Yn ddiweddar, es i ar daith gerdded bron i 300 milltir ar draws Cymru. Cefais fy ysbrydoli i ddechrau ar fy antur ar ôl clywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru i sefydlu Coedwig Genedlaethol i Gymru – menter dros Gymru i greu llwybr bioamrywiaeth drwy'r wlad fyddai'n cysylltu coetiroedd presennol a phlannu coed newydd ar hyd y ffordd. Nid yn unig y byddai'r goedwig yn cynnal gwahanol ecosystemau, ond byddai hefyd yn help i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a darparu llwybrau hygyrch i ddarganfod byd natur wrth i bobl wneud defnydd o lwybrau cerdded a llwybrau beicio.

Cefais fy swyno gan y syniad o Goedwig Genedlaethol, ac fe sbardunodd hyn syniad i mi ar gyfer prosiect llyfr newydd. Beth os oes modd mapio a cherdded llwybr cerdded dychmygol, un a fyddai'n llwyddo i adrodd hanes Cymru, ond hefyd yn ysgogi pobl i ailgysylltu â natur?

Dyma rai o safleoedd y Goedwig Genedlaethol es i ar fy nhaith. Cofiwch fod modd i chithau eu crwydro hefyd!

Coed Gwent, ger Casnewydd

Dechreuais fy nhaith yng Nghoed Gwent, ger Casnewydd, sy'n cynnwys rhai o goetiroedd hynaf Cymru. Mewn un cyfnod, roedd y rhan hon o dde Cymru yn gadarnle i'r Celtiaid Silwraidd a oedd yn byw yn y goedwig ac yn trin rhannau ohoni hyd at ddyfodiad y Rhufeiniaid. Roedd gan y Derwyddon bŵer arbennig, bron yn siamanaidd, ymhlith y Celtiaid. Roedd ganddyn nhw gysylltiad arbennig â’r coed – coed derw yn arbennig – a phan fyddwch chi’n cerdded trwy rannau hynaf y goedwig hon, nid anodd yw deall pŵer byd natur dros ein cyndeidiau.

 Llwybr coetir trwy goed uchel, ar ddiwrnod heulog.
Coetir gyda chlychau'r gog yn carpedu'r ddaear.

Coedwig Coed Gwent, ger Casnewydd

Coetir Ysbryd Llynfi, ger Maesteg

Saif Coetir Ysbryd Llynfi ar safle hen Lofa Coegnant a Golchfa Maesteg. Fe’i sefydlwyd yn 2015 fel rhan o brosiect adfywio lleol 10 mlynedd, gyda'r diben o ailgyflwyno pobl leol i'r byd natur ar garreg eu drws a thrwy hynny, hyrwyddo bioamrywiaeth. Mae'r coetir yn gorchuddio tua 75 hectar o hen dir diwydiannol ac mae dros 60,000 o goed eisoes wedi'u plannu gan bobl leol gan gynnwys cymysgedd o goed llydanddail, coed ffrwythau a choed addurniadol. Heddiw, mae rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio wedi eu sefydlu yma, sy’n ei gwneud yn goetir ifanc sy'n hawdd ac yn hygyrch i bobl leol ac ymwelwyr grwydro.

Cerflun o löwr ar blinth carreg.
Coetir a phentref.
A woman walking along a gravelled path in woodland.

Ysbryd Coetir Llynfi, ger Maesteg

Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot

Yn 48 milltir sgwâr o faint, Parc Coedwig Afan yw un o goedwigoedd mwyaf Cymru. Dros y degawd diwethaf, mae wedi cael ei ail-ddychmygu a’i ail-lunio i fod yn un o gyrchfannau beicio a cherdded gorau’r Deyrnas Unedig. Fe’i galwyd gan Mountain Bike Magazine yn un o’r 10 lle gorau yn y byd i'w feicio cyn marw hyd yn oed. Mae beicwyr yn teithio o bob rhan o'r wlad i fynd i'r afael â llwybrau technegol gydag enwau fel y Blade a'r Wall, tra bod cerddwyr yn mwynhau milltiroedd o lwybrau wedi'u cynllunio'n dda (gan gynnwys Rhodfa Illtud Sant, llwybr cerdded sy'n ymestyn dros y pellter hir o Barc Sir Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin i Barc Gwledig Margam ger Port Talbot).

Golygfa ddibeilot o lyn a dyffryn gwyrdd a llwybrau ym Mharc Coedwig Afan.

Parc Coedwig Afan, Port Talbot

Coed y Bont, ger Tregaron

Mor hawdd yw pasio heibio Coed y Bont yn ddiarwybod – y coetir cymunedol bach sydd wedi’i leoli ar gyrion Pontrhydfendigaid yng nghanol Ceredigion. Ond mae'n werth ymweld â Choed y Bont am ddau reswm. Yn gyntaf, mae'n caniatáu ichi gysylltu â natur trwy gyfrwng dau goetir rhyng-gysylltiedig, un yn cynnwys coed conifferaidd, a'r llall yn ddarn hynafol o goed cyll a derw, ac yn ei rannau mwy corsiog, gwelir coed bedw a gwern. Yn ail, mae'r goedwig hon wedi'i lleoli wrth ymyl Ystrad Fflur, yr hen Abaty Sistersaidd lle ysgrifennwyd rhai o'r llawysgrifau gwreiddiol a ddaeth yn enwog wedyn fel y Mabinogi. Mae hefyd yn fan gorffwys i lawer o dywysogion a beirdd Cymru gan gynnwys Dafydd ap Gwilym.

Darllen mwy: Bro’r Barcud: Tregaron a thu hwnt

Cysgodfan bren gron mewn coetir, gyda delweddau o fywyd gwyllt o gwmpas y tu mewn.
Llwybr coetir ar ddiwrnod heulog.
 Llwybr coetir.

Coed y Bont, near Tregaron

Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Saif y parc coedwig hwn ychydig i’r gorllewin o bentref Ponterwyd, ac mae'n enwog am ei ganolfan bwydo barcudiaid coch sy’n digwydd yn ddyddiol yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ac am ei lwybrau beicio a cherdded. Mae un ohonynt, Llwybr Elenydd, yn cynnwys cerfluniau pren sy'n dathlu llên gwerin a chwedlau lleol gan gynnwys Cnocwyr Cwmsymlog – yr enw a roddwyd i'r tylwyth teg y dywedwyd eu bod yn helpu glowyr i leoli semau o blwm trwy wneud synau curo.

Dau oedolyn a dau blentyn yn edrych ar gerflun pren addurnedig ar lwybr awyr agored
Llwybrau coetir ar hyd ochr bryn.

Cerfluniau ar Lwybr Elenydd, a llwybr troed ym Mwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Coedwig Dyfi, Gwynedd

Wedi’i lleoli rhwng Machynlleth a Dolgellau, saif Coedwig Dyfi yng nghysgod mynydd ysblennydd a mawreddog Cader Idris. Mewn un cyfnod, roedd Cymru yn wlad ffyniannus oherwydd ei diwydiant llechi, ac ychydig y tu allan i bentref Aberllefenni, gallwch grwydro’n ôl mewn amser ar lwybr byr sy’n ymdroelli drwy’r hen fwyngloddiau a’r hen offer winsio a fyddai unwaith wedi tynnu wagenni llechi i fyny ac i lawr y mynydd.

A shallow river in woodland, with a picnic bench on grass nearby.
Two women sat on a bench overlooking a woodland sided valley and a small hamlet.

Foel Friog, ger Aberllefenni, Coedwig Dyfi

Parc Coedwig Gwydir, Hafna, ger Llanrwst

Yn ôl yn y 18fed ganrif, ysgrifennodd yr awdur teithio cynnar a chlodwiw, Thomas Pennant, fod “y derw mwyaf nobl yng Nghymru gyfan” yn tyfu yng Nghoedwig Gwydir. Cafodd llawer o'r rhain eu cwympo ar ddechrau’r 20fed ganrif ond mae gan y coetir mawr hwn ar odrau Parc Cenedlaethol Eryri, sydd yn goed conwydd yn bennaf, lawer o fannau cyfrin, hyfryd o hyd – gan gynnwys rhannau o Lwybr Llechi Eryri a Tŷ Mawr Wybrnant, cartref yr Esgob. William Morgan, sef y person cyntaf i gyfieithu’r Beibl ar ei hyd i’r Gymraeg.

A lady sat on a bench overlooking woodland and mountains.
A woman and young child walking along a woodland path.
A woman walking a footpath towards a lake. The lake is surrounded by woodland.

Parc Coedwig Gwydir, Hafna, ger Llanrwst

Coedwig Clocaenog, Bod Petryal, ger Rhuthun

Amcangyfrifir bod yr ardal enfawr hon o goetir sydd wedi’i lleoli i’r dwyrain o Fetws y Coed ac i'r gorllewin o Ruthun gyfystyr â thua 10,000 o gaeau rygbi! Plannwyd Coedwig Clocaenog gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y 1930au ac heddiw, dyma un o’r ychydig lochesau i boblogaethau gwiwerod coch Cymru sydd mewn perygl. Mae maes parcio Bod Petryl yn cynnig mynediad i lwybrau cerdded hawdd ar lan y llyn tra bod cofeb Pincyn Llys, a godwyd yn y 1830au i ddathlu plannu coetir cynharach, yn cynnig golygfeydd trawiadol ar draws y Dyffryn i Glwyd. Gall cerddwyr anturus ei gyrraedd trwy ddilyn Llwybr Hiraethog, sy'n 42 milltir o hyd. Gall ymwelwyr llai anturus barcio gerllaw a cherdded y 10 munud i ben y bryn!

Matthew Yeomans yw awdur Return to My Trees – Notes from the Welsh Woodlands, a gyhoeddwyd gan Calon Books.

A woman and dog walking in front of a tall pyramidish stone monument.
Two adults and a child at a picnic table in woodland.

Coedwig Clocaenog, Bod Petryal, ger Rhuthun

Straeon cysylltiedig