Ers 1992, mae miloedd wedi heidio i’r dref bob Gorffennaf i fwynhau’r Sesiwn Fawr - gŵyl gerddorol sydd wedi llwyddo i ddenu rhai o artistiaid mwyaf y sîn a bob cwr o’r byd. Un o drefnwyr y Sesiwn Fawr, Branwen Rhys Dafydd, sy’n ein tywys o amgylch y dref ble mae croeso cynnes yn aros amdanoch drwy gydol y flwyddyn gron.

Sesiwn Fawr Dolgellau - y gorau o fyd gwerin

Dros dri degawd, mae’r Sesiwn Fawr wedi llwyddo i ddenu miloedd i Ddolgellau i wrando ar rai o artistiaid mwyaf ‘Cŵl Cymru’ fel Cerys Matthews a’r Super Furry Animals ynghyd â cherddoriaeth gwerin a byd, yn ogystal â rhoi llwyfan i fandiau fel Frizbee (ac Yws Gwynedd yn ddiweddarach), Yr Ods, Sŵnami a Lewys i ddatblygu a hawlio eu lle ar flaen y sîn gerddoriaeth Gymraeg cyfoes. 

Poster Sesiwn Fawr Dolgellau 2008 gyda darlun o ferch gyda gwallt hir yn chwarae'r ffidl.
Poster Sesiwn Fawr Dolgellau 2006. Mae'r cefndir yn felyn gyda haul retro yn codi o'r ysgrifen Sesiwn Fawr. Mae llun allweddi piano ar draws canol y poster ac enwau'r band mewn tonnau melyn a brown.
Poster Sesiwn Fawr Dolgellau 2005 gydag enwau nifer o fandiau gan gynnwys Super Furry Animals. Mae'r poster yn las gyda sêr a logo coch ar ffurf pwmp cwrw.

Posteri Sesiwn Fawr Dolgellau'r gorffennol

Ar benwythnos cynta’r gwyliau haf yn flynyddol, mae’r Sesiwn Fawr yn troi strydoedd Dolgellau yn faes gŵyl werin fywiog, gyda cherddoriaeth, llên, comedi, a gweithgareddau i blant yn cael eu llwyfannu ar draws amrywiol leoliadau’r dref. Erbyn hyn mae prif lwyfan yr ŵyl wedi ei lleoli yng nghefn Gwesty’r Ship.

Mae adloniant cerddorol ar amrywiol lwyfannau tafarndai annibynnol y dref hefyd fel yr Unicorn, y Stag a'r Torrent. Ac os oes gennych gitâr yn yr atig, bodhran yn y cwpwrdd, neu ffidil dan y gwely, yna dewch â nhw! Mae hi’n bur debyg bydd sesiynau jamio yn codi cân mewn ambell i dafarn.

Cynulleidfa fawr yn gwylio band gwerin Calan ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae sawl fflag uwch ben baner Sesiwn Fawr gan gynnwys Cymru, Ewrop, Yr Alban ac Ynys Manaw.
Criw o bobl ifanc yn jamio tu allan i dafarn yn chwarae ffidl a gitâr.

Calan yn cloi Sesiwn Fawr Dolgellau 2019 yng Nghefn Gwesty'r Ship a chriw yn jamio tu allan i dafarn y Torrent

Adeiladau hen a hynod

Wrth grwydro strydoedd cul, igam-ogam y dref, gwelwch fod ôl ei hanes wedi ei gerfio’n ddwfn yn ei maen, gyda dros 230 o dai Dolgellau wedi eu nodi ar restrau cadwraeth drefol - y crynodiad uchaf i unrhyw dref yng Nghymru! O Oes y Crynwyr i dwf y capeli, o weddillion y diwydiant gwlân i’r aur sydd yn dal i guddio dan fryniau cyfagos - mae’r dref hynod dlws hon yn llawn trysorau pensaernïol y gellir eu darganfod ar droed…

Cofiwch edrych i fyny wrth grwydro - debyg iawn y gwelwch ddrysau uchel a theclynnau codi sy’n brawf o anterth diwydiant tecstilau’r dref, neu ffenestri bychain crwn adeiladau a fu, yn ôl y sôn, yn dai cwrdd cudd ar gyfer y Crynwyr. 

Darllen mwy: hanes nodweddion trefol Dolgellau.

Cader Idris

Y Gader yw prif reswm nifer o ymwelwyr i Ddolgellau bob blwyddyn. Yn ôl y sôn, blynyddoedd yn ôl, bu’r mynydd yn ‘Gadair’ i Idris Gawr... ond ‘Cader Idris’ bydd y bobl leol yn ei galw, gan mai hen air am ‘gaer’ ydi ‘cader’ - ac mae’r dref yn sicr yn swatio ar odre’r mynydd.

Yn bwrw cysgod dros aber hyfryd Afon Mawddach mae tri phrif lwybr i ddringo’r 893 metr i gopa’r Gader - Llwybr Pilin Pwn, Llwybr Llangfihanel y Pennant, a Llwybr Minffordd (ambell un yn haws na’i gilydd!). Cofiwch wneud eich gwaith cartref cyn mentro a dilyn cyngor diogelwch ar y mynydd i wneud yn siŵr bod yr offer priodol gennych chi cyn dechrau arni - os oes unrhyw beth ar goll o’ch rhestr, gallwch eu cael o Siop y Gader ar y Sgwâr yng nghanol y dref.

Mwynhau rhedeg? Beth am fentro Ras y Gader? Yn un o’r rasys mynydd anoddaf yng Nghymru, mae’n un o uchafbwyntiau calendr y rhedwyr yn flynyddol, a gynhelir bob mis Mai. Mae’r ras 16.9km o hyd yn dechrau ac yn gorffen yng nghanol tref Dolgellau, ar lefel y môr, cyn dringo at uchelfannau Penygader - copa uchaf cadwyn Cader Idris.

Os nad ydych chi am fentro fyny at gopa’r Gader ei hun, mae digon o lwybrau mynyddig eraill ychydig llai heriol, sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r fro fel Llwybr Cynwch neu Moel Offrwm ar ystâd y Nannau yn Llanfachreth, Foel Caerynwch yn Brithdir; neu Lwybr Foel Ispri ger Llanelltyd sydd â maes parcio ger llaw, ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Machlud haul o uwch ben mynydd (Cader Idris). Mae'r awyr yn oren a las ac mae'r mynyddoedd ym mlaen y llun yn wyrdd tywyll.

Y machlud o Benygader, copa uchaf cadwyn Cader Idris

Bwyd

Mae cerdded, dawnsio a chrwydro yn waith llwglyd ond mae gwledd o gaffis a bwytai yn disgwyl i’ch llonni a’ch llenwi yn Nolgellau. Os am frecwast mawr i’ch paratoi ar gyfer y dydd, yna Caffi’r Sgwâr neu'r Hen Efail yw’r lle i chi. 

Os am ginio dydd Sul neu bryd mi nos draddodiadol, mae bwyty'r Cross Foxes ar groesffordd Tal-y-Llyn yn arhosfa gyfarwydd i deithwyr yr A470, neu mae bwyd gwerth chweil ym mwyty’r Meirionnydd o fewn y dref ei hun hefyd. Am flas o dramor cadwch fwrdd ym mwyty tapas arobryn Tafarn y Gader sydd wedi ennill sawl gwobr The Food Award Wales am y sefydliad bwyd môr y Canoldir gorau yng Nghymru; neu gallwch groesi’r Fawddach i Lanelltyd i fwynhau pitsa cartref gyda golygfeydd o’r Gader a Morfa Mawddach i lawr at gyfeiriad y Bermo, o leoliad hyfryd Bwyty Mawddach.

Wrth ddilyn y system unffordd allan o’r Sgwâr yng nganol y dref, fe ddowch at gaffi croesawgar a phoblogaidd y Sospan. Mae dewis da o frechdanau, tatws pôb a phrydau mwy yma, gyda chynigion arbennig i ymwelwyr sydd wedi ymddeol. Dyma hen adeilad Neuadd y Dref, sy’n dyddio’n ôl i 1606 lle cadwyd crwydron a meddwon dan glo ers talwm. Ceisiwch gael sedd i fyny staer yma i chi gael profi naws yr adeilad! 

I’r rhai sydd â dant melys, mae’n rhaid i chi drio un o dartennau cwstard Becws DD’s ar y Sgwâr, neu de prynhawn yng Nghaffi Gwyndy. Ac wrth gwrs, gallwch chi ddim dod i Ddolgellau heb fynd heibio Popty’r Dref am ‘hyni byn’... mae’r rysáit y gacen leol hon yn gyfrinach, ond mae rysáit hyni byns Elliw Gwawr yn dod yn agos iawn at ei datgelu! 

Hen adeilad cerrig gyda ffenestri a drws coch ac arwydd melyn yn dweud Y Sospan.

Caffi'r Sospan yn hen adeilad Neuadd y Dref sy'n dyddio'n ôl i 1606, Dolgellau

Prynu’n lleol

Gallwch chi ddim gadael y dref heb gofrodd o’ch ymweliad, ac mae’r dref yn gist o siopau bychain annibynnol sy’n llawn trysorau i ddewis ohonynt. Os am rywbeth i’r tŷ neu ddarn o emwaith ewch i Siop Medi - a chofiwch aros eiliad tu allan i edmygu arddangosfa ffenest y siop! Neu beth am alw i weld Llinos a Dylan yn siop Gwin Dylanwad am bob math o boteli gwin, gan gynnwys rhai Cymreig o winllan Llaethlliw neu Montgomery?

Aros yn Nolgellau

Mae dewis da o wersylloedd a bythynnod gwyliau o fewn cyrraedd i’r dref, ond os am rywbeth mwy moethus, beth am wely a brecwast Dolgun Uchaf, neu treuliwch benwythnos yn ymlacio ym mhlasty Penmaen Uchaf ym Mhwll Penmaen sydd â gerddi eang a golygfeydd godidog dros y Fawddach.

Os mae hanes yw eich pethau, beth am fentro i bentref Llanelltyd gerllaw lle gallwch aros ym mythynnod fferm y Vanner sy’n rhannu safle â hen adfeilion Abaty Cymer, sy’n dyddio’n ôl i 1198. Mae Safle’r Abaty ar agor i ymwelwyr rhwng Ebrill - Hydref.

Adfeilion hen abaty gyda thair hen ffenestr bwa agored mawr. Mae'r tywydd yn braf a'r awyr yn las.

Hen adfeilion Abaty Cymer ar fferm y Vanner, Llanelltyd

Ar groesffordd Cymru

Mae Dolgellau ar groesffordd Cymru yn ne Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r A470 yn pasio drwy’r dref yn cysylltu’r gogledd a’r de, yr A494 yn ein cysylltu â’r gogledd ddwyrain, a’r A487 yn ein cysylltu â’r de orllewin. Felly, wedi i chi orffen crwydro’r dref ei hun, gall Dolgellau ddod yn ganolfan hwylus iawn ar gyfer darganfod ardaloedd cyfagos, hefyd. 

O fewn ugain munud o ganol Dolgellau, gallwch fod yn cerdded un o lwybrau Cader Idris, rhwyfo ar Lyn Tegid; seiclo, cerdded neu fynd mewn cadair olwyn i lawr y Llwybr Mawddach yn dilyn yr hen reilffordd i gyfeiriad y Bermo; pysgota yn Llyn Mwyngil yn Nhal-y-llyn; neu ddianc i lonyddwch Llynnoedd Cregynnan - sydd hefyd yn le gwych i syllu ar y sêr ac edmygu awyr y nos! Mae rhywbeth i’r teulu cyfan gerllaw gyda chanolfan feicio Coed y Brenin bedair milltir i’r gogledd yn y Ganllwyd, Labrinth y Brenin Arthur ddeg milltir i’r de yng Nghorris, a Chanolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.

Felly, y tro nesaf byddwch chi’n dringo’r Gader, yn ymweld â’r Sesiwn, neu’n gyrru i fyny ac i lawr yr A470 - galwch fewn i’n gweld ni! Mae hen ddigon i wneud yma, a chroeso cynnes yn eich disgwyl yn Nolgellau dros benwythnos y Sesiwn Fawr, a thu hwnt.

Golygfa o fynyddoedd a choetir gwyrdd gydag aber yr afon Mawddach yn y canol. Mae'r awyr yn las ar ddiwrnod braf.
Person ar gefn beic yn gwibio ar lwybrau igam ogam trwy'r coed.

Y Fawddach a Choed y Brenin

Straeon cysylltiedig