Dydw i erioed wedi bod i unman yng Nghymru sy’n debyg i Rhuthun [ac mae'r enw’n un unigryw yn cyfeirio at liw y castell enwog sydd yn y dref gyda rhudd yn golygu lliw coch tywyll, a din yn golygu caer]. Mae crwydro Rhuthun fel mynd ar rhyw daith fach hyfryd drwy hanes Cymru. Ewch i lawr at y castell: dyma gynrychioli gorffennol cythryblus y wlad. Yna anelwch yn ôl i fyny’r allt i’r dref: dyma le cewch ei hanes yn Oes y Tuduriaid. Hefyd i’w weld o’ch cwmpas ym mhob man mae naws diwylliedig, modern y dref, a hyn i gyd mewn un lle – a gan fod y dref mor fach, i gyd mewn un trip.

Dechreuwch eich taith Canoloesol ger y castell...

Fe oroesodd y castell gwrthryfel Owain Glyndŵr yn ogystal â gwarchae 16 wythnos yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ac felly mae gan Gastell Rhuthun yn sicr sawl stori i’w hadrodd. Mae’n lleoliad rhyfeddol o hardd, fel rhywbeth o stori dylwyth teg, gyda rhannau o waliau Canoloesol y castell gwreiddiol o’r 13eg ganrif yn dal i sefyll. Adeg hynny, ei enw oedd Castell Coch yng Ngwern-fôr.

Y tu allan i waliau’r castell, fe welwch arwydd yn eich cyfeirio at fedd yr Arglwyddes Grey, a gyrhaeddodd yr un pryd – roedd yr Arglwyddes Grey yn un o’r uchelwyr Canoloesol a ddedfrydwyd i farwolaeth wedi iddi ladd ei gŵr. Mae’r rhai sy’n gweld ysbrydion yn sôn am ffigwr llwydaidd yn gwisgo clogyn sy’n crwydro rhwng y bylchfuriau. Diolch i’r drefn, dim ond y tri phaen godidog a’m dilynodd i o gwmpas y lle.

exterior of red brick castle.
Steinlöwe vor Haupteingang des Ruthin Castle Hotels.
Blick auf Ruthin Castle Hotel.

Castell Rhuthun

Cafodd y rhan fwyaf o’r castell ei ailgodi mewn tywodfaen coch yn y 19eg ganrif, a dyna pryd yr ychwanegwyd y gerddi Eidalaidd hardd. Gallwch chi grwydro’n freuddwydiol drwy’r gerddi hyd heddiw. Gallwch chi hefyd aros noson yn y castell, fel ag y gwnaeth y Tywysog Charles cyn yr arwisgiad yng Nghaernarfon yn 1969 – mae Castell Rhuthun wedi bod yn westy ers blynyddoedd maith bellach. Mae yno hefyd spa gyda stafelloedd ar gyfer triniaethau, ystafell thermol a champfa; a gweinir cinio, te prynhawn a swper ym mwytai'r gwesty

Yna ewch yn eich blaen i waelod y dref i barhau â’ch gwrthryfel drwy Rhuthun...

Yng nghanol y dref, fe ddewch o hyd i blac sy’n dangos lle y bu i Owain Glyndŵr gynnau fflam gyntaf y Gwrthryfel. Roedd hyn ddeuddydd ar ôl iddo gael ei enwi’n Dywysog Cymru. Cafodd llawer o’r dref a’r castell eu difrodi ar y pryd, ond gan fod y dref yn un bwysig i ardal y ffin, fe ddechreuwyd ar y gwaith o adfer y dref yn gyflym.

Ffordd wych o ddod i wybod am hanes y dref o’r pwynt hwn yw drwy ddilyn taith wych Llwybr Celf Rhuthun, sy’n dechrau y tu allan i’r dref yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. (Mae’n werth ymweld â’r Ganolfan ei hun gyda’i harddangosfeydd gwych a’i chysylltiad creadigol â hanes Cymru a’r dref ei hun). O’r man dechrau hwn, fe gewch eich tywys i ddarganfod deg o dyllau ysbio yn waliau tref Rhuthun, ac oddi mewn i’r waliau hynny cewch wybod am chwedlau a hanes Cymru. Mae 22 o ffigurau eraill yn cuddio ym mlaen siopau ac ar doeau hefyd. Mae hyd yn oed coed a meinciau yn cael eu plethu’n rhan o’r llwybr. Mae’r llwybrau’n ddwyieithog ac mae tywysydd radio ar gael hefyd.

Two females looking at the wall and hanging displays at Ruthin Craft Centre.
Display of crafts on table and wall with two women looking at wall artwork at Ruthin Craft Centre.

Canolfan Grefft Rhuthun

Yna mae’n bryd troi at y Tuduriaid…

Ar hyd Stryd y Castell, mae tŷ rhestredig Gradd 1, Nantclwyd y Dre, heddiw’n cael ei ddefnyddio fel amgueddfa leol wych, yn rhoi blas i ymwelwyr o fywydau a chyfnodau gwahanol breswylwyr yno. Cafodd ei ddatblygu gan fwyaf yn ystod Oes y Tuduriaid a gallwch weld yma sut brofiad fyddai cysgu y tu ôl i ffenestri o liain cwyrog yn y 15fed ganrif. Gallwch hefyd syllu’n wirion ar y tŷ bach o’r 17eg ganrif, gweld datblygiad yr adeilad yn y cyfnod Fictoraidd i fod yn ysgol i ferched, a rhyfeddu at ffôn cynnar o ddechrau’r 20fed ganrif. Mae’r amgueddfa ar agor ar ddydd Iau, Gwener a Sadwrn o Ebrill tan Fedi, neu gallwch drefnu ymweliad grŵp rhwng Hydref a Mawrth trwy'r wefan. 

 

Front of Nantclwyd Y Dre - a black and white timbered town house.
Georgian four poster bed in room at Nantclwyd Y Dre.
The garden with flowers and wooden trellises at Nantclwyd y Dre.

Nantclwyd y Dre - o flaen y tŷ rhestredig Gradd 1, tu fewn yr ystafell newydd Sioraidd a'r Ardd Arglwydd. 

Yn y dref, gallwch hyd yn oed fwyta mewn hen dŷ Tuduraidd hyfryd. Caiff The Myddleton Grill On The Square ei adnabod yn lleol fel y Seven Eyes gan fod y ffenestri niferus ar hyd y to yn cynnig golygfeydd gwych dros y dref. Mae ei stafelloedd igam-ogam a’r trawstiau pren yn creu’r awyrgylch berffaith wrth ichi gladdu eich gwledd o gig, yn union fel y byddai Harri VIII wedi ei wneud.

A nawr, fe gamwn ymlaen i’r 19eg ganrif, o gryn uchder...

Os ydych chi eisiau crwydro tu draw i’r dref i weld yr ardal ehangach, bydd rhaid i chi ddringo’n reit uchel ar hyd Bwlch yr Oernant. Wedi ei adeiladu yn 1811 rhwng Mynydd Llandysilio i’r gorllewin a Chyrn y Brain i’r dwyrain, mae’r lôn yn un o gampweithiau gwaith ffordd y 19eg ganrif. Cadwch lygad allan am y defaid, sydd yr un mor hoff o’r olygfa o’r top a'r Cymry eu hunain.

Os ydych chi angen cael gwared o’r bendro, galwch heibio Caffi Ponderosa sydd ar gopa’r bwlch am baned neu frechdan, neu gallwch brynu anrhegion Cymreig yn y Shop In The Clouds (roeddwn i wedi gwirioni gyda’r het siâp cenhinen).

hills and sky.
field with hills and road.

Bwlch yr Oernant

A dyma ddychwelyd i’r presennol cyfoes...

Os ydych chi’n hoff o greiriau o ganol yr 20fed ganrif, mae gan Rhuthun ambell siop hyfryd i chi. Mae gan siop State Of Distress yn Sgwâr San Pedr ddarnau cerameg hyfryd, gemwaith ac ategolion i’r cartref wedi eu huwchgylchu; mae yna deimlad go iawn fod y gorffennol a’r presennol yn dod ynghyd ym mhob twll a chornel o’r dref hon.

Mae hynny hefyd yn wir yn achos rhai o fwytai cyfoes a gwahanol Rhuthun. Roeddwn i’n caru Small Plates, sy’n gweini bon-bons penfras hallt, brithyll wedi ei fygu ar dost cras a danteithion eraill sy’n dod â dŵr i’r dannedd, a hynny o ddydd Iau tan nos Sadwrn.

interior of restaurant
small dishes with food

Bwyty Small Plates

Ymhlith ffefrynnau eraill mae'r Manorhaus sy'n westy bwtîc sy'n gweini bwydlen modern i ymwelwyr y gwesty. 

Mewn gwirionedd; a allai'r gorffennol a'r presennol cyd-fynd yn well? Mil o flynyddoedd o hanes mewn un dref fechan mewn diwrnod! Bydd diwrnod arall yn fy ngalw yn ôl yn fuan.

Straeon cysylltiedig