Beth yw Safle Treftadaeth y Byd UNESCO?

Pan ddyfernir Statws Treftadaeth y Byd UNESCO i atyniad diwylliannol, mae’n golygu bod y Cenhedloedd Unedig yn eu rhestru – ochr yn ochr â thirnodau fel Pyramidiau Giza yn yr Aifft a’r Cerflun Rhyddid yn Efrog Newydd – fel rhai o safleoedd mwyaf arwyddocaol y byd, ac yn eu hystyried yn dirnodau sydd o ‘werth eithriadol i ddynoliaeth’. Yn syml, mae’n werth ymweld â nhw.

Mae pedwar safle yng Nghymru; Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru a Chestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I, Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, wedi derbyn y teitl mawreddog hwn, ac, os oes gennych ddiddordeb mewn cadarnleoedd canoloesol neu ryfeddodau peirianneg fodern, gallwch ymweld â nhw i gyd.

Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru

Beth ydyw?

Mae Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru yn cynnwys chwe safle o amgylch Gwynedd sydd i gyd yn greiriau o’r diwydiant llechi, a oedd, yn y 19eg ganrif, yn dominyddu’r rhan hon o’r wlad. Mae’r safleoedd yn cynnwys hen bentrefi glofaol, hen reilffyrdd, maenordai mawreddog (a oedd yn eiddo i berchnogion chwareli cyfoethog) a’r hen chwareli eu hunain, sydd â silffoedd dramatig wedi’u torri i wyneb craig mynyddoedd Eryri.

An aerial shot of a slate quarry with blue reservoirs below

Chwarel Lechi Dinorwig, Gogledd Cymru

Beth alla i ei wneud yno?

Lle da i ymweld ag ef yn gyntaf yw Amgueddfa Lechi Cymru. Wedi’i lleoli mewn gweithdai Fictoraidd a adeiladwyd yng nghysgod chwarel enfawr Dinorwig, mae’r amgueddfa yn rhoi trosolwg manwl o effaith y diwydiant llechi ar Gymru a threfn ddyddiol lem y rhai a fu’n gweithio ynddo, yn ogystal ag arddangosiadau byw o dechnegau crefft draddodiadol.

A group of people watching a demonstration on slate splitting.

Arddangosfa o’r broses hollti llechi yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Gwynedd.

Ar ôl y wers hanes, gall ymwelwyr ddarganfod ardal syfrdanol Eryri i weld pa olwg sydd ar yr hen chwareli heddiw. Mae nifer o lwybrau cerdded, a gâi eu defnyddio gan chwarelwyr blinedig ar un adeg, yn nadreddu o amgylch y safleoedd cloddio a rhwng pentrefi. Fodd bynnag, efallai y byddai’n well gan y rhai sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd fwynhau’r golygfeydd o gefn gwlad o gerbyd ar Reilffordd Treftadaeth Ffestiniog sy’n 200 mlwydd oed ac yn hollti drwy’r mynyddoedd. Y rheilffordd hon a gludai llechi i’r porthladd ym Mhorthmadog. Am rywbeth ychydig yn fwy cyflym a chyda mwy o adrenalin, gallwch weld Chwarel Lechi’r Penrhyn o fyny fry ar Zip World Velocity 2, y weiren sip gyflymaf yn y byd.

Trên yn teithio drwy Borthmadog ar drac wedi’i amgylchynu gan ddŵr gyda’r mynyddoedd yn y cefndir
Pedwar person ar Zip World Velocity uwchben llyn Chwarel y Penrhyn.

Rheilffordd Treftadaeth Ffestiniog yn teithio drwy Borthmadog a’r Velocity 2 llawn adrenalin yn Zip World.

Pa atyniadau eraill sydd gerllaw?

Atyniad enwog arall yng Ngwynedd wrth gwrs yw’r Wyddfa, sydd â’r copa uchaf yng Nghymru. Mae nifer o lwybrau yn nadreddu i fyny’r mynydd i’r caffi ar ei gopa, ac mae yna drên yn teithio i fyny hefyd.

Y cerbyd Lili’r Wyddfa yn teithio i fyny Rheilffordd yr Wyddfa.

Rheilffordd yr Wyddfa, Gogledd Cymru

Yn ogystal â bod yn gartref i gopa uchaf Cymru, mae gan Wynedd nifer o atyniadau tanddaearol. Mae Ogofâu Llechi Llanfair yn caniatáu i dwristiaid grwydro drwy ogofâu a ddefnyddiwyd ar un adeg i gloddio, cyn cyrraedd yr wyneb mewn man prydferth sy’n edrych dros Fae Ceredigion; ac yn Bounce Below gall ymwelwyr fownsio ar drampolinau enfawr sy’n hongian ar draws y gwagle tanddaearol ac sydd ddwywaith maint Cadeirlan Sant Pawl yn Llundain – dyma le sy’n sicr o fod yn boblogaidd gydag ymwelwyr iau.

Pobl yn bownsio ar rwydi ar ffurf trampolîn mewn ogof lechi danddaearol

Bounce Below, Zip World Slate Caverns, Blaenau Ffestiniog

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Gyda rhannau o’r safle UNESCO wedi’u gwasgaru o amgylch Gwynedd, mae’n gwneud synnwyr i ddewis un o drefi’r sir fel lle i ganoli eich antur. Mae Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog yn ddewisiadau da, gyda digonedd o opsiynau llety yno. Gellir cael mynediad i’r ddwy dref ar brif ffyrdd (yr A470 a’r A487), ac mae’r ddwy ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gyda chysylltiadau o Landudno ar gyfer Blaenau Ffestiniog, tra bo Porthmadog ar y llinell sy’n rhedeg drwy’r Trallwng yr holl ffordd i Firmingham yn Lloegr.

Darllen mwy: Chwe cymuned y chwareli 

Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I yng Ngwynedd

Beth yw’r safle?

Y pedwar castell a adeiladwyd gan Edward I yn ystod ei oresgyniad hir o Gymru yw rhai o’r enghreifftiau gorau a’r mwyaf cadwedig o bensaernïaeth filwrol ganoloesol yn y DU. Mae’r pedwar cadarnle, sef Conwy yn sir Conwy, Harlech a Chaernarfon yng Ngwynedd, a Biwmares yn Ynys Môn, yn dwyn i gof grym Coron Lloegr yn y 13eg ganrif, a gwrthwynebiad llym y Cymry iddi. Mae trefi hanesyddol Conwy a Chaernarfon hefyd wedi’u cynnwys ar restr UNESCO.

Golygfa o’r ochr o Gastell Biwmares gyda dŵr ac awyr las.
Castell Caernarfon gyda’r môr a choed yn y cefndir

Castell Biwmares a Chastell Caernarfon

Beth alla i ei wneud yno?

Mae pob un o’r pedwar castell ar agor i ymwelwyr, sy’n rhydd i grwydro’r tiroedd, craffu ar y rhagfuriau hynafol neu arwain bataliwn o filwyr dychmygol o’r tyrau gwylio sydd wedi’u treulio gan y tywydd.

Ystyrir Conwy, sy’n sefyll ar lannau afon o’r un enw, yn un o’r caerau canoloesol gorau eu cyflwr yn Ewrop, a gall y rhai sydd â diddordeb mewn cestyll grwydro o amgylch ystafelloedd mawreddog y gaer, yn ogystal â choridorau’r gweision a’r capel ar y safle. Harlech, sy’n sefyll ar gopa craig, sy’n ennill y wobr am y golygfeydd gorau, gyda mynyddoedd Eryri a Môr Iwerddon (a oedd, flynyddoedd mawr yn ôl, yn cyrraedd ymylon y castell) i’w gweld o’i waliau mewnol uchel.

 

Golygfa yn edrych dros y dŵr tuag at Gastell Conwy

Castell Conwy

Ugain milltir i gyfeiriad y gogledd, gellid dadlau mai Castell Caernarfon yw’r mwyaf mawreddog o strwythurau Edward. Yma, gall ymwelwyr ddringo’r grisiau serth i’r Tŵr yr Eryr tri thyred, lle ganwyd Edward II, y Tywysog Cymru cyntaf (gall ymwelwyr hefyd weld cerflun ohono uwchben Porth y Brenin – er ei fod wedi’i erydu’n sylweddol). Ymhellach i’r gogledd, Biwmares oedd yr olaf o’r pedwar castell i gael ei adeiladu, ac, yn anffodus, ni chafodd byth ei gwblhau. Ond eto, gyda’i ffos a’i ddyluniad cymesurol, dyma le gwych i ffotograffydd.

Pa atyniadau eraill sydd gerllaw?

Mae gan drefi pob un o’r cestyll atyniadau i ymwelwyr. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae tŷ tref Plas Mawr yng Nghonwy, y tŷ tref Elisabethaidd gorau ei gyflwr ym Mhrydain, a Chaer Rufeinig Segontium, sydd wedi’i lleoli ychydig i’r dwyrain o ganol tref Caernarfon, ac sy’n dyddio i 77 OC. Fe’i cynlluniwyd i ddal 1,000 o filwyr.

Y porthdy yn Nhŷ Elisabethaidd Plas Mawr, Conwy
Golygfa o’r awyr o’r gaer Rufeinig gyda’r môr yn y cefndir

Tŷ Tref Plas Mawr a golygfa o’r awyr o Gaer Rufeinig Segontium

Mae lleoliad Castell Biwmares yn Ynys Môn, ar y llaw arall, yn rhoi ymwelwyr o fewn tafliad carreg i draethau hardd (gan gynnwys traeth euraidd Llanddwyn i enwi ond un), coedwigoedd sy’n llawn gwiwerod coch (un o’r ychydig leoedd yng Nghymru lle gallwch weld y creaduriaid bach lliw copr) a thref sydd ag enw arbennig o hir – yr arwydd rheilffordd sydd wedi dod yn gyrchfan hanfodol yng Nghymru ar gyfer hunlun.

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Gallwch gael mynediad i bob un o’r pedair tref ar brif ffyrdd (yr A55 ar gyfer Conwy, yr A496 ar gyfer Harlech, yr A487 ar gyfer Caernarfon, a’r A545 ar gyfer Biwmares), ac nid yw byth yn cymryd mwy nag awr a hanner i deithio rhwng pob castell. Mae Conwy a Harlech ill dwy ar rwydwaith rheilffyrdd, tra gallwch gael mynediad i Gaernarfon a Biwmares o Orsaf Bangor. Mae gan bob un o’r pedair tref ddigonedd o opsiynau llety i dreulio noson neu ddwy hefyd.

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte

Beth ydyw?

Gyda’r llysenw ‘afon yn yr awyr’, mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte, sy’n 307 metr o hyd, yn cludo cychod cul ar rediad o ddŵr tua 38 metr (126 troedfedd) uwchben afon Dyfrdwy. Mae gan y strwythur hwn 19 o fwâu metel cymesur a dim lociau (sy’n golygu bod lefel y dŵr yn gyson drwyddi draw), ac fe’i hystyrir yn enghraifft drawiadol o waith dylunio o’r 19eg ganrif ac yn gampwaith cyntaf y peiriannydd sifil enwog, Thomas Telford. Ynghyd â’r draphont ddŵr, mae rhestr UNESCO yn cynnwys 17km o gamlas, ynghyd â thai’r peirianwyr gwreiddiol a glanfeydd ar ochr y gamlas.

Cwch cul yn teithio ar hyd y draphont ddŵr

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte

Beth alla i ei wneud yno?

Fel y draphont ddŵr uchaf y gallwch ei mordwyo yn y DU, mae’r strwythur yn cynnig man i groesi i gychwyr profiadol. Gall ymwelwyr sy’n awyddus i brofi’r wefr o groesi’r ffordd ddŵr eu hunain logi cwch am ddiwrnod o AngloWelsh, neu, os byddai’n well gennych gael eich llywio gan rywun profiadol, gallwch lamu ar un o gychod taith Glanfa Llangollen. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig teithiau ar gwch a dynnir gan geffyl ar hyd y gamlas (er nad yw’r daith yn cynnwys croesi’r draphont ddŵr), traddodiad sy’n dyddio’n ôl 100 mlynedd.

Fel arall, gall ymwelwyr groesi’r draphont ddŵr gan ddefnyddio eu traed eu hunain (ar hyd y llwybr tynnu ar ochr y gamlas) neu, i’r rhai sy’n teimlo’n ddewr, mewn canŵ; mae teithiau tywys ar gyfer pob lefel yn cael eu rhedeg gan Ty Nant Outdoors. Gall ymwelwyr sydd eisiau gwneud rhywbeth llai egnïol fusnesa o amgylch canolfan ymwelwyr y draphont ddŵr neu brofi hyfrydwch y Telford Inn a’r Chapel Tea Room gerllaw. Mae’r olaf wedi’i leoli mewn eglwys sy’n dyddio’n ôl i 1902.

Llun o'r draphont gyda choed ac afon islaw
Llun o ddau berson yn cerdded ar hyd y draphont yn yr hydref gyda chwch camlas yn hwylio heibio

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte

Pa atyniadau eraill sydd gerllaw?

Mae llwybrau beicio yn amgylchynu’r gamlas, gyda darn arbennig o olygfaol yn rhedeg rhwng trefi Llangollen (taith 10 munud mewn car i’r gorllewin o Draphont Ddŵr Pontcysyllte) a’r Waun, sy’n agos at ffin Lloegr. Gallwch logi beiciau o Drosi Bikes yn Llangollen.

Mae gan y Waun a Llangollen ill dwy gestyll hynod hefyd: Nid yw Castell y Waun, sydd â thiroedd hardd yn ei amgylchynu, yn cael cymaint o sylw o’i gymharu â chestyll eraill Cymru, ond fe’i hadeiladwyd yn y 13eg ganrif a’r person oedd yn goruchwylio’r gwaith adeiladu, fwy na thebyg, oedd James of St George, sef pensaer Cestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech hefyd. Mae Castell Dinas Brân sydd ar ochr bryn yn Llangollen yn gastell hollol wahanol. Dyma gastell a adeiladwyd ar gaer o’r Oes Haearn a fodolai’n barod. Mae’r castell wedi’i dreulio gan yr elfennau ac mae’n fwy atmosfferig oherwydd hynny.

Castell Dinas Brân, Bryniau Clwyd

Castell Dinas Brân, Llangollen

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte wedi’i lleoli tua 5km i’r dwyrain o Langollen yng Ngogledd Cymru, mewn pentref bach o’r enw Trefor. Gallwch gyrraedd y safle’n hawdd mewn car ar yr A5 neu’r A539. Rhiwabon yw’r orsaf drenau agosaf, sydd ar linellau Caerdydd i Gaergybi a Birmingham i Gaergybi, ac mae’n daith 8 munud yn y car (neu 30 munud ar fws). Mae gwestai ar gael yn Llangollen, gyda chwpl o opsiynau yn Nhrefor ei hun.

Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon

Beth ydyw?

Trawsnewidiwyd De Cymru gan Chwyldro Diwydiannol Prydain, gan ddod yn ganolfan ar gyfer cloddio glo a chynhyrchu haearn. Mae’r rhan fwyaf o’r isadeiledd o’r cyfnod wedi hen ddiflannu, ond mae’r adeiladau a’r peiriannau diwydiannol sydd wedi goroesi yn hen dref lofaol Blaenafon yn sefyll fel heneb i’r bennod bwysig hon yn hanes diweddar Cymru.

Yr hen adeiladau gwaith haearn wedi’u hamgylchynu gan laswellt a choed

Gwaith Haearn Blaenafon

Beth alla i ei wneud yno?

Calon Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yw hen waith haearn y dref, safle cadwedig lle mae strwythurau cerrig enfawr, a oedd yn ganolog i’r broses o wneud haearn, yn sefyll fel cewri uwchben ymwelwyr. Ymhlith y tirnodau nodedig yma mae’r ffwrneisi chwyth enfawr, yn ogystal ag olion y tŵr cydbwysedd dŵr, a oedd – yn arloesol – yn cludo wagenni o haearn rhwng traciau tram gan ddefnyddio pwysau wedi’u llenwi â dŵr.

Fodd bynnag, yr uchafbwynt i lawer o ymwelwyr yw’r cyfle i fentro o dan y ddaear am flas go iawn o fywyd glöwr. Mae Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru, pwll glo a fu ar agor tan 1980, yn cludo twristiaid 90 metr (300 troedfedd) o dan wyneb Blaenafon am daith o amgylch y twneli lle bu dynion yn treulio oriau hir, blinderus yn rhofio glo. Arweinir y teithiau gan gyn-lowyr, sy’n rhannu eu profiadau personol o fyw o dan ddaear.

Golygfa o siafft godi ac adeiladau Pwll Mawr gyda'r dref yn y cefndir
Grŵp o bobl yn gwisgo helmedau ar daith o amgylch y Big Pit

Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, De Cymru

Pa atyniadau eraill sydd gerllaw?

Mae Cymoedd De Cymru wedi’u britho â hen drefi glofaol. Mae’r cymunedau clos hyn, sy’n swatio ar ochrau bryniau glas, yn llawn atyniadau hanesyddol a chyfoes.

Mae Tredegar, i’r gorllewin o Flaenafon, wedi cadarnhau ei lle yn hanes Prydain fel man geni'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), ynghyd â’i sylfaenydd, Aneurin Bevan. Gallwch weld llawer o dirnodau sy’n gysylltiedig â Bevan, gan gynnwys safle’r hen bwll glo y bu Bevan yn gweithio ynddo pan oedd yn ei arddegau, yn ogystal â’r hen Gymdeithas Cymorth Meddygol, ysbyty a ariannwyd gan lowyr y seiliwyd model y GIG arno. Mae gan dref Brynmawr gerllaw, ar y llaw arall, y sinema hynaf yng Nghymru, sef Neuadd y Farchnad – awditoriwm 200 sedd sy’n llawn cymeriad ac yn gyrchfan da i’r rhai sy’n hoffi sinema.

Ychydig ymhellach i’r gogledd, cafodd stryd fawr Crughywel, sy’n hen gymuned amaethyddol, ei henwi fel yr un orau yn y DU yn 2018, ac nid oes prinder tafarnau yno.

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Mae Blaenafon wedi’i lleoli yng Nghymoedd De Cymru; mae’n daith 40 munud i’r gogledd o Gasnewydd, ac yn hawdd mynd iddi ar ffordd yr A4043. Nid oes gan y dref orsaf reilffordd bwrpasol, ond gellir teithio iddi o Orsaf Pont-y-pŵl (mae bws yn rhedeg yn uniongyrchol o’r fan hon i Flaenafon ar daith 20 munud), sydd ar y llinell o Gaerdydd i Gasnewydd. Mae Blaenafon yn gartref i gwpl o letyon gwely a brecwast, tra bo pob math o letyon ar gael yng Nghaerdydd, Casnewydd a thref gyfagos y Fenni.

Straeon cysylltiedig