Mae cael saib llwyddiannus i’r teulu yn anodd. Mae bodloni dymuniadau dau blentyn ifanc yn ddigon anodd weithiau, heb sôn am gynnwys rhywbeth i ni’r oedolion. Mae harbwr Abermaw ar arfordir Gwynedd yn opsiwn ardderchog – traethau a hwyl ar lan y môr am filltiroedd, yn ogystal â digon i’w weld a’i wneud ar ôl i ni flino ar gael tywod rhwng bodiau ein traed.

Diwrnod 1 - darganfod Abermaw a Fairbourne

Ar ôl cyrraedd Abermaw, awn i’n llety a'n hystafell – fflat llawr uchaf yn un o’r adeiladau Fictoraidd hardd ar hyd glan môr y dref. Mae’r plant yn ei hoffi ar unwaith, diolch i’w agosatrwydd at y traeth ynghyd â’r fowlen anferth o siocled am ddim sy’n eistedd ar y bwrdd bwyta.

Yn llawn siwgr, awn allan i archwilio. Mae goleuadau llachar yr arcêd a’r ffair yn addo rhywfaint o hwyl draddodiadol ar lan y môr, ond llwyddwn i berswadio’r plant i ohirio hyn am y tro o blaid taith gerdded ar draws pont reilffordd bren hanesyddol Abermaw. Wedi’i hagor yn 1867, mae’r bont 820 metr/2390 troedfedd hon yn ymestyn dros Aber Mawddach ac yn dal i gludo trenau Rheilffordd Arfordir Cambrian ar eu taith ar hyd yr arfordir. Mae’r bont hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru a’r llwybr beicio, Llwybr Mawddach. Mae’n ymddangos bod y ddau lwybr yn boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr wrth i ni groesi Pont Abermaw.

Dau blentyn yn cerdded ar bont bren.
Abermaw ac Aber Mawddach o fyny fry.

Cerdded ar hyd Pont Abermaw, a golwg drawiadol o Aber Mawddach ac Abermaw o fyny fry, Eryri

Ar ôl cyrraedd yr ochr arall, rydyn ni’n parhau i Fairbourne, sef cymuned glan môr dawel o fyngalos a thai haf. Gan synhwyro ein bod wedi dihysbyddu awydd y plant am gerdded, penderfynwn wneud ein ffordd yn ôl i Abermaw ar Reilffordd Fairbourne. Mae’r trên bach hwn sy’n cael ei yrru gan stêm ac sydd wedi dilyn yr un llwybr ers dros ganrif, yn ein cludo drwy’r twyni tywod i Orsaf Fferi Abermaw, lle’r awn ar gwch bach am daith fer yn ôl i harbwr prysur Abermaw.

Golygfeydd dros aber o gerbyd trên bach.
Grŵp o bobl yn sefyll ger fferi fach ar draeth tywodlyd.

Teithio ar Reilffordd Fairbourne a Fferi Abermaw, Fairbourne, Eryri

Ar ôl cinio (cregyn gleision a chranc yn The Lobster Pot, yr arbenigwyr bwyd môr ar lan yr harbwr) mae’n bryd mynd i draeth Abermaw. Er gwaethaf y tywydd cynnes a thorfeydd gwyliau’r haf, mae digon o le ar y tywod euraidd, meddal. Mae’r plant yn treulio ychydig oriau hapus yn rholio i lawr y twyni, yn adeiladu cestyll a sblasio yn y môr cynnes (mae hyd yn oed yr oedolion yn llwyddo i fentro i’r dŵr a throchi ein traed). Gan dderbyn na allwn ddod â’n hymweliad i ben heb ymweld â’r arcêd, treuliwn beth amser (ac arian) yn llwytho arian i wahanol beiriannau cyn troi am adref am y noson.

Traeth eang, tywodlyd.

Traeth eang, tywodlyd Abermaw, Eryri

Diwrnod 2 - Dyffryn Ardudwy a Harlech

Yn dilyn llwyddiant taith gerdded y diwrnod cynt, rydyn ni’n gwthio ein lwc yn y bore gyda’r daith fyrrach ond ychydig yn fwy serth hyd at Ddinas Oleu. Yn gorwedd uwchben Abermaw, y casgliad 4.5 acer o gaeau, clogwyni a waliau cerrig oedd eiddo cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 – wedi iddo gael ei roi gan y tirfeddiannwr lleol, Fanny Talbot. Mae dringo’r llwybr troellog i’r copa yn gwneud i’r plant gwyno ychydig, ond mae’n rhaid iddyn nhw, hyd yn oed, gyfaddef bod y golygfeydd dros Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn yn eithaf trawiadol.

Golygfeydd dros dref glan môr ac aber o’r uchelderau.

Golygfeydd o Ddinas Oleu, yn uchel uwchben Abermaw, Eryri

Mae dringo’r llwybr troellog i’r copa yn gwneud i’r plant gwyno ychydig, ond rhaid iddyn nhw, hyd yn oed, gyfaddef bod y golygfeydd dros Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn yn eithaf trawiadol."

Nesaf, pentyrrwn i mewn i’r car a gyrru i fyny’r arfordir i Gastell Harlech. Ar y ffordd, stopiwn i archwilio hyd yn oed mwy o hanes yn Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy lle saif dwy heneb Neolithig, a adeiladwyd sawl cenhedlaeth ar wahân, wrth ymyl ei gilydd. Er bod fy ngwraig braidd yn siomedig oherwydd y diffyg sgerbydau a oedd i’w gweld, mae’r plant yn mwynhau edrych i du mewn y beddau a dychmygu sut beth oedd bywyd i’r bobl a’u hadeiladodd mor hir yn ôl.

Dau blentyn yn archwilio siambr gladdu gerrig.

Archwilio Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy, Eryri

Does dim siawns o gael eich siomi yng Nghastell Harlech (un o bedwar caer Safle Treftadaeth y Byd yn y rhan hon o Gymru). Cyn gynted ag y croeswn y bont droed ‘arnofiol’ newydd sbon, awn i mewn drwy’r porthdy cadarn a chael ein cludo’n ôl drwy’r canrifoedd. O ystyried bod y castell wedi’i adeiladu 700 mlynedd yn ôl, mae’n dal i edrych yn eithaf amhosibl i’w oresgyn, gyda’i waliau anferth yn codi o’r graig y mae’n sefyll arni.

Mae’r plant yn rhuthro i chwilio am ‘Arf Cudd Edward I’, sef helfa drysor/llwybr hanes sy’n datgelu gorffennol y castell mewn ffordd sy’n siŵr o ennyn diddordeb ymwelwyr iau. A bod yn onest, dw i’n ei fwynhau hefyd – mae cestyll bob amser yn apelio at y plentyn ynof. Dyma’r cymhelliant perffaith i barhau i archwilio mannau cudd amrywiol Harlech – er y bydd yn rhaid i chi ymweld â’r lle eich hun os ydych chi am ddatrys y dirgelwch.

Edrych i lawr at gastell ac arfordir y tu hwnt.
Dau blentyn yn edrych ar fwrdd gwybodaeth o flaen castell.
Golygfeydd drwy ddrws castell tuag at draeth.

Archwilio Castell Harlech, Eryri

Wedi taith o amgylch y rhagfuriau i werthfawrogi’r olygfa o gopaon Eryri, mentrwn allan i’r muriau i Borth y Dŵr – a gyrhaeddir drwy daith serth 108 cam islaw’r castell ei hun. Bu’r man hwn, ar un adeg, yn bwynt mynediad i’r môr (sydd bellach wedi cilio y tu ôl i dwyni a Chlwb Golff Brenhinol Dewi Sant gerllaw). Roedd y nodwedd unigryw hon yn caniatáu i Harlech gael ei ailgyflenwi â bwyd a diod yn ystod sawl gwarchae a ddioddefodd yn ystod ei oes hir a chyffrous.

Golygfeydd o’r arfordir o ragfuriau’r castell.

Rhagfuriau Castell Harlech, Eryri

Wedi seibiant cyflym am frechdanau yn Wilderness Cafe ychydig dros y ffordd o’r castell, mae pawb yn barod am ymweliad arall â’r traeth. Mae taith fer yn y car yn dod â ni i Forfa Harlech, lle cerddwn drwy dwyni uchel Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech ar ein ffordd i’r traeth. Mae’n gynefin arwyddocaol iawn i amrywiaeth syfrdanol o fflora a ffawna diddorol – er hyn, dyw fy ymdrechion i fod yn David Attenborough ddim yn gallu cystadlu ag awydd y plant i fynd i badlo.

Pan ddown allan o’r twyni i draeth Harlech, dw i’n deall eu brwdfrydedd. Gyda thywod gwyn a dŵr glas, pefriog o dan awyr ddigwmwl, gellid maddau i chi am feddwl eich bod yn y Canoldir yn hytrach nag arfordir Gogledd Cymru – oni bai am gopaon Eryri sy’n codi y tu hwnt i’r twyni.

Gyda glannau bas, ysgafn ac amrediad llanw cul sy’n cadw’r dŵr yn agos, dyma’r traeth perffaith i’n hanturiaethwyr ifanc sy’n treulio sawl awr hapus yn chwarae yn y tonnau ac yn rhoi cynnig ar ychydig o gorff-fyrddio ysgafn.

Castell tywod ar draeth.
Dau blentyn yn corff-fyrddio yn y môr.

Cestyll tywod a chorff-fyrddio ar draeth Harlech, Eryri

Daw ein taith i ben ar draeth Abermaw, gan fwynhau’r hufen iâ olaf wrth i gysgodion lledu ar draws y tywod. Mae cael plant ifanc i gytuno â’i gilydd yn ddigwyddiad eithaf prin, ond mae ein dyddiau ni ar arfordir Gwynedd yn derbyn canmoliaeth gref. Bydd rhaid i ni aros yn hirach y tro nesaf.

Machlud dros draeth, fflip fflops yn y blaendir.

Machlud dros draeth Abermaw, Eryri

Rhagor o wybodaeth

Gall arfordir Cymru fod yn hwyl dda ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer gweithgareddau anturus, ond darllenwch am y peryglon a sicrhewch eich bod wedi paratoi ymlaen llaw.

Straeon cysylltiedig