Teithiau dan do i’r teulu

Profiad y Bathdy Brenhinol, Llantrisant

Feddylioch chi erioed o ble daw’ch darnau arian chi, sut maen nhw’n cael eu gwneud, a pham eu bod nhw’n edrych fel maen nhw? Mae’r atebion i’w cael drwy fynd ar daith drwy’r byd arian ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol. Yno, byddwch chi’n cael eich tywys drwy’r ffatri yn Llantrisant, cartref rhyfeddol arian cyfred Prydain. Mae yma gyfle i ddysgu am hanes creu darnau arian a gwylio’r bobl sy’n eu creu wrth eu gwaith. Mae’r arddangosfa ryngweithiol yn gyfle i ddilyn hynt darn arian o’r dyluniad i’r dosbarthu, ac fe gewch chi gyfle hefyd i gael cip ar nifer o ddarnau arian a medalau prin.

Teithiau’r BBC, Caerdydd

Sut brofiad yw darllen y newyddion, tybed? Neu sut mae effeithiau sain yn cael eu rhoi ar eich hoff bodlediadau? Ymunwch â’r tywyswyr cyfeillgar ar daith arbennig y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru Wales. Fe gewch chi weld y stiwdios teledu a radio rhyfeddol, gan edmygu’r dechnoleg a dod i wybod am gyfrinachau creu rhaglenni’r BBC. Mae BBC Cymru Wales wedi cael gwobr aur Croeso Cymru am ansawdd y teithiau tywys hyn, ynghyd â gwobr Travellers' Choice gan TripAdvisor. Maen nhw ar gael yn Gymraeg, Saesneg a BSL.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Mae’r pyllau glo yn rhan fawr iawn o hanes Cymru. Yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, fe gewch chi gip rhyfeddol ar fywydau’r glowyr a’r gwaith y bydden nhw’n ei wneud ar y safle hwn yng nghymoedd y de. Bydd hwn yn ddiwrnod gwych i’r holl deulu. Gwisgwch helmed glöwr a phecyn batri cyn teithio 300 troedfedd (100 metr) o dan y ddaear i ddarganfod sut brofiad oedd bod yn ddwfn yn y pwll. Mae yma arddangosfa ar y safle i grwydro drwyddi, tra bydd digwyddiadau a gweithdai’n cael eu cynnal yn aml. Tra byddwch chi yn yr ardal, dewch i glywed mwy am dirwedd ddiwydiannol Blaenafon.

Hanes Rhufeinig Caerllion

Dilynwch ôl traed y Rhufeiniaid ganrifoedd lawer yn ôl a chrwydro drwy adfeilion adeiladau hamdden rhyfeddol Ail Leng Awgwstws. Bydd ymwelwyr â Chaer Rufeinig Caerllion yn cael darlun byw o fywyd ym Mhrydain Rufeinig yr ail ganrif. Yn dibynnu ar ba bryd y byddwch chi’n ymweld, fe allwch chi weld gwahanol rannau o’r baddondai Rhufeinig, gan gynnwys y baddonau eu hunain, yr ystafelloedd newid a’r pyllau cyffredin – ynghyd â chymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft a mwynhau sgyrsiau ac arddangosfeydd. Mae cyfle hefyd i grwydro drwy Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Pan fydd y glaw’n peidio, ewch i gael cip ar yr amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain, sydd gwta funudau i lawr y ffordd.

Pedwar o oedolion yn gwisgo oferôls a helmedi caled gyda fflachlampau ar eu blaen.
Alt: Tywyswr taith yn esbonio rhywbeth i grŵp o bobl.
Baddon Rhufeinig dan do – pwll teils petryal mawr, gyda llwybr o’i amgylch.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Teithiau’r BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd, Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, Caerllion, De Cymru

The Royal Mint

The Royal Mint Experience

Attraction
Pontyclun
BBC Tours

BBC Tours

Attraction
Cardiff
Big Pit Museum

Big Pit National Coal Museum

Attraction
Blaenavon

Gweithgareddau ac adloniant dan do

Gweithgareddau cyffrous

Efallai fod y tywydd yn ddigalon, ond yn Treetop Golf yng Nghaerdydd, fe gewch chi ddilyn llwybrau trofannol neu ôl traed enwogion hynafol ar antur golff mini dan do. Mae’r cyrsiau’n addas i gadeiriau olwyn a phramiau, ac mae sesiwn dawel yn cael ei chynnal ar ddydd Sul cyntaf bob mis.

Beth am drefnu sesiwn i ollwng stêm yn Cardiff Jump – canolfan chwarae dan do anferth, gydag ardaloedd i blant bach, cyrsiau gwynt, a llefydd i chwarae pêl-droed. Mae’r cyrsiau’n addas i oedolion hefyd.

Mae Rock UK Summit Centre a Boulders Ltd yn cynnig cyrsiau a sesiynau dringo a bowldro, sy’n ddelfrydol i grwpiau a theuluoedd sydd am ddod ynghyd. Neu gwibiwch o amgylch trac dan do Supakart Casnewydd. A chithau’n gallu cyrraedd cyflymder o hyd at 45 milltir yr awr, mae hwn yn brofiad gwefreiddiol ar drac 800m dros sawl lefel, a hwnnw’n cynnwys twneli, troeon hynod heriol a chorneli ar oleddf i roi digon o hwyl a sbri!

Dyn yn dringo ar wal ddringo dan do gyda menyw’n dal y rhaff.
Dringwr yn dringo wal dan do gyda gafaelion gwyrdd, oren a phinc, ac yn gwisgo offer diogelwch a harnais.

Rock UK Summit Centre, Treharris, De Cymru

Mae Techniquest yn llawn dop o arddangosfeydd rhyngweithiol o fyd gwyddoniaeth, a’r rheini’n sicr o ddifyrru plant o bob oed am awr neu ddwy, fan lleiaf. Neu, os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud mewn grŵp, mae ‘dihangfannau’ yn sicr yn rhoi her feddyliol i’r teulu i gyd. Y nod yw gweithio fel tîm i ddatrys y cliwiau a’r posau er mwyn gallu ffoi o’r ystafell. Rhowch gynnig ar y Puzzled Escape Rooms yn Ffynnon Taf neu’r Escape Rooms Caerdydd yng nghanol y ddinas.

Mini golf

Treetop Golf

Attraction
Cardiff

Cardiff Jump

Attraction
Cardiff

Supakart Newport

Activity
Newport City
Game in Progress

Puzzled Escape Rooms

Attraction
Cardiff

Amgueddfeydd a threftadaeth

Bydd pobl chwilfrydig yn sicr o fwynhau ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dewch i weld rhai o enghreifftiau gorau Cymru o gelf, hanes naturiol, archeoleg a daeareg ochr yn ochr ag arddangosfeydd teithiol ac arddangosfeydd dros dro o bwys. Mae yma baentiadau, darluniau a cherfluniau ysblennydd o’r 500 mlynedd diwethaf, a’r rheini dod o bob cwr o’r byd, gan gynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o weithiau’r argraffiadwyr.

Ewch ar daith ar drên stêm drwy brydferthwch cefn gwlad, gan wylio’r golygfeydd rhyfeddol o’ch cerbyd clyd a sych. Mae Rheilffordd Mynydd Brycheiniog, ger Merthyr Tudful, yn teithio i ganol Bannau Brycheiniog, gan roi golygfeydd braf dros y cronfeydd dŵr a’r mynyddoedd. Mae croeso i gŵn ar y trên hefyd. A chithau yn yr ardal, mae hi’n werth ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa i fwynhau’r hanes lleol, y casgliad celf a’r ystafell de.

Mae rhagor o syniadau am bethau i’w gwneud dan do yn ein canllaw i amgueddfeydd yn y de.

Ewch i weld sioe

Mae’n bosibl y byddwch chi wedi gweld Canolfan Mileniwm Cymru ar y teledu – mae’n olygfa gyson mewn penodau o Doctor Who a Torchwood. Dyma’r lleoliad mwyaf yng Nghymru ar gyfer perfformiadau celfyddydol, ac ymhlith yr arlwy mae cyngherddau Opera Cenedlaethol Cymru, comedïwyr byd-enwog, sioeau teithiol y West End, a llawer mwy. Mae’n lle gwych hefyd i fynd iddo yn ystod y gwyliau ac ar benwythnosau. Fe gewch chi wylio perfformiadau bach am ddim, mwynhau rhywbeth i’w fwyta, edmygu arddangosfa, neu wneud dim mwy nag ymlacio yn awyrgylch braf y tirnod hwn ym Mae Caerdydd. Dyma fwy o wybodaeth am leoliadau diwylliannol yng Nghaerdydd.

Mae Canolfan Celfyddydau a Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn lle gwych arall i weld sioe neu ffilm. Mae cyngherddau, cyrsiau celf a gweithdai crefft i bobl o bob oed hefyd yn cael eu cynnal yn gyson yma.

Danteithion dan do

Te prynhawn yn yr Angel, Y Fenni

Ar y ffin rhwng y de a’r canolbarth, mae tref farchnad Y Fenni. Yn ogystal â’r siopau bach tlws a'r pair creadigol sydd i’w ganfod yn The Art Shop and Chapel, mae te prynhawn heb ei ail yn eich aros yng Ngwesty’r Angel. Dyma un o’r ychydig lefydd y tu allan i Lundain sydd wedi cael Gwobr Rhagoriaeth gan Gyngor Urdd Te Prydain am ei de prynhawn, sy’n cynnig tameidiau bach hyfryd i’w bwyta ochr yn ochr â the gwych yr East India Company. Ymlaciwch a mwynhewch!

Bwrdd ac arno de prynhawn, potel siampên a thân yn y cefndir.
Platiaid o gacennau, gan gynnwys cacen ffrwythau a chacennau hufen.
Te prynhawn ar ddau blât gweini arian.

Te prynhawn, Gwesty’r Angel, Y Fenni, De Cymru

Profiadau sba braf

Os yw rhagolygon y tywydd yn ddigalon, cynlluniwch ymlaen llaw a threfnu sesiwn foethus yn un o’n gwestai sba godidog. Beth am gael triniaeth wyneb neu dylino’r corff, cyn treulio amser yn ymlacio yn y pwll neu’r ystafelloedd stêm? Ymhlith y dewisiadau yng Nghaerdydd mae voco Gwesty a Sba Dewi Sant, Gwesty’r Parkgate a Gwesty’r Park Plaza, tra bo’r cyfleusterau sba yng nghefn gwlad yn cynnwys y rheini yn y Celtic Manor, y Vale Resort a Chwrt Bleddyn.

Gwelyau a thwba twym yng Ngwesty’r Parkgate

Ardal sba Gwesty’r Parkgate, De Cymru

Straeon cysylltiedig