Ac os ydych chi’n awyddus i archwilio Cymru, fe ddewch o hyd i ddigonedd o deithiau sy’n brofiadau rhyfeddol yn eu rhinwedd eu hunain. Mae gannym ni rai o’r ffyrdd, rheilffyrdd a'r llwybrau mwyaf golygfaol yn y DU.
Ar drên
Mae’r brif reilffordd yn Ne a Gorllewin Cymru’n rhedeg fwy neu lai’n gyfochrog ag arfordir y de, yn cysylltu Cas-gwent, Casnewydd, Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin a Sir Benfro. Mae llinellau cangen yn gwasanaethu Cymoedd y De, Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg.
Yng Ngogledd Cymru, mae’r brif reilffordd yn rhedeg ar hyd arfordir y gogledd trwy Brestatyn, y Rhyl, Bae Colwyn, Llandudno, Conwy a Bangor i Gaergybi. Mae yna hefyd linell gangen rhwng Wrecsam a Shotton.
Mae Lein Calon Cymru o’r Amwythig i Lanelli ac Abertawe yn torri trwy ganol Cymru ar draws fryniau hardd y Canolbarth. Mae Llinell y Cambria’n rhedeg i’r gorllewin o’r Amwythig i Fachynlleth, ble mae’n dod i gwrdd â Llinell Arfordir y Cambrian, llinell olygfaol sy’n cysylltu Aberystwyth a Phwllheli ar Benrhyn Llŷn. Mae’r hyfryd Rheilffordd Dyffryn Conwy’n mynd o Landudno trwy Eryri i Flaenau Ffestiniog.
Amserlenni trenau a thocynnau
Ym Mlaenau Ffestiniog, gallwch neidio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri i Borthmadog a Chaernarfon. Mae yna reilffyrdd bychan eraill yng Nghymru, yn cynnwys Rheilffordd yr Wyddfa o Lanberis i gopa’r Wyddfa, Rheilffordd Llangollen o Langollen i Garrog, Rheilffordd Talyllyn o Dywyn i Nant Gwernol a Rheilffordd Cwm Rheidol o Aberystwyth i Bontarfynach. Maent oll yn cynnig teithiau cofiadwy trwy olygfeydd hynod.
Ar fws coets
Mae National Express yn rhedeg gwasanaethau bws teithiau pell rhwng trefi a dinasoedd ar hyd arfordir y de o Gaerdydd ac Abertawe i Sir Benfro; o Wrecsam a Llangollen yn y Gogledd, a’r Drenewydd i Aberystwyth yn y Canolbarth; ac ar hyd arfordir y gogledd o Brestatyn, y Rhyl, Bae Colwyn, Llandudno a Bangor i Bwllheli.
Mae Megabus yn gweithredu gwasanaeth bws rhad rhwng Casnewydd, Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin a Doc Penfro.
Gwybodaeth am fysiau
Mae bysiau teithiau pell TrawsCymru’n ffordd ddelfrydol o archwilio Cymru. Mwynhewch deithio am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul, gyda dim angen i archebu ymlaen llaw.
Mae Tocyn Penwythnos Dwyffordd TrawsCymru yn cynnwys taith ddwyffordd, ar unrhyw ddau ddiwrnod, rhwng y bws cyntaf ar ddydd Gwener a’r bws olaf ar ddydd Llun. Mae’r cynnig hwn ar gael ar lwybrau dethol ar draws Cymru.
BayTrans - Teithio Cynaliadwy ar gyfer Bae Abertawe
Mae gwasanaethau bws ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn gweithredu yn mhob un o’n Parciau Cenedlaethol: Y Bysiau Arfordirol (Poppit Rocket, Strumble Shuttle, Y Gwibiwr Celtaidd, Gwibfws yr Arfordir a Puffin Shuttle) yn Sir Benfro, a Bysiau Sherpa’r Wyddfa yn Eryri. Maent wedi eu cynllunio i leihau lefel y traffig yn y parciau.
Mae Bwcabus yn gweithredu yn Sir Benfro a rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Ar ôl i chi osod cyfrif Bwcabws, gallwch chi ddefnyddio eu ap neu ffonio i archebu bws ymlaen llaw ar gyfer teithiau lleol i'r prif lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus.
Teithio pris gostyngol ar drenau a bysiau
Mae Tocyn Crwydro Cymru, Ranger neu Rover yn rhoi mynediad diderfyn i chi i drenau’r prif reilffyrdd a nifer o lwybrau bysiau, yng ogystal â mynediad pris gostyngedig i nifer o atyniadau twristaidd. Mae yna opsiynau ar gyfer gwahanol rannau o’r wlad, ac maent yn ddilys ar gyfer naill ai un diwrnod neu wyth diwrnod. Mae Railcard yn golygu y cewch 33% oddi ar bris tocyn oedolyn a 60% i ffwrdd o bris tocyn plentyn ar wasanaethau trên ar y prif reilffyrdd, a gyda gostyngiad Trenau Bach Arbennig Cymru fe gewch 20% o ostyngiad ar bris tocyn oedolyn ar sawl rheilffordd stêm gul yng Nghymru.
Mewn car
Mae teithio o gwmpas Gogledd a De Cymru mewn car yn syml. Mae teithio o’r gogledd i’r de yn llwybr gyda golygfeydd hardd sy’n cynnwys Eryri, Mynyddoedd Cambria a Bannau Brycheiniog. Nid yw’r ffordd yma’n un gyflym, ond meddyliwch am y golygfeydd, a’r cyfleoedd am bicnic a thynnu lluniau.
Mae’r ffyrdd mwyaf hardd yng Nghymru ymysg yr harddaf yn y DU. Mae rhai o’n hoff ffyrdd gyda golygfeydd gwych yn cynnwys yr A466 ar hyd Dyffyrn Gwy, y B4574 o Raeadr Gwy i Gwm Rheidol, yr A4069 ar hyd gadwyn fynyddig y Mynydd Du, yr A4086, yr A498 a’r A4085 o gwmpas yr Wyddfa, a Marine Drive o gwmpas y Gogarth, Llandudno.
Yn yr awyr
Mae Eastern Airways yn gweithredu hediadau rheolaidd rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.
Ar gefn beic
Cefn gwlad Cymru yw un o gyrchfannau beicio gorau’r DU. Trwy ddilyn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, gallwch archwilio rhai o lonydd gwledig mwyaf deniadol Cymru, hen reilffyrdd segur a llwybrau coedwigol ar gefn beic. Mae Sustrans, yr elusen sydd wedi creu’r rhwydwaith, wedi rhoi rhestr o Reidiau Hawdd yng Nghymru at ei gilydd. Mae yna hefyd dri prif llwybr pellter hir:
-
Lôn Las Cymru (NCR 8) – Ynys Môn, Eryri, Bannau Brycheiniog, Caerdydd, Cas-gwent
-
Lôn Geltaidd (NCR 4) – Abergwaun i Gas-gwent
-
Llwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru (NCR 5) – Ynys Môn i Gaer.
Ar droed
Gyda chyflawniad Llwybr Arfordir Cymru, mae’n bosib cerdded neu heicio yr holl ffordd o gwmpas Cymru. Mae Llwybr yr Arfordir yn cysylltu gyda Llwybr Clawdd Offa, un o dri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru. Llwybr Arfordir Sir Benfro a Ffordd Glyndŵr yn y Canolbarth yw’r ddau Lwybr Cenedlaethol arall.
Mae Ffordd Cambria ym Mynyddoedd Cambria, a Llwybr Dyffryn Gwy o Gas-gwent i Bumlumon yn llwybrau cerdded pellter hir poblogaidd, hefyd. Mae’r llwybrau hyn i gyd yn mynd trwy dirweddau trawiadol.
Ffordd Cymru
Mae Ffordd Cymru yn deulu o dri llwybr cenedlaethol sy’n eich arwain drwy ganol calon Cymru.
Mae Ffordd yr Arfordir yn dilyn glannau’r gorllewin o gwmpas Bae Ceredigion, taith 180 milltir (290km) o hyd rhwng y môr a’r mynydd. Mae Ffordd Cambria yn dilyn asgwrn cefn Cymru am 185 milltir (300km) rhwng Llandudno a Chaerdydd, drwy eangderau gwyllt a dau Barc Cenedlaethol. Mae Ffordd y Gogledd yn 75 milltir (120km) o hyd, ac yn mynd heibio i nifer o gestyll cadarn cyn croesi drosodd i Ynys Môn.
Rydym ni hefyd wedi awgrymu nifer o ddewisiadau a llwybrau eraill er mwyn i chi allu igam-ogamu drwy Gymru a chreu Ffordd Cymru fydd yn arbennig i chi.