Ffordd sy'n mynd o’r de i’r gogledd ar draws Bae Ceredigion, gydag arfordir Cymru ar y naill ochr a chopaon nerthol Eryri ar y llall. Mae'n dechrau yn hen ddinas pererindod Tyddewi ac yn gorffen ym mhen pellaf Llŷn.

Does dim rhaid gyrru chwaith. Mae'r ffordd arfordirol yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru am y rhan fwyaf o'r ffordd felly gallwch chi gerdded neu seiclo llawer ohoni. Mae'r adran ogleddol yn dilyn Rheilffordd Arfordir y Cambrian, sy’n un o reilffyrdd harddaf y wlad.

Map yn dangos llwybrau Ffordd Cymru

Teithiau Cymru

Diwrnod Un: Tyddewi i Aberteifi

Pellter: tua 35 milltir/56km

Tyddewi yw dinas leiaf Prydain, sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol Tyddewi, adeilad sy'n ganolog i stori Cymru. Sefydlodd Dewi Sant gymuned grefyddol yma yn y chweched ganrif. Mae'r adeilad canoloesol mawreddog hwn yn llawn trysorau. Mae’r eglwys wrth ymyl Llys yr Esgob sydd, er ei fod yn adfail, yn cadw adleisiau o'i hen ysblander yn ei barapetau bwaog a'i ffenestri addurnol. Y stori yw bod man geni Dewi Sant yn ffynnon a chapel Santes Non gerllaw.

Mae arfordir Sir Benfro yn syfrdanol o hardd ac wedi ysbrydoli artistiaid ar hyd y canrifoedd. Gallwch  fwynhau rhai o'r gweithiau hyn a dysgu mwy am yr arfordir a'i hanes yn Oriel y Parc.

Eisiau Crwydro Ymhellach? Os ydych chi am ddarganfod mwy o’r arfordir, mae Ynys Dewi i'r de-orllewin o Dyddewi yn baradwys i fywyd gwyllt - yn enwedig adar môr. Gallwch chi fynd ar daith cwch o lithrfa Porth Stinan, drws nesaf i orsaf Bad Achub Tŷ Ddewi rhwng Ebrill a Hydref. Mae angen archebu o flaen llaw. Mae tal mynediad os nad ydych yn aelod o'r RSPB.

Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro

Ar ôl i chi gael eich cyfareddu gan drysorau Tyddewi, rhowch gynnig ar rywbeth hollol wahanol. Mae Fferm Chwilod Doctor Beynon sydd ychydig y tu allan i'r ddinas, yn ganolfan ymchwil ac ymwelwyr lle byddwch chi'n dysgu popeth am fyd pryfed ac amaethyddiaeth gynaliadwy. Gallwch chi hyd yn oed fwyta bwyd wedi ei wneud o bryfed yn y caffi!

Byddwch chi’n gweld digon o draethau ar y daith hon, ond os na allwch chi aros mae cilgant perffaith o dywod ym Mae Porth Mawr ar yr arfordir wrth law.

Wrth agosáu at Abergwaun, mae Melin Tregwynt yn rhoi tro cyfoes i ddiwydiant gwlân traddodiadol Cymru. Mae'r felin sy’n dyddio o'r 17g yn cynhyrchu dyluniadau cyfoes ac mae eu carthenni yn cael eu gwerthu ledled y byd. Gallwch chi wylio'r fframiau gwau ar waith a phrynu blancedi, dillad ac anrhegion.

Ychydig heibio Trefdraeth, ewch ar daith fer i Siambr Gladdu Pentre Ifan, siambr a gafodd ei hadeiladu tua 3–4000CC. Mae capfaen enfawr yn eistedd yn gytbwys ar dair carreg unionsyth – mae dros 5000 o flynyddoedd oed.

Eich stop olaf heddiw yw tref gastell gyfeillgar Aberteifi. Cofiwch weld beth sydd ymlaen yn Theatr Mwldan. Mae gan y lleoliad celfyddydol raglen brysur o ddrama, cerddoriaeth, opera a ffilm.

Dros nos: Mae gan Gwesty'r Cliff ychydig i fyny’r ffordd yng Ngwbert sba moethus, golygfeydd o'r môr a chwrs golff 9 twll.

Cerrig sefydlog gyda golygfa o gefn gwlad.

Siambr Gladdu Pentre Ifan ger Trefdraeth a thref Aberteifi

Diwrnod Dau: Aberteifi i Aberaeron

Pellter: tua 24 milltir/39km

Dechreuwch heddiw gydag ymweliad â Chastell Aberteifi. Yn sicr, nid castell nodweddiadol yw hwn: mae waliau hynafol yn amgylchynu plasty Sioraidd hardd ynghyd â Cegin 1176 - sydd wedi ei enwi ar ôl y dyddiad y cafodd eisteddfod gyntaf Cymru ei chynnal yma.

Mae Aberteifi yn llawn siopau a chaffis unigryw i grwydro. Neu gallwch chi dreulio bore yn dysgu crefftio yn Stiwdio3 – beth am wneud collage neu addurn gwydr lliw?

Gallwch ymgolli ym myd natur gydag ymweliad â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Mae pob math o gynefinoedd yma yn byrlymu ag adar a bywyd gwyllt. Mae gan y ganolfan ymwelwyr pren a gwydr trawiadol arddangosfeydd addysgiadol, siop a chaffi. 

Golygfa o'r traeth wrth i'r haul fachlud
Llun heulog o ochr yr eglwys fechan wedi gwyngalchu

Y traeth ac Eglwys y Grog, Mwnt, Ceredigion

I weld Bae Ceredigion ar ei orau ewch i Mwnt, cilgant perffaith arall o dywod – a man picnic perffaith. Mae Eglwys y Grog yn adeilad restredig Gradd I hardd - hen gapel morwyr canoloesol sy'n disgleirio yn ei gôt o wyngalch. 

Ar gyrion gwledig Cei Newydd ewch i Fferm Afon Mêl. Mae'r mêl yn arbennig, a'n llawn blasau'r blodau gwyllt. Maen nhw’n cynhyrchu amrywiaeth o fedd hefyd – diodydd alcoholig sy’n cael eu cynhyrchu drwy eplesu mêl. Dysgwch am wenyn yn yr arddangosfa gwenyn a samplo mêl neu fedd yn y siop goffi.

Mae tref glan môr Ceinewydd yn gartref i fwy o draethau tywodlyd euraidd. Ysbrydolodd Ceinewydd Llareggub yn rhannol hefyd, daeth y pentref ffug yn fyw yng ngwaith meistrolgar Dylan Thomas Under Milk Wood. Yn yr haf, dyma'r lle i fynd ar gwch a mynd i chwilio am ddolffiniaid. Efallai y byddwch chi eisiau dysgu ychydig amdanyn nhw ymlaen llaw yn Canolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion.

Mae taith fer ar yr arfordir yn dod â chi i dref bert arall, Aberaeron. Mae sawl lle braf i fwyta yma a mwynhau prysurdeb yr harbwr.

Dros nos: Arhoswch mewn ystafell wely moethus yn Y Seler a mwynhau pryd ym mwyty'r Seler neu Westy Llys Aeron.

Diwrnod Tri: Aberaeron i Aberystwyth

Pellter: tua 16 milltir/26km

Oddi yma i Aberystwyth mae'r A487 yn dilyn yr arfordir gyda golygfeydd ysblennydd ar hyd Bae Ceredigion. Mae'n daith fendigedig felly gadewch amser i stopio ac edmygu'r golygfeydd. 

Eisiau Crwydro Ymhellach? Mae taith fer yn dod â chi i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llanarchaeron. Mae'r pentref ac adeiladau fferm traddodiadol Cymreig tawel yn gam hynod ddiddorol yn ôl mewn amser. Mae'r ardd furiog yn fan rhamantus gyda choed ffrwythau hynafol a gardd berlysiau persawrus.

Mae tref wyliau gain Aberystwyth yn cynnig pob math o atyniadau felly treuliwch weddill y diwrnod yma.

Aberystwyth, Ceredigion

Mae castell i'w archwilio, Amgueddfa Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llawer o siopau diddorol. Gallech fynd ar Reilffordd y Graig a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd dros y dref ac allan i'r môr o'r camera obscura. Am daith hirach ar y cledrau neidiwch ar Rheilffordd Cwm Rheidol ac ewch i fyny'r cwm i weld yr enwog Pontarfynach a’r rhaeadrau.

Edrychwch beth sydd ymlaen yn Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth hefyd – gallwch weld drama, comedi neu ffilm yno.

Dros nos: Mae dewis o westyau clasurol glan môr gan gynnwys Y Glengower, Y Richmond a lle mwy bwtîc Gwesty Cymru.

Darllen mwy: Deuddydd difyr yng Ngheredigion

Diwrnod Pedwar: Aberystwyth i Aberdyfi

Pellter: tua 29 milltir/47km

Rhyfeddodau byd natur sy'n cael sylw heddiw. Ewch ar hyd Ffordd yr Arfordir at dref gyfeillgar y Borth gyda'i thraeth tywod hir a chaffis llawn cymeriad. Ond yr hyn sy’n hynod ryfeddol yw’r bonion coed sy’n ymddangos yn ddirgel o’r dŵr ar drai. Cadwch lygad am yr olion sy’n adlais o chwedl Cantre’r Gwaelod, a gwrandewch yn astud i weld a allwch chi glywed clychau Cantre’r Gwaelod yn canu dan y dŵr.

Ymhellach i fyny'r ffordd rydych chi'n cyrraedd Biosffer Dyfi. Dyma'r unig fiosffer yng Nghymru - aber afon a gwastadedd twyni arfordirol sy'n baradwys i fywyd gwyllt ac ecosystemau prin. Yn gyntaf rydych chi’n cyrraedd tirwedd arfordirol gwyllt Twyni Ynyslas a'r fawnog unigryw Cors Fochno.

Mae'r ffordd yn mynd tua’r tir o amgylch y warchodfa ac ymlaen i Gwarchodfa RSPB Ynys-hir sy'n gartref i bob math o adar, Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi a Phrosiect Gweilch Dyfi cyfagos ar Gwarchodfa Cors Dyfi. 

Y gwlyptiroedd yng Ngwarchodfa RSPB Ynys-hir, Biosffer Dyfi

Eisiau Crwydro Ymhellach? Bydd angen archebu ymlaen llaw ac yn ddelfrydol aros dros nos yn Ynyshir gerllaw. Mae'r bwyty dwy seren Michelin yn baradwys ar gyfer pobl sy’n angerddol am eu bwyd – mae'n cynnig profiad bwyta hollol unigryw.

Eich cyrchfan olaf heddiw yw tref farchnad unigryw Machynlleth. Gwnewch yn siŵr o adael amser i grwydro'r lle hyfryd hwn. Cewch ddysgu popeth am ein harwr cenedlaethol yn Canolfan Owain Glyndwr, rhyfeddu ar y gelf fodern ym MOMA Machynlleth a mwynhau pori drwy'r siopau a chaffis. 

Dros nos: Ewch yn ôl i'r arfordir i Gwesty Trefeddian sy’n agos i Aberdyfi. Mae'n westy teuluol modern gyda golygfeydd gwych o'r môr.

Diwrnod pump: Aberdyfi i Bortmeirion

Pellter: 47 milltir/75km

Mae Aberdyfi a’r traeth mawr tywodlyd yn berffaith ar gyfer mynd am dro cyn brecwast. Oddi yma, ewch tua'r gogledd ar Ffordd yr Arfordir i Aber Mawddach gan fynd dros y dollbont bren hanesyddol ym Mhenmaen-pŵl.

Mae gan y Bermo le arbennig yn nhreftadaeth Prydain. Ar bentir uwchben y dref mae Dinas Oleu a ddaeth yn gaffaeliad cyntaf un yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1895. Mae’r daith gerdded fer i fyny yn gylchol ac fel y byddech chi'n disgwyl mae golygfeydd gwych dros y dref ac allan i'r môr. Dim ond 1.2 milltir (1.9km) ydyw ac mae'n cymryd cwpwl o oriau. Mae traeth Bermo yn llydan a thywodlyd, perffaith ar gyfer padlo neu adeiladu castell tywod.

Taith ffair gyda thraeth tywodlyd yn y cefndir.

Parc antur a thraeth tywodlyd y Bermo

Mae tref arfordirol glyd Harlech yn daith fer i fyny'r arfordir ac yn eistedd yn uchel uwch ei phen mae Castell Harlech, sy'n rhan o un o Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymru. Mae llawer i'w weld yno, gyda thyrau a waliau nerthol i'w harchwilio. Mae’n ymddangos bod y rhagfuriau canoloesol yn tyfu’n organig o’r graig – a fu unwaith yn glogwyn môr – y saif arni heddiw. Mae'r tonnau bellach wedi encilio i adael twyni sydd heddiw'n un o gyrsiau golff gorau Ewrop, Royal St David's.

Ffordd braf o ddod i adnabod Harlech yw drwy fynd am dro byr yn dilyn Llwybr Cerdded Branwen. Dim ond cwpl o filltiroedd (3.5km) ydyw, felly ni fydd yn cymryd yn hir ond mae rhan serth – yn swyddogol Ffordd Pen Llech yw’r ail stryd fwyaf serth yn y byd!

Dros nos: O Harlech, ewch i bentref Eidalaidd Portmeirion. Dewiswch aros mewn bwthyn clyd, gwesty moethus neu hyd yn oed castell.

Diwrnod chwech: Portmeirion i Abersoch

Pellter: tua 24 milltir/39km

Mae Portmeirion yn bentref pensaernïol unigryw a gafodd ei ddylunio gan bensaer yn yr 20fed ganrif a ysbrydolwyd gan Portofino ar y Riviera Eidalaidd. Mae'n gasgliad lliwgar o piazzas, gerddi, tai cromennog a cherfluniau hollol anhygoel.

Pan fydd hi'n amser gadael hud Portmeirion, ewch ymlaen i Borthmadog. Mae Amgueddfa'r Môr yn ddiddorol neu gallwch fynd am dro i Dremadog gerllaw drwy warchodfa natur Parc y Borth.

Ychydig lan yr arfordir, rydych chi’n cyrraedd Cricieth, cyrchfan Fictoraidd swynol. Mae'n rhaid ymweld â Chastell Cricieth a'r ganolfan ymwelwyr ryngweithiol newydd. Mae Cricieth yn fan perffaith ar gyfer cinio hefyd. Mae bwyty Dylan’s, sydd wedi'i leoli ar lan y môr mewn pafiliwn Art Deco, yn cynnig bwydlen o fwyd a diod leol. 

Yn agos i Gricieth mae Amgueddfa Goffa Lloyd George yn Llanystumdwy. Mae'n cynnig cipolwg diddorol ar fywyd y prif weinidog enwog. Neu mae mwy o hanes ychydig i lawr y ffordd yn nhŷ canoloesol Penarth Fawr. Mae'n fach ond yn berffaith.

Rydych chi bellach wedi cyrraedd Pen Llŷn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'n anodd dadlau â'r disgrifiad hwnnw wrth ymweld â Phlas Glyn y Weddw, Llanbedrog - adeilad crand sy'n gartref i gelf gyfoes Gymreig. Mae’r traeth yn Llanbedrog yn hir, tywodlyd a chysgodol, ac yn boblogaidd gyda hwylfyrddwyr a morwyr.

Eich stop olaf yw tref glan môr Abersoch ychydig i lawr yr arfordir. Gwnewch yn siŵr i roi cynnig ar fwyd môr ffres i swper. 

Diwrnod saith: Abersoch i Aberdaron

Pellter: tua 13 milltir/21km

Mae heddiw’n ddiwrnod i fwynhau arfordir ysblennydd Pen Llŷn.

Efallai y byddwch chi am dreulio ychydig o amser yn mwynhau'r traeth yn Abersoch y bore 'ma. Mae'n ddarn hyfryd o dywod gyda dyfroedd cysgodol clir. Bydd plant wrth eu boddau yno.

Mae Plas yn Rhiw yn Faenordy o ddechrau'r 17eg ganrif a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd wedi’i leoli ar bentir yn agos at y Rhiw. Mae’r tŷ wedi’i amgylchynu gan erddi addurnol gyda golygfeydd gwych o Fae Genau Heledd a Phen Llŷn.

Plant yn snorclo yn y môr gyda'r traeth yn y cefndir

Traeth Abersoch

Mae Aberdaron yn nodi diwedd y daith arfordirol hwn, ond mae llawer i'w wneud yma.

Dylai'r stop cyntaf fod yn Canolfan Ymwelwyr Porth y Swnt er mwyn darganfod beth sy'n gwneud Llŷn mor arbennig. Yna, gwisgwch eich esgidiau cerdded er mwyn mwynhau golygfeydd syfrdanol. Mae taith gylchol 7 milltir (11km) berffaith yn cerdded yn ôl troed beirdd a phererinion i Fynydd Mawr. 

Neu beth am ddod yn agosach at fywyd gwyllt? Ewch ar daith mewn cwch o Aberdaron i Ynys Enlli. Ar Fynydd Enlli, pwynt uchaf yr ynys, cadwch lygad am balod yn yr awyr a'r morloi sy'n gorffwys ar y creigiau islaw.

Darllen mwy: Grym eithriadol Enlli

Straeon cysylltiedig