Cymru 100 lle i’w gweld cyn marw

Gan: John Davies (awdur), Marian Delyth (lluniau)

Cyhoeddwr: Y Lolfa (2015)

Clasur yr hanesydd John Davies a’r ffotograffydd Marian Delyth. Cyfrol llawn gwybodaeth ddiddorol am 100 o lefydd yng Nghymru y mae'n rhaid i chi ymweld â nhw cyn marw. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy'n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorbŷr; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion.

Y traeth gyda thon yn dod i mewn o'r môr
Ffordd trwy fynyddoedd eira
Adfeilion castell gydag awyr las yn y cefndir

100 o lefydd i'w gweld cyn marw

Cymru Mewn 100 Gwrthrych

Gan: Andrew Green

Cyhoeddwr: Gwasg Gomer (2018)

Cyfrol ddarluniadol ysblennydd yn cynnwys detholiad Andrew Green, y cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, o'r can gwrthrych mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru, gyda ffotograffau hardd o'r gwrthrychau gan Rolant Dafis. Ceir pethau o fyd diwylliant a diwydiant o bob math, bron – llyfrau, lluniau, llestri, mapiau, delwau, dodrefn, posteri, teganau plant – mae’r amrywiaeth yn ardderchog, a’r straeon yn dda. Ond a fyddech chi’n dewis yr un gwrthrychau? Darllenwch y gyfrol a phenderfynu drosoch eich hun.

Hanes Cymru

Awdur/Gol: John Davies

Cyhoeddwr: Penguin 2007)

Argraffiad newydd (2007) o gampwaith awdurdodol John Davies a gyhoeddwyd yn 1990 yn adrodd hanes Cymru o oes yr iâ hyd at y ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Hanes Cymru mewn un stori ddi-dor wedi ei hadrodd yn ffraeth ac yn gofiadwy gan un o storïwyr gorau posibl.

Cymru a’r Môr – Deg Mil o Flynyddoedd o Hanes y Môr

Gan: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Cyhoeddwr: Y Lolfa (2019)

Cyfrol uchelgeisiol, ddeniadol, llawn lliw sy'n cyflwyno holl hanes morwrol Cymru dros ddeng mil o flynyddoedd, gyda channoedd o luniau.

Drwy ddangos mapiau o’r glannau, peintiadau o longau, barddoniaeth, caneuon a swfeniriau o lan y môr, mae’n cyfleu effaith y môr ar y dychymyg artistig. Mae’r lluniau yn cyfleu’n fyw oes llongau mawr y cefnfor, y llongau pleser, yr iotiau rasio a’r pierau glan-môr yn ogystal â’r dociau prysur a gyflenwai lechi, glo, haearn a dur i’r byd.

100 o olygfeydd hynod Cymru

Gan: Dyfed Elis-Gruffydd

Cyhoeddwr: Y Lolfa (2014)

Cyfrol yn llawn o luniau lliw, i chi allu mwynhau golygfeydd gorau Cymru o’ch cadair freichiau. Mae’r testun yn eich tywys o’r un i'r llall gan egluro pam fod Chwarel y Penrhyn yn un o ryfeddodau pennaf gogledd Cymru a pham yr adnabyddir Dan yr Ogof yng Nghwm Tawe fel Porth i ran o Annwfn, y lle diamser hwnnw sydd y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl.

Mynyddoedd o amgylch llyn mawr
Traeth gyda mynyddoedd mawr yn y cefndir

100 o Olygfeydd hynod Cymru

Copaon Cymru

Awdur/Gol: Eryl Owain

Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch (2017)

Mwynhewch yr ucheldiroedd hyn trwy ddilyn trywydd y 48 o deithiau, ym mhob cwr o'r wlad. Cyflwynir y teithiau gan aelodau Clwb Mynydda Cymru, ynghyd â mapiau lliw, lluniau nodedig a phytiau o wybodaeth ddiddorol i ysbrydoli cerddwyr a dringwyr fel ei gilydd.

Cymru ar Hyd ei Glannau

Gan: Dei Tomos (awdur), Jeremy Moore (lluniau)

Cyhoeddwr: Gomer (2012)

Dathliad mewn gair a llun o arfordir trawiadol Cymru. Cyhoeddwyd i gyd-fynd ag agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru yn 2012, llwybr sydd bellach wedi troi’n bererindod i filoedd yn flynyddol.

Hoff Gerddi Cymru

Gol.: Bethan Mair

Cyhoeddwr: Gwasg Gomer (2000 / argraffiad newydd 2019)

Blodeugerdd gyfoethog o hoff gerddi pobl Cymru yn cynnwys cant o gerddi amrywiol adnabyddus, yn adlewyrchu dwyster a hiwmor, ac awyrgylch ramantus a heriol barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Bydd rhai yn canu yn y cof, eraill yn newydd ac mae pob darllenydd yn siŵr o ofyn: ‘pam honna?’ a ‘ond ble mae ... ?’ Pa rai yw’ch hoff rai chi a pha rai sydd ar goll?

Y Gororau – Gwlad Rhwng y Gwledydd

Gan: Myrddin ap Dafydd

Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch (2018)

Fe’n dysgwyd ni mai sefydliadau gan y Rhufeiniaid, y Normaniaid a’r Ymerodraeth Brydeinig i ymosod ar Gymru yw llawer o’r adfeilion sydd i’w gweld yn ardal y ffin. Ond yr argraff sy’n aros yw bod Cymru hefyd wedi dylanwadu ar drefi, economi a chymeriad y Gororau. Mae hynny wedi cynorthwyo i greu gwlad rhwng gwledydd, sydd hyd heddiw yn datgelu cyfoeth o drysorau i’r sawl sy’n fodlon crwydro a chwilio amdanynt. Crwydro’r Gororau hynny wnaeth awdur y gyfrol hon i gasglu straeon a chofnodi hanesion – a rhyfeddu at gymeriad unigryw y broydd a’r trefi marchnad hynny.

Adeiladau hen gydag ochr ffordd gyda choeden yn y cefn
Adeilad gwyn gyda beddau o gwmpas
Pont dros afon gyda castell yn y cefndir

Y Gororau – Gwlad Rhwng y Gwledydd

Cymru ar y Map

Gan: Elin Meek (awdur) a Tanwen Haf (darlunydd)

Cyhoeddwr: Rily (2018)

Beth am ddod ar daith drwy Gymru i weld pa mor hyfryd yw ein gwlad, i ddysgu am ei thrysorau cudd? Mae Cymru ar y Map yn llyfr atlas arbennig iawn gyda darluniau godidog, sy’n dangos Cymru ar ei gorau. Ac os ydych yn hoffi’r gyfrol hon mae yna lyfr gweithgaredd, llyfr cwis a gêm fwrdd y gallwch eu mwynhau hefyd. Digon i gadw’r teulu i gyd yn brysur.

Merci Cymru - Dathlu Haf Bythgofiadwy 2016

Gan: Tim Hartley

Cyhoeddwr: Y Lolfa (2016)

Cyfle i ail-fyw haf byth gofiadwy 2016 trwy gasgliad o ysgrifau a lluniau sy’n dathlu a chofnodi llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016. Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfraniadau gan gefnogwyr, sylwebwyr a rhai o enwau mawr y gêm, gan gynnwys y sylwebydd Dylan Ebenezer a'r bêl-droedwraig a'r gwleidydd Laura McAllister.

Deg Chwedl o Gymru

Awdur: Meinir Wyn Edwards

Cyhoeddwr: Y Lolfa (2016/2018)

Casgliad o ddeg chwedl o Gymru ar gyfer y plant - Cantre'r Gwaelod, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Twm Siôn Cati, Merched Beca, Branwen a Bendigeidfran, Maelgwn Gwynedd, Llyn y Fan Fach, Rhys a Meinir, Dic Penderyn a Breuddwyd Macsen. Mae'r gyfrol yn cynnwys lluniau lliw hyfryd Gini Wade a Morgan Tomos.

Stori Cymru – Iaith a Gwaith / Stori Cymru – Hanesion a Baledi

Awdur/Gol: Myrddin ap Dafydd

Blwyddyn: 2020 / 2015

Mae hanes Cymru yn llawn straeon. Straeon doniol, trist, cyffrous, arwrol a hudolus. Eto un stori yw hi, mewn gwirionedd. O oes i oes, o fro i fro, gallwn weld yr un un stori drachefn a thrachefn drwy Gymru gyfan gan glymu'r cymoedd a'r dyffrynnoedd i gyd yn un wlad. Mae’r gyfrol yn cynnwys dros 70 o straeon a cherddi gan Myrddin ap Dafydd a llun gan Dorry Spikes i gyd-fynd â phob un.

Llun du a gwyn o gastell
Llun du a gwyn o dri pherson yn gwisgo gwisg draddodiadol Cymru

Stori Cymru – Iaith a Gwaith / Stori Cymru – Hanesion a Baledi, Myrddin ap Dafydd

Pedair Cainc y Mabinogi

Gan: Sian Lewis (awdur), Valérian Leblond (darlunydd)

Cyhoeddwr: Rily (2015)

Y Mabinogi yw chwedlau hynaf ac enwocaf Cymru, a'r Pedair Cainc yw straeon craidd y chwedlau hyn. Er iddyn nhw gael eu hysgrifennu ar femrwn tua wyth canrif yn ôl, bu storïwyr yn eu hadrodd ar lafar sawl canrif cyn hynny. Mae'r chwedlau wedi para cyhyd am eu bod yn dal i allu cydio yn y dychymyg â'u hud a lledrith, eu hantur, eu rhamant a'u rhyfeddodau unigryw. Yma ailadroddir y stori unwaith eto gan Siân Lewis, gyda darluniau hyfryd gan Valérian Leblond.

Y Ddraig yn y Cestyll

Gan: Myrddin ap Dafydd (awdur), Chris Lliff (darlunydd)

Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch (2019)

Mae Gwen a Gruff yn ymweld ag ugain o gestyll ledled Cymru. Mae’r cestyll yn amrywio o’r cyfarwydd, megis castell Caerdydd a Caernarfon, i’r llai cyfarwydd megis Y Fflint a Dinefwr. Mae’r awdur yn gosod yr holl leoliadau mewn cyd-destun mwy cyfoes. A dod i wir adnabod y cestyll a’r ardal o’u cwmpas. Mae diwyg y gyfrol yn denu’r llygad hefyd, gyda chyfuniad o ffotograffau a gwaith celf gan Chris Lliff.

Cofiwch bod nifer o gyhoeddwyr a siopau annibynnol Cymru yn cynnig gwasanaeth drwy’r post neu gallwch brynu drwy wefan gwales.com ac enwebu siop leol o’ch dewis chi.

@LlyfrauCymru | llyfrau.cymru | www.facebook.com/llyfrau.books

Straeon cysylltiedig