Gŵyl Gerdded Talgarth, Powys

28 Ebrill - 01 Mai 2023. Mae Gŵyl Gerdded Talgarth yn cynnig golygfeydd a natur gwych, yn ogystal â'r cyfle i ddysgu am hanes, daeareg a llenyddiaeth leol.

Strafagansa Fictoraidd Llandudno, Conwy

29 Ebrill - 01 Mai 2023. Mae Strafagansa Llandudno Fictoraidd yn digwydd bob blwyddyn ar ŵyl y Banc ddechrau mis Mai. Mae yna ffair hwyliog, hen atyniadau ac adloniant am ddim.

Pencampwriaethau Rygbi Cadair Olwyn Ewrop, Caerdydd

03 - 07 Mai 2023.  Cynhelir Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop yn Stadiwm eiconig y Principality yng Nghaerdydd. Gwyliwch y gweithredu byw cyflym yng nghartref rygbi Cymru, lle mae wyth tîm gorau Ewrop yn cystadlu am gyfle i gymhwyso yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024. Mae'r tocynnau yn ddim ond £10 i oedolion a £1 i rai dan 16 oed. Mae tocynnau hygyrch gyda gwylio wrth ochr y llys ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, gyda thocyn di-dal i gymar.

Gŵyl Ryngwladol FOCUS Wales, Wrecsam, Clwyd

04 - 06 Mai 2023.  Tridiau o gerddoriaeth yn arddangos 200+ bandiau gan ddefnyddio 20 llwyfan. Does dim lle fel Wrecsam yn ystod wythnos FOCUS. Dyma fwy o wybodaeth am FOCUS Wales.

Menyw yn chwarae gitâr ar lwyfan. Mae brand Focus Wales tu ôl iddi.
dyn yn canu ar y llwyfan, gyda menyw yn dawnsio o'i flaen.
cantores ar y llwyfan, gyda dyn gyda gliniadur yn y cefndir.

FOCUS Wales, Wrecsam

Sinema Awyr Agored, Llynnoedd Cosmeston, Bro Morgannwg a Chastell Cil-y-coed, Sir Fynwy

Dyddiadau amrywiol Mai 2023. Mwynhewch sinema awyr agored yn Llynnoedd Cosmeston, Bro Morgannwg a Chastell Cil-y-coed, Sir Fynwy. Archebwch ymlaen llaw, gan fod rhain yn boblogaidd iawn.

Yn Llynnoedd Cosmeston mae dewis Elvis (05 Mai), Mamma Mia! (06 Mai) a Top Gun: Maverick (07 Mai).

Castell Cil-y-coed yw lleoliad Elvis (12 Mai), Dirty Dancing (13 Mai) a Top Gun: Maverick (14 Mai).

Dydd Dylan

14 Mai. Mae Dydd Dylan yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y diwrnod hwn, gan adeiladu ar etifeddiaeth Gŵyl 100 Dylan Thomas. Mae'n nodi'r dyddiad y darllenwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf ar lwyfan y Poetry Centre yn Efrog Newydd ym 1953. Bob blwyddyn mae 'na berfformiadau, digwyddiadau ar-lein, teithiau cerdded a llawer mwy yn digwydd o gwmpas Cymru.

Castell adfeiliedig wrth yr arfordir.
Bwthyn gwyn a gardd ger y môr

Talacharn, cysylltiedig â Dylan Thomas

Hanner Marathon Eryri, Llanrwst, Conwy

14 Mai 2023. Mae Hanner Marathon Eryri yn hanner marathon golygfaol ond anodd iawn, wedi'i gosod ym Mharc Cenedlaethol hardd Eryri. Mae'n cychwyn ac yn gorffen ym mhentref Llanrwst. 2023 yw'r 11eg pen-blwydd ar gyfer y ras yma.

Triathlon Camlas Maldwyn, Powys

20 Mai 2023. Mae Triathlon Camlas Trefaldwyn yn dychwelyd, gyda 12 milltir ar y beic o'r Drenewydd i Belan, yna pum a hanner milltir mewn canŵ i Gei'r Trallwng, ac yna naw milltir a hanner ar droed i orffen ym Morton.

Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Powys

20 - 21 Mai 2023. Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad y Gymdeithas Amaethyddol yn ddathliad o dyddyn a bywyd cefn gwlad. Mae gan yr ŵyl raglen ddau ddiwrnod llawn adloniant, gweithgareddau addysg, sgyrsiau, gweithdai, arddangosfeydd a pherfformiadau.

Gŵyl y Gelli, Y Gelli Gandryll, Powys

25 Mai - 04 Mehefin 2023. Cynhelir Gŵyl y Gelli am ddeg diwrnod bob gwanwyn, yn nhref lyfrau Y Gelli Gandryll, Canolbarth Cymru. Mae tocynnau 30 o ddigwyddiadau i'w prynu'n gynnar gan gynnwys ymddangosiadau gan Margaret Atwood, Dua Lipa, Fflur Dafydd, Children's Laureate Wales 2021-23 Connor Allen, The Proclaimers, a llawer, llawer mwy...

Gŵyl In It Together, Margam, Port Talbot

26 - 28 Mai 2023. Gallwch fwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth yn ystod Gŵyl In It Together yn Fferm Old Park, Margam, gan gynnwys y grŵp hip hop o Gymru Goldie Looking Chain, James, The Kooks, Dream State, Twin Atlantic, Kelis, Anne-Marie, Ultrabeat, James Bay, UB40 a Jake Bugg. Mae perfformiadau dawns yn cynnwys Groove Armada, Chase a Status gyda The Shapeshifters, Lovely Laura a Ben Santiago a Bou. Mae yna hefyd DJ Tom Zanetti a Joy Formidable, dawns stryd hynod boblogaidd Diversity, gyda llawer mwy i'w gyhoeddi. 

Gŵyl HowTheLightGetsIn, Y Gelli Gandryll, Powys

26 - 29 Mai 2023. Mae HowTheLightGetsIn yn dychwelyd i'r Gelli Gandryll. Mae'r ŵyl gerddoriaeth ac athroniaeth yn cael ei chynnal dros benwythnos gŵyl y banc. Bydd dros 300 o ddigwyddiadau yn cynnwys dros 200 o gerddorion, bandiau a chomedïwyr a dros 150 o brif feddylwyr y byd. Mae tocynnau cynnar bellach ar gael, ynghyd â thocynnau myfyriwr/dan 25 oed.

Helfa Ysbryd, Castell Gwrych, Abergele

27 Mai 2023. Mwynhewch helfa ysbryd yng Nghastell Gwrych, y cofiwch chi efallai o'r sioe deledu I'm A Celebrity ... Get Me Out of Here. Mae 'na un yn digwydd bob mis hefyd trwy gydol y flwyddyn.

Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin

29 Mai - 03 Mehefin 2023. Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop. Cynhelir gŵyl 2023 yn Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin.

Amgueddfa Cymru

Mae wastad digon i'w weld yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol, gydag amrywiaeth o arddangosfeydd parhaol. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ym mhob un o'r saith amgueddfa. I weld rhestr llawn o beth sy 'mlaen, ewch at y dudalen Digwyddiadau.

Straeon cysylltiedig