Mae pobl wedi cloddio am lechi yn y gogledd ers cyfnod y Rhufeiniaid. Ond yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, cyrhaeddodd y cyfan benllanw pan ddaeth llechi Cymru yn un o nwyddau pwysicaf y byd. Ar ei anterth, roedd y diwydiant yma’n cyflogi tua 17,000 o ddynion ac yn cynhyrchu bron i hanner miliwn tunnell o lechi bob blwyddyn.
Ym mis Gorffennaf 2021, daeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn bedwerydd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Cymru. Gan ymuno â Chestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I, Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, roedd dynodi’r Dirwedd Llechi yn dyst i effaith hynod y diwydiant llechi ar y rhan hon o Gymru.
Wrth i fwy a mwy o chwareli anferth agor, gwelwyd tro ar fyd heb ei debyg mewn ardal a fu gynt yn wledig a thawel. Creodd hyn dirwedd cwbl unigryw a gyfunai nodweddion naturiol a’r nodweddion oedd wedi’u creu gan ddyn. Ond nid dim ond effeithio ar bryd a gwedd yr ardal wnaeth hyn. Dylanwadodd llechi ar gymdeithas a diwylliant y fro hefyd, gan weddnewid sut roedd pobl leol yn byw, yn gweithio ac yn hamddena. Heddiw, mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi’i rhannu yn chwe phrif ran, a phob un yn bennod wahanol yn hanes llechi yn ein gwlad.
Darllenwch ragor i ddysgu mwy am bob rhan yn ei thro, neu defnyddiwch y dolenni i fynd yn syth i’r adran berthnasol:
OgwenDyffryn Ogwen
Go brin nad oes ffordd well o gael eich cyflwyno i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru na thrwy ryfeddu at ehangder aruthrol Chwarel y Penrhyn. Yn ei hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, hon oedd chwarel lechi fwyaf y byd i gyd – a hithau’n cyflogi 3,000 o chwarelwyr ac yn cynhyrchu bron i 100,000 tunnell o lechi bob blwyddyn. Er bod Chwarel y Penrhyn yn dal i gynhyrchu llechi (ar raddfa dipyn llai erbyn hyn!), mae hi hefyd yn enwog bellach am ei gweithgareddau antur.
Mae Zip World Penrhyn yn cynnig amryw o brofiadau unigryw ar dir creigiog y chwarel – ac uwchben y tir hwnnw hefyd. Yn eu plith mae gwifren wib gyffrous Velocity – sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr hedfan drwy’r awyr ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr – a thaith Chwarel y Penrhyn mewn tryc oddi ar y ffordd dros y tir garw. Taith yw hon sy’n cyfuno golygfeydd godidog â chyfle i ddysgu am hanes y lle. Draw yng Nghastell Penrhyn, fe gewch chi ddysgu am ran fwy tywyll o hanes y fasnach lechi. Y teulu Pennant a gododd y plasty moethus hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hwythau wedi gwneud eu cyfoeth mawr yn chwareli’r gogledd ac ym mhlanhigfeydd siwgr Jamaica – ar draul llafur caethweision, wrth gwrs.
Cerdded yw un o’r ffyrdd gorau o weld tirwedd Dyffryn Ogwen. Ewch i grwydro glannau Llyn Ogwen ar daith gylchol fer sy’n rhoi golygfeydd gwych o fynyddoedd Tryfan a’r Glyderau. Neu beth am ymestyn eich coesau drwy fynd am dro hirach ar hyd Lôn Las Ogwen, sy’n dilyn llwybr yr hen reilffordd gul rhwng Porth Penrhyn a phentref Glasinfryn.
DinorwigChwarel Dinorwig
A honno’n sefyll gerllaw dyfroedd Llyn Padarn a Llyn Peris, a chopa’r Wyddfa fry uwch eich pen, mae Chwarel Dinorwig yn sefyll mewn lle anarferol o dlws ac ystyried mai dyma oedd un o brif ganolfannau diwydiannol y gogledd ar un adeg. Er nad oes neb wedi cloddio am lechi yma ers 1969, dim ond ail i’r Penrhyn oedd Dinorwig o ran maint a phwysigrwydd. Mae dwsinau o bonciau yn dal i’w gweld ar ochr y mynydd, ynghyd â gweddillion offer a pheiriannau ac olion amryw o adeiladau a gweithdai.
I ddysgu popeth am dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal, ewch am dro i Amgueddfa Lechi Cymru. Mae gwaith adnewyddu mawr yn mynd rhagddo yno ar hyn o bryd, felly cofiwch fynd i’r wefan i weld y sefyllfa ddiweddaraf. A honno wedi’i lleoli yn hen weithdai Chwarel Dinorwig, mae’n ddarn o hanes ynddo’i hun sy’n bwrw goleuni ar y technolegau a’r technegau a fyddai’n cael eu defnyddio i gynhyrchu llechi. Mae’n rhoi cip i ni hefyd ar fywydau’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Tra bo’r amgueddfa ar gau, mae modd gweld arddangosfa dros dro yn Ysbyty’r Chwarel ym Mharc Gwledig Llyn Padarn – sydd hefyd yn gartref i rwydwaith o lwybrau cerdded a gweithgareddau gan gynnwys chwaraeon dŵr a dringo creigiau.
Os byddai taith fach ar drên yn mynd â’ch bryd, mae Rheilffordd Llyn Padarn yn cynnig tro hyfryd ar lan y dŵr, neu mentrwch i’r entrychion ar Reilffordd yr Wyddfa. Am hanes hŷn fyth, ewch am dro i Gastell Dolbadarn, sydd wedi sefyll uwchben y dyffryn hwn ers y drydedd ganrif ar ddeg.
NantlleDyffryn Nantlle
Yn wahanol i chwareli anferth Penrhyn a Dinorwig, nifer o chwareli llai yma ac acw sydd i’w canfod yn Nyffryn Nantlle. Byddai’r llechi a’r gwastraff yn cael eu codi o dyllau dwfn a gloddiwyd yn llawr y dyffryn, a hynny’n galw am dechnegau ac offer arbenigol. Cadwch olwg am y blondins sy’n ymdebygu i raffau tynn (a gafodd eu henwi ar ôl Charles Blondin, y diddanwr mentrus a gerddodd dros raeadr Niagara) a’r inclêns cadwyn yng Nghloddfa’r Lôn a Phenbryn – y rheini wedi’u dyfeisio gan beirianwyr lleol medrus dros ben.
Un o’r ffyrdd gorau o grwydro’r ardal yw drwy ddilyn Llwybrau Llechi Bro Nantlle. Yn ogystal â rhoi cipolwg i ni ar hanes diwydiannol y dyffryn, mae’r pum llwybr hefyd yn datgelu elfennau eraill yn hanes Nantlle. Mae un o’r llwybrau’n eich tywys drwy bentref Rhosgadfan, cartref yr awdures Kate Roberts, a gafodd ei hysbrydoli gan fywydau caled y bobl a fu’n byw ac yn gweithio yn chwareli’r fro.
Mae modd cael blas o fwydydd a diodydd lleol yng Ngwinllan Pant Du, lle cewch chi fynd ar daith dywys o amgylch y gwinllannoedd (a blasu rhywfaint o’r gwin penigamp) yn ogystal â mwynhau pryd yn y bwyty. Os bydd angen ychydig o egni arnoch chi, ewch i Poblado am goffi braf. Maen nhw’n defnyddio ffynonellau annibynnol ac yn rhostio’r coffi yn hen farics y chwarelwyr, sef pencadlys Poblado erbyn hyn.
GorseddauGorseddau a Bwlch y Ddwy Elor
Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol pan oedd y diwydiant llechi ar ei anterth, golygodd ansawdd gwael y graig yn y ddwy chwarel yma iddyn nhw fynd i’r wal ar ôl ychydig flynyddoedd yn unig. Ond er eu diffyg llwyddiant, mae eu hoes fer yn eu gwneud yn arbennig o ddiddorol o safbwynt hanesyddol. Yn sgil y datblygiadau newydd a’r arloesi a ddaeth wedyn, efallai ei bod hi’n anodd dychmygu sut lefydd oedd rhai o’r chwareli yn eu cyfnodau cynnar. Ond mae byrhoedledd chwareli Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor (neu’r ‘Prince of Wales’) yn gapsiwl amser i’r diwydiant llechi yng nghanol y bedwaredd ar bymtheg. Mae’r ponciau lle byddai’r llechi’n cael eu torri yn dal i’w gweld, ynghyd â gweddillion pentref Treforys a llwybr yr hen reilffordd gul a adeiladwyd i gludo’r llechi i Borthmadog.
Efallai mai’r nodwedd fwyaf trawiadol yw Melin Lechi Ynyspandy. Mae adfeilion yr hen adeilad mawreddog hwn – heb y to – yn sefyll gerllaw’r rheilffordd, ryw filltir o chwarel Gorseddau. Mae maint y felin yn dangos pa mor obeithiol oedd pobl wrth chwarela yn y rhan hon o’r gogledd ar un adeg.
Heddiw, mae’r lle heddychlon hwn yn boblogaidd ymysg cerddwyr. Os byddwch chi’n mynd am dro, mae cyfle i gael hoe yn Ystafell De Tyddyn Mawr, sy’n agos at lannau Llyn Cwmystradlyn.
FfestiniogFfestiniog a Phorthmadog
Roedd Blaenau Ffestiniog yn enwog ar un adeg fel y ‘dref a roddodd do ar y byd’, ond mae hi bellach yn fwy adnabyddus fel un o brif ganolfannau gweithgareddau awyr agored Prydain. Mae olion diwydiannol Ffestiniog yn dal i’w gweld ar y tir ac oddi tano yn Zip World Llechwedd. Mentrwch i grombil y ddaear ar daith arbennig, llamwch ar y trampolinau yng nghanol ceudyllau anferth Bounce Below, neu gafaelwch mewn clwb a chwarae rownd fach o golff ym mherfeddion y mynydd.
Yn ôl ar yr wyneb, beth am hedfan ar wifren wib Titan i weld y chwareli o’r entrychion, neu deithio mewn tryc o amgylch y gweithfeydd? Yma hefyd y mae Antur Stiniog, canolfan beicio lawr allt sy’n cynnig gwefr i bawb – o ddechreuwyr pur i hen lawiau. Ac os byddai’n well gennych chi gadw’ch traed ar y ddaear, mae dewis o naw llwybr ar Daith Gerdded Bro Ffestiniog.
Canolfan gludiant oedd Porthmadog i’r diwydiant llechi, ac o harbwr y dref y byddai llechi Blaenau Ffestiniog yn mynd yn eu blaenau i bedwar ban byd. Adeiladwyd llongau yma, a dynion lleol fyddai’r criw. Mae rhagor o’u straeon i’w canfod yn Amgueddfa Forol Porthmadog. Yn cysylltu ‘Stiniog’ a ‘Port’ mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Ar ôl teithio dros y Cob a moryd Glaslyn, mae’r daith 13.5 milltir yn troelli drwy fynyddoedd a choedwigoedd, a heibio i lynnoedd a rhaeadrau.
AbergynolwynAbergynolwyn a Thywyn
Mae’r rhan fwy gwledig hon o dde Gwynedd yn teimlo’n go bell o’r chwareli anferth tua’r gogledd, ond gadawodd y fasnach lechi ei hôl ar fan hyn hefyd. Uwchben Abergynolwyn, fe ddewch chi o hyd i Chwarel Bryneglwys. Er mai chwarel fechan oedd hon o’i chymharu â rhai o’r lleill, mae’n drawiadol tu hwnt diolch i’r olwyn sydd wedi para’n dda yma. Hon a fyddai’n rhoi pŵer dŵr ar un adeg i godi’r slabiau llechi o lawr y chwarel.
Mae rheilffordd hanesyddol Talyllyn yn atgof arall o ddiwydiant llechi’r fro. Adeiladwyd hon yn wreiddiol i gludo llechi o Fryneglwys i Abergynolwyn a Thywyn. Creodd y rheilffordd gul hanes yn 1951 pan gafodd ei hachub a’i throi yn rheilffordd dreftadaeth ar gyfer ymwelwyr – y tro cyntaf yn y byd i hynny ddigwydd.
Mwy o wybodaeth
- Llwybr Llechi Eryri – Taith gerdded 83 milltir wedi’i rhannu yn 13 rhan
- Llechi Cymru – Gwybodaeth fanwl am orffennol a phresennol y dirwedd llechi
- Ymweld ag Eryri – Gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i ymwelwyr am bethau i’w gweld a’u gwneud yn y fro