About Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yw llyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru ac mae’n un o’r cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r llyfrgell fwyaf yng Nghymru, gyda dros 8 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a'r casgliadau mwyaf o archifau, mapiau a ffotograffau yng Nghymru.
Mae'r Llyfrgell hefyd yn gartref i'r casgliad cenedlaethol o lawysgrifau Cymreig, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o baentiadau a phrintiau topograffigol yng Nghymru. Fel prif lyfrgell ac archif ymchwil Cymru (ac un o'r llyfrgelloedd ymchwil mwyaf yn y Deyrnas Unedig), mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn aelod o Lyfrgelloedd Ymchwil y DU (RLUK) a'r Consortiwm o Lyfrgelloedd Ymchwil Ewropeaidd (CERL).
Wrth wraidd Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’r genhadaeth i gasglu a chadw deunyddiau sy’n ymwneud â Chymru a bywyd Cymreig ac yn rhai y gall pobl Cymru eu defnyddio ar gyfer astudiaeth ac ymchwil. Cymraeg yw prif gyfrwng cyfathrebu'r Llyfrgell ond ei nod, serch hynny, yw darparu'r holl wasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ym mis Ionawr 2015 penododd y Llyfrgell mewn partneriaeth â Wikimedia UK Wicipediwr Preswyl llawn amser gyda’r nod o ddatblygu ei hadnoddau ymhellach ar drwydded agored, i gynulleidfa fyd-eang.
Cynhelir arddangosfeydd am ddim trwy gydol y flwyddyn yn yr orielau arddangos.
CAFFI PEN DINAS
Mae Caffi Pen Dinas ar y llawr gwaelod yng nghornel de-orllewin y llyfrgell. Mae'r caffi yn cynnig dewis eang o brydau ysgafn, brechdanau, paninis, saladau, diodydd a melysion, yn ogystal â phrydau poeth a llysieuol - Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
CYFARFODYDD, DIGWYDDIADAU AC ARDDANGOSFEYDD
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o wasanaethau i weddu i’ch gofynion cynadleddau a chyfarfodydd a gallwch logi offer technegol o’r Llyfrgell.
PRIODASAU AC ACHLYSURAU ARBENNIG
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lleoliad priodas ysblennydd yn un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru ac yn cynnig cefndir ysblennydd i un o ddyddiau pwysicaf eich bywyd.
Mae lle i hyd at 100 o westeion yn Ystafell y Cyngor a gellir ei gosod mewn dwy arddull wahanol yn dibynnu ar eich dewis. Mae Ystafell y Llywydd yn ddelfrydol ar gyfer seremoni fwy cartrefol a gall ddal hyd at 30 o westeion.