Atyniadau dan do i’r teulu
Folly Farm, Cilgeti
Peidiwch â gadael i’r cyfeiriad at fferm eich drysu: mae Folly Farm yn sŵ ardderchog i’r teulu i gyd gyda phedwar o atyniadau mawr mewn un lle. Dyna i chi’r Jolly Barn, sef buarth dan do anferth yn llawn anifeiliaid; y ffair hen ffasiwn a’i reidiau sy’n siŵr o godi hiraeth; ardaloedd chwarae dan do ac yn awyr agored gyda sleidiau a llefydd chwarae i blant bach; a sŵ ac ynddi rhinoseros, jiraffod, mwncïod, capybaraod, pengwiniaid, llewod a llawer mwy.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
A honno’n enwog am ei muriau gwydr trawiadol, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe i’w chanfod mewn hen warws restredig Gradd II, a hynny’n dyst i hanes diwydiant y dociau fan hyn. Mae rhywfaint o’r hanes hwnnw’n cael ei adrodd y tu mewn. Agorodd yr amgueddfa yn 2005 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Cadwch lygad am y penwythnosau hwyl i’r teulu a’r digwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal yma.
Sŵ Drofannol Plantasia, Abertawe
Safle antur anferth yw Sŵ Trofannol Plantasia, a lle penigamp i fynd â’r plant diolch i’w ardaloedd thematig a’i ddrysfeydd. Mae’r anifeiliaid a’r casgliadau botanegol gystal ag y dewch chi ar eu traws yn unman, a’r tŷ poeth yn lle gwych i ddysgu am ryfeddod planhigion.
Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru
Mae’r system ogofâu hon, sy’n ymestyn am 11 milltir (17km), ymhlith y fwyaf yn Ewrop. Barn un arbenigwr lleol ar ogofâu yw y gallai’r rheini fod yn ymestyn am hyd at 90 milltir (150km)! Cafodd ogofâu Dan yr Ogof eu darganfod yn 1912. Bu pobl yn byw ynddyn nhw yn ystod yr Oes Efydd, a chafodd gweddillion 42 o ysgerbydau dynol eu canfod yno, ynghyd â gemwaith ac arteffactau hynafol eraill. Mae gan y safle hefyd bentref o’r Oes Haearn a pharc deinosoriaid. Ewch am dro i weld yr ogofâu rhyfeddol hyn drosoch chi’ch un.
Rheilffordd Stêm Gwili, Caerfyrddin
Ewch ar daith awr a hanner ar hyd yr hen reilffordd hon sy’n gadael o orsaf Bronwydd, ger Caerfyrddin. Mae Rheilffordd Stêm Gwili yn dilyn afon Gwili drwy gefn gwlad braf, ac mae’n brofiad i’r holl deulu ei fwynhau, a hwnnw’n siŵr o godi hiraeth am ddyddiau a fu. Mae’r profiad sy’n cynnig te hufen yn werth chweil os byddwch chi awydd ychydig o foethusrwydd.
Gweithgareddau dan do i’r teulu
LC, Abertawe
Yn yr LC yn Abertawe, fe gewch chi fwynhau parc dŵr anferth ac yno sleidiau, reidiau ac ardaloedd sblasio, a’r cyfan yn addas i bawb o bob oed. Am aros ar dir sych? Trefnwch sesiwn yn yr ardal chwarae anferthol. Mae anturiaethau dringo a neidio ar gael ar bedair lefel, gan gynnwys ardal synhwyraidd, felly mae’n lle gwych i deuluoedd egnïol. Gall oedolion ymlacio yn y siop goffi. Mae yma hefyd sba sy’n cynnig triniaethau, ystafelloedd stêm, sawna a jacuzzi.
Parc Trampolinau Hangar 5, Rubaxton
Mae Parc Trampolinau Hangar 5 yn cynnig gweithgareddau dan do gwych i bobl o bob oed – a digon o hwyl egnïol waeth beth fydd y tywydd. A hwnnw’n cynnig profiadau penigamp, gan gynnwys trampolinau o bob math, pyllau sbwng, a heriau cyffrous, mae’n lle delfrydol i deuluoedd, grwpiau, ac unrhyw un sydd am gyfuno cadw’n ffit ag ychydig o hwyl.
Kart Kingdom, Llanilltud Fawr
A hwnnw’n addas ar gyfer oedolion a phlant dros 8 oed, dyma drac dan do lle cewch chi wibio ar gyflymder o hyd at 60km yr awr ar gertiau petrol. Gyda chorneli tynn, darnau syth cyflym a rhannau technegol i herio dechreuwyr a gyrwyr medrus fel ei gilydd, mae Kart Kingdom yn lle delfrydol i wneud gweithgaredd fel grŵp.
Orielau, theatrau ac amgueddfeydd dan do
Amgueddfeydd a chanolfannau treftadaeth y gorllewin
Yn Amgueddfa Wlân Cymru fe gewch chi flas ar ddiwydiant oedd yn gyffredin iawn yng Nghymru ar un adeg, a hynny mewn hen felin yn Dre-Fach Felindre. Mae yma orielau a digon o gyfle i roi cynnig eich hun ar greu campwaith gwlanog cynnes. Mae peiriannau nyddu a theclynnau anferth i ddatglymu edafedd ymhlith yr offer sydd i’w weld yma – a’r rheini’n arfer bod yn gwbl anhepgor yn yr oes a fu.
Mae Tŷ Cwch Dylan Thomas a’r sied ysgrifennu gerllaw yn sefyll mewn llecyn prydferth uwchben aber afon Taf, dafliad carreg o bentref Lacharn. Dyma ble treuliodd Dylan Thomas, yr athrylith llenyddol, bedair blynedd olaf ei fywyd. Mae’n lle od o hudolus, ac yn werth ymweliad waeth beth fydd y tywydd. Efallai y bydd dilynwyr Thomas am alw heibio i Ganolfan Dylan Thomas yn Abertawe hefyd.
Mae mymi Eifftaidd o fri, a welwyd gyntaf tua 200 Cyn Crist ond a gyrhaeddodd Abertawe ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymhlith y pethau y mae’n rhaid i chi eu gweld yn Amgueddfa Abertawe. Mae yno hefyd ddarganfyddiadau archeolegol anhygoel o wahanol gyfnodau yn hanes y ddinas – gydag arteffactau Rhufeinig a gwrthrychau diwydiannol yn eu plith – ochr yn ochr ag arddangosfeydd sy’n newid yn gyson.
Orielau celf a gweithdai crefft
Er mai dyma ddinas leiaf Prydain, mae llond gwlad o bethau i’w gwneud yn Nhyddewi – gan gynnwys mynd i weld yr eglwys gadeiriol ysblennydd. Mae Oriel y Parc yn atyniad arall, a honno’n dangos gweithiau celf o fri, fel oriel dirluniau wych Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae yma hefyd wybodaeth am y llefydd y gallwch chi’u gweld ar hyd 186 milltir o lwybrau cenedlaethol pan fydd y tywydd yn sych.
Mae symboliaeth llwyau caru yn dyddio yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, pan ddaeth y cerfiadau pren hyn yn fodd defodol o gyfleu serch ar ein taith drwy fywyd. Ewch am dro i weld Thomas y cerfiwr pren, a aeth ati i greu llwy’n wreiddiol yn lle modrwy ddyweddïo, yn y Lovespoon Workshop yn Sir Benfro.
Theatrau a llefydd adloniant
Ydych chi’n edrych ymlaen at weld ffilm neu sioe, a’r popcorn a’r hufen iâ wrth law? Go brin fod dim byd mwy cysurus i’r holl deulu ei wneud ar ddiwrnod gwlyb.
Theatr y Grand Abertawe yw’r lle i weld berfformiadau o fri, a’r cyfan mewn neuadd anferth. Mae arlwy amrywiol y theatr hon yng nghanol y ddinas yn cynnwys pob math o adloniant diwylliannol ac artistig. Teithiau bandiau mawr, theatr i’r teulu, comedi a cherddoriaeth – mae’r cyfan i’w gael yn yr adeilad rhestredig Gradd II art deco hwn, a agorodd yn wreiddiol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae Theatr Dylan Thomas yn croesawu perfformwyr o Gaeredin a’r tu hwnt ac yma y bu cartref y Little Theatre Company o Abertawe ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Ewch heibio i weld gwaith theatr meddylgar a blaengar, ynghyd â rhai o sêr theatrig y dyfodol.
Mae Theatr Gwaun yn Abergwaun yn dangos pob math o ffilmiau, gan gynnwys y ffilmiau mawr diweddaraf, a hynny gan fanteisio ar dechnoleg 4k. Mae yma hefyd sioeau theatr ac arddangosfeydd celf i’w gweld. Lle hyfryd arall yw Sinema a Theatr Neuadd Gwyn, sydd wedi gwasanaethu Castell-nedd ers 1887. Mae yno raglen reolaidd o ffilmiau, cyngherddau a sioeau.