Mae digonedd o ddewis os ydych chi’n chwilio am weithgareddau yng Nghymru sy’n hwyliog ond sydd hefyd wedi eu teilwra i’ch gofynion chi.

Hanes a threftadaeth

Gall ymweliad ag un o safleoedd hanesyddol niferus Cymru fod yn berffaith ar gyfer plant ac oedolion ifanc ag awtistiaeth, gan gynnig ffordd ddeniadol i ddysgu am y gorffennol. Mae ein rheilffyrdd treftadaeth yn cynnig cyfleoedd am brofiadau addas i bobl ag awtistiaeth, yn arbennig felly i ymwelwyr ifanc sy’n gwirioni ar drenau. Yn Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru a Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion, gall ymwelwyr deithio neu gael golwg ar yr hen drenau amrywiol (er y gall y sŵn uchel anesmwytho rhai). Mae gwybodaeth ar gael am y gwahanol gerbydau a thripiau posib, gan alluogi teuluoedd ac unigolion ag awtistiaeth i gynllunio eu hymweliad ymlaen llaw.

Grŵp o bobl yn edrych i mewn i gaban cerbyd stêm cul.
Pobl yn cerdded ar orsaf reilffordd treftadaeth.
Dyn mewn cerbyd trên rheilffordd treftadaeth yn edrych allan dros aber.

Rheilffordd Ffestiniog

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn cynnig ffordd hygyrch o ddysgu am ein treftadaeth ddiwydiannol. Mae yno nifer o bethau i’w harchwilio, tra bo’r oriel beiriannau yn rhoi cyfle i rai chwilfrydig weld offer gymhleth ar waith. Mae yno hefyd ystafell dawel ar gyfer unrhyw ymwelwyr sydd angen seibiant o’r holl gyffro synhwyraidd.

Bachgen ifanc yn mwynhau nodwedd ddŵr llawn swigod.
Ystafell â chlustogau mawr, cadair gyfforddus a theganau.

Arddangosiadau rhyngweithiol ac ystafell dawel yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Os yw ardaloedd agored yn bwysig, mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd yn ddewis perffaith. Gyda’i adeiladau hanesyddol o lefydd ar draws Cymru wedi eu gwasgaru ar draws safle 100 acer, coedwigoedd a llwybrau llydan, mae rhyw fan tawel wastad i’w ganfod i gael picnic. Bydd plant hefyd yn mwynhau ymweld â’r fferm, yn enwedig yn ystod y tymor ŵyna lle gallent weld yr ŵyn bach newydd.

Yng Nghastell a Gerddi Picton ger Hwlffordd, gall ymwelwyr fwynhau ystod o weithgareddau. Mae dros 40 acer o erddi i’w crwydro, a hynny’n rhoi digonedd o le i bawb. Mae yno hefyd Sw a Gardd Dylluanod lle gallwch chi gael golwg ar greaduriaid fel tylluanod, dyfrgwn ac adar egsotig.

Oedolyn a dau o blant tu allan i ffermdy wedi ei baentio’n goch.
Dynes a thri o blant yn edrych ar gorlan ddefaid.

Adeiladau hanesyddol a’r sied ŵyna, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Dotio ar anifeiliaid a gerddi hardd

Mae rhagor o anifeiliaid anhygoel yn Folly Farm yn Sir Benfro. Yn o gystal â’r anifeiliaid fferm, mae yno hefyd greaduriaid egsotig fel jiráffs, tapiriaid a mwncïod i ymwelwyr ifanc gael dod wyneb yn wyneb â nhw. Mae yno hefyd ddigonedd o ardaloedd agored ac ardaloedd chwarae yn o gystal ag amryw o reidiau ffair. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael diwrnod hamddenol, gallwch lawrlwytho ac argraffu map o’r parc i gynllunio yn union beth rydych chi eisiau ei weld a ble rydych chi eisiau mynd cyn ichi gyrraedd.

Aelod o staff, dynes a merch gyda thylluan

Cyfarfod ag anifeiliaid yn Folly Farm, Sir Benfro

Cewch ddarganfod bywyd o dan y môr yn Sw Môr Môn ger Brynsiencyn, lle gallwch weld nifer fawr o wahanol greaduriaid môr, gan gynnwys slefrod môr lliwgar, morfeirch a physgod yn gwibio, mewn amgylchedd sy’n addas i rai ag awtistiaeth. Mae staff y sw wedi hen arfer â helpu ymwelwyr ag anghenion ychwanegol, yn cynnig amser tawel ar ofyn ac yn rhoi cymorth ychwanegol (fel diffodd y peiriant tonnau os yw rhai yn eu cael nhw’n rhy swnllyd).

Bachgen yn edrych ar slefren fôr yn goleuo mewn tanc.
Dynes a phlentyn yn edrych ar seren fôr mewn tanc pysgod.
Dynes a phlentyn yn edrych ar danc pysgod.

Sw Môr Môn, Ynys Môn

Mae Plantasia yn dod ag ychydig o naws drofannol i Abertawe. Gall ymwelwyr ifanc fwynhau golygfeydd a synau’r goedwig law, planhigion egsotig, adar ac anifeiliaid lliwgar a rhaeadrau’n tasgu mewn awyrgylch hamddenol (mae yno hefyd ardal dawel i unrhyw un sydd angen seibiant).

Plentyn yn edrych ar ymlusgiaid mewn fifariwm gwydr.
Dau o bobl yn eistedd mewn tŷ coeden tywyll.

Plantasia, Abertawe

Cewch weld mwy o blanhigion a blodau hardd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne yn Sir Gâr. Yno mae llwybr defnyddio’r synhwyrau drwy gynhesrwydd Canoldirol y Tŷ Gwydr Mawr a digon o ardaloedd agored i grwydro y tu allan. Fe ddewch chi o hyd i lefydd sydd wedi eu dynodi’n ardaloedd tawel wrth y llynnoedd ac mae yno hefyd ganolfan adar ysglyfaethus fydd yn siŵr o ddal dychymyg ymwelwr ifanc.

Oedolion a phlant yn cerdded dros bont mewn gardd fotaneg.
Dynes a phlentyn yn cyffwrdd planhigion mewn gardd synhwyraidd.
Merch fach mewn esgidiau glaw yn cerdded ar hyd nant fas droellog.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gâr

Gwyddoniaeth a thechnoleg

Caiff arbrofi ei annog gyda thrip i un o’n hamgueddfeydd gwyddoniaeth rhyngweithiol. Yn Techniquest ym Mae Caerdydd ac yn Xplore yn Wrecsam gall ymwelwyr ifanc droi eu dwylo at arddangosfeydd sy’n dangos pob math o ryfeddodau, o ddaeargrynfeydd i drydan i deithio drwy’r gofod a llawdriniaethau. Mae digonedd o ardaloedd tawel lle gall ymwelwyr ymlacio a chael seibiant, ac mae Xplore hefyd yn cynnig sesiwn dawel addas i rai ag awtistiaeth unwaith y mis.

Dau o blant ac oedolyn yn defnyddio sgrin gyffwrdd.
Pedwar o blant mewn ystafell fach wedi ei dynodi’n ardal dawel.
Bachgen yn edrych ar fodel o’r corff dynol.

Techniquest, Bae Caerdydd

Celfyddydau addas i rai ag awtistiaeth

Gall ymweliad ag oriel gelf, amgueddfa neu theatr fod yn ddewis da i bobl ag awtistiaeth gan eu bod yn cynnig lle heddychlon ac awyrgylch wedi ei reoli.

Yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, Theatr Torch yn Aberdaugleddau ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, mae perfformiadau hamddenol arbennig i’w cael yn gyson yn rhoi cyfle i oedolion a phlant ag awtistiaeth fwynhau perfformiadau byw. Mae newidiadau fel rhoi mwy o olau, troi’r sain i lawr a lleihau’r effeithiau arbennig, yn o gystal â chreu ardaloedd tawel a sicrhau mynediad rhwydd i mewn ac allan o’r awditoriwm yn trawsnewid y profiad o fynd i’r theatr ac yn gwella’r hygyrchedd i bawb.

Yn MOMA Machynlleth, maent yn argymell i ymwelwyr ag awtistiaeth fynd draw ar adegau tawelach. Ewch draw i wefan MOMA i gynllunio ymlaen llaw a dod o hyd i amser tawelach i alw yno. I ffans cerddoriaeth fyw sydd ag awtistiaeth, mae’n werth ystyried y cynllun Ffrindiau Gigiau. Mae’n gweithredu ar draws de a gogledd Cymru ac yn paru pobl sydd ag anghenion ychwanegol a gwirfoddolwyr sy’n rhannu’r un diddordebau fel bod modd iddynt fynychu gigiau a digwyddiadau diwylliannol eraill gyda’i gilydd.

Antur awyr agored i rai ag awtistiaeth

Mae digon o ddewis i bobl ifanc anturus ag awtistiaeth. Byddai trip arfordira gyda Celtic Quest Coasteering yn Sir Benfro yn sicr yn codi curiad y galon. Mae gan y cwmni flynyddoedd o brofiad yn helpu pobl o bob gallu i fwynhau’r ffordd gyffrous hon o brofi ein harfordir. Gydag offer arnofio arbennig ac anturiaethau wedi eu teilwra at anghenion bob unigolyn, mae’n antur sydd ar gael i bawb bron.

Fe gewch chi fwy o antur eto ym Mharc Oakwood, ger Arberth, parc thema llawn hwyl ar gyfer y teulu cyfan. Mae’r Pas Mynediad Reidiau yn darparu gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer mwy na 40 o reidiau’r parc gan ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i brofiadau addas i bob ymwelydd. Gallwch drefnu cael y pas, ynghyd â thocynnau am ddim i ofalwyr, ymlaen llaw.

Mae llawer i’w wneud y tu allan ym Mharc Gwledig Pembre ym Mhorth Tywyn. Ochr yn ochr â milltiroedd o lwybrau beicio y gellir eu teithio ar feic wedi ei addasu a’r llethr sgïo lle gall ymwelwyr o bob gallu fwynhau sesiynau hygyrch gyda Ski 4 All Wales, mae heddwch Traeth Cefn Sidan ac aceri o goetir i’w archwilio. Bydd ymwelwyr ifanc ag awtistiaeth hefyd wrth eu bodd â’r golygfeydd, y synau a’r arogl ar lwybr synhwyrau’r parc, a lansiwyd yn 2022.

Merch ar sgwter mewn twnnel pren wedi ei leinio â gwydr lliw.
Bachgen ifanc yn pysgota â rhwyd mewn llyn.

Y Twnnel Synhwyraidd a physgota yn y llyn ym Mharc Gwledig Pembre

Traethau hygyrch tawelach yng Nghymru

Wrth i bobl heidio i’r traethau mwyaf poblogaidd yn ystod y tymhorau prysur, mae yna nifer o draethau hygyrch tawelach fyddai’n fwy addas ar gyfer teithwyr ag awtistiaeth. Mae Traeth Poppit yn fan cysgodol hardd ymhell oddi wrth y torfeydd, tra bo Traeth Porth Mawr ger Tyddewi yn darparu digonedd o le ar hyd y lan sy’n ymestyn am yn hir. Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio amser y llanw cyn teithio.

Cymorth wrth gynllunio 

Er mwyn eich helpu chi i fwynhau eich antur p’un ai mai chi sy’n awtistig neu os ydych chi’n mynd gyda rhywun sydd ag awtistiaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw ac yn creu amserlen fel eich bod chi’n gwybod pryd a ble rydych chi’n mynd nesaf o hyd. Argraffwch fapiau a thaflenni gwybodaeth fel eich bod chi’n gwybod yn union beth i’w ddisgwyl cyn i chi gyrraedd. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol trwy glicio ar y dolenni isod (mae rhai yn ddolenni at wefannau Saesneg yn unig):

Golygfa o’r awyr o draeth tywod llydan.

Traeth Poppit, Sir Benfro

Straeon cysylltiedig