Pan gwblhawyd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012 fe'i canmolwyd i'r cymylau, ac yn haeddiannol hefyd, wrth gwrs. Nid oes yr un wlad arall yn y byd wedi creu llwybr cyhoeddus sy'n mynd yr holl ffordd o amgylch yr arfordir. Ond yng Nghymru rydym wedi hen arfer â hyfrydwch ein harfordir - yn enwedig felly yn Sir Benfro.
Mae Arfordir Penfro yn llain gywrain o glogwyni garw, traethau trawiadol a childraethau bach dirgel lle gallwch chwilota mewn pyllau di-ri. Yma daw'r tir, y môr a'r awyr i gyd at ei gilydd i greu lle perffaith i gerddwyr, syrffwyr, caiacwyr a morwyr.
Y Parc Cenedlaethol
Ym 1952, dynodwyd yr ardal wyllt, hyfryd hon yn barc cenedlaethol; Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - yr unig un ar arfordir Prydain. Ymhen blwyddyn roedd cynlluniau ar waith ar gyfer Llwybr Arfordir Penfro ac agorodd y llwybr cenedlaethol hwn yn ffurfiol ym 1970. Bu'n llwyddiant ysgubol byth ers hynny, gan ddangos sut all cadwraethwyr, cerddwyr a ffermwyr gyd-dynnu a chydweithio, a braenaru'r tir ar gyfer datblygiadau mwy cyffrous.
Mae llwybr yr arfordir wastad wedi bod yn arbennig, ond mae'n well fyth nawr ei fod yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy'n ymestyn am 870 o filltiroedd. Gallwch fynd am dro bach neu fentro'n bell, yn syth yn eich blaen neu rownd mewn cylch, ar dir gwastad neu lethrau serth. Mewn diwrnod gallwch gerdded ar draethau gwyn a thros glogwyni uchel, a ble bynnag yr ewch chi mae'r golygfeydd yn ddigon i fynd â'ch gwynt.
Bywyd gwyllt Sir Benfro
Dewch yma yn y gwanwyn i weld clychau'r gog yn gorchuddio lloriau'r coedwigoedd a dolydd yn gyforiog o flodau fel sampier y geifr, dagrau Mair, bwtsias y gog a gludlys. Yn yr haf fe welwch ieir bach yr haf yn dawnsio ymhlith y gwyddfid a thros berthi clustog Fair ac eithin.
Os bydd arnoch awydd gwyliau bach yn yr awyr agored erbyn yr hydref a'r gaeaf, chewch chi'r unman gwell i'ch bywiogi a'ch cyffroi. Fe ddewch o hyd i ddigonedd o dafarnau a llefydd bach tawel pan fyddwch yn barod i ymlacio a chynhesu.
Mae'r parc cenedlaethol yn lle gwych i weld bywyd gwyllt, hefyd. Unwaith y cawn ni rywfaint o haul yn y gwanwyn fe ddaw criciaid a buchod coch cwta i heidio ar hyd y clogwyni, ac uwchben bydd adar y môr yn sgrechian drwy'r awyr. Daw'r palod ac adar drycin Manaw bob blwyddyn i nythu ar Ynys Bŷr, Gwales, Ynys Sgogwm, Ynys Sgomer ac Ynys Dewi, lle mae'r cwningod yn pori'n braf a'r morloi'n torheulo'n ddiog yn yr haul. O bryd i'w gilydd, efallai y gwelwch chi ysgol o ddolffiniaid yn taro'u trwynau uwchlaw'r tonnau.
Lleoedd i fwyta ar hyd y arfordir
Wedi’i lleoli o amgylch yr harbwr llawn cymeriad a strydoedd troellog tref Dinbych-y-pysgod, mae digonedd o lefydd i fwyta ac yfed. Codwch fara ffres, teisennau a chacennau cri Cymreig o Loafley Bakery & Deli, mwynhewch seigiau gydag ysbrydoliaeth Asiaidd yn Nora's Kitchen, neu ymlaciwch dros bryd tafarn yn The Five Arches Tavern & Kitchen neu Hope & Anchor.
Fel tref glan môr, mae bwyd môr ffres yn nodwedd amlwg ar fwydlenni lleol, ochr yn ochr â physgod a sglodion traddodiadol. Am bryd clasurol ar yr arfordir, ewch i D Fecci & Sons, ffefryn lleol ers cenedlaethau.
Os ydych yn chwilio am rywbeth arbennig, mae Plantagenet House yn cyfuno cynnyrch lleol o safon â golygfeydd dros yr harbwr yn un o adeiladau hynaf y dref. Neu, ymlaciwch gyda chwrw crefft lleol a rhywbeth i’w fwyta yn Harbwr Brewery, dim ond taith gerdded fer o lan y dŵr.
Am opsiynau tu allan i Ddinbych-y-Pysgod, mae gennych Lan y Môr yn Llanusyllt, bwyty Hywel Griffith, y dyn y tu ôl i’r Beach House ser Michelin yn y Gŵyr. Mae Lan y Môr mewn lleoliad arfordirol anhygoel ac yn cynnig bwydlen drawiadol, gyda physgod ffres yn chwarae’r brif ran. Fe’i canmolir yn eang fel un o’r llefydd gorau i fwyta yng Nghymru.
Am bysgod a bwyd môr sydd mor ffres ag y gall fod, ewch i’r Griffin Inn ym mhentref Dale, mewn tafarn hanesyddol ag estyniad modern deniadol, sy’n edrych allan dros harbwr hen-ffasiwn o bert.
Ewch allan i'r awyr agored
Fe ddewch chi ar draws safleoedd ac atyniadau hanesyddol ymhobman, fel y gromlech ryfeddol ym Mhentre Ifan, a'r amgueddfa awyr agored yng Nghastell Henllys, lle cewch chi flas ar fywyd yn Oes yr Haearn drwy falu blawd, pobi bara ac anadlu arogleuon hyfryd craf y geifr mewn atgynhyrchiad o dŷ crwn Celtaidd.
Os ydych â'ch bryd ar ddiwrnod ar y traeth, chewch chi ddim eich siomi yn Aberllydan, sydd â digonedd o le i'r teulu oll fynd i grwydro ac anturio; mae Dinbych-y-pysgod yn llawn cymeriad; a fyddwch chi ddim eisiau gadael paradwys Bae Barafundle. Gallwch fwynhau chwaraeon dŵr wrth syrffio yn Freshwater West, hwylio yn Dale a barcudfyrddio yn Niwgwl.
Neu am weithgaredd ychydig yn wahanol, ewch lawr i'r harbwr wrth droed Castle Hill, ac ewch allan i’r môr ar drip pysgota macrell. Siaradwch ag un o’r gweithredwyr cychod.
Dyma draethau o'r radd flaenaf - does yr un sir arall ym Mhrydain â chymaint o Faneri Glas, Gwobrau Glan Môr a Gwobrau Arfordir Glas, heblaw am Ddyfnaint. Mae'r dewis o draethau hyfryd mor eang, fe fyddwch chi'n siŵr o gael mwy nag un ffefryn.