Mae Cymru'n genedl gynhwysol. Rydym yn falch o'r hyn sydd gan ein gwlad i'w gynnig ac rydym am ei rannu gyda'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Dyna pam y gwelwch ddetholiad gwych o bethau hygyrch i'w gwneud a lleoedd hygyrch i aros ble bynnag yr ewch. Nid yw problemau symudedd, anawsterau dysgu na namau ar y golwg neu'r clyw yn rhwystr rhag cael amser difyr a chofiadwy yng Nghymru. Os am grwydro rhai o'r 600 a rhagor o gestyll ar wasgar ar ein tirwedd, torheulo ar draeth sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, mynd amdani ar fwrdd syrffio neu ymgolli mewn diwylliant yn un o'n hamgueddfeydd ac orielau niferus, mae rhywbeth at ddant pawb.

 

Gweithgareddau a llety hygyrch i bawb

Mae amrywiaeth eang o opsiynau gwyliau sy'n addas i'r anabl ledled Cymru. Gallwch ddewis llety o blith gwestai, llety gwely a brecwast a gwestai bach sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae yna hefyd gyfoeth o atyniadau a gweithgareddau sy'n addas i bob math o ymwelydd, gan roi cyfle i bawb fentro allan dros y wlad i gyd. Cliciwch ar y dolenni isod i gael y rhestriadau a'r wybodaeth ddiweddaraf.

Llety hygyrch ledled Cymru

Y tu allan i grŵp o fyngalos gwyliau wedi'u paentio'n wyn.

Y Bwthyn, Bythynnod Bryn Dowsi, Conwy

Gweithgareddau ac atyniadau hygyrch

Person ifanc yn marchogaeth ceffyl.
Menyw mewn sgwter symudedd a'i chi yn croesi pont garreg.
Dyn yn tywys plentyn mewn pram sgïo i lawr llethr sgïo artiffisial.

Slediau wedi'u haddasu yng Nghanolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre, Sir Benfro

Gwefannau defnyddiol ar gyfer gwyliau hygyrch

Mae nifer o wefannau sy'n darparu gwybodaeth ardderchog am ddod o hyd i le addas i aros neu ymweld ag ef yng Nghymru gan ddibynnu ar eich gofynion.

Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych i ddarganfod mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU

Information Now: Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i'r anabl a'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol/RADAR

Tourism For All: Darparu gwybodaeth am deithio a llety hygyrch.

Gallwch hefyd chwilio ein gwefan i ddod o hyd i lety, gweithgareddau, atyniadau a digwyddiadau hygyrch yng Nghymru.

 

Teithio o amgylch Gymru 

Os ydych yn teithio mewn car, bws, trên neu awyren, mae digon o ffyrdd hygyrch o wneud eich ffordd o amgylch Cymru. Edrychwch ar ein canllaw teithio Cymru am fanylion llawn.

 

Llogi cadeiriau olwyn traeth yng Nghymru

Mewn llawer o fannau o amgylch ein harfordir, gallwch logi cadeiriau olwyn traeth. Gydag olwynion pob tir, maent yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd gael profiad o rai o'n traethau harddaf.

Tri pherson yn defnyddio cadeiriau olwyn traeth ar y traeth.
Menyw’n defnyddio cadair olwyn traeth yn cael ei gwthio gan fenyw arall ar draeth.

Defnyddio cadair olwyn traeth yn Sir Benfro

 

Straeon cysylltiedig