Pam Aberystwyth?

Mae Aberystwyth, a allai fod wedi’i galw’n Aber-rheidol yr un mor hawdd, gan fod y ddwy afon yn llifo i’r môr yma, wedi’i lleoli reit ynghanol hanner cylch crwn Bae Ceredigion, ac mae’n lleoliad delfrydol i ddod am wyliau byr. Lleolir Aber, fel y gelwid hi gan genedlaethau o fyfyrwyr a phobl leol, rhyw hanner ffordd rhwng dinas leiaf Cymru, a’i phrifddinas ysbrydol; Tyddewi, i’r de, ac Aberdaron, cyrchfan pererinion a syrffwyr, ym mhen eithaf Penrhyn Llŷn i’r gogledd. Felly mae’n hollol synhwyrol lleoli eich hun yma i wneud yn fawr o 180 milltir syfrdanol Ffordd yr Arfordir.

Mae hi’n amhosib ymweld ag Aberystwyth heb fynd am dro, loncian neu achub eiliad o bensynnu rywle ar hyd milltir odidog y prom Fictoraidd. Ar lan y môr yma hefyd y ceir pier hynaf Cymru (a adeiladwyd ym 1864), sy’n cynnig yr ail olygfa orau yn Aber. Daw’r golygfeydd gorau oll 430 troedfedd uwchlaw pen pellaf traeth y gogledd, ar Graig Glais – neu Consti, fel y gelwir ef yn lleol. Yma y lleolir Camera Obscura mwya’r byd, sy’n rhoi golygfa sy’n ymestyn dros 1,000 milltir sgwâr, mewn cylch cyflawn o gwmpas Aberystwyth. Gellir cael mynediad i’r Camera Obscura drwy fynd ar daith ar Reilffordd y Graig Aberystwyth. Dyna bleser i bobl o bob oed yw dringo’r graig serth ar y rheilffordd hiraf o’i bath ym Mhrydain, ac mae’n cynnig golygfeydd rhagorol o’r dref, yn enwedig pan fydd y miloedd o drudwy sy’n cartrefu ar y pier wrthi’n creu’r cymylau duon sy’n dawnsio – un o ryfeddodau byd natur gorau’r ardal gyfan. Cofiwch eich camera!

Merch tu allan i ddrws y Llyfrgell yn edrych tua'r môr
Llun agos o adeilad glas llachar ar brom Aberystwyth
Trên yn teithio i lawr Rheilffordd y Graig ar ddiwrnod braf

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, adeilad ar y prom, Rheilffordd y Graig

Ble i aros?

Os ydych chi eisiau moethusrwydd y profiad bwtîc ar y prom, bydd Gwesty Cymru’n sicr o blesio; dyma gartref bwyty rhagorol ble gallwch sipian coctel yn yr ardd, wrth i’r tonnau dorri ar y graean gyferbyn. Os oes gennych chwaeth am foethusrwydd mwy traddodiadol, yna Gwesty’r Conrah yn Ffosrhydgaled, ar gyrion Aber, fydd y lle i chi. Perchnogion preifat olaf y Conrah oedd dwy hen ferch o deulu creision enwog Smiths (ac roedd fy mam-gu’n forwyn iddyn nhw), ac mae hi’n werth profi dehongliad modern y gwesty o de prynhawn.

Os nad yw eich poced mor ddwfn â hynny, mae digonedd o ddewisiadau i chi hefyd, wrth i fargeinion ‘tu hwnt i’r tymor’ (ond ar anterth y tymor gwyliau) gael eu cynnig gan Brifysgol Aberystwyth. Tra byddwch chi lan ar y campws yn chwilio am lety, cofiwch daro i mewn i Ganolfan y Celfyddydau, sy’n rhan o adeiladau’r brifysgol. Dyma un o ganolfannau celfyddydau mwyaf y DU, ac mae’n debygol iawn y bydd rhyw sioe neu arddangosfa at eich dant yn digwydd yno. Mae yno gaffi rhagorol hefyd, sy’n gweini bwyd cartref a baratowyd gan ddefnyddio cynhwysion lleol, ynghyd â dewis o siopau sy’n gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg, crefftau ac eitemau wedi’u dylunio, ceramig a phrintiau gan artistiaid lleol, nwyddau hyfryd i’r cartref, gemwaith, nwyddau papur a chardiau. Mae yma hyd yn oed siop ysgol ddawns i’r ballerinas a’r dawnswyr tap yn eich plith!

Ble i fwyta ac yfed

Mae Aberystwyth yn nefoedd i'r rhai sy'n hoff o fynd allan i fwyta. Mae cymaint o ddewis o ran pris a'r math o fwyd. Dau le y mae’n rhaid ymweld â nhw yw Pysgoty, bwyty pysgod bach hyfryd a leolir mewn hen dŷ bach cyhoeddus gyda golygfeydd dros yr harbwr, ar Draeth y De, ac Ultracomida, deli a bar tapas Cymreig / Sbaenaidd rhyfeddol, â’i naws gynnes ac awyrgylch arbennig iawn.

Cynigir dewisiadau rhagorol o fwyd figan a bwyd llysieuol yn y Treehouse, a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC 2015. Mae Baravin, â’i enw’n chwarae ar eiriau am fara a gwin, yn ddatblygiad sy’n perthyn i Westy’r Harbourmaster, y perl yng nghoron Aberaeron, brin 16 milltir i’r de ar hyd Ffordd yr Arfordir. Mae’r bar hwn hefyd yn em heb ei ail, mewn lleoliad perffaith ar ganol y prom, a llaw gadarn Gareth yn rhedeg popeth fel wats. Dyma ble cefais i’r pizza gorau i mi ei flasu erioed hefyd - mae hi’n werth mynd yn unswydd i Aber i flasu’r pizza porc wedi’i rwygo, caws perl las a winwns wedi’u carameleiddio.

Rhaid argymell cael coctels yn The Libertine hefyd, ac oedi am ychydig (neu am dipyn go lew) yn Y Bañera, enw delfrydol i le ar Stryd y Baddon (Bañera yw ‘bath’ yn Sbaeneg). Yn y fan hon, coctels a rhestr win hirfaith fydd yn cael eich sylw, ac os ydych chi’n ffan o’r #hunlun, cofiwch dynnu eich llun gyda’r ddraig goch enfawr a baentiwyd y tu allan.

Arwydd du bwyty Treehouse ar adeilad oren gyda blodau ar y silff ffenestr allanol
Golygfa allanol o fwyty Baravin

Bwytai yn Aberystwyth

Hoffi siopa? 

Mae llawer iawn o siopau annibynnol hyfryd yn Aberystwyth, felly os ydych chi eisiau mynd ag anrhegion adref i deulu a ffrindiau, cofiwch ddod â ches gwag gyda chi. Mae bwtîc Polly yn ffefryn ar gyfer ffasiynau ac ategolion cyfoes i ferched, mae Coastal Vintage yn lle gwych i gael pethe vintage ger y lli, ac mae siop lyfrau ail-law Ystwyth Books yn lle deniadol, ble mae’n hawdd mynd ar goll rhwng y silffoedd am oriau. Mae dau ystyr i enw Siop y Pethe - nid yn unig y mae’n gwerthu pethau hyfryd o natur Gymreig, ond mae yma drysorfa o ran llyfrau i agor drws diwylliant a llên Cymru, sef ‘y Pethe’, hefyd. Mae cynlluniau broc môr yr artist lleol Lizzie Spikes yn addurno ffenestri siop ddillad dynion Cactws, ac os yw’r dynion yn eich bywyd yn hoff o sanau anarferol, dyma’r lle i bicio i mewn iddo. Os yw gemwaith yn eich denu, mae’r gemydd Celtaidd adnabyddus, Rhiannon, wedi agor siop yn Aberystwyth o’r diwedd, gan roi lle gwych i arddangos ei chynlluniau hyfryd Celtaidd ond hollol fodern a chyfoes mewn aur ac arian.

Stryd yn nhref Aberystwyth gyda'r nos

Canol tref Aberystwyth

Diwylliant a threftadaeth (a chyfle gwych i fynd am dro)

Mae hi wir yn werth ymweld â Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, fel y soniwyd ynghynt, ynghyd â’i chymydog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n gartref i lyfrau hanesyddol pwysig Cymru ynghyd â’r llyfr lleiaf yn y byd. Dyma safle arddangosfeydd arlunio a ffilm difyr hefyd, a gallwch eistedd yn braf yn gwylio  ffilmiau archif o bob cwr o Gymru yma am oriau, os dymunwch.

Ar ôl yr holl wledda, un ffordd o gael gwared ar y calorïau yw ymlwybro i gopa Pen Dinas, bryn trawiadol sy’n edrych dros y dref o’r de. Mae cofeb o’r 1850au ar y brig, a godwyd i goffau’r Dug Wellington cyntaf. Hefyd, rhaid i chi geisio neilltuo amser i weld Castell Aberystwyth (am ei bod hi, fel y gŵyr pawb, yn drosedd ymweld â thref heb ymweld â’i chastell). Adeiladwyd y castell hwn gan y Saeson i gadw’r Cymry draw yn y 13eg ganrif, yr un adeg ag y codwyd cestyll y Fflint, Rhuddlan a Llanfair-ym-muallt. Mae croeso i Gymry yno bellach, diolch byth…

Ac i gloi, os ydych chi wedi bod yn gwylio cyfres deledu Y Gwyll ar y BBC, S4C neu Netflix, byddai wedi bod yn amhosib i chi osgoi cael eich hudo gan olygfeydd cyfareddol y ddrama. Ffilmiwyd y gyfres lwyddiannus yn Aber a’r cyffiniau, felly mae digonedd o gyfleoedd i adnabod lleoliadau, yn enwedig os mentrwch chi i gefn gwlad cyfagos Ceredigion. Ffordd o gyrraedd lleoliad pennod agoriadol, wefreiddiol Y Gwyll ym Mhontarfynach yw ar Drên Bach Cwm Rheidol

Llun o'r tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a baner Cymru yn hedfan uwchben.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Dolenni a Gwybodaeth

Darganfod Ceredigion
Gwasanaeth Twristiaeth Ceredigion 
Canolfan Rheidol
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

croeso@ceredigion.gov.uk

Dyn yn eistedd ar fainc, yn edrych i lawr dros Aberystwyth

Golygfa o Riw Penglais i lawr at dref Aberystwyth

Straeon cysylltiedig