Gogledd Cymru
Y Bermo/Abermaw, Gwynedd
A soniodd rywun am fynd ar gefn asyn? Yn y Bermo mae pob un o’r atyniadau glan môr traddodiadol ar gael: arcedau diddanu, cychod siglo, trên tir, rheilffordd fach, traeth diogel, ac ati. Ond mae hefyd mewn llecyn hardd: mae’r olygfa yn ôl i fyny moryd Mawddach tua Chader Idris a mynyddoedd Eryri yn ddigon i fynd â’ch anadl.
![Asyn ar y traeth](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2019-02/NVW-C136-1819-0030.jpg?h=012d6610&itok=frqu4DxI)
![Taith ffair gyda thraeth tywodlyd yn y cefndir.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2020-04/NVW-C136-1819-0042-small.jpg?h=e5aec6c8&itok=zgpzV9Gv)
![Dyn a phlant ifanc yn pysgota.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3__4_3_1x/public/media-library/2020-04/NVW-C136-1819-0111-small.jpg?h=e5aec6c8&itok=bvLG0G0E)
Benllech, Ynys Môn
Traeth Baner Las hyfryd yw Benllech ar arfordir dwyreiniol cysgodol Ynys Môn, ac mae’n haeddiannol boblogaidd ymhlith teuluoedd. Mae’r tywod euraid helaeth yn mynd i waered fesul dipyn i’r môr, gan ei gwneud yn ddiogel i nofio a phadlo, ac mae’n hawdd ei gyrraedd â chadair wthio.
![Golygfa yn edrych dros draeth prysur](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2021-01/NVW-C81-1920-0002_small.jpg?h=e5aec6c8&itok=XlZMQQWT)
![Dau blentyn ifanc yn chwarae gyda bwced a rhaw ar draeth tywodlyd.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2022-09/NVW-E24-2223-0385.jpg?h=c9fd98d5&itok=VU2xrJl6)
Porth Dafarch, Ynys Môn
Mae gan fae cysgodol Porth Dafarch ar Ynys Cybi y cyfan i’w gynnig: statws Baner Las, tywod meddal, pyllau glan môr i chwarae ynddynt, maes parcio gerllaw, a thoiledau glân. Hyn oll, ac mae’n dlws iawn, fel y disgwyliech gan draeth sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hefyd, mae Porth Dafarch mewn man cyfleus rhwng pentref poblogaidd Bae Trearddur a gwarchodfa RSPB Ynys Lawd.
![Dau oedolyn a dau o blant yn rhedeg mewn i'r môr.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2022-09/NVW-E24-2223-0444.jpg?h=332a00f5&itok=mNjGHP0q)
![Teulu yn chwilio am fywyd gwyllt mewn pwll ar draeth.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2022-09/NVW-E24-2223-0488.jpg?h=70c8bc7d&itok=m11I_sX7)
![Plentyn ifanc yn chwarae ffrisbi oren ar draeth.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3__4_3_1x/public/media-library/2022-09/NVW-E24-2223-0414.jpg?h=06f6671c&itok=3ZmeVWiT)
Canolbarth Cymru
Mwnt, Ceredigion
Cildraeth bach eithriadol o bert yw Mwnt, a’r traeth wedi’i gysgodi gan glamp o bentir. Ond hefyd mae maes parcio da, ciosg hufen iâ a thoiledau, er mwyn i bawb allu ei fwynhau’n hawdd. Mae eglwys o’r 13eg ganrif wedi’i hadfer wrth droed y bryn, a dolffiniaid yn ymddangos yn rheolaidd, gan ychwanegu at naws hudolus y lle.
![Plentyn yn adeiladu castell dywod a phlentyn yn y cefndir yn chwarae.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__1_1x/public/media-library/2022-09/MVW-E26-2223-0221.jpg?h=fda0624c&itok=65DLS2jO)
![Llun o draeth Mwnt ar Fae Aberteifi yng Ngheredigion](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__1_1x/public/media-library/2018-12/mvw-c146-1819-0026%20small.jpg.jpg?h=f299c196&itok=MrZnVgp5)
Llangrannog, Ceredigion
Mae cenedlaethau o Gymry Cymraeg wedi, ac yn parhau i, dreulio gwyliau plentyndod hapus yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog, ac mae llawer yn dychwelyd gyda’u plant eu hunain i’r traeth cudd hyfryd, o dan gysgod craig enfawr o’r enw Carreg Bica (dant cawr, yn ôl y chwedl leol). Mae’r Urdd hefyd yn agor ei chyfleusterau rhagorol, gan gynnwys llethr sgïo sych, marchogaeth a dringo, i'r rheiny sy'n ymweld am y diwrnod.
![Golygfa o'r awyr o bentref ar y traeth.](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_fullbleed__16_9_1x/public/media-library/2022-09/MVW-E26-2223-0273.jpg?h=6b0bff22&itok=DDwyANWC)
Gorllewin Cymru
Traeth Pentywyn, Sir Gâr
Ar Draeth Pentywyn mae pyllau glan môr a chlogwyni i’r dde, saith milltir o dywod euraid i’r chwith, digonedd o siopau, a thoiled cyhoeddus, a’r cyfan ar lan y môr. Defnyddiwyd y tywod gwastad yma ar un tro ar gyfer recordiau cyflymder tir: bydd Amgueddfa Cyflymder yn agor yn 2023, yn rhan o ymgais fawr i ailwampio’r lle. Caniateir ceir ar y traeth ar rai adegau – ond peidiwch â chael eich dal gan y llanw.
![Llun o tonnau'n dod i mewn ar draeth tywodlyd.](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_medium__16_9_1x/public/media-library/2020-04/VWD-Pendine-003-small.jpg?h=e5aec6c8&itok=a1nqpqC7)
Porth Mawr, Sir Benfro
Mae Porth Mawr yn haeddiannol boblogaidd ymhlith teuluoedd, oherwydd y cyfleusterau gwych yno. Ceir bar byrbrydau, digonedd o le parcio, toiledau, ac ychydig o gorff-fyrddio gorau’r wlad, a’r cyfan ar draeth mawr prydferth dan oruchwyliaeth achubwyr bywyd. Mae atyniadau Tyddewi gerllaw mewn car, ac os yw’r plant am roi cynnig ar ychydig o fynydda ysgafn, mae Carn Llidi, y graig uwchben y traeth, yn 90 munud o daith gylchol egnïol.
![Pobl yn nofio yn y môr](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2019-02/SVW-C28-1718-0220.jpg?h=0ea0daa4&itok=G1rV5WWC)
![Castell tywod ar y traeth](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2019-01/SVW-C28-1718-0219.jpg?h=48ea2927&itok=o52-T7a_)
![Syrffwyr ar y traeth](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3__4_3_1x/public/media-library/2019-02/SVW-C28-1718-0206.jpg?h=06c23166&itok=FvvkaDN5)
Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Mae pedwar traeth godidog i ddewis o’u plith yn y dref harbwr berffaith hon. Traeth yr Harbwr yw’r mwyaf diogel i blant bach iawn, ac mae Traeth y Castell yn hawdd ei gyrraedd drwy’r llithrfa. Ar Draeth y Gogledd mae bar byrbrydau ar lan y môr a Chraig Goscar i’w dringo, ond ar Draeth y De mae’r lle mwyaf i redeg (ac mae rhan ohono ar agor i gŵn drwy gydol y flwyddyn). Mae’r dref ei hun yn hyfryd i deuluoedd, hefyd.
![Llun o'r traeth gydag adeiladau ar y clogwyni yn y cefndir](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_medium__16_9_1x/public/media-library/2020-08/SVW-C38-1112-0224.jpg?h=1c03ffad&itok=cVEaS6vJ)
Bae Caswell, Penrhyn Gŵyr
Y ddau draeth cyntaf y dewch ar eu traws wrth yrru allan o Abertawe – Langland a Caswell – yw’r ddau sy’n fwyaf addas hefyd i deuluoedd ar Benrhyn Gŵyr, a’r holl gyfleusterau angenrheidiol yno. Ar gyfer plant hŷn, mae’r llwybr clogwyn byr rhwng y baeau prydferth hyn yn gyflwyniad da i gerdded Llwybr Arfordir Cymru, ac mae ymchwydd ysgafn Caswell yn ei wneud yn lle delfrydol i fentro am y tro cyntaf i syrffio.
![Bachgen ifanc yn syrffio.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2019-10/CASWELL%20BAY.jpeg?h=a10bd9b0&itok=gU4KAtf)
![Cestyll tywod ar y traeth gyda'r môr a'r awyr yn y pellter.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2019-07/CaswellBaySandcastles%20pMag%C2%A9visitswanseabay.com%20%28Swansea%20Council%29.jpg?h=b90e07e8&itok=-pD-M3-5)
De Cymru
Bae Dwnrhefn, Southerndown
Ar draeth gorau Arfordir Treftadaeth Morgannwg, ceir maes parcio a bar byrbrydau, yn ogystal â phopeth i fodloni’r plantos: cerigos enfawr, tywod llydan, ffosilau lu, a llawer o byllau glan môr. Mae Bae Dwnrhefn yn boblogaidd ymhlith syrffwyr, a dim ond dringo ychydig sydd ei angen i adfeilion Castell Dwnrhefn ar ben y clogwyn, lle mae’r gerddi muriog wedi’u hadfer.
![Llun o deulu'n rhedeg ar y traeth](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_medium__16_9_1x/public/media-library/2021-01/SVW-C16-0809-0123-small.jpg?h=62c27c7e&itok=c1Vg3rGV)
Bae Whitmore, Ynys y Barri
Lle gwyliau bywiog yw Ynys y Barri yn nhraddodiad gwyliau glan-môr, gyda’i ffair a’i harcedau diddanu. Ond heb i gyd (ddim y bydden ni eisiau bod heb y ffair, wrth gwrs) mae Bae Whitmore yn draeth Baner Las prydferth o hyd, a phentiroedd gwyrdd bob ochr iddo. Mae llawn cystal yn y gaeaf, yn enwedig os ewch chi â’r ci am dro i wneud ffrindiau newydd.
![Traeth llydan tywodlyd gyda ffair yn y cefndir.](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_fullbleed__thin_1x/public/media-library/2022-09/SVW-E02-2122%200013.jpg?h=baf94284&itok=pVwHP9k-)
Byddwch yn ddiogel!
Gall arfordir Cymru fod yn llawer o hwyl ac mae’n darparu cyfleoedd gwych ar gyfer gweithgareddau anturus, ond darllenwch am y risgiau a gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi o flaen llaw.
Dilynwch yr awgrymiadau hyn gan yr RNLI ar gyfer aros yn ddiogel ar arfordir Cymru ac ewch i Adventure Smart am ragor o wybodaeth am sut i aros yn ddiogel wrth grwydro Cymru.