Ysbrydolir fy mwyd gan yr ardal o'm cwmpas

Rwyf am gynnig y profiad gorau y gall fy sgiliau i ac arfordir, cefn gwlad a thirwedd Cymru ei gynnig. Mae tair elfen yn perthyn i ddiwrnod chwilota nodweddiadol, sef planhigion y cloddiau, planhigion y draethlin a gwymon, a ffyngau. Fe deimlwch gysylltiad anferth â'r amgylchedd. Bydd popeth a gasglwn yn cael ei gynnwys mewn cinio aml-gwrs anhygoel yn ôl yn y gwersyll ger Penfro. Mae fel bwrdd prif gogydd, ond yn llawer llai ffurfiol. Yr hyn rwy'n ei wneud yma yw creu math newydd o fwyd sy'n efelychu Cymru. Rwy'n awyddus iawn i gyfleu'r neges i'r byd coginio y gall Cymru fod yn gyrchfan bwyd o'r radd flaenaf gyda'r pwyslais ar ymdeimlad cryf o le: 'Cymru ar blât'.

Matt Powell yn chwilota ar bwys basged o blanhigion
Dau berson yn chwilota am fwyd ar y traeth

Diwrnod chwilota arferol, yn casglu planhigion coedwrych a thraethlin

Roedd fy Mam-gu a Thad-cu yn ddylanwad mawr iawn arnaf

Dysgais lawer wrth gasglu planhigion gwyllt gyda nhw ers oeddwn yn fachgen bach iawn. Yn ystod y rhyfel y tyfon nhw i fyny, felly roedd rhaid i bawb dyfu a chasglu bwyd. Roedd gan Dad-cu randir, a hwnnw yn y teulu hyd heddiw. Arferem gasglu gwymon ac aeron drwy gydol y tymor ac yna eu cyffeithio ar gyfer y gaeaf. O feddwl am y peth, yn y gorffennol ni fuasem yn cael ein fitamin C o ffrwythau citrws. Byddai'n dod o bethau fel egroes ac aeron gwyllt. Ac mae ffrwythau'r draethlin fel porpin, llwylys a chedowydd yn llawn o fitaminau.

Mae fy swydd yn newid gyda'r tymhorau

Daw garlleg gwyllt i'r golwg mor gynnar â mis Ionawr yn y mannau mwynach. Yn y gwanwyn, byddaf yn tapio coed bedw i wneud surop. Mae yna egin llarwydd a moch coed. O ddiwedd mis Ebrill byddaf yn dod o hyd i forel. Roedd hi'n boeth a sych iawn y llynedd, felly ni ddechreuodd y prif dymor madarch mewn gwirionedd tan fis Awst, ond yna roedd yn fendigedig. Roedd y coedwigoedd yn garpedi o fwyd llyffaint, corn llawnder, trompettes, tegyll brau dulas, ffyngau pigau'r draenog, siantrel yr hydref. Roedden nhw'n ddi-ben-draw.

Matt Powell yn dal basged yn llawn gwymon
Llun agos o chwyn hallt yn y tir
Matt Powell yn chwilota planhigyn coetrych

Casglu planhigion gwyllt 

Penderfynais roi'r gorau i haute cuisine am resymau ecolegol

Ers oeddwn yn 17 oed, roeddwn i'n gweithio mewn mannau seren Michelin ledled Ewrop, ac roedd y gwastraff yn aruthrol. Ni allwn wneud na phen na chynffon o ddim yn y byd hwnnw. Mae angen i fusnesau feddwl am fod yn ariannol sefydlog, oes, ond hefyd yn gynaliadwy. Yn nhrefn byd natur, er mwyn dyfodol y blaned, am faint allwn ni ddal ati i gymryd drwy'r amser? Ni fydda i'n defnyddio mwy nag sydd ei angen arnaf, ac nid oes gwastraff. Dim ond cynnyrch o Gymru a ddefnyddiaf, a daw'r ganran fwyaf ohono o Sir Benfro, sef y sir rwyf yn ei charu, yn byw ynddi ac yn gweithio ynddi.

Mae angen i bobl ddychwelyd i fyd natur

Un rhan o'm gwaith yw addysgu pobl am fyd natur. Byddaf yn addysgu cleientiaid am barthau arfordirol ac uchderau'r llanw, a beth sy'n byw ymhle. Edrychwn ar yr ecosystemau llai o faint y cerddent heibio iddynt, heb roi lawer o feddwl iddynt. Mae ein holl ecosystem yn cael ei dinistrio, felly mae'n bwysig deall cadwraeth er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'n bwysig i'r rhan hon o'r byd yn unig, ond i ddyfodol y blaned.

Y chwilotwr Matt Powell yn sefyll ar y traeth yn dal basged

Rhan o swydd Matt Powell fel chwilotwr ydy addysgu pobl am natur

Mae ymdeimlad o le yn bwysig, hefyd

Rwy'n ceisio cynnwys cymaint o hanes a llên gwerin lleol ag y gallaf. Gosodwyd rhai o straeon y Mabinogi mewn mannau lle'r awn i chwilota, ac mae yma draddodiad hir o lysieuaeth feddygol drwy Feddygon Myddfai. Hefyd, diddorol iawn yw'r enwau lleoedd yn Sir Benfro, a hwythau'n gyfuniad o Gymraeg, Saesneg, Fflemineg a Llychlynnaidd. Caf gwsmeriaid o bedwar ban byd - Los Angeles, Awstria, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Awstralia – felly mae'n dda cyfleu iddynt sut le yw Cymru.

Gofynnwyd i mi hela ffrwyth yn fasnachol, ond nid yw hynny'n teimlo'n iawn

Tynnaf gymaint ag sydd ei angen arnaf, a dyna i gyd. Mae'n teimlo'n anghywir mynd i goedwig a chymryd popeth y cewch afael arno. Tuedda chwilotwyr i gadw eu hoff ddarnau yn dipyn o gyfrinach, ac rwyf bob amser yn chwilio am leoedd newydd. Byddaf yn mynd allan â chleientiaid lleol, ond rwy'n gofyn iddynt beidio â dychwelyd a gordynnu. Dyma fy mywoliaeth, wedi'r cyfan.

Rwy'n halltu ac yn aer-sychu coesau o gig oen Cymru, hefyd

Syniad yw hwn a gefais pan oeddwn yn ceisio cael gwybod rhagor am hanes bwyd a diwylliant Cymru. Mae'n debyg mewn egwyddor i ham Parma neu Serrano, ond gan ddefnyddio cig oen o ffermydd lleol. Ar hyn o bryd, rydym yn ei brofi gyda Chanolfan Bwyd Cymru, sef canolfan technoleg fwyd Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn gweithio gyda bragdy lleol i wneud cwrw â blas gwymon sych.

Person yn tafellu cig oed hallt ar fwrdd torri melyn
Llun agos o ddau blât gyda chig oen Cymreig wedi halltu

Mae Matt yn defnyddio cig oen o ffermydd lleol yn ei brosesau halltu ac aer-sychu

Mae popeth o'm cwmpas yn fy ysbrydoli

Rwy'n breuddwydio am ryseitiau drwy'r amser. Dim ond wrth edrych o gwmpas ar yr aeron, y pridd dan droed, y coed, y glaswelltau, y blodau. Yng nghanol yr heddwch a'r tawelwch, gallaf astudio'r hyn sydd o'm cwmpas a chreu prydau anhygoel o'm canfyddiadau. Mae gennym o'm cwmpas bopeth sydd ei angen arnom, ond mae'r rhan fwyaf wedi anghofio ei fod yno. Edrychaf at y gorffennol i dywys pobl i well dyfodol.

Gwybodaeth bellach

Darganfyddwch fwy am matt ar ei wefan: www.fishingandforagingwales.co.uk

Byddwch yn ofalus! Dylid dim ond chwilota am fwyd gwyllt gyda thywysydd arbenigol.

Straeon cysylltiedig