan do.

Clwb Iechyd Mint Condition, Gwesty'r Imperial, Llandudno

Gwesty Trefeddian

Aberdyfi, Gwynedd LL35 0SB

  • Pob ystafell wely ar un llawr
  • Un ystafell gydag ystafell ymolchi wedi'i haddasu gan gynnwys cawod sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, canllawiau bachu a system rybuddio
  • Bar, derbynfa, lolfeydd ac ystafell fwyta ar un lefel ar y llawr gwaelod
  • Mynediad lifft i bob llawr
  • Dolen sain yn y dderbynfa i’r rheini â nam ar y clyw

Mae Gwesty Trefeddian yn agos at bentref glan môr bach tlws Aberdyfi, sy'n ei wneud yn lle delfrydol i archwilio arfordir Bae Ceredigion. Mae'n cynnig amrywiaeth o nodweddion hygyrchedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a gwesteion sy’n brin eu symudedd, yn ogystal â’r rheini â nam ar eu golwg a'u clyw. 

Gwesty mawr wedi'i beintio'n wyn yng nghanol lawntiau a choetir.
Ystafell fawr yn y gwesty gyda phâr o welyau a soffa.

Gwesty Trefeddian, Aberdyfi

Parciau carafanau hygyrch yng Ngogledd Cymru

Presthaven Sands, Gronant

Presthaven Beach Resort, Shore Road, Gronant, Prestatyn LL19 9TT

  • Carafanau hygyrch wedi'u haddasu gydag ystafelloedd ymolchi wedi'u haddasu
  • Croeso i gŵn cymorth

Mae gan barc gwyliau Presthaven Sands leoliad arfordirol gwych, gyda golygfeydd dros y twyni i Fôr Iwerddon. Mae carafanau eang, hygyrch ar gael gyda mynediad ramp, ystafelloedd cawod/toiled wedi'u haddasu a drysau llithro mewnol. Mae dolen lifft trapîs ar gael ar gais. Gall cynghorwyr anghenion arbennig Haven eich cynghori ynghylch pa rai o'u carafannau wedi'u haddasu fydd yn gweddu orau i chi. Croeso i gŵn cymorth cofrestredig.

Parc Carafanau Garreg Goch, Porthmadog

Morfa Bychan, Porthmadog, Gwynedd LL49 9YD

  • Un garafán sefydlog wedi'i haddasu
  • Toiled ac ystafell gawod sy'n addas i'r anabl.

Mae Garreg Goch yn agos at draeth hyfryd Morfa Bychan neu Traeth y Graig Ddu. Mae un garafán sefydlog wedi'i gwneud yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, gyda lleoliad canolog a mynediad ramp. Mae gan y parc hefyd doiled ac ystafell gawod i westeion anabl. Heb fod yn bell i ffwrdd mewn car, mae pentref arfordirol hardd Cricieth, harbwr a thref Porthmadog a phentref mynydd Beddgelert. 

Traeth tywodlyd ar foryd oddi uchod.

Traeth Morfa Bychan a Borth y Gest, Porthmadog

Dolenni defnyddiol

Piws: Gwefan ddefnyddiol iawn i gael gwybod am leoedd hygyrch i ymweld â nhw, bwyta allan neu fynd i siopa yng Ngogledd Cymru.

Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych i ddarganfod mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU

Information Now: Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i'r anabl a'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol/RADAR

Tourism For All: Gwybodaeth i deithwyr anabl ar y trenau sy'n teithio i Gymru

Gallwch bob amser chwilio ein gwefan i ddod o hyd i lety, gweithgareddau, atyniadau a digwyddiadau hygyrch yng Nghymru.

Straeon cysylltiedig