Portmeirion

Ewch â’ch partner i’r hudolus Portmeirion, creadigaeth Syr Clough Williams-Ellis, a wireddodd ei freuddwyd o greu pentref Eidalaidd yng Nghymru. Y canlyniad yw casgliad hudolus o adeiladau lliwgar a gerddi sy’n arwain i lawr at y môr. Ar y lan y mae Gwesty Portmeirion, adeilad rhestredig Gradd II, a agorodd ym 1931 ac y mae ei westeion wedi cynnwys artistiaid, dramodwyr, teuluoedd brenhinol, gwleidyddion a phobl busnes. Dewiswch aros yn Swît y Paen; yn y fan honno yr arhosodd ddarpar Frenin Edward VIII ym 1934. 

Chwech person yn padlfyrddio ar Afon Dwyryd

Padlfyrddio ym Mhortmeirion 

Gwesty St Brides Spa, Saundersfoot

Mae’n siŵr mai pwll anfeidroldeb Gwesty St Brides Spa yw’r lle perffaith i ymlacio – gwesty hyfryd a saif ar ben clogwyn yn edrych dros Saundersfoot a’r môr. Mae gan y rhan fwyaf o’r ystafelloedd olygfeydd o’r môr a balconi, a cheir chwe fflat sy’n cael eu gwasanaethu, ynghyd â’r sba heddychlon, Marine Spa. Mae cynnyrch Sir Benfro yn ymddangos ar fwydlen bwytai’r Cliff a’r Gallery, a’r ddau mewn lleoliad perffaith i fanteisio ar y machlud haul godidog.

Cwpwl yn cerdded ar y traeth, a chwpwl arall yn sefyll ar y creigiau yn y pellter

Saundersfoot, Sir Benfro

Harbourmaster, Aberaeron

Ymwelwch â’r Harbourmaster ac mae’n siŵr mai dyma fydd eich hoff westy. Mae’n westy y mae pobl yn dychwelyd iddo dro ar ôl tro: oherwydd y croeso cynnes, y décor hyfryd (gan gynnwys ffefryn y Cymry, dodrefn Melin Tregwynt), cyffyrddiadau gofalus, a lleoliad heb ei ail. Gofynnwch am Swît Madona i fwynhau golygfeydd arfordirol panoramig. Mae’r gwesty bwtîc yn gartref i fwyty gwych a bwydlen sy’n aml yn cynnwys cregyn bylchog, wystrys a steciau Cymreig blasus. 

Aberaeron overlooking the sea and mountains.

Harbourmaster, Aberaeron

Gwersylla ar glogwyn, Gogledd Cymru

Teimlo’n ddewr? Rhowch gynnig ar wersylla ar glogwyn, ble y byddwch chi’n 'byw ar y dibyn' yn llythrennol. Mae’r profiad yn dechrau yn y prynhawn wrth i chi ymarfer dringo clogwyn, cyn i’ch ‘portaledge’ gael ei osod am y noson - silff gynfas gadarn sy’n cael ei  chlymu i ochr y clogwyn, sef eich gwely am y noson. Ar ôl hynny byddwch chi’n bwyta llond eich bol o fwyd, edmygu’r machlud a disgyn i gysgu i sŵn y tonnau. 

Wyneb clogwyn uwchben y môr gyda dau berson yn eistedd ar bortread wedi eu hatal o ymyl y clogwyn.

Gwersylla ar glogwyn

Coes Faen Lodge, Y Bermo/Abermaw

Bydd selogion pensaernïaeth a chynllun wedi’u synnu gan Goes Faen yn y Bermo... ynghyd â´r rhai sy’n mwynhau sba... a bwyd! Wedi’i osod mewn llety Fictoraidd o’r 19eg ganrif ar y dŵr, mae Coes Faen wedi’i adnewyddu yn ofalus ac yn chwaethus. Mae digon o wydr sy’n gadael golau naturiol i mewn, ac mae lloriau cerrig a derw yn arddangos hanes yr adeilad. Mae technoleg gynnil i gyfoethogi eich arhosiad gyda cherddoriaeth a goleuadau. Mae gan bob un o’u chwe ystafell ystafell ymolchi sy’n debyg i sba, ac mae’r bwyty’n gweini prydau Tysganaidd blasus ar Ddyddiau Gwener a Sadwrn. 

Cychod bychan yn yr harbwr, a thai a bryniau yn y cefndir

Y Bermo/Abermaw, Gwynedd 

Tŵr y Felin, Tyddewi

Mae Tŵr y Felin yn falch o’i leoliad arfordirol, ac yn brawf o hynny mae 100 darn o gelf unigryw sydd wedi’u hysbrydoli gan Benrhyn Tyddewi i’w gweld ar hyd y gwesty. Mae’r eiddo moethus prin ddeng munud o Lwybr Arfordir Sir Benfro a thraeth hyfryd Bae Caerfai. Mae 21 o ystafelloedd gwely gan gynnwys dwy swît anhygoel, gyda’r cyfan wedi’u cynllunio i gynnig moethusrwydd. Setlwch ym mar Cornel y selogion celf cyn swper yn y Blas, eu bwyty rhoséd AA.  

Darn o waith celf ar y wal mewn ystafell gyda chadair
Y tu mewn i fwyty gwesty gyda chelf ar y waliau

Twr y Felin,Tyddewi, Sir Benfro

Scamper Holidays, Penrhyn Gŵyr

Y Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn y DU i gael ei phenodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a does dim ffordd well o’i phrofi na thrwy wersylla moethus. Yn edrych dros yr enwog Fae Rhosili neu draeth Llangynydd, gallwch ddewis o blith cwt y bugail, lletyau tiki, cerbydau gwersylla smart neu gabannau pebyll pren. Mae Scamper Holidays yn eu cynnig i gyd, ynghyd ag ychwanegion hyfryd i’r rheini sydd eu heisiau megis hamperi croeso Champagne neu faneri prydferth. Y lleoliad sy’n hollbwysig yma, sy’n golygu eich bod chi mor agos â phosibl i rai o draethau mwyaf bendigedig Cymru. 

Traeth tywodlyd gyda bryniau yn y cefndir

Llangynydd, Penrhyn Gŵyr

Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy

Mae Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy yn ysblennydd ac yn gain ac yn edrych dros y llyn bendigedig o'r un enw, sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r tŵr chwedlonol a saif gerllaw dyfroedd y llyn. Ar ôl i chi roi’r gorau i edmygu’r tirlun o’ch balconi, edrychwch ar y décor ysblennydd yn eich ystafell. Mae gan lawer o’r 52 o ystafelloedd welyau pedwar postyn moethus ac maen nhw’n edrych dros naill ai’r llyn neu’r gerddi. Mae’r sba yn parhau â’r thema gyda golygfeydd hyfryd o’r llyn, ac mae’n cynnig triniaethau er mwyn i chi ymlacio, a Swît Thermal unigryw. 

Edrych i lawr ar Lyn Efyrnwy, y coed a'r bryniau

Llyn Efyrnwy, Powys

The Old Rectory on the Lake, Tal-y-llyn

Os ydych chi wedi cerdded i fyny – ac i lawr – Cader Idris ym Mharc Cenedlaethol Eryri, The Old Rectory on the Lake yw’r lle perffaith i orffwyso eich coesau trwm. Mae’r gwesty’n gartrefol ac yn groesawgar ac mae gan ddwy ystafell ddwbl y gwesty yn y llofft faddonau Fictoraidd godidog. Os ydych chi eisiau rhywbeth llai confensiynol, treuliwch eich noson yn y twba poeth yn yr awyr agored, gan fwynhau golygfeydd bendigedig o’r llyn.

Llun o  ddau gerddwr wrth Lyn Cau yn edrych tuag at Graig Cau (canol) a Phenygadair (dde)

Cader Idris, Gwynedd

The Bunkhouse, Y Clas-ar-Wy, Powys

Disgrifir The Bunkhouse yn Y Clas-ar-Wy gan ei berchnogion fel byncws crand, sy’n cysgu hyd at 14 o bobl yn gysurus iawn. Mwynhewch soffas cyfforddus, stôf bren a byrddau mawr ar gyfer gwledda - perffaith pan fydd ffrindiau neu deulu yn dod at ei gilydd. Hwyl sy’n bwysig yma - mae llithren y tu fewn i’r eiddo - ac mae The Bunkhouse mewn lleoliad perffaith ar gyfer teithiau canŵ i lawr Afon Gwy.

Pobl yn canwio ar yr Afon Gwy gydag adeilad Wye Valley Canoes ar y lan yn y cefndir

Y Clas-ar-Wy, Powys

Straeon cysylltiedig