Llwybr llesol

 

Gall cerdded neu olwynio ger y môr fod yn donic. Cyfle i arafu, anadlu’r awyr iach, gwrando ar fwrlwm y tonnau, mwynhau golygfeydd bendigedig o’r arfordir. Beth all fod yn fwy llesol? Dyma’r moddion gorau ar gyfer pwysau a phrysurdeb bywyd modern ac mae rhai pobl hyd yn oed yn ei ystyried fel profiad sy'n newid bywyd. 

Dyn yn eistedd ar graig yn edrych i lawr dros y dirwedd a’r arfordir

Llwybr Arfordir Cymru, Pen y Gogarth, Llandudno

Yma yng Nghymru, rydym o ddifrif ynglŷn â theithio cynaliadwy hefyd. Mae cerdded neu olwynio fel yma’n gweddu i’r dim i’r syniad hwnnw. Prin yw eu heffaith, gallwch gefnogi cymunedau arfordirol a dim ond olion troed neu olwynion fyddwch yn eu gadael ar eich hôl.

 

Gallwch wneud cymaint (neu gyn lleied) ag y dymunwch

Hyd Llwybr Arfordir Cymru o un pen i’r llall yw tua 870 milltir ac mae rhai pobl ddewr yn dewis cerdded neu feicio ar ei hyd i gyd. Ond mae yna adrannau byr a gwastad sy’n ddelfrydol ar gyfer plant bach a choetsis – gyda mwy a mwy o’r llwybr yn cael ei wneud yn fwy hygyrch hefyd. Mae pob math o adrannau hirach yn ddelfrydol ar gyfer teithiau dydd, gan amrywio o ran eu her, o deithiau byr i stompiau go iawn.

Menyw a dau o blant yn cerdded ar hyd llwybr serth i lawr i’r traeth
Tri dyn mewn dillad cerdded yn crwydro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gyda golygfeydd o’r môr
Teulu ifanc â babi mewn cludwr cefn ar Lwybr Arfordir Cymru

Teuluoedd ifanc a ffrindiau’n cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru

Mae sawl adran yn cynnig teithiau aml-ddiwrnod gwych gyda llefydd arbennig i fwyta a lletya dros nos ar hyd y ffordd. Gwaith syml yw cynllunio eich taith ar hyd Llwybr Arfordir Cymru hefyd. Ceir digon o adnoddau cynhwysfawr ar-lein.

 

Does dim rhaid cerdded

Cerdded yw’r gweithgaredd cyntaf sy’n dod i’r meddwl, ond mae llawer o Lwybr Arfordir Cymru’n hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, beiciau, treiciau a choetsis. Mae’r adrannau yma’n llydan, yn wastad ac yn gymharol lyfn. Maen nhw’n dilyn ambell ran ogoneddus o’r arfordir, yn cynnwys Llwybr Arfordir y Mileniwm o Lanelli i Goedwig Pembre, Llwybr y Mawddach rhwng Dolgellau â’r Bermo ac ambell brom glan y môr fel Llandrillo-yn-Rhos, Llandudno a Llanfairfechan.

people walking and cycling along coastal walkway.
Dwy fenyw yn defnyddio cadair olwyn a sgwter symudedd ar y prom

Beicio ar hyd Llwybr Arfordir y Mileniwm ac olwynio ar brom Llandudno

Mae sawl adran yn addas ar gyfer beicio. Neu beth am neidio i gyfrwy o fath gwahanol? Llwybrau ceffyl yw rhannau o’r llwybrau, felly gellwch grwydro ar gefn ceffyl. Dewis rhai pobl hynod ffit redeg ar hyd llwybr yr arfordir. Pa bynnag ffordd y byddwch yn ei dewis, defnyddiwch y llwybr mewn modd cyfrifol!

 

Treftadaeth unigryw i’w fwynhau

Os ydych chi’n ceisio argyhoeddi plant i fentro allan i gerdded, beth allai fod yn well ar gyfer antur na chastell ar ben clogwyn? Dyna i chi’r bylchfuriau oriog yn Llansteffan fry uwchben aber y Tywi, mawredd Caernarfon â’i dyrau urddasol, Criccieth yn uchel ar ei bentir, Conwy â’i furiau tref enfawr a llawer mwy. Neu beth am daith gerdded trwy Ystâd Penrhyn ger Bangor? Mae’r llwybr yn mynd â cherddwyr trwy goedlan hynafol ar hyd yr arfordir sydd ym mherchnogaeth breifat Ystâd y Penrhyn, gan gysylltu ardal Porth Penrhyn gyda’r llwybr presennol ger gwarchodfa natur Aberogwen. 

castell yn y cefndir â chychod o’i flaen

Castell Caernarfon

Ceir adfeilion hŷn mewn mannau eraill, megis yr olion Rhufeinig yng Nghaergybi a siambrau claddu neolithig Bryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres. A mannau o bwysigrwydd ysbrydol yn cynnwys capel bychan y morwyr Eglwys y Groes Sanctaidd ym Mwnt, San Gofan a Stack Rocks a San Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Ar raddfa fwy fyth mae clwysty tangnefeddus ac eiliau estynnol eglwys gadeiriol Tyddewi, waliau hynafol Priordy Penmon ac Abaty Llandudoch.

Tu fewn yr
Llun heulog o ochr yr eglwys fechan wedi gwyngalchu

Eglwys y Groes Sanctaidd ym Mwnt, Ceredigion

Eisiau rhywbeth mwy rhamantaidd? Beth am dai, tyrau a chromenni Italianate egsotig Portmeirion neu greigiau geirwon a’r moroedd byrlymus ger un o’n llu oleudai?

 

Gweld pob math o fywyd gwyllt

Mae amrywiaeth anhygoel o adar, mamaliaid, blodau a morfilod i’w gweld hefyd. P’un ai os ydych yn wyliwr adar o ddifri neu’n mwynhau gweld adar, cewch eich cyfareddu gan balod ynys Sgomer, yr huganod o gwmpas Ynys Gwales, yr hebogiaid uwch Bae Ceredigion, clochdariaid y cerrig ar hyd Llwybr Treftadaeth Morgannwg a’r heidiau drudwy o gwmpas Aberystwyth.

Golygfa o asgell ddorsal a rhan uchaf corff dolffin yn y môr o gwch
Blodau gwyllt porffor ar glogwyni gyda golygfeydd o’r môr yn gefndir

Chwilota am ddolffiniaid a blodau gwyllt ar hyd arfordir Cymru yn Sir Benfro

Mae’r moroedd ar hyd arfordir Cymru’n gartref i ddolffiniaid a morloi ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mae’r llwybr i’r gogledd o Aberporth hefyd yn hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, felly mae’n fan delfrydol ar gyfer gwylio dolffiniaid. Neu gallwch neidio ar un o gychod gwylio Bae Ceredigion er mwyn mynd yn agosach atynt. Cadwch lygad am lefydd megis Pen Cemaes a Phen Strwmbwl ac o bosib fe welwch chi forfilod, heulforgwn, orca a physgod haul.

Ceir ecosystemau planhigion unigryw hefyd. Dyna i chi fawnogydd Cors Fochno ym Miosffer y Ddyfi sy’n gartref i ffwng prin yn yr hydref a phlanhigion cigysol anghyffredin. Ceir systemau twyni tywod helaeth ledled yr arfordir mewn mannau fel Harlech, Cynffig, Oxwich a Merthyr Mawr. Yma, gallwch weld tegeirianau yn y Gwanwyn a chrwynllys a chawodydd troellig yn yr hydref.

Traethau ar gyfer pawb

Mae arfordir Cymru’n hynod amrywiol. Cilgantau tywod llydan sy’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau traeth i deuluoedd, porthladdoedd clyd â chychod pysgota’n goglais y ceiau, mannau perffaith ar gyfer dal tonnau epig, cildraethau cyfrinachol, llawer o draethau hygyrch a threfi glan y môr â phromiau byrlymus. Gallwch wir ganfod y traeth delfrydol i chi.

Traeth, gyda thwyni tywod yn y tu blaen, a'r môr yn y cefndir

Traeth godidog Porth Eynon yn yr heulwen, Penrhyn Gŵyr

Ymysg traethau Gogledd Cymru mae pentref arfordirol godidog Porthdinllaen ym Mhenrhyn Llŷn, goleuadau llachar traeth y gogledd yn Llandudno a childraeth cudd Porth Padrig yn Sir Fôn. Mae traethau Gorllewin Cymru’n cynnwys twyni tywod anhygoel Bae’r Tri Chlogwyn, ewyn môr hynod Niwgwl a phyllau trai Glan-y-fferi. Gall traethau De Cymru gynnig goleuadau llachar Ynys y Barri, tywod euraidd Bae Rest ac urddas cyfnod Art Deco Penarth a’i hen bier hyfryd.

Trefi bywiog ar hyd y daith

Er bod rhannau helaeth o Lwybr Arfordir Cymru’n hynod wyllt, mae llawer o lefydd hyfryd i aros ynddyn nhw am ychydig hefyd. Mae rhai o’n trefi mwyaf deniadol ac atmosfferaidd wedi’u lleoli ar hyd yr arfordir hefyd. Gallwch aros dros nos a’u defnyddio fel canolbwynt i grwydro’r llwybrau, neu aros am bryd o fwyd a diod ar hyd y daith.

An aerial shot of a pretty harbour town with beaches, a castle, harbour and lifeboat station.

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Mae gan drefi harbwr croesawgar fel Dinbych-y-pysgod, Aberaeron, Aberteifi a Solfach fwyd môr a thraethau disglair a ffres. Mae mannau hanesyddol dan warchodaeth cestyll mawreddog fel Caernarfon, Harlech, Criccieth, Llansteffan, Cas-gwent a Biwmares yn ddelfrydol ar gyfer crwydro. Cynigia gymunedau artistig fel Borth ac Abergwyngregyn y croeso cynhesaf bob amser. Ceir digon o lefydd bwyd deniadol a siopai lleol sy’n gwerthu popeth fydd ei angen arnoch ar gyfer y picnic perffaith.

 

Bwyd arbennig i’w flasu

Drwy fod mor agos i’r môr, gallwch warantu y bydd y pysgod a’r bwyd môr yn ffres. Felly unwaith y byddwch wedi troedio neu wthio’ch ffordd ar hyd y llwybr, beth am fwynhau pysgod i ginio neu swper? Mae digon i siwtio bob poced o fara lawr a brechdanau cranc anhygoel Café Môr yn Sir Benfro i sglodion a physgod crensiog bendigedig Y Shed ym Mhorthgain, i gregyn gleision a thermidor cimwch Salty's yn Ninbych-y-pysgod a chiniawa coeth ym mistro Bryn Williams ym Mhorth Eirias neu Pryd o Fwyd yng Nglan-y-fferi.

rôl fara’n llawn cimwch.
Golwg agosach ar fwydlen fwrdd du lliwgar.
Busnes bwyd pop-up ar draeth

Rôl cimwch, bwydlen a chert bwyd, Cafe Môr, Sir Benfro

Os am bacio picnic mae yna ddelis a marchnadoedd yn byrlymu o gynhwysion ar gyfer y frechdan berffaith. Mae marchnadoedd bywiog i’w cael o hyd yn Aberteifi, Caerdydd, Abertawe, Pwllheli ac Aberystwyth. Gall siopau bara crefft fel Bara Menyn yn Aberteifi gyflenwi’r rôl berffaith hefyd. Ac os ydych chi’n teimlo’n greadigol, mae llawer o lefydd delfrydol ar gyfer barbeciw ar y traeth i orffen eich diwrnod.

A pheidiwch ag anghofio’r trît traeth perffaith! Hufen iâ cartref. Gyda threftadaeth gyfoethog o fewnfudwyr i Gymru o’r Eidal, mae yma sawl gelataria all dynnu dŵr o’r dannedd: Parisella's yng Nghonwy, Joe's yn Abertawe a Cadwaladers yng Nghricieth i enwi ond rhai ar hyd yr arfordir.

Gallwch gysgu mewn pabell neu wely crand

O gyllideb fach i foethus, mae digon o opsiynau cysgu. Yn naturiol mae llai o ddewis llety yn y mannau mwyaf gwyllt ar hyd y llwybrau, felly cynlluniwch ymlaen llaw er mwyn gwybod ble fyddwch chi’n gorffwys eich pen (a’ch traed).

Ceir gwersylloedd ar ben clogwyni â golygfeydd godidog fel Y Tri Chlogwyn a gwersylloedd gwefreiddiol fel Glampio Preseli. Ceir pob math o fythynnod arfordirol hunan-ddarpar hefyd. Mae llety gwely a brecwast yn amrywio o hundai gwerth ardderchog am arian i fodiau cysgu arfordirol ffynclyd fel Ty Cwch a’r hundai ar fferm Platts Farm yn Llanfairfechan i ystafelloedd moethus a bwydydd llysieuol ffermdy Llainfran Farmhouse a golygfeydd arfordirol a chysur clyd The Burrows.

Pebyll ym Mharc Gwyliau’r Tri Chlogwyn ar Benrhyn Gŵyr yn edrych i lawr dros y traeth.
Ystafell wely moethus â gwely mawr a golygfeydd o’r harbwr

Pebyll ym Mae’r Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr ac ystafell â golygfa yng Ngwesty’r Harbwrfeistr, Aberaeron

Am noson dda o gwsg, beth am noswylio yng nghysgod golygfeydd tangnefeddus yr harbwr yng Ngwesty’r Harbwrfeistr neu ymlacio mewn ystafell gwely pedwar poster yn Neuadd Bodysgallen? O fwynhau bwyd, beth am drio’r fwydlen flasu ym mwyty seren Michelin Ynyshir? Ac os ydych chi’n chwilio am ychydig faldod wedi’ch hymdrechion, cewch gyfle i fwynhau tyluniad yn y Sba yng ngwesty St Brides.

 

Mae llawer o adnoddau i’ch helpu i gynllunio eich taith

Os ydych yn awyddus i ddechrau cynllunio eich taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gwefan swyddogol Llwybr Arfordir Cymru yw’r lle i ddechrau. Mae llawer o lyfrau taith ar gael sy’n cynnig disgrifiadau a mapiau hefyd.

 

 Golygfa o oleudy gwyn ar glogwyn wedi'i amgylchynu gan y môr gydag awyr binc a glas

Goleudy Pen Strwmbwl yn y gwyll, Sir Benfro

Straeon cysylltiedig