Atyniadau cysgodol sy’n wych i deuluoedd
Trefnwch sesiwn egnïol yng Nghanolfan Chwarae Dan Do Quackers, Y Bontnewydd-ar-Wy. Lle heb ei ail i’r plant fwynhau antur ymysg y sleidiau, y tiwbiau, y pyllau peli a’r pontydd rhaff.
Neu beth am gamu i ganol paradwys drofannol yn y Magic of Life Butterfly House, ar gyrion Aberystwyth? Gwyliwch y glöynnod byw trofannol anferth yn hedfan o’ch cwmpas, edmygwch y planhigion prin ac egsotig, a rhyfeddwch at yr ymlusgiaid a’r riffiau cwrel yn y tanciau sy’n orlawn o bysgod lliwgar. Mae Parc Fferm Ffantasi yn Llanrhystud yn atyniad gwych arall ym mhob tywydd. Yn ogystal â gweithgareddau awyr agored, mae yno le chwarae i blant bach ar thema môr-ladron, gyda phwll tywod a soffas, yn ogystal ag ysgubor fawr lle cewch chi gwrdd ag anifeiliaid a’u bwydo.
Mae’r Silver Mountain Experience ym Mhonterwyd wedi’i leoli mewn mwynglawdd plwm o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, lle mae arian hefyd i’w ganfod. Bellach yn atyniad cyffrous i bobl o bob oed, fe gewch chi glywed am hanes y mwyngloddio yno, rhoi cynnig ar olchi arian drwy badell, clywed chwedlau lleol brawychus, a cheisio dianc o ystafelloedd yr Ultimate Xscape. Bydd plant ifanc yn siŵr o wirioni ar daith ryngweithiol chwedl y ddraig, tra bo’r safle hefyd yn croesawu cŵn.
Er nad yw’n dechnegol o dan do, mae cerbyd mewn trên gan amlaf yn lle cysgodol! Bydd pawb o bob oed sy’n hoff o fyd stêm yn siŵr o fwynhau taith hyfryd drwy gefn gwlad ar Reilffordd Dyffryn Rheidol, Aberystwyth, neu Reilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion.
Amgueddfeydd, orielau a chrefftau
Mae oriau di-ben-draw o ddifyrrwch i’w cael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Yn ogystal â bod yn ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf, mae’r Llyfrgell yn cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd sy’n procio’r meddwl; mae yno le chwarae dan do i blant bach, ynghyd â chaffi; ac mae yno orielau braf i’w crwydro.
Camwch dros drothwy Castell Powis a’r Ardd yn y Trallwng a rhyfeddu at sut yr arferai pobl gyfoethog fyw ers talwm. Mae’r lle’n llawn neuaddau ysblennydd a chasgliadau o decstilau ac arteffactau o bob cwr o’r byd. Ar ôl crwydro, ewch i fwynhau paned yn y caffi sydd yno. Ac os nad yw’r tywydd yn rhy arw, gwisgwch gôt ac ewch am dro drwy’r gerddi.
Dewch i glywed am lofruddiaethau, am achosion llys ofnadwy, ac am y gweision a’r morwynion a arferai weithio o dan Lety’r Barnwr yn y plasty hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, lle mae bron i 500 mlynedd o hanes barnwrol yn llechu. Dyma fyd tywyll, amheus, gyda gweithgareddau Fictoraidd i’r plant ac ambell beth brawychus, annisgwyl yn wynebu’r oedolion.
Plasty Sioraidd rhestredig Gradd II yw Y Plas, a hwnnw wedi’i adael yn rhodd i drigolion Machynlleth yn 1948. Dewch i edmygu doniau amrywiol yr artistiaid lleol yn yr oriel, neu i ymlacio yn y caffi a’r bwyty. Gerllaw, mae MOMA Machynlleth yn arddangos gweithiau celf o Gymru ac yn cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau cerddorol rheolaidd yn y Tabernacl.
Ewch am dro o amgylch Oriel Davies yn y Drenewydd lle cewch chi weld amrywiaeth eang o gelf lleol a rhyngwladol, ymuno â gweithdy crefftau, a phori yn y siop sy’n llawn dop o gynnyrch lleol. Neu i weld gwaith celf go eclectig, ewch draw i Amgueddfa Gerfluniau Andrew Logan yn Aberriw.
Yng Nghanolfan Cwiltiau Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, fe gewch chi fwynhau tipyn o frethyn cartref go iawn, a hynny drwy arddangosfeydd gwych yng nghanol y stryd fawr sy’n dathlu darn hynod o hanes yn y byd tecstilau a dylunio. Mae gan y siop filoedd o garthenni a chwiltiau hyfryd, ac fe fyddwch chi’n sicr o gael croeso gan y gŵr a’r wraig sy’n rhedeg y deli a’r caffi braf.
Beth am roi cynnig ar greu eich mwg neu’ch powlen eich hun, gan ddechrau o ddim? Trefnwch gwrs yn Ysgol Grochenwaith Alex Allpress yn Llanfair-ym-Muallt er mwyn dysgu sgìl newydd. Mae cyrsiau ar gael i ddechreuwyr a chrochenwyr mwy profiadol, a’r rheini’n addas i blant mor ifanc â dwy oed. Gweithgaredd penigamp i’w wneud ar ddiwrnod gwlyb.
Sinemâu, y celfyddydau ac adloniant
Awydd mynd i weld sioe? Mae digonedd o ddewis yn y canolbarth, gyda sgrin sinema mewn sawl canolfan hefyd. Mae Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, Canolfan Celfyddydau Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt, y Mwldan yn Aberteifi a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth i gyd yn cynnig amrywiaeth eang o berfformiadau, gan gynnwys sioeau byw, comedi, cerddoriaeth, digwyddiadau a ffilm.
Yn gartref i’r Sefydliad Celf a Syniadau mewn tref sy’n enwog am ei chreadigrwydd, mae’r Glôb yn y Gelli yn ganolbwynt bywiog i bopeth o farddoniaeth a phedwarawdau llinynnol i gomedi a nosweithiau clwb. Ewch am dro i’r caffi i fwynhau bwyd lleol rhagorol, a chadwch lygad am y gwyliau celfyddydau ac athroniaeth sy’n cael eu cynnal yma yn ystod y flwyddyn.
Mae sinema bwtîg y Borth, Libanus 1877, yn cynnig ychydig o foethusrwydd wrth i chi wylio’ch ffilm. Ymlaciwch ar y seddi cyfforddus a mwynhau detholiad o bethau braf i’w bwyta a’u hyfed.
Gweithgareddau dan do moethus
Pan na fydd rhagolygon y tywydd yn wych, ewch ati i drefnu rhywbeth arbennig iawn – diwrnod mewn sba. Mae gan y canolbarth ddewis gwych o lefydd moethus sy’n cynnig diwrnodau sba a thriniaethau hen eu hail.
Mae’r sba yng Ngwesty Llyn Efyrnwy yn lle gwerth chweil i ymlacio a chael eich cefn atoch. Mae diwrnod sba fan hyn yn cynnwys dwy awr yn yr ystafelloedd thermol hyfryd, te prynhawn, a dewis o wasanaethau tylino/wyneb rhagorol, yn dibynnu ar y pecyn y byddwch chi’n ei drefnu.
Mae sesiwn sba yn The Rock Spa yn Llandrindod Wells yn cynnwys cyfle i ddefnyddio’r pwll 18 metr cynnes, y sawna, yr ystafell stêm a’r gampfa. Mae amrywiaeth eang o driniaethau ar gael, a nifer ohonyn nhw’n defnyddio cynnyrch lleol. Yn eu plith mae triniaethau wyneb, tylino, a sgrwbio a lapio’r corff. Ewch i fwynhau te prynhawn yn y Metropole wedyn.
Mae Peterstone Court Health & Beauty Spa, ar gyrion Aberhonddu, yn cynnig triniaethau moethus yn y seleri bwaog sydd wedi’u haddasu’n hyfryd. Mwynhewch y jacuzzi, y sawna a’r ogof ymlacio, cyn mynd i fyny’r staer a mwynhau pryd penigamp o fwyd neu de prynhawn tymhorol.