Croeso i Bontypridd.

Gwlad beirdd a chantorion...

Dyma fan geni Thomas John Woodward, neu’r seren fyd enwog Tom Jones. Fe ddechreuodd ei yrfa ar ddechrau’r 60au drwy ganu yng nghlybiau a neuaddau’r Cymoedd cyn cyflwyno ei lais bariton arbennig a phwerus i weddill y byd. Erbyn 1967 roedd Tom wedi gwerthu miliynau o recordiau ac yn un o sêr mawr Las Vegas, lle – yn ôl y sôn – roddodd gyngor i Elvis Presley, y brenin ei hun, ar sut i lwyfannu sioe yno.

Partneriaeth gerddorol arall i darfu o’r dref oedd y tad a’r mab Evan a James James, sgrifennwyr Hen Wlad Fy Nhadau. Pan benderfynodd Evan ysgrifennu geiriau gwladgarol ar gyfer tôn ei fab Glan Rhondda yn 1865, fe ddaeth yn gân boblogaidd ymysg corau ac unawdwyr Eisteddfodau'r dydd. Yna, yn 1905 ym Mharc yr Arfau, Caerdydd roedd tîm rygbi Cymru yn chwarae Seland Newydd am y tro cyntaf. Fe ddechreuodd y Crysau Duon drwy ddawnsio eu Hakka ryfelgar. Ymatebodd y Cymro Teddy Morgan drwy arwain y dorf i ganu cyflwyniad angerddol o gân Evan a James. Enillodd Cymru’r gêm, fe ddaeth canu anthemau cyn gemau chwaraeon yn arfer reolaidd, a chyn hir, fe fabwysiadwyd y gân fel anthem genedlaethol y Cymry. Mae cofeb i’r tad a’r mab ym mharc hardd Ynysangharad, sy’n fan hyfryd i fynd am dro neu am bicnic ar brynhawn o haf.

Dau gerflun wedi'u gwneud o efydd, ac maen nhw'n dangos dau ffigur mewn gwisg Geltaidd - dyn yn gafael mewn telyn, sy'n cyfleu cerddoriaeth, a menyw sy'n cyfleu barddoniaeth.
Bandstand yng nghanol parc gyda blodau lliwgar o'i amgylch ac awyr laws yn gefndir.

Cofeb Evan a James James a Pharc Ynysangharad, Pontypridd

Pwll Ponty

Hefyd ym Mharc Ynysangharad mae Lido Ponty, sef pwll nofio awyr agored ysblennydd ac adeilad rhestredig Gradd II. Mae’n cynnwys tri phwll cynnes a chawodydd dan do ac awyr agored, ac mae’n addas ar gyfer teuluoedd a nofwyr profiadol. Mae’n anhygoel o boblogaidd, felly mae'n werth archebu slot ar eu gwefan.

Adeiladu pontydd

Mae’r hen bont yn llawn haeddu'r term ‘eiconig’. Wedi’i dylunio a’i hadeiladu gan y pensaer William Edwards, fe orffennwyd y bont yn 1756 ar ôl tri chais i groesi’r Taf. Mae’r cynllun bwa nodweddiadol gyda thri thwll cylchog ar y naill ochr a’r llall werth ymweld ag ef os ydych yn y cyffiniau. Mae’r groesfan hyfryd yma dal mewn defnydd ar gyfer cerddwyr ac yn rhestredig Gradd I.

Canolfan Gymraeg yr ardal yw Clwb y Bont. Maent yn trefnu llu o weithgareddau cerddorol a ddiwylliannol ac mae ganddynt gôr wedi’i leoli yno. Ond os hoffech jest alw mewn am beint yn y bar, da chi’n siŵr o gael croeso cynnes. Wedi’i leoli rhwng y brif ardal siopa a Pharc Ynysangharad, mae’n lle delfrydol i brofi bach o groeso cynnes enwog y cymoedd.

Dyn (Gareth Potter) mewn cot felen o flaen pont fwa cerrig.
Arwydd Clwb y Bont ym Mhontypridd gyda'r ddraig goch a phont Pontypridd.

Yr Hen Bont a Chlwb y Bont, Pontypridd

Viva Italia!

O ddiwedd y 1890au nes dechrau’r Ail Ryfel Byd, fe ddaeth ton anferthol o fewnfudwyr i Gymru o’r Eidal, gyda theuluoedd o Fynyddoedd yr Apennine, ac yn enwedig y dref Bardi, i dde Cymru. Fe agorwyd llu o gaffis a sawl parlwr hufen iâ ar hyd y cymoedd. Mae'r etifeddiaeth i’w gweld yng nghyfenwau llawer o’r teuluoedd ac wrth gwrs y busnesau a sefydliadau sydd dal yn agored ac yn ffynnu hyd heddiw. Mae gan Ponty nifer fawr ar hyd ei strydoedd: mae Café Royale a Café Fresco ymhlith rhai o’r goreuon.

Y Farchnad

Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ymweliad â Phontypridd yn gyflawn heb ymweliad â’r farchnad dan do arbennig. Gyda stondinau di-ri o ffrwythau, llysiau a chig i losin ac anrhegion a hyd yn oed siop farbwr, mae’r farchnad yn cynnig rhywbeth i bawb. Os taw sgwrs dros gacen gri yw eich diléit, brecwast llawn, neu pryd o fwyd yn Janet’s Authentic Northen Chinese Restaurant neu Lewi’s Thai Cafe mae gan Farchnad Ponty bopeth ar eich cyfer. Mae marchnad wedi bodoli yn y safle yma ers dechrau’r 19eg ganrif, ac mae’r adeilad presennol yn dyddio nôl i’r 1870au. Mae’r adnewyddiadau diweddar wedi cadw cymeriad traddodiadol y farchnad, ond wedi dod ag e mewn i’r 21ain ganrif gydag arddull hyderus a chyfoes.

Dyn (Gareth Potter) mewn cot felen yn bwyta pryd o fwyd Asiaidd mewn marchnad.
Stondin cacennau cri mewn marchnad gydag arwydd The Welsh Cake Shop.

Janet's Authentic Northern Chinese a The Welsh Cake Shop, Marchnad Pontypridd

Oes yr aur du

Yn ei anterth, roedd gorsaf drenau Pontypridd ymysg y prysuraf yn y byd, ac roedd y prif blatfform yn hirach nag unrhyw blatfform ynysig arall ar y blaned. Roedd llif di-ddiwedd o drenau’n pasio trwy’r orsaf yn cludo aur du o byllau glo Cymoedd y Rhondda i ddociau Caerdydd a'r byd.

Ac os oes diddordeb gennych mewn aur du a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal, mae'n werth ymweld â Thaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Y Rhondda, ychydig o filltiroedd i’r gogledd o Bontypridd ym mhentref Trehafod. Yma gallwch ddysgu am sut ddaeth glo o fryniau’r Rhondda yn ganolog i ddiwydiant y byd. Wedi’i leoli ar safle hen lofa Lewis Merthyr, mae’r ganolfan yn cynnig teithiau gan lowyr sydd wedi ymddeol sy'n adrodd hanesion eu profiadau unigryw o weithio dan ddaear ym mhyllau glo'r de.

Dilynwch gwmni teithiau Gareth Take Me Somewhere Good am fwy o ysbrydoliaeth. 

Tu allan i amgueddfa Taith Pyllau Glo Cymru ar ddiwrnod braf gyda blodau ym mlaen y llun.

Taith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Straeon cysylltiedig