Gwyliau i'r teulu oll

Mae tua chwarter Pen Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) lle gallwch ddod o hyd i draethau a chlogwyni gwyllt, hen losgfynyddoedd a bryniau glas sy'n frith o gaerau o'r Oes Haearn.

Y trefi glan môr croesawgar a'r traethau tawel, braf sy'n denu'r rhan helaeth o ymwelwyr i Ben Llŷn, yn enwedig felly yn yr haf. Mae'n lle delfrydol i deuluoedd, a daw pobl yn ôl dro ar ôl tro i drefi deniadol ar arfordir y de fel Cricieth, Pwllheli ac Abersoch, i gwrdd eto â'r ffrindiau a wnaethant dros y blynyddoedd. 

Image of a lifeboat on the slipway at the lifeboat station, facing the sea, with the beach on its right hand side
Gorsaf Bad Achub Porthdinllaen, Pen Llŷn

Mae Cricieth, gyda'r hen adfail o gastell uwchlaw'r traeth a rhesi destlus o dai Oes Fictoria, yn lle delfrydol i aros wrth grwydro o amgylch Pen Llŷn, tra bod Pwllheli ac Abersoch yn drefi prysur lle mae cychod yn mynd a dod drwy'r amser. 

Yn Hafan Pwllheli, marina anferth y dref, mae lle i dros 400 o gychod ar drothwy dyfroedd bendigedig Bae Ceredigion a glannau Ynys Môn.

Pan ddaw gwyliau'r ysgol bydd bwrlwm yn lledaenu ar hyd yr arfordir. Fis Awst cynhelir y regata flynyddol yn Abersoch. Dyma ddigwyddiad llawn hwyl lle mae pawb yn cymryd rhan – p'un ai'n rasio mewn cwch neu'n cystadlu wrth ddal crancod, adeiladu cestyll tywod neu addurno cabanau glan môr.

Olrhain adleisiau o'r gorffennol

Yn ogystal â bod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, cofnodir rhannau helaeth o Ben Llŷn yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru. Ceir ardaloedd eang lle nad oes neb erioed wedi aredig y caeau na'u clirio ar gyfer datblygiadau trefol, sy'n golygu eu bod wedi aros yn eu cyflwr naturiol ers canrifoedd. Wrth ddarganfod nodweddion archeolegol a phensaernïol Pen Llŷn gallwch olrhain hanes di-dor yn ôl i gyfnod cynhanesyddol.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn am 84 milltir o amgylch Pen Llŷn i gyd, yn mynd drwy gaeau â gatiau mochyn wedi'u gwneud â llaw, traethau bach a mawr, clogwyni, eglwysi a cheyrydd. Lle delfrydol felly i gerddwyr neu feicwyr ddod ar eu gwyliau – heliwch eich pac a gallwch dreulio diwrnodau'n crwydro o un lle i'r llall, yn aros dros nos mewn lle gwely a brecwast neu wersylla. Os byddwch chi'n dod dim ond am ddiwrnod neu ddau, fe ddewch chi o hyd i ddigonedd o lwybrau byrrach i fynd am dro arnynt.

Image of buildings on the beach, backing onto green hills
Tafarn Ty Coch, Porthdinllaen, Pen Llŷn

Ewch ar bererindod i Ynys Enlli

Hwyliwch o Aberdaron neu Bwllheli dros y swnt i Ynys Enlli. Mae Cristnogion wedi bod yn teithio yma ers y chweched ganrif, pan gododd Cadfan Sant fynachlog ar yr ynys. Dywedid bod tair pererindod i Enlli gyfwerth ag un bererindod i Rufain.

Nid oes ond ambell i faen sanctaidd ar ôl yma bellach; erbyn heddiw mae Ynys Enlli'n warchodfa natur lle daw morloi llwydion i dorheulo ar y glannau creigiog, a lle bydd pâl Manaw, adar drycin a gwylogod yn gwneud eu nythod bob gwanwyn. Os dewch chi ar un o'r cychod sy'n dod i'r lan yn hytrach na mynd heibio'r ynys, bydd modd i chi weld yr adar o wylfeydd pwrpasol. Bydd cychod yn mynd i Ynys Enlli bob bore a phrynhawn rhwng y Pasg a mis Hydref, ac os mai gwyliau tawel ym myd natur sy'n mynd â'ch bryd chi, bachwch le yn un o'r bythynnod hunanarlwyo sydd i'w rhentu yma.

View of Bardsey Island from the mainland near Aberdaron
Image of seals in the sea and on rocks
Ynys Enlli, ger Pen Llŷn

Related stories