Fi wedi bod yn hynod o ffodus i fynychu sawl 'Steddfod dros y blynyddoedd - fel aelod o’r gynulleidfa ac fel aelod o staff - ac mae pob blwyddyn yn unigryw ac yn llwyth o hwyl.

O’r de i’r gogledd, mae’r ardaloedd lleol yn rhoi gymaint o waith a chariad mewn i wneud yr Eisteddfod yn llwyddiant bob blwyddyn. Mae’n rhoi ardaloedd ar y map ac yn gyfle i ddathlu hunaniaeth cymunedau. Dyma un o’r prif resymau fi’n caru mynd bob blwyddyn. 

O’r gerddoriaeth i’r llenyddiaeth, y dawnsio i’r celf, y bwyd stryd i’r cystadlu mae yna gymaint i’w fwynhau yn yr Eisteddfod, ac mae profiad pawb yn wahanol - ond dyma drysorau’r ‘Steddfod i mi…  

Y Gerddoriaeth 

Mae cerddoriaeth fyw yn rhan annatod o’r ŵyl bob blwyddyn. O’r bandiau mawr i’r artistiaid newydd, mae sain ym mhob cornel o’r Maes. Mae Llwyfan y Maes, Tŷ Gwerin, Encore a Chaffi Maes B yn rhoi platfform i’r artistiaid mwyaf, a’r mwyaf newydd. Mae’r Eisteddfod yn ddathliad o’r ystod eang o genres sy’n cyfoethogi ein sîn gerddorol, fel hip-hop, gwerin, opera a roc i enwi rhai. Mae’n rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod cerddoriaeth newydd, felly byddwch yn ddewr eleni a dilynwch eich clust, falle newch chi ffeindio eich hoff artist newydd.

Cynulleidfa yn wynebu llwyfan fawr gyda band byw. Mae golau'r llwyfan yn disgleirio yn y tywyllwch a pheli mawr yn cael eu taflu o amgylch y gynulleidfa.
Tipis cynfas ac awyr las tu ôl iddynt. Mae dau berson yn cerdded tuag at y camera a phobl yn eistedd ar gadeiriau coch ger y tipi.

Llwyfan y Maes a Chaffi Maes B

Un o fy hoff sets erioed oedd Derwyddon Dr Gonzo ym Maes B Bala yn 2009. Dyma oedd fy Maes B cyntaf a ges i’n syfrdanu gan y cynhyrchiad, maint y llwyfan, a gweld gymaint o bobl, fel fi, yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg. Dyma oedd un o’r troeon pan o’n i’n tyfu lan pan wnaeth fy nghariad at gerddoriaeth ddod yn amlwg, ac ro’n i moen mwy!

Darllen mwy: Dathlu y gorau o fiwsig Cymraeg

Arwydd Maes B porffor ar graen yn uchel yn yr awyr.
Dwy ferch yn DJio mewn gŵyl

Maes B, ac Elan ei hun yn perfformio ym Maes B fel rhan o'r ddeuawd DJs Elan a Mari

Yr Orsedd

Mae rhywbeth hynod o hudolus a nostalgic am weld aelodau’r Orsedd yn cerdded rownd y Maes yn eu gwisgoedd. Bob blwyddyn pan fi’n gweld nhw i gyd gyda’i gilydd yn sgwrsio ac yn ymfalchïo yn eu rôl, rwy’n cael fy atgoffa faint mae’r Eisteddfod wedi newid dros y blynyddoedd, ond hefyd, pa mor anhygoel yw bod yr Orsedd dal i fod yn rhan mor annatod o’r ŵyl. Mae’r seremonïau Cadeirio a Choroni yn binacl ar y cyfan. Mae’n gyfle i ni sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni fel cenedl ein bod ni’n dathlu beirdd mewn ffordd mor, mor fabulous.

Dau aelod o'r Orsedd mewn gwisgoedd a phenwisg glas. Mae un dyn yn chwifio ei fraich a'n gwenu ac mae'r dyn arall mewn sbectol haul.
Aelodau o'r orsedd yn cerdded yn eu gwisgoedd gwyn. Mae merched y ddawns flodau o'u blaenau mewn ffrogiau gwyrdd a blodau o amgylch eu pen.

Aelodau o'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Ein Eisteddfod. Ein gŵyl gelfyddydol sy’n plethu’r cyfarwydd â’r anghyfarwydd, y newydd â’r traddodiadol."  

Y Lle Celf

Mae’r Lle Celf yn uchafbwynt personol i fi bob blwyddyn. Dyma gyfle i droedio mewn bydoedd gwahanol ac ymgolli yng ngwaith rhai o artistiaid gorau Cymru. Un o fy hoff bethau am y Y Lle Celf yw bod e’n llecyn llonydd yng nghanol y bwrlwm a’r sŵn. Lle i’r enaid cael saib, i eistedd ac i fyfyrio. Yn ystod wythnos brysur o siarad, mwynhau a dathlu - mae’n gyfle i stopio ac i werthfawrogi rhai o drysorau artistig Cymru. 

Darllen mwy: Orielau Celf yng Nghymru

Person yn gwynebu arddangosfa gelf mewn oriel.

Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019

Y Bobl

Un peth sy’n fy nhynnu’n ôl i’r Eisteddfod bob blwyddyn yw’r bobl. Boed yn ffrindiau, teulu neu’n ddieithriaid - mae’r Eisteddfod yn llwyddo i ddod â gwahanol bobl ynghyd, yn hen ac yn ifanc ac o gefndiroedd a gwledydd gwahanol. Mae pawb yn gwybod erbyn hyn bod angen gadael digon o amser i gerdded o Lwyfan y Maes draw i’r Babell Lên gan bo’ ti’n mynd i bwmpio fewn i rywun ti heb weld ers ‘Steddfod llynedd. Ond mae’n foment hyfryd, pan ti’n gweld dau ffrind yn gweld ei gilydd am y tro cyntaf ers misoedd, yn cofleidio ac yn gwenu. Ond yr hyn sydd wastad yn aros yn y cof i fi yw’r bobl newydd fi’n cwrdd. Y sgyrsiau difyr wrth i ti giwio am goffi yn y bore, y person ti’n eistedd drws nesaf iddyn nhw yn y Tŷ Gwerin wrth fwynhau cerddoriaeth hudolus, neu'r ffrind ti’n neud am 1am tra bod ti’n aros am beint wrth y bar ym Maes B. Ac yn well fyth, y foment sbesial yna, pan ti’n gweld nhw eto flwyddyn nesa ac yn ei wneud e i gyd eto.

Tri o bobl ifanc mewn gŵyl yn sefyll ger cefndir patrwm zigzag lliwgar.
Criw o bobl ifanc mewn gŵyl yn gwenu i'r camera.

Ifan, Elan a Steff, Beirniaid Brwydr y Bandiau 2017, ac Elan a'r band Mellt 

Yr Ardal Leol

I fi, mae’r Eisteddfod yn cychwyn ar y daith draw, ac un o fy hoff gemau pan o’n i’n fach oedd pwy sy’n gallu gweld y bunting cynta’. Ble bynnag mae’r Eisteddfod mae’r gymuned yn harddu’r strydoedd i’n croesawu. O addurniadau anhygoel Llŷn ac Eifionydd 2023 i’r milltiroedd ar filltiroedd o bunting, mae cariad yr ardal at yr Eisteddfod yn cael ei arddangos. 

Mae’n braf dangos ein gwerthfawrogiad yn ôl i’r ardaloedd hefyd trwy gefnogi’r gymuned leol. Gwnewch yn siŵr bo’ chi’n mynd am antur fach tu hwnt i furiau’r Maes.

Bydd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ym Mhontypridd rhwng 3-10 Awst 2024.

I ddysgu mwy am yr Eisteddfod ac i archebu tocynnau ewch i wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Cynulleidfa ifanc yn mwynhau cerddoriaeth fyw.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Straeon cysylltiedig