Ar arfordir gorllewinol Môn, tu hwnt i Niwbwrch, mae Llandddwyn - un o fannau mwyaf rhamantus Cymru. Ewch heibio’r twyni tywod, coed pinwydd a gwiwerod coch Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch ac ar y pentir fe welwch adfeilion eglwys nawddsant cariadon Cymru, Dwynwen. Pan fo’r llanw ar drai mae modd cerdded draw, ond cofiwch edrych ar yr amseroedd llanw a pharatoi o flaen llaw.

Adfeilion eglwys Santes Dwynwen a goleudy Twr Mawr, Ynys Llanddwyn

Rydym, wrth gwrs, yn dathlu Santes Dwynwen bob blwyddyn ar 25 Ionawr, ond mae cyplau yn mynd ar bererindod rhamantus trwy gydol y flwyddyn i Landdwyn, ac yn syrthio mewn cariad ag arfordiroedd gwyllt a threfi a phentrefi tlws Môn ar eu taith. 

Gyda’r holl fwytai a chynnyrch lleol blasus, a rhan helaeth o dirwedd yr ynys wedi’i dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), mae Môn yn lle perffaith ar gyfer gwyliau neu ddiwrnod rhamantus.

Hen chwarel gopr gyda thirwedd felen, oren a brown. Mae adfail hen felin wynt yn y cefndir ac awyr las.
Tŵr goleudy gwyn ar benrhyn creigiog.

Mynydd Parys ac Ynys Lawd, Ynys Môn

Gwyliau Gwlad y Medra 

Llanfair Hall, Dwyran

Llanddwyn oedd enw’r pod cyntaf i agor yn Llanfair Hall nôl yn 2013, arwydd mwy na thebyg o naws rhamantus y safle. Bellach mae ganddyn nhw bump pod pren hardd wedi'u hinswleiddio â gwlân, cwt bugail gyda thwb poeth sy'n cael ei danio â phren, a chasgliad o bebyll glampio. Gyda'r nos, gwnewch ddefnydd o'r popty pren a'r toes pizza figan sy’n cael ei baratoi ymlaen llaw, cymerwch lymaid o botel o gwrw Bragdy Mona neu Bragdy Cybi o'r siop ar y safle, yna ymlaciwch a mwynhau awyr dywyll Môn. 

Archebwch becyn brecwast ar gyfer y bore sy’n cynnwys wyau o’r fferm a chig lleol a gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y perchnogion os oes gennych rywbeth i’w ddathlu, a byddant yn siŵr o fod yn ddigon caredig i drefnu blodau, cacennau neu siampên ymlaen llaw. 

Awydd cerdded rhan o’r 125 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Môn? Gallwch ofyn i gael eich tywys i fan cychwyn o'ch dewis, a threfnu i gael eich casglu ar ddiwedd y dydd. Neu os oes gennych gar trydan mae pwynt gwefru trydan ar y safle os oes angen.

Darllen mwy: Canllaw defnyddiol i Lwybr Arfordir Cymru.

Arwydd llwybr arfordir Cymru gyda thwyni tywod a'r môr yn y cefndir

Porth-y-Nant, Llwybr Arfordir Môn

Mae tref Porthaethwy yn agos a’n llawn siopau annibynnol diddorol. Caffi figan y Green Olive yw'r lle am frecwast a chrempog, ac mae deli & Caws yn nefoedd i'r rhai sy'n hoff o gaws - archebwch docyn i un o'u clybiau swper cawslyd. Mae Dylan’s yn wych ar gyfer bwyd môr lleol a llawer mwy. Mae ganddyn nhw siop yn y dref hefyd sy'n gwerthu sawsiau, bara a phrydau i'w mwynhau adref.

Fferm Lastra, Amlwch

 

Yng ngogledd yr ynys, ychydig y tu allan i dref borthladd Amlwch, mae ffermdy o’r 17eg ganrif, Fferm Lastra. Mae’r gwesty a’r bythynnod hunanarlwyo yn fan gwych i aros os am grwydro Teyrnas Gopr Mynydd Parys neu draethau tywodlyd Lligwy, Moelfre a Benllech.

Mae’r bwyty a’r bar yn falch iawn o gynnig cynnyrch lleol Môn, ac yn gwneud defnydd gwych o’r hyn sydd ar garreg eu drws gan gynnwys cynnyrch wedi’i fygu o’r Cwt Mwg, Caws Rhyd y Delyn a Seidr Jaspels.

Mae croeso mawr i gŵn yn Lastra, ac mae croeso iddynt yn y bar, y patio a'r ystafelloedd gwely. Mae teithiau cŵn ar gael sy’n cychwyn o’r safle a darperir bagiau baw a powlenni dŵr, yn ogystal â fflach lampau ar gyfer mynd â chŵn am dro ar ôl iddi nosi.

Darllen mwy: Gwyliau i chi a'ch ci ar Ynys Môn.

The Bull’s Head Inn, Biwmares

Mae’r Bull’s Head Inn yn adeilad rhestredig Gradd II llawn cymeriad sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif. Mae’r cynigion swper, gwely a brecwast yn berffaith ar gyfer cyplau. Mwynhewch brydau swmpus a chwrw Cymreig yn y bar hynafol wrth y tân agored.

Tafliad carreg oddi yma mae Castell Biwmares - un o bedwar castell Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, a'r olaf a grëwyd gan Edward I (er na chafodd gyfle i’w orffen yn llwyr). Os ydych yn ymweld rhwng dechrau Ebrill a diwedd Gorffennaf mwynhewch daith ar y Seacoast Safari i Ynys Seiriol - bydd y palod yn nythu a chyda lwc mae’n bosib y gwelwch chi ddolffin neu ddau hefyd!

Mae opsiynau llety eraill ym Miwmares yn cynnwys gwesty Sioraidd y Buckley a gwesty’r Bishopsgate.

Tu fewn i dafarn hen gyda soffas cyfforddus.
Golygfa o’r ochr o Gastell Biwmares gyda dŵr ac awyr las.

The Bull’s Head Inn a Chastell Biwmares, Ynys Môn

Ymlacio ar yr ynys

St. David's Spa, Traeth Coch 

 

Mae sba a phwll St David’s yn cynnig triniaethau harddwch a phecynnau ymlacio sy’n edrych dros Draeth Coch, rhan o’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn.

Mae rhai pecynnau yn cynnwys cinio ym mwyty'r safle, The Tavern on the Bay, sy'n gweini bwydlen leol dymhorol a choctels.

Tre-ysgawen, Llangwyllog

 

Mae’r sba moethus ym mhlas Tre-Ysgawen yn cynnig ystod eang o therapïau a thriniaethau harddwch, ac mae’r ystafell thermol yn cynnwys ffynnon iâ ac ystafell therapi halen. Mwynhewch fore hamddenol yn nofio neu llosgwch egni yn y gampfa cyn ymweld â'r caffi am ginio.

Straeon cysylltiedig