A am antur

Arferai gael ei alw’n golff gwallgof, ond wrth i’r cyrsiau fynd yn fwy cymhleth a hynod, roedd angen enw newydd. Erbyn hyn, golff antur yw popeth. Gafaelwch yn eich pytiwr ac ewch i’r safleoedd miniatur am rownd hwyliog a rhad. Fe welwch gyrsiau ledled Cymru, fel cwrs Pirates of the Caribbean ym mharc Heatherton yn Ninbych-y-pysgod, cwrs antur thema coetir glan afon Plasty Llwyngwair, yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, neu golff antur Treetop gyda’i thema jyngl yng nghanol Caerdydd.

Mae Par69 yng Nghaerdydd yn berffaith ar gyfer noson allan gystadleuol. I rai dros 18 yn unig, mae dau gwrs golff mini 9 twll, a bar gyda choctels a bwyd.

Gallwch hyd yn oed ei gyfuno â rownd o faint llawn yn safle byd-enwog y Celtic Manor. Ochr yn ochr â'i dri chwrs 18 twll pencampwriaeth mae dau gwrs antur, y naill wedi'i ysbrydoli gan fythau a chwedlau Cymreig a'r llall yn cynnwys tyllau bach wedi’u hail-greu o Pebble Beach, Augusta a St Andrews.

cwrs golff antur gydag arwydd.

Golff antur, byd gweithgareddau Heatherton, Sir Benfro

Mae Cymru hefyd yn gartref i gwrs golff antur danddaearol cyntaf y byd. Mae Zip World Llechwedd wedi creu profiad tanddaearol anhygoel yn yr hen geudyllau llechi. Gwnewch eich ffordd o amgylch y cwrs a rhowch gynnig ar yr heriau, sy'n seiliedig ar hanes y chwareli.

Golff Ffrisbi

Gellir chwarae un o'r ychwanegiadau diweddaraf at y teulu golff yn Fferm Antur Clerkenhill ger Hwlffordd. Heb fod angen yr hen ffyn a pheli, mae ei Gwrs Golff Ffrisbi yn gofyn taflu disgiau hedfan at 18 o fasgedi wedi'u gosod ledled ei leoliad hardd mewn dyffryn yn Sir Benfro. Ar wahân i'r newid offer, mae'n debyg iawn i'r gêm go iawn. Mae'r ffyrdd teg yn amrywio o 14 metr bach i 90 metr anferthol o hyd, ac mae gan bob basged ei sgôr par ei hun. Yn yr un modd â golff 'go iawn', y cyflawniad eithaf yw cael twll (neu fasged) mewn un. 

Troedio’r bêl

Cewch wefr o chwarae rownd o golff-troed. Fel mae'r enw'n ei awgrymu, golff sydd dan sylw yma, ond bod eich coesau'n cymryd lle eich ffyn. Mae'n llawer o hwyl i'r chwaraewr cyffredin, ond hefyd yn gamp ddifrifol gyda llong gwlad o dwrnameintiau'n digwydd ledled y DU. Fe welwch nifer o gyrsiau ledled Cymru, fel 1,634 o lathenni Storws Wen ar Ynys Môn, 2,688 o lathenni Silver Birch ger Abergele, cwrs naw twll Castell Coch ger Caerdydd neu yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Eich traed sy’n chwarae, ond mae'r rheolau golff arferol yn berthnasol o hyd. Am restr lawn o gyrsiau, ewch i wefan Footgolf Frenzy.

 Dyn yn chwarae Golff-troed.

Golff-troed yn Celtic Manor Resort, Casnewydd

Dreifiau digidol

Awydd teithio i bedwar ban byd i chwarae rhai o gyrsiau golff gorau’r byd ond heb amser (neu'r arian)? Ewch yn rhithiol. Gallwch fireinio eich sgiliau ar fersiynau digidol dilys o gyrsiau wedi’u hail-greu fel Sawgrass, Ponte Vedra, Palmer's Place a St Andrews, a’r cyfan heb fentro allan hyd yn oed.

Ewch i Stiwdio Golff Rhithwir yng Ngwesty a Sba Golff Bryn Meadows ger Caerffili, neu North Wales Golf yn Llanelwy.

Straeon cysylltiedig