Boed yn cyrraedd ar fws, trên, neu wedi gyrru’r holl ffordd, dewch â’ch ’sgidiau cerdded a siwt nofio gyda chi – a’ch hoff wisg i greu argraff, rhag ofn.

Diwrnod 1 - Aberystwyth i Fynyddoedd Cambria

Dechreuwch eich gwyliau â chwistrelliad o ddiwylliant caffis Aberystwyth. Wedi nofio ben bore – ar draethau’r dref, neu Borth neu Clarach i rai fwy profiadol – bydd angen dadebru â phaned o goffi neu de Cymreig.

Anelwch am Medina, Agnelli’s neu Ultracomida – neu beth am fachu siocled poeth ‘Ridiculously Rich by Alana’ cyn cerdded y Prom a ‘chicio’r bar’? Yna, paratowch am frecwast; sawrwch dôst Ffrengig neu surdoes Medina, neu am flas yr heli anelwch am Gegin Jonah’s, gyferbyn â siop bysgod Jonah’s Craig Edwards a Rhiannon Jenkins. Am frecwast cofiadwy, archebwch y rôl cregyn bylchog gyda’r cig moch a phwdin gwaed o siop gigydd Rob Rattray, rownd y gornel.

Torth o fara surdoes ar werth mewn siop
Tomatos coch, melyn a gwyrdd mewn bocsys ar silff
Interior of restaurant

Medina, Aberystwyth

Cyn symud ymlaen i ogledd y fro, oedwch yn gyntaf ar fryn Penglais; dewiswch rhwng ymweliad â Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, neu bererindod i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Yno ceir 6.5 miliwn o gyfrolau, mapiau a llawysgrifau, a hefyd yr Archif Sgrin a Sain. Yn gartref i rai o lawysgrifau cynharaf yr iaith Gymraeg, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, cynhelir hefyd arddangosfeydd celf gan fawrion y genedl - yn artistiaid cyfoes a hanesyddol Cymru.

Arwydd lechen Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda pherson yn eistedd yn y cefndir
Wal garreg hynafol Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Ymlaen ar wibdaith ar hyd yr arfordir, gan gychwyn yn Borth gyda’i chysylltiadau chwedlonol. Os bydd y llanw ar drai, rhyfeddwch wrth olion y goedwig hanesyddol, ac ymgollwch yn hanes y storom fawr wnaeth foddi Cantre’r Gwaelod. Neu os am ginio a ffilm, galwch yn Libanus 1877, sy’n ganolfan sinema a bwyty yn un. Yna, ger Cors Fochno, mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas lle cewch wefr wrth grwydro’r twyni tywod. Mae’r ddau le yn perthyn i Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, lle ceir olygfeydd godidog dros Afon Dyfi a Bae Ceredigion.

olion coedwig a foddodd ar y traeth gyda fachlud haul yn y cefndir

Cantre’r Gwaelod, Borth

Wedi chwa o awyr iach, anelwch am Eglwysfach a pharatowch am wledd a hanner ym mwyty Ynyshir. Cipiodd y cogydd Gareth Ward a’i dîm ddwy seren Michelin eleni am eu hud a’u lledrith yn y gegin. Disgwyliwch brofiad sy’n cyfuno clwb nos bywiog a 35 cwrs o seigiau eithriadol, nifer ohonynt yn cyfuno cynnyrch lleol wedi’u cyfuno â blasau Dwyreiniol. Ond os na fyddwch wedi archebu bwrdd fisoedd lawer o flaen llaw, peidiwch digaloni. Yn hytrach, galwch heibio bar awyr-iach Legless-Fach gyda’i bwydlen rhesymol mewn pris. Ceir yno winoedd fesul y gwydr, ac ymysg y seigiau ar gynnig mae’r ‘Welsh Rarebit’ a ‘Ragu Wagyu’ hynod flasus.

Y cogydd Gareth Ward yn rhoi bwyd ar blat
Coginio cig ar farbeciw

Gwesty a Bwyty Ynyshir, Eglwys Fach, Machynlleth

Gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad ag ardal ehangach Mynyddoedd Cambria wrth drefnu llety yng ngwesty’r Hafod, Pontarfynach. Fel ei frawd-westy, Cross Foxes ger Dolgellau, dyma hafan gysurus sy’n cyfuno croeso cynnes â chyffyrddiadau cyfoes Cymreig.

Cilycwm, Llanymddyfri ym Mynyddoedd Cambria

Mynnwch beint o gwrw Mantle o Geredigion wrth y bar, a suddwch i’r soffa melfed felen ger y tân. Dyma’r lleoliad perffaith i ymlacio ar ôl crwydro Cwm Rheidol a choncro mynydd Pumlumon, neu ryfeddu wrth farcutiaid cochion Bwlch Nant yr Arian. Rhwng Goginan a Phonterwyd, mae’r ganolfan ymwelwyr yno yn cynnig llwybrau cerdded a beicio mynydd di-ri.

Beiciwr mynydd yn Nant yr Arian. Mae'n gwisgo cot wyrdd a throwsus glas.
Barcud coch yn hedfan dros lyn, yn cael ei lun wedi tynnu gan grŵp o bobl.

Bwlch Nant yr Arian

Ond rhaid cael balans mewn bywyd, ac wedi’r gweithgareddau awyr agored, dychwelwch i goflaid gynnes bar-bwyty gwesty’r Hafod. Dewiswch o ddetholiad o flasau lleol, o frithyll ffres o Lyn Clywedog i’r byrger anferthol. Ac os oes dant melys, cadwch le yn y bol am y pwdin haf anfarwol.

Cyn gadael, profwch wefr rhaeadrau Pontarfynach sydd i’w canfod gamau’n unig o’r gwesty. Unwaith eto, mae’r bont yn destun i un o chwedlau enwocaf Cymru – am ferch sy’n trechu’r diafol, er mawr lawenydd.

Cwpl yn sefyll ar bont bwa gwyrdd yn edrych allan ar raeadr. Mae coed hydrefol o'u hamgylch.

Rhaeadr Pontarfynach, Ceredigion

Diwrnod 2 - Pontarfynach i Aberystwyth

Wedi noson dda o gwsg a brecwast mawr Cymreig, gwnewch eich ffordd i gyfeiriad Pontarfynach. Ychydig filltiroedd uwch ‘pentre’r beirdd’, Ffair Rhos, profwch lonyddwch Llynoedd Teifi. Mae’r pellaf ohonynt, Llyn Egnant, yn atyniad i bysgotwyr a nofwyr gwyllt. Yna ychydig yn nes at Bontarfynach, mae olion abaty Ystrad Fflur – canolfan ddiwylliannol i’r Cymry ers dyddiau’r Arglwydd Rhys. Yno, yn ôl yr hanes, o dan yr ywen yn y fynwent mae bedd un o feirdd mwyaf Cymru, Dafydd ap Gwilym. Yn leoliad braf i fyfyrio, a dod ’nôl at eich coed, does dim rhyfedd i’r llecyn heddychlon hwn ysbrydoli beirdd di-ri.

Bedd lechen Dafydd Ap Gwilym gydag ysgrifen wedi'i cherfio ynddi
Gatiau haearn wedi'u haddurno â symbolau Celtaidd. Mae drws abaty Ystrad Fflur tu ôl i'r giât.

Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion

Cyn dychwelyd i fwrlwm Aberystwyth, ewch i ganolfan y ‘gorllewin gwyllt’. Mae Tregaron yn batrwm o dref marchnad bywiog, ac wrth ei galon mae’r Talbot, sef tafarn-fwyd a gwesty o fri. Mynnwch stecen a sglodion gyda’r gorau yng Ngheredigon gan y cogydd lleol Dafydd Watkin, a hyfforddodd dan adain Marco Pierre White yn Llundain. Oddi yma gallwch ddilyn y llwybr beicio poblogaidd dros y mynyddoedd sy'n cychwyn yng ngwarchodfa natur Cors Caron, ac ychydig i'r dwyrain mae'r enwog gapel anghysbell, Soar y Mynydd

Darllen mwy: Bro’r Barcud: Tregaron a thu hwnt

Capel wen yng nghanol y goedwig gydag awyr las yn gefndir.
Cymylau duon uwchben cors wlyb gyda blodau grug

Capel Soar y Mynydd, ger Tregaron, a Gwarchodfa Natur Cors Caron 

Os am ymestyn eich arhosiad yn nhref Aberystwyth, beth am lety bwtîc Gwesty Cymru? Am instagram-chic ystyriwch No 3 Laura Place - fflat chwaethus a chanolog y dylunydd lleol Hannah Jones. Neu fel Dafydd ap Gwilym, mynnwch beint mewn tafarn leol; does nunlle gwell na’r Hen Lew Du i ddymuno ‘Iechyd Da’.

Gair i gall wrth grwydro Ceredigion

Ble bynnag yr aiff eich anturiaethau â chi, gofynnwch y 3 chwestiwn yma cyn cychwyn ar eich taith:

  1. Ydw i'n hyderus fod gen i'r hyder a'r sgiliau yr wyf eu hangen?
  2. Ydw i'n gwybod beth yw rhagolygon y tywydd?
  3. Oes gen i offer a dillad addas?

Ewch i AdventureSmartUK am wybodaeth ar sut i aros yn ddiogel tra'n mwynhau crwydro Cymru. 

Os ydych yn bwriadu mwynhau yn y môr, neu mewn afon neu lyn yng Ngheredigion, cofiwch...

  • Os yn bosibl, ewch i draeth lle mae achubwyr bywyd ar waith, a nofiwch rhwng y baneri coch a melyn. Ond all achubwyr bywyd ddim bod ym mhob traeth dros yr haf - felly byddwch yn ddoeth a sicrhewch eich bod chi a'ch teulu yn ddiogel.
  • Gwisgwch het lachar (mae gwyrdd ac oren yn dda), a defnyddiwch fflôt fel bod rhai eraill yn gallu eich gweld.
  • Nofiwch gyda phobl eraill bob amser - mae'r system nofio gyda chyfaill yn gweithio'n dda.
  • Edrychwch ar amseroedd y llanw cyn nofio yn y môr neu mewn aber.
  • Ewch i mewn i'r dŵr yn araf er mwyn rhoi amser i'ch corff arfer gyda'r oerfel.
  • Os ydych chi'n mynd i drafferthion yn y dŵr peidiwch â mynd i banig, ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn nes eich bod yn gallu rheoli eich anadl. Yna ceisiwch dynnu sylw rhywun trwy godi eich braich a gweiddi am help. 
  • Dylech wybod sut a phryd i gael cymorth; Os ydych yn dod ar draws rhywun mewn trafferthion peidiwch â pheryglu eich hunain trwy fynd i mewn i'r dŵr - ffoniwch 999 am help. 
  • Ar y lan: gofynnwch am yr heddlu, yna gofyn am y Tîm Achub Mynydd.
  • Ar ddŵr mewndirol: gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.
  • Ar y môr neu'r arfordir: gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Straeon cysylltiedig