Eglwys eiconig

Yng nghalon Wrecsam saif Eglwys San Silyn, sef eglwys blwyf y ddinas. Mae’r addoldy rhestredig Gradd I wedi sefyll ar y safle ers y drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, ond codwyd y mwyafrif o'r adeilad presennol yn y pymthegfed ganrif. Mae'n cael ei hedmygu am ei phensaernïaeth hyfryd sy’n cynnwys gwydr lliw a bwâu mawreddog. Mae'r tŵr trawiadol yn creu silwét adnabyddus dros y ddinas. Os hoffech ddringo’r tŵr, rhaid archebu’n gyntaf. Mae'r eglwys yn aml yn cael ei enwi'n un o Saith Rhyfeddod Cymru, ac mae'n hawdd gweld pam.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â Phrifysgol Yale yn America, ond oeddech chi’n gwybod y gorwedda bedd ei sefydlydd, Elihu Yale, ym mynwent Eglwys San Silyn?

Am fwy o hanes o ddinas mae arddangosfeydd a chasgliadau Amgueddfeydd Wrecsam yn adrodd straeon cymunedau'r fro, ac mae Caffi’r Cwrt sy'n rhan o'r amgueddfa yn gweini prydau o gynnyrch lleol a chacennau blasus.

Amgueddfa gyda phobl yn cerdded heibio.

Amgueddfa Wrecsam

Gardd grand

I barhau gyda thema hanesyddol Wrecsam a'r cysylltiad â Elihu Yale, ewch am dro i un o dai hardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Neuadd Erddig.

Mae teimlad hudol i Erddig. Wrth grwydro'r adeilad o’r ail ganrif ar bymtheg fe welwch ystafelloedd y teulu Yorke llawn dodrefn crand ochr yn ochr ag ystafelloedd y gweision. Mae'n rhoi cip olwg diddorol i fywyd unigryw gweithwyr a gwŷr mawr Erddig.

Hanner arall apêl Erddig yw'r ardd ogoneddus llawn coed ffrwythau prin, hen waliau hyfryd a llwyth o flodau lliwgar. Am fwy o wybodaeth ac i drefnu eich ymweliad ewch i wefan Erddig.

Stadiwm y sêr

Newidiodd dyfodol y ddinas yn 2020 pan brynodd y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney Glwb Pêl-droed Wrecsam. Wedi’i sefydlu yn 1864, dyma'r clwb hynaf yng Nghymru, ond mae trigolion Wrecsam wedi croesawu a chofleidio’r newid. Mae’r clwb unigryw yn sicr yn agos at galonnau trigolion Wrecsam - ac roedd cyfle i'r byd i gyd weld pa mor arbennig ydi'r clwb wrth i Disney+ ddarlledu Welcome to Wrexham.

Ffocws ar gerddoriaeth

Mae FOCUS Wales yn denu miloedd i Wrecsam bob blwyddyn i fwynhau cerddoriaeth fyw. Gŵyl sy'n dathlu talent Cymru law yn llaw ag artistiaid rhyngwladol yw FOCUS Wales, sy'n rhoi platfform i dros 250 o artistiaid. Mae ffocws mawr ar roi llwyfan i artistiaid newydd hefyd, yn ogystal â dangos ffilmiau a chynnal sgyrsiau creadigol yn y maes. Ymysg perfformwyr y gorffennol mae Echo & The Bunnymen, Self Esteem a Gwenno. Cadwch lygaid ar eu gwefan am docynnau a'r newyddion diweddaraf am gynlluniau'r ŵyl.

Band ar lwyfan yn perfformio gyda golau gwyrdd yn disgleirio.
Menyw yn chwarae gitâr ar lwyfan. Mae brand Focus Wales tu ôl iddi.
Dyn yn perfformio ar lwyfan gyda golau glas tu ôl iddo. Mae'r gynulleidfa yn chwifio breichiau yn agos iddo.

Perfformwyr FOCUS Wales, Wrecsam 

Cymuned Pawb

Hwb celfyddydol Wrecsam a gofod cymunedol yw Tŷ Pawb , gyda stondinau marchnad lleol a digwyddiadau amrywiol. Ymysg y stondinau mae Siop Siwan, Candylicious Sweets, House of Retro, Revibed Records ac eraill. Arddangosfeydd celf Tŷ Pawb yw un o'i brif atyniadau - mae'n arddangos gwahanol dalentau a diwylliannau creadigol Wrecsam yn berffaith. Roedd y galeri yn un o bum amgueddfa gorau yng nghystadleuaeth Art Fund Museum of the Year 2022 ac roedd Wrecsam yn rownd derfynol Dinas Diwylliant y DU 2025 - ac mae'n hawdd gweld pam.

Hwyl i'r teulu

Chwilio am weithgareddau hwyl i'r teulu? Mae Tenpin yn ganolfan bowlio deg llawn sbri gyda nifer o gemau a gweithgareddau am brisiau rhesymol. Neu beth am lithro lawr y llithren ddŵr yn Waterworld? Mae'r pwll nofio a chanolfan ffitrwydd wedi'u lleoli yng nghanol y ddinas ac mae yna weithgareddau hamdden i bob oedran yma.

Canolfan wyddoniaeth yng nghanol Wrecsam yw Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth. Lle da i’r plant losgi egni a dysgu am wyddoniaeth yr un pryd.

Iechyd da

Mae dewis eang o fwytai a thafarndai annibynnol yn Wrecsam, ond The Fat Boar yw un o’n ffefrynnau i. Mae'n gysurus a chroesawgar ac mae'r fwydlen yn syml ond yn flasus gyda digonedd o ddewis fegan a di-glwten. Maent yn gweini cynnyrch Cymreig a'n cynnig diodydd amrywiol gan gynnwys Wrexham Lager sy'n cael ei fragu 300 llath o'r bwyty! Y lager golau eiconig hwn oedd y cyntaf o’i fath i gael ei fragu ym Mhrydain nol yn 1882, ac roedd yn un o'r cyntaf i gael ei allforio'n fyd-eang. Cafodd ei weini ar y Titanic hyd yn oed!

Mae'r Saith Seren yn lleoliad da am gwrw lleol a digwyddiadau Cymraeg. Dyma Ganolfan Gymraeg Wrecsam - hwb cymunedol sy'n cael ei redeg gan griw o wirfoddolwyr. Mae'r digwyddiadau yn amrywio o noson jamio i nosweithiau cwis - felly mae rhywbeth at ddant pawb yma. 

Mae The Lemon Tree yn ddewis arall gwych am bryd o fwyd o safon ac mae'n westy poblogaidd hefyd lle gallwch ymlacio ar ôl diwrnod prysur o grwydro'r ddinas. Mae’r adeilad yn enghraifft o bensaernïaeth Fictoraidd hardd ac mae gan bob ystafell steil soffistigedig, neo-gothig sy'n cynnwys en-suite.

Cynulleidfa tu allan i dafarn y Saith Seren yn Wrecsam. Adeilad brics coch hynafol ac awyr las yn gefndir.

Saith Seren, Wrecsam

Mwy o wybodaeth

Am fwy o syniadau ewch i dudalen Facebook twristiaerth Wrecsam a gwefan Dyma Wrecsam. Mae nifer o ddigwyddiadau'r ddinas ar Wrexham Events Guide.

Straeon cysylltiedig