P'un ai ydych chi'n bwriadu cerdded y llwybr cyfan neu gerdded rhan fer yn unig, mae'n beth da bod yn gwbl barod. Beth i'w gario gyda chi? Beth i'w wisgo? Pryd i fynd? Dyma grynodeb o'r pethau pwysig y dylech eu gwybod.

Pryd i gerdded

Gall tywydd Cymru fod ychydig yn annarogan ac mae'r arfordir yn agored, felly cofiwch edrych ar neu ddarllen y rhagolygon. Yn yr haf byddwch yn aml yn cerdded mewn heulwen braf, ond bydd y rhagolygon yn eich rhybuddio am unrhyw gawodydd o law. Efallai bydd y gaeaf yn llwm, ond gallwch fanteisio ar unrhyw ragolygon da.

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng yr haf a'r gaeaf yw'r tymheredd a nifer yr oriau golau dydd. Gallwch gerdded ymhellach yng ngolau dydd ar ddiwrnodau cynnes, hafaidd nag yn y gaeaf. Mae cerdded yn y gaeaf yn gweithio orau os dewiswch deithiau cerdded byr, hawdd, a hynny ar ddiwrnodau clir, tawel. Mae mwy o wasanaethau a chyfleusterau ar gael yn yr haf nag yn y gaeaf hefyd.

Arwyddbyst a mynediad

Pan mae'n dweud Llwybr Arfordir Cymru ar arwyddbost ac yn arddangos y logo cyfarwydd, rydych chi’n mynd y ffordd gywir. Mae arwyddion ac arwyddbyst ar hyd llwybr yr arfordir, o’r naill ben i’r llall, mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd. Er bod y rhan fwyaf o'r llwybr yn amlwg iawn, efallai y bydd angen i chi edrych ychydig yn fanylach wrth basio trwy drefi, yn syml, oherwydd fe welwch lawer o bethau i dynnu’ch sylw. Mae'r llwybr yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda a cheir grisiau, camfeydd a phontydd troed newydd i gynorthwyo cerddwyr.

 

Arwydd Llwybr Arfordir Cymru ar Lwybr Arfordir y Mileniwm yn Ne Cymru, gyda thywod ac awyr las.
Arwydd Llwybr Arfordir Cymru ar ganllaw gyda dynes yn cerdded i ffwrdd ar hyd llwybr tarmac.

Dau o'r miloedd lawer o arwyddbyst Llwybr Arfordir Cymru

Mae arwyddion ac arwyddbyst ar hyd llwybr yr arfordir, mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd."

Cynllunio a thrafnidiaeth

Gallwch bennu taith o amgylch Llwybr Arfordir Cymru fel her fwyaf eich bywyd drwy ei cherdded mewn un daith, neu ymestyn y profiad dros nifer o flynyddoedd, gan ddewis diwrnod neu ddau yma ac acw pan fydd cyfleoedd yn codi. Mae sawl rhan o’r arfordir yn isel ac yn hawdd i'w cerdded felly maen nhw'n ddelfrydol os nad ydych chi'n gerddwr rheolaidd. Os ydych chi ychydig yn fwy profiadol, byddwch chi wir yn mwynhau'r llwybrau hwy a mwy garw ar hyd y clogwyni.

Grŵp o rieni a phlant ifanc â chadeiriau gwthio yn cael egwyl wrth ymyl arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru.

Plant ifanc ar daith yn darganfod bod sawl rhan o'r llwybr yn berffaith ar gyfer cael picnic

Mae gan Gymru doreth o bromenadau glan môr. Mae morglawdd cadarn yn cysylltu trefi fel Prestatyn a'r Rhyl. Mae'r Borth ac Aberystwyth, ar y llaw arall, wedi'u cysylltu gan lwybr clogwyn poblogaidd. Dewiswch unrhyw dref arfordirol yng Nghymru, rhowch gynnig ar ddarn o Lwybr Arfordir Cymru ar y naill ochr i’r dref honno. Bydd yn brofiad gwahanol bob tro, gyda golygfeydd bywyd gwyllt, hanes a threftadaeth amrywiol.

Mae sawl rhan o'r arfordir yn cynnwys rheilffyrdd, felly gallwch gerdded o orsaf i orsaf, ddydd ar ôl dydd, gan weithredu o lety ger gorsaf. Gallwch wneud hyn ar hyd arfordir y gogledd rhwng Caer a Bangor, o amgylch y rhan fwyaf o Fae Ceredigion o Bwllheli i Aberystwyth ac ar hyd llawer o arfordir y de rhwng Caerfyrddin a Chas-gwent.

Darllen mwy: Archwilio arfordir Gogledd Cymru ar y trên

Trên yn yr orsaf yn Y Bermo

Trên yn aros yn yr orsaf yn Y Bermo - lleoliad perffaith ar gyfer teithiau cerdded undydd ar hyd arfordir y Cambrian

Gallwch wneud yr un peth gyda bysiau mewn rhai mannau. Mae Bws Arfordir Llŷn a Bysiau Arfordirol Sir Benfro yn bodoli i’ch helpu i gynllunio a mwynhau teithiau cerdded anhygoel ar hyd yr arfordir heb orfod dyblu’n ôl na defnyddio car. Gallwch gynllunio teithiau gan ddefnyddio Trafnidiaeth Cymru a Traveline Cymru. Mae rhai apiau trafnidiaeth yn caniatáu ichi olrhain cynnydd trenau a bysiau, a hynny mewn amser go iawn.

Ar y cyfan, nid yw’r llanw’n effeithio ar Lwybr Arfordir Cymru, ond mae ambell daith gerdded ar y traeth wedi’u gorchuddio’n llwyr yn ystod cyfnod penllanw. Cyn cerdded bob dydd, peidiwch ag anghofio gwirio amserau’r llanw.

Mae sawl rhan o'r arfordir yn cynnwys rheilffyrdd, felly gallwch gerdded o orsaf i orsaf."

Ffyrdd eraill o deithio

Er bod Llwybr Arfordir Cymru gyfan wedi’i greu ar gyfer cerdded, gallwch feicio ar hyd rhai adrannau, ac mae’r rhannau hynny fel arfer yn iawn os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn neu’n gwthio bygi. Fe welwch lwybrau beicio dynodedig ar hyd arfordir y gogledd o Gaer i Gei Connah, Prestatyn i Fae Colwyn neu’r Felinheli i Gaernarfon Caernarfon. Ar arfordir y de fe welwch lwybrau beicio rhwng Pen-bre a Chasllwchwr, y Mwmbwls ac Abertawe, Penarth a Chaerdydd. Mae’r rhain i gyd yn rhannau annatod o Lwybr Arfordir Cymru.

Beic yn pwyso yn erbyn arwydd Llwybr Arfordir Cymru a beiciwr yn y cefndir yn edrych allan tua’r môr.

Mae sawl rhan o’r llwybr yn addas ar gyfer beiciau, fel y darn hwn ym mhen draw Llŷn

Llety a phacio

Os ydych chi'n gyrru car i lety, gallwch fynd â chymaint ag y dymunwch gyda chi, ond cariwch y pethau sylfaenol yn unig ar hyd llwybr yr arfordir. Gallai hyn gynnwys dillad glaw, gwrthwynt, mapiau, digon o fwyd a diod ar gyfer y diwrnod a phecyn cymorth cyntaf bach. Os ydych yn cerdded o westy i westy mae'n debyg y byddwch am gynnwys dillad ac esgidiau i newid iddyn nhw.

Os ydych yn bwriadu gwersylla, yna mae’n amlwg bydd angen pabell a sach gysgu arnoch, yn ogystal â stôf, potiau a sosbenni os byddwch yn coginio'ch bwyd eich hun. Gallwch ddefnyddio gwasanaethau trosglwyddo bagiau i symud pethau o’r naill lety i’r llall.

 

Bwyd a diod

P'un ai ydych chi'n bwyta mewn bwytai gwych neu'n prynu tamaid o far byrbrydau ar y traeth, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n blasu bwydydd a diodydd Cymreig - mae llawer o fannau’n cynnig cynnyrch neu arbenigeddau lleol. Bydd angen i chi fod yn hunangynhaliol mewn mannau mwy anghysbell, ond dylech allu dod o hyd i ddigon o siopau a delis er mwyn prynu bwyd ar gyfer teithiau cerdded dydd, gydag ychydig o gynllunio ymlaen llaw. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae mwy o leoedd sy’n gwerthu bwyd a diod ar agor yn yr haf nag yn y gaeaf. Gallwch hefyd gael eich potel ddŵr wedi'i hail-lenwi am ddim mewn cannoedd o leoliadau ar hyd y llwybr.

Ewch i'r wefan Ail-lenwi a lawrlwythwch yr Ap Ail-lenwi er mwyn dod o hyd i'ch Gorsaf Ail-lenwi leol a chael dŵr yfed ffres wrth fynd.

Pasteiod porc yn cael eu harddangos
Hen Fan Goffi ar lan y môr.

Pasteiod porc lleol a fan fwyd – gwnewch y gorau o’r bwyd sydd ar gael ar hyd y ffordd

Cyfathrebu

Mae yna fannau ar hyd yr arfordir lle byddwch yn colli signal eich ffôn symudol. Os yw cadw mewn cysylltiad yn bwysig, cadwch lygad ar gryfder y signal. Os ydych chi'n defnyddio ffôn ar gyfer llywio a chyfathrebu, cadwch hwn wedi’i wefru a chariwch fanc pŵer fel nad ydych chi'n rhedeg allan o bŵer yn hwyr yn y dydd. Mae ffonau clyfar yn hynod ddefnyddiol, ond yn llai felly pan fyddwch chi'n colli signal ac maen nhw’n gwbl ddiwerth pan fyddan nhw’n rhedeg allan o bŵer! Os ydych yn defnyddio mapiau digidol, cariwch gopïau papur fel copi wrth gefn.

Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar ar gyfer llywio a chyfathrebu, cadwch hwn wedi’i wefru a chariwch fanc pŵer."

Argyfyngau

Er bod pecyn cymorth cyntaf sylfaenol yn iawn ar gyfer briwiau neu grafiadau, efallai y bydd angen galw am gymorth yn achos problemau mwy difrifol. Bydd y gwasanaeth 999 yn eich cysylltu ag unrhyw un neu bob un o’r canlynol: heddlu, ambiwlans, tân, achubwyr mynydd neu wylwyr y glannau.

Gwybodaeth bellach

Cyhoeddir y mapiau gorau gan yr Arolwg Ordnans. Mae mapiau Landranger, ar raddfa 1:50,000, a mapiau Explorer, ar raddfa o 1:25,000, yn dangos Llwybr Arfordir Cymru ar ei hyd. Mae Google Maps yn iawn ar gyfer dod o hyd i lety, bwyd a diod, ynghyd â gwasanaethau eraill a manylion cyswllt, ond ni fydd yn dangos bryniau a dyffrynnoedd, na llawer o lwybrau defnyddiol, felly nid yw'n dda ar gyfer dod o hyd i ben ffordd yn fanwl. Mae ap Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig digonedd o wybodaeth sydd heb fod ar gael ar fapiau.

Mae Arweinlyfrau gan Northern Eye, yn cwmpasu Arfordir Gogledd Cymru, Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Eryri ac Arfordir Cheredigion, Sir Benfro, Bae Caerfyrddin a Gŵyr, ac Arfordir De Cymru. Mae Cicerone yn cyhoeddi un gyfrol sy'n cwmpasu'r llwybr cyfan.

Arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru gydag arfordir, llwybr a môr yn y cefndir.

Arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru ar Fynydd Mawr yng Ngwynedd

Straeon cysylltiedig