Cloc Fictoraidd Machynlleth yw un o dirnodau fwyaf eiconig y canolbarth. Mae’r tŵr yn coroni Heol Maengwyn - stryd fawr y dref sy’n frith o siopau a chaffis clyd ac, ar ddydd Mercher, stondinau marchnad - traddodiad a lansiwyd gan y siarter frenhinol yn 1291.
Ar y stryd mae un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Cymru - Senedd-dŷ Owain Glyndŵr. Yma ffurfiodd ‘Y Mab Darogan’ ei senedd yn 1404.
Mae’r dref hefyd yn ganolbwynt gwych i ddarganfod bywyd gwyllt bendigedig safle UNESCO Biosffer Dyfi - yr ardal o gwmpas afon Dyfi a’i foryd sy’n gartref i adar, anifeiliaid a phlanhigion prin.
Canolfan a Senedd-dŷ Owain Glyndŵr
Heddiw, saif Canolfan Owain Glyndŵr ar safle’r senedd enwog lle cafodd Glyndŵr ei goroni’n Dywysog Cymru yn 1404. Mae’r adeilad rhestredig Gradd I yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymunedol, hanesyddol a ddiwylliannol diolch i bwyllgor brwdfrydig o wirfoddolwyr. Gallwch ymweld rhwng 10.30am a 3.30pm ar ddyddiau Mercher, Gwener a Sadwrn neu trwy drefnu o flaen llaw ar gyfer grwpiau mawr.
Ychydig funudau i lawr y ffordd mae cofeb lechen hardd i Glyndŵr ar dir y Plas gydag englyn Dafydd Wyn Jones arni:
Owain, tydi yw'n dyhead,- Owain
Ti piau'n arddeliad,
Piau'r her yn ein parhad
A ffrewyll ein deffroad.
Mae sawl man arall o bwys hanesyddol i Gymru yn y cyffiniau. Ar y ffordd fynyddig o Fachynlleth tua'r de mae Carn Hyddgen lle bu un o frwydrau buddugoliaethus Glyndŵr, ac ychydig i’r gorllewin o'r dref mae pentref Pennal, a roddodd ei enw i Lythyr Pennal a anfonwyd gan Glyndŵr at Frenin Ffrainc yn 1406.
MOMA Machynlleth
Gyda saith oriel arddangos a neuadd gyngherddau yn hen gapel Y Tabernacl, mae digonedd i’w weld a’i wneud ym MOMA Machynlleth.
Mae’r orielau yn llawn o baentiadau, printiau a ffotograffau cyfoes, gyda nifer helaeth o’r arddangosfeydd yn cael eu neilltuo i artistiaid sy’n byw yng Nghymru. Mae cyfle i brynu’r gwaith yn aml hefyd.
Mae’r hen gapel yn cynnal nosweithiau difyr, o sgyrsiau i sioeau cerdd a nosweithiau cerddorol, ac mae’n werth cadw llygad ar eu rhaglen dymhorol.
Gŵyl Gomedi Machynlleth
Dros ŵyl banc mis Mai bob blwyddyn mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn denu enwau mawr y sîn gomedi i dref fach y canolbarth.
Mae cannoedd o sioeau, gyda nifer ohonynt yn waith newydd sy’n cael eu datblygu ar gyfer digwyddiadau fel Gŵyl Caeredin. Ymysg yr enwau o Gymru sy’n perfformio yn aml mae Kiri Pritchard-McLean, Tudur Owen ac Esyllt Sears. Tu hwnt i’r sioeau comedi mae rhaglen o gerddoriaeth byw, perfformiadau theatr a gweithgareddau i blant ar hyd y dref.
Yn ogystal â’r ŵyl gomedi mae Mach yn gartref i ŵyl y Pethe Bychain - gŵyl sy’n cyflwyno rhaglen lawn o gerddorion, storïwyr a dawnswyr gwerin ar draws y dref. Mae digwyddiadau yn cynnwys sesiynau yoga, gweithdai ysgrifennu creadigol a sesiynau chwedlau a llên gwerin.
Un arall i’r dyddiadur yw Gŵyl Machynlleth - wythnos yn dathlu cerddoriaeth, diwylliant a threftadaeth Gymreig a rhyngwladol bob mis Awst ym MOMA Machynlleth.
Bwyd sy'n rhoi Mach ar y map
Bwyty enwocaf yr ardal heb os yw’r bwyty dwy seren Michelin, Ynyshir. Mae’r wledd 30 cwrs yn cyfuno cynnyrch glannau Dyfi â blasau dwys y Dwyrain Pell. Yng ngeiriau’r blogiwr bwyd Lowri Haf Cooke a fu’n ymweld â sêr Michelin sîn bwyd a diod Cymru, ‘disgwyliwch yr annisgwyl, wir, yn neuadd Ynyshir’.
Mae chwaer-fwyty Ynyshir wedi agor ar stryd fawr Machynlleth hefyd, Gwen. Mae’r fwydlen deg cwrs o gig, pysgod a chynyrch lleol yn cael ei choginio ar dân mewn cegin agored o flaen dim ond wyth o wleddwyr. Am brydau llai a dewis da o win ewch i’r bar clyd.
Hefyd yng nghanol Mach mae’r Wynnstay, hen dafarn sy’n gweini cinio Sul blasus, Tŷ Medi, caffi llysieuol a fegan sy’n creu prydau tapas a Mecsicanaidd, a Popty Clai, becws sy’n pobi bara a chacennau ffres.
Os ydych chi'n teithio o Mach i gyfeiriad Talybont mae’n werth galw mewn i hwb cymunedol a chaffi Cletwr - menter sy’n berchen i’r gymuned a’n cael ei redeg gan y gymuned. Mae llyfrgell Gymraeg yn yr adeilad a digwyddiadau gan gynnwys clwb garddio, sesiynau i siaradwyr Cymraeg newydd a sesiynau am hanes y plwyf. Mae’r siop yn gwerthu cynnyrch Cymreig gan gynnwys Coffi Teifi, cigoedd Ty’n y Gors a chwrw Bragdy Mŵs Piws.
Canolfan y Dechnoleg Amgen
Yn 1974 daeth grŵp o bobl â diddordebau amgylcheddol at ei gilydd i greu Canolfan y Dechnoleg Amgen mewn hen chwarel lechi, dair milltir i'r gogledd o Fachynlleth. Mae wedi ysbrydoli cenedlaethau, a dal i wneud hyd heddiw. Mae’r ganolfan yn cynnal cyrsiau dydd, cyrsiau ôl-raddedig a chyrsiau dysgu o bell ar bynciau ymarferol fel poptai pridd, toiledau compostio, uwchgylchu, crefftau traddodiadol ac ynni adnewyddadwy.
Gwarchodfa Natur Ynys-hir RSPB
Gyda mynyddoedd de Eryri i’r gogledd a mynyddoedd y Cambria i’r de, mae’n hawdd gweld pam dewiswyd gwarchodfa RSPB Ynys-hir fel lleoliad ffilmio ar gyfer y gyfres BBC Springwatch.
Mae'r haf yn dod ag adar hardd fel y gornchwiglen a'r pibydd coesgoch a rhai gloÿnnod byw arbennig iawn. Dros y misoedd oerach mae’r hwyaid a gwyddau yn ymgartrefu.
Mae tair milltir o lwybrau i’w darganfod, byrddau picnic ar gyfer y diwrnodau braf a chaban pren clyd gyda stôf goed i'ch cynhesu ar ddiwrnodau oerach - a hyn i gyd o fewn ffiniau safle UNESCO Biosffer Dyfi.
Beicio Mynydd Dyfi
Diolch i wirfoddolwyr grŵp Beicio Mynydd Dyfi mae rhwydwaith o lwybrau beicio mynydd o safon uchel iawn yn yr ardal. Teithiau beicio mynydd clasurol cefn gwlad yw llwybrau Mach 1, 2 a 3. Dilynwch logo Beicio Mynydd Dyfi MTB ar gyfer anturiaethau o amgylch ochr deheuol y Dyfi.
Mae llwybr ClimachX wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi, wyth cilomedr i’r gogledd o Fachynlleth ar yr A487. Mae’n llwybr naturiol wedi’i osod ar greigwely llechi ac mae’r disgyniad olaf yn un o’r rhai hiraf yng Nghymru.
Cors Dyfi
Gwlypdir sy’n noddfa i fywyd gwyllt, ac sy’n gartref i Brosiect Gweilch Dyfi a Chanolfan Natur Dyfi yw Cors Dyfi. Rhwng Ebrill ac Awst yw’r amser gorau i ymweld, pan, fel arfer, bydd y Gweilch (a ddechreuodd fridio yno am y tro cyntaf yn 2011) yn y warchodfa. Mae dyfrgwn a barcutiaid cochion yno yn gyson trwy gydol y flwyddyn hefyd.
Mae cyfleusterau’n cynnwys Arsyllfa 360 Dyfi, cuddfan adar a Chanolfan Natur Dyfi sydd â siop, caffi a thoiledau hygyrch.
Corris
Mae digon i ddiddanu’r teulu cyfan yn Corris Mine Explorers sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Grefft Corris. Gwisgwch het galed ar gyfer daith o amgylch hen fwynglawdd llechi, neu ewch ar daith danddaearol chwedlonol yn Labyrinth y Brenin Arthur. I’r rhai crefftus cymerwch ran mewn sesiwn grochenwaith, creu canhwyllau neu siocled.
Rheilffordd gul yw Rheilffordd Corris a adeiladwyd yn ôl ym 1859. Mae'n rhedeg o Gorris i Faespoeth. Mae siop, amgueddfa a man chwarae i blant yn yr orsaf. Mae'r daith gyfan yn cymryd 50 munud gydag egwyl ym Maespoeth i ymweld â'r gweithdy.
Cyrraedd Machynlleth
Mae gorsaf drenau Machynlleth ar Heol y Doll yng ngogledd y dref.
Mae gwasanaeth bws T12, T2, X28 a mwy yn gwasanaethu Machynlleth.