Biosffer Dyfi

Mae Biosffer Dyfi yn lle eithriadol ac yn gartref i’r amrywiaeth gyfoethocaf o greaduriaid a phlanhigion prin yn y wlad o bosib.

Efallai eich bod chi’n pendroni beth yw biosffer a beth sy’n ei wneud mor arbennig? Fel y gallech ddychmygu, mae’n ardal o gynefin unigryw ac yn gartref i rywogaethau prin. Ond mae’r gymuned yn bwysig i fiosffer hefyd. Mae yma werthfawrogiad cynhenid bod angen i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt fyw ar y tir. Mae datrys sut i fyw’n gytûn â’r amgylchedd naturiol – er mwyn ei gryfhau a’i wella – yn allweddol. Mae unrhyw fiosffer yn lle i ddysgu ar gyfer datblygu cynaliadwy, yn ogystal â bod yn hafan i fywyd gwyllt.

Golwg o Aberystwyth o’r awyr.
Machynlleth o’r awyr.

Mae cymunedau fel Machynlleth ac Aberystwyth yn rhan o Fiosffer UNESCO hefyd

Dynodir gwarchodfeydd biosffer gan UNESCO ac maen nhw’n gymharol brin. Dyfi yw’r unig un yng Nghymru, a dim ond saith sydd ledled y Deyrnas Unedig. Mae Biosffer Dyfi’n ymestyn dros ardal eang yng Nghanolbarth Cymru gan gwmpasu 35 milltir (75km) i mewn o’r arfordir rhwng Aberdyfi ac Aberystwyth, rhan o Barc Cenedlaethol Eryri a rhyw 10 milltir (16km) allan i’r môr hefyd.

Mae’n cwmpasu’r cymunedau sy’n byw yn Aberystwyth, Borth, Tal-y-bont, Aberdyfi, Corris, Machynlleth, Llanbrynmair a Dinas Mawddwy.

Dod yn nes at fywyd gwyllt y biosffer

I ymwelwyr â Biosffer Dyfi, un o’r atyniadau mwyaf yw’r bywyd gwyllt eithriadol. Ymysg y gwarchodfeydd natur o fewn ei ffiniau mae Gwarchodfa RSPB Ynys-Hir, lleoliad Springwatch ac Autumnwatch y BBC, Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi ar Warchodfa Cors Dyfi, Gwarchodfa Natur Glaslyn gyda’r rhostir grugog, twyni Ynyslas sy’n rhan o Warchodfa Natur Dyfi a chramen unigryw cors fawnog Cors Fochno.

Felly dyma rai o’n hoff brofiadau bywyd gwyllt tymhorol. Waeth pryd fydd hi drwy gydol y flwyddyn, mae digonedd i’w weld pan ddewch ar ymweliad.

Biosffer Dyfi yn y gwanwyn

Ar ôl oerfel y gaeaf, daw plu’r gweunydd i’r amlwg ar gors fawnog Cors Fochno. Efallai y gwelwch chi hefyd fadfallod cyffredin a madfall y twyni, gwiberod a neidr y gwair ar dwyni Ynyslas, a’r llinos, clep y garreg, yr ehedydd a’r nyddwr bach ar yr adain uwch eich pen.

Cornchwiglen ar ddôl werdd yng Ngwarchodfa Natur RSPB Ynys-Hir, Biosffer Dyfi

Cornchwiglen yng Ngwarchodfa Natur RSPB Ynys-Hir

Bydd coedwigoedd fel Penglais ac Abercorris yn garped o glychau glas yn y gwanwyn. Cadwch lygad am y gwybedog brith a’r gwybedog smotiog, y gnocell fraith fwyaf, y dringwr bach a’r siff-saff cyffredin. Ymysg adar sy’n magu mewn coedwigoedd mae titw tomos las, titw penddu, titw mawr a thitw cynffon-hir, gwybedog brith, y tingoch a thelor y coed, ynghyd ag adar ysglyfaethus fel yr hebog tramor, y barcud coch, bod tinwyn a’r dylluan wen.

Bydd gweilch y pysgod yn cyrraedd Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi i fagu tua dechrau mis Ebrill, gan aros drwy gydol yr haf i fagu’u cywion. A tua diwedd y gwanwyn a dechrau’r haf, bydd adar sy’n paru fel cwtieir, ieir dŵr, y barlat a bras y cyrs yn cartrefu o gwmpas y pyllau dŵr a’r hesg mewn mannau fel Gwarchodfa Natur Pwll Fferm Hafren.

Biosffer Dyfi yn yr haf

Bydd dyddiau cynhesach yr haf yn annog tegeirian y gors a’r tegeirian gwenynog i flodeuo yn nhwyni Ynyslas, a bydd y tegeirian pigfain yn dilyn yn fuan. Daw blodau lliwgar i flodeuo ar y morfa hallt: troellig arfor, clustog Fair, serenllys y morfa a’r llyrlys gludiog gwyrdd anarferol. Bydd neidr y gwair a’r fadfall gyffredin yn tasgu o’ch ffordd wrth i chi gerdded.

Dylech weld sawl math o iâr fach yr haf, gwyfyn a gwas y neidr ar sawl un o’r gwarchodfeydd hyn, gyda gwyfyn gwridog y gors a’r friwydd wen fwyaf yng Nghors Fochno’n arbennig o ddiddorol. Mae hi’n hawdd gweld y fursen a gwas y neidr ar y gwlyptiroedd ynghyd â llu o lyffantod!

Yng Ngwarchodfa RSPB Ynys-Hir, bydd adar dŵr mudol fel y pibydd gwyrdd a’r pibydd coeswyrdd yn cyrraedd tra bo adar ysglyfaethus yn cynnwys yr hebog tramor a’r barcud coch. Efallai y gallech gael cip ar walch y pysgod a dwrgi yn yr aber hefyd.

 

Golygfa o draeth tywodlyd ac awyr las gyda chymylau gwyn

Edrych ar draws y traeth at Aberdyfi dan haul yr haf

Mewn coedwigoedd cysgodol fel Abercorris a Chwm Clettwr, fe welwch chi was y neidr a iâr fach yr haf, ac os byddwch chi’n ffodus, y dwrgi a glas y dorlan mewn pyllau ac afonydd. Mae’r pathew yma hefyd, ond mae’n anodd iawn gweld un o’r rheiny. Bydd nosweithiau byrion yr haf yn ddelfrydol ar gyfer gwylio anifeiliaid y nos fel moch daear.

Efallai y sylwch hefyd ar y byffalo dŵr yn pori Gwarchodfa Natur Cors Dyfi. Ac ailgyflwynwyd yr afanc yma – y cyntaf yng Nghymru. Os na welwch chi’r creadur ei hun, mae’n bosib iawn y gwelwch ôl eu gwaith o adeiladu argaeau.

Os ydych chi ar yr arfordir, codwch eich golygon allan i’r môr! Mae’n bur gyffredin gweld llawer o ddolffiniaid a llamhidyddion yn agos at y lan.

Biosffer Dyfi yn yr hydref

Yn yr hydref bydd y coed yn gwisgo’u melyn, oren a choch; chwiliwch hefyd am y newidiadau tymhorol yn lliw Cors Fochno. Gallwch fynd am dro i weld ffyngau o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Tybed allwch chi weld mathau sêr daear a nythod adar anarferol, yn ogystal â’r cap cŵyr a’r codau mwg.

Mae digonedd o weithgaredd bywyd gwyllt yn ystod yr hydref hefyd, wrth i foch daear a draenogod gasglu bwyd cyn y gaeaf. Ailgyflwynwyd bele’r coed yng Nghwm Rheidol ger Pontarfynach, a cheir ambell deulu ohonynt yn y goedwig o gwmpas Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth hefyd.

 

Dyn yn cerdded drwy goedwig hydrefol â haul yn frych drwyddi yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth

Cerdded drwy’r coed ger Canolfan y Dechnoleg Amgen yn yr hydref

Bydd niferoedd mawr o adar y dŵr yn bwydo ar forfa heli Ynys-Hir, gan gynnwys chwiwell, corhwyaid, hwyaid llydanbig, gwyddau bronwen a gwyrain. Mae sawl aderyn ysglyfaethus yn dal i hela yn yr hydref hefyd. Bydd rhydwyr fel cornchwiglod, cwtiaid aur a’r gylfinir yn dychwelyd i’r forfa. A chadwch lygad am eog a draenog y môr yn mudo i fyny afon Dyfi i fwrw sil ym mlaenau’r afon.

Os byddwch chi allan yn y gwyll, mae’n debygol y gwelwch y drudwy ar bromenâd Aberystwyth. Daw cannoedd, miloedd weithiau, ynghyd i ddawnsio yn yr awyr cyn clwydo dros nos.

Biosffer Dyfi yn y gaeaf

Dros fisoedd y gaeaf, ar y traeth gallech weld rhydwyr, pibydd y tywod a chwtiaid aur. Ychydig i mewn o’r arfordir mae corsydd hallt aber Dyfi’n gartref i rydwyr a hwyaid gwyllt sy’n treulio’r gaeaf yma.

Yng Ngwarchodfa Natur RSPB Ynys-Hir, chwiliwch am heidiau mawr o hwyaid fel y gorhwyaden a’r chwiwell, y llygad aur ac unig boblogaeth Cymru a Lloegr o wyddau’r Ynys Werdd. Mae cuddfannau’r foryd yn lle delfrydol i’w gweld. Os byddwch chi’n ffodus, efallai y gwelwch ddyfrgwn yn hela am fwyd yn y pyllau a’r afonydd hefyd.

Arwydd gwarchodfa natur ar draeth tywodlyd gyda thref yn y cefndir pell.
Golygfeydd pell o’r môr rhwng twyni tywod gweiriog dan awyr dywyll.

Y twyni a’r aber yn y gaeaf, Biosffer Dyfi

Chwiliwch hefyd am adar ysglyfaethus wrthi’n hela, gan gynnwys y barcud coch, bod tinwyn, tylluan glustiog, boda, gwalch bach a’r gwalch tramor. Fe’u gwelwch yn aml yn cwrso heidiau o bilaon. Lle da i’w gweld yw cors fawnog Cors Fochno.

Yng Ngwarchodfa Cors Dyfi, bydd y mannau bwydo’n gyforiog o adar bach ac mewn mannau eraill efallai y gwelwch y gwyrain a’r bodau tinwen. Os ydych chi’n hynod ffodus, efallai y gwelwch aderyn y bwn swil yn yr hesg.

Sut i weld Biosffer Dyfi

Mae digonedd o ffyrdd o weld y bywyd gwyllt ym Miosffer Dyfi

 

Mynd i gerdded

Heb os, y ffordd orau o weld y bywyd gwyllt yw ar ddwy droed. Ceir llwybrau cerdded penodedig o gwmpas y gwarchodfeydd ac mae llawer yn addas ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn. Yn RSPB Ynys-Hir, bydd tri llwybr gwahanol yn eich galluogi i weld y goedwig a’r gwlyptiroedd, a cheir cuddfannau a sgriniau i weld yr adar. Yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ceir llwybrau clir drwy dwyni Ynyslas a llwybr pren ar gors fawnog Cors Fochno.

Mae llwybr hir Ffordd Dyffryn Dyfi’n arwain i flaenau Dyffryn Dyfi i gopa rhyfeddol Aran Fawddwy yn Eryri ac yn ôl. Ac mae Llwybr Arfordir Cymru’n rhedeg ar hyd holl arfordir y biosffer, cyn anelu i mewn i’r tir o gwmpas y foryd, gan gynnig ystod eang o gerdded o ddarnau gwastad hir ar hyd ymyl Cors Fochno i ddringfeydd mwy serth â golygfeydd o fôr glaswyrdd godidog rhwng Clarach a Borth.

Mae gan wefan Biosffer Dyfi ddolenni i daflenni a chanllawiau llafar sy’n manylu ar lwybrau hawdd drwy safleoedd diddordeb unigryw – o gylchoedd cerrig o’r Oes Efydd i safleoedd o gwmpas Canolfan y Dechnoleg Amgen a rhosydd a choedwigoedd unigryw.

Coed derw hynafol mewn coedwig ddeiliog.
Cuddfan bren gyda grisiau i fyny ati mewn coedwig.

Ceir digonedd o guddfannau a mannau gwylio yn RSPB Ynys-Hir

Mae’r dŵr yn denu

Mae byrddau padlo ar eich traed yn ffordd wych o archwilio’r aber, sy’n llonydd iawn ar drai – perffaith ar gyfer dod yn agos at yr adar. Bydd sawl cwmni lleol yn cynnig teithiau tywys. Mae traethau Aberystwyth a Borth yn cynnig tywod am filltiroedd, delfrydol i nofio neu syrffio. Cadwch lygad am adar y môr ac efallai ddolffiniaid a morloi oddi ar yr arfordir. Mae traeth Aberdyfi hefyd yn llydan a thywodlyd, ond mae dim ond yn addas ar gyfer hwylio a chaiacio am fod y cerrynt yn rhy gryf o gwmpas yr aber ar gyfer nofio’n ddiogel. 

Bwrdd syrffio melyn ar draeth.
Beicio mynydd yng ngogledd Cymru gydag Adventure Tours UK.

Archwiliwch y biosffer ar fwrdd padlo a beic yn ogystal ag ar droed

Ar dy feic!

Byddwch chi’n annhebygol o weld fawr o fywyd gwyllt os ydych chi’n mynd yn gyflym, ond mae’r biosffer yn gartref i lwybrau beicio mynydd o safon ryngwladol. Mae Mach 1 yn lle delfrydol i ddechrau – 21km o feicio cymharol hawdd gyda chymysgedd braf o rostir agored a llethrau drwy’r goedwig. Bydd beicwyr mwy hyderus yn mwynhau’r Cli-Machx sy’n cynnwys un o’r llethrau hiraf yng Nghymru.

Gall beicwyr profiadol fynd i Barc Beiciau Dyfi yn Fforest Esgair. Dyluniwyd y cwrs gan Dan Atherton (sydd fel ei frawd Gee a’i chwaer Rachel) yn feiciwr o safon ryngwladol, ac mae’n cynnig chwe llwybr ar y goriwaered i bwmpio’r gwaed, ynghyd â gwasanaeth codi i fynd â chi’n ôl i’r copa.

Straeon cysylltiedig