Eisiau i’ch mam deimlo’n arbennig? Beth am gynnig un o’n syniadau am weithgaredd Sul y Mamau iddi hi?

Dathlwch drwy archebu rhywbeth arbennig iddi hi ei wneud – te prynhawn bendigedig, neu efallai ei bod hi’n haeddu saib bach a moethusrwydd un o westai sba gorau Cymru? Dewiswch eich hoff syniadau am weithgaredd Sul y Mamau o blith ein rhestr isod, a dechreuwch gynllunio!

Danteithion te prynhawn

Mae rhannu te prynhawn moethus yn ffordd wych o fwynhau Sul y Mamau. Ledled Cymru mae dewis o leoliadau sy’n gweini te prynhawn a bydd sawl un yn cynnig danteithion melys o Gymru hefyd.

O'r Angel yn Y Fenni, i Palé Hall yn Y Bala mae gwestai, bwytai a chaffis ar hyd a lled y wlad yn cynnig paneidiau a prosecco prynhawn.

Mae te prynhawn Sul y Mamau arbennig yn cael ei weini yn Llyn Llandegfedd, gyda chacennau a sgons ffres a gwydraid o Prosecco. 

Mae yna hefyd lawer o gwmnïau Cymreig sy'n gallu danfon bocs anrhegion ar gyfer Sul y Mamau yn llawn danteithion blasus. Mae Siwgr a Sbeis, sydd wedi’i lleoli yn Llanrwst, yn cynnig dewis hyfryd o focsys anrhegion neu mae bocs Te a Bisgedi Sweet Snowdonia yn anrheg wych. Mae Daffodil Foods ger Pwllheli yn danfon amrywiaeth o Focsys Anrhegion Te Prynhawn Cymreig hefyd. 

Os yw eich mam yn hoff o deisennau cartref, gall Gower Cottage Brownies anfon bocs yn llawn brownis iddi hi. Neu mae gan Ridiculously Rich by Alana ddewis eang o deisennau siocled a wnaed â llaw ar gael mewn blychau o feintiau gwahanol.

Ewch i wefan Cywain am ragor o gwmnïau sy’n cynnig hamperi yn llawn dop o gynnyrch o Gymru.

Profiad sba arbennig

Ydy eich mam yn dyheu am gael diwrnod yn y sba i ymlacio ac ymgolli? Dewiswch o westai sba dinesig neu encil sba ymlaciol ar lan y môr. Y naill ffordd neu’r llall, mae triniaeth sba yn anrheg Sul y Mamau perffaith. 

Mae pwll Gwesty St Brides Spa yn le perffaith i ymlacio – gwesty hyfryd a saif ar ben clogwyn yn edrych dros Saundersfoot a’r môr, ac mae Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy yn edrych dros y llyn bendigedig o'r un enw. 

Dwy fenyw yn edrych allan dros y pwll anfeidredd yn Sba St Brides.

Pwll nofio diderfyn yn Sba St Brides, Saundersfoot, Sir Benfro

Neu, beth am ddod â’r profiad sba i'r cartref? Mae sebon naturiol Bare yn hyfryd, neu am rywbeth ychydig yn wahanol rhowch gynnig ar amrywiaeth o sebonau llaeth gafr Cwt Gafr, sy'n cael eu gwneud â llaw ym Mhen Llyn. Ar gyfer gofal gwallt sydd wedi'i ddylunio'n arbennig ar gyfer gwallt cyrliog naturiol, mae cynnyrch Olew yn wych. 

Mae gan FARMERS ddetholiad o anrhegion hyfryd yn seiliedig ar lafant wedi'u gwneud o'r olew lafant o'r caeau cyfagos ym mryniau Canolbarth Cymru. Ewch i'w siop yn y Gelli Gandryll neu ewch i weld (ac arogli!) y lafant dros eich hun.

Mynd am dro i groesawu’r gwanwyn

Beth am ddarganfod rhywle newydd gyda’ch gilydd a chroesawu’r gwanwyn gan gerdded? Os allwch chi, beth am roi cynnig ar ran o Lwybr Arfordir Cymru, taclo mynydd gyda’ch gilydd, neu gerdded mewn gardd wledig ddeniadol neu barc lleol hardd. 

Mae diwrnod antur Sul y Mamau wedi'i drefnu yn Llys-y-frân, Sir Benfro - lle gallwch fwynhau antur awyr agored awr o hyd naill ai ar y tir, neu ar y dŵr. Yn dilyn eich gweithgaredd, cewch groeso mawr yn y caffi a the prynhawn traddodiadol blasus.

 Dau oedolyn a dau blentyn yn cerdded ar hyd ymyl clogwyn

Teulu yn mynd am dro ar hyd Llwybr yr Arfordir, Aberdaron i Borth Meudwy

Straeon cysylltiedig