Saif Ynys Enlli tua 2 filltir ar draws y swnt o Benrhyn Llŷn. Ymddiriedolaeth Ynys Enlli sydd yn berchen ar yr ynys a'i nod yw gwarchod a hyrwyddo'r ynys fel lle o ddiddordeb gwyddonol, hanesyddol ac ysbrydol arbennig. Mae grym hynod ar i'r ynys wedi denu Mari Huws yn ôl bob blwyddyn ers ei hymweliad cyntaf yn dair oed.
Rydw i wastad wedi byw fy mywyd mewn rhyw lif – yn mynd o un lle i’r llall yn teithio, astudio, gweithio – heb unrhyw gynllun na lle penodol oeddwn yn trio gyrraedd, dim ond y teimlad fy mod eisiau gwneud rhywbeth sydd o bwys. Mi gariodd llif fy mywyd fi yma, i weithio fel warden ar Ynys Enlli gyda fy nghariad.
Dros nos mi drodd ein byd ni’n graig yng nghanol y môr, ddwy filltir o drwyn Pen Llŷn. Ynys fach ydi Enlli. O’n tŷ ni, oeddwn yn croesi tri chae er mwyn cyrraedd yr arfordir. Dim ond milltir a hanner ydi’r ynys ar ei hiraf a hanner milltir ar ei lletaf. Ond er ei maint, mae rhywbeth hynod am y lle.
Miloedd o flynyddoedd o hanes
Mae’r ynys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (IDSS) gyntaf Ewrop. Mae’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn erbyn hyn, ac mae pobl wedi cael eu tynnu yma ers miloedd o flynyddoedd. Ar y mynydd, sydd â’i gefn tuag at y tir mawr, mae olion hen gytiau pobl a fu’n byw yma yn Oes yr Haearn (700 CC), a thu ôl i’n tŷ ni mae adfeilion abaty o’r drydedd ganrif ar ddeg. Adeiladwyd yr abaty cyntaf ar yr ynys yn y 6ed ganrif.
Rydym yn byw ar ddiwedd pererindod, lle yn ôl y sôn mae 20,000 o seintiau wedi eu claddu. Heddiw, 20,000 o adar Drycin Manaw sy’n nythu yma.
Dros y canrifoedd mae poblogaeth yr ynys wedi chwyddo a chrebachu. Ar droad yr ugeinfed ganrif roedd dros gant o bobl yn byw a gweithio ar yr ynys.
Mae’r ynys yn ffrwydrad o fywyd gwyllt, ac yn un o’r llefydd prin lle mae ddoe a heddiw yn cwrdd. Yn ôl rhai mae’r ddaear a’r nefoedd hefyd yn cyfarfod yn Enlli, ac mae’n rhaid dweud fy mod yn dueddol o gytuno ar ddiwrnod braf pan mae’r haul yn aur a’r môr fel llyn. Mae hi fymryn yn anoddach i weld hynny ar ddiwrnod stormus o Ionawr!
Adeiladwyd y tai sydd yma heddiw gan yr Arglwydd Niwbwrch ar ddechrau’r 1870au. Maent yn fy atgoffa i o rai o gestyll y tir mawr mewn rhai ffyrdd – er nad ydyn nhw mor fawreddog, does dim i’w cysgodi rhag y gwynt, ac eto mae nhw’n dal i sefyll yn falch ar ôl cant a hanner o aeafau. Gofalu am y tai yma a’u gerddi yw un o’n prif gyfrifoldebau fel wardeniaid gydol y flwyddyn.
Rhyddid o’r byd modern
Profiad unigryw ydi dod i aros ar Enlli. Mae’r ynys wedi cynnig hoe o brysurdeb a sŵn y tir mawr erioed, ond heddiw mae ei heddwch a’i rhyddid o ‘mod-cons’ y byd modern yn cynnig gwyliau fwy arbennig ac unigryw nag erioed i deuluoedd a ffrindiau. Does dim cysylltiad â’r we na golau trydan yn y tai, ac mae’r dŵr yn llifo yn syth o’r ffynnon. Mae’n brofiad off-grid ac unplugged na cheir ei debyg iddo yng Nghymru na thu hwnt!
Mae’r tymor gwyliau yn rhedeg o fis Ebrill tan ddiwedd Medi. Mi oeddwn i’n dair oed pan ddaeth fy rhieni â fi yma gyntaf ar ein gwyliau, ac fel nifer o bobl eraill, mi wnaethom ddychwelyd bob blwyddyn wedyn. Dyma rym yr ynys, mae rhywbeth yn denu pobl nôl yma am ddegawdau!
Gwaith caib a rhaw
Wrth gwrs, profiad gwahanol iawn ydi ymweld a gweithio yma; a hawdd ydi rhamantu am fywyd ynysig, mewn lle mor wyllt a phrydferth. Ond mae’r rhan fwyaf or gwaith yn waith caib a rhaw, neu glwt a sebon, neu strimmer a berfa! Does dim dau ddiwrnod r’un fath, heblaw o bosib y diwrnod newid ymwelwyr, pan oedd angen i ni lanhau pob llety cyn croesawu'r criw nesaf.
Mae’r swydd yn newid efo’r tymhorau a’r tywydd. 6 mis o bobl, 6 mis o neb. O arddio i groesawu i lanhau, plannu coed ac agor ffosydd, adeiladu drysau neu beintio – mae’r gwaith o gynnal a chadw ynys, ei thai a’i llwybrau, yn ddi-ddiwedd!
Oedd ddim byd glamorous am fod yn warden, ond oedd yn gysur gwybod ein bod yn rhoi ein hamser a’n hegni tuag at warchod a gwella lle mor unigryw. Ac wrth gwrs, yn y pocedi o amser rhwng y tasgau i gyd mi awn ni i nofio efo’r morloi, neu i gaiacio rhwng dau lanw, neu i gerdded yr hen lwybrau, neu i wylio’r awyr yn dod yn fyw gydag adar o ben ban byd.
Felly er oedd ein toiled ni dal yng ngwaelod yr ardd, ac nad oedd gwres canolog yn y tŷ, oeddwn yn camu oddi ar ein stepen drws i un o’r llefydd tlysaf a mwyaf gwyllt yng Nghymru.
Archebwch eich llety yma neu trefnwch eich taith dydd gyda Mordaith Llŷn.
Dilynwch y wardeniaid ar Instagram: @bywarenlli