Gŵyl flynyddol i ddathlu’r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymraeg yw Tafwyl. Mae’n rhan o waith craidd Menter Caerdydd, elusen sy’n hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd, gyda’r uchelgais fod y Gymraeg yn dod yn rhan ganolog o fywyd yn y brifddinas.

Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd o’r ychydig dros fil o bobl yn y Mochyn Du yn 2006, i dros 40,000 o ymwelwyr blynyddol erbyn hyn. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim, sy’n agored i bawb – yn siaradwr Cymraeg neu beidio, gydag apêl arbennig i deuluoedd.

Eleni bydd prif ddigwyddiad yr ŵyl yn digwydd rhwng 12 - 15 Gorffennaf 2024 ym Mharc Bute

Band pres wedi gwisgo mewn gwyn yn perfformio ar y palmant tu allan i Gastell Caerdydd

Band Pres Llareggub tu allan i Gastell Caerdydd

4 llwyfan llawn dop o gerddoriaeth...

Mae cerddoriaeth yn rhan enfawr o Tafwyl gyda’r goreuon o fyd pop, gwerin ac indi yn perfformio ar draws pedair llwyfan.

Ymhlith uchafbwyntiau’r blynyddoedd diwethaf mae perfformiadau gan Gwenno, Adwaith, Band Pres Llareggub, Kizzy Crawford, Lleuwen, Gwilym, Chroma a DJ Huw Stephens.

Eden yn perfformio ar lwyfan Tafwyl
Llun o'r gantores Eädyth yn perfformio mewn pabell

Eden ac Eädyth

Ond mae mwy i Tafwyl na cherddoriaeth yn unig…

Gyda yoga ymlaciol, bwyd stryd, stondinau amrywiol a sesiynau holi ac ateb – mae gan Tafwyl rywbeth at ddant pawb os ydych chi’n chwilio am rywbeth amgenach na cherddoriaeth. Mae Tafwyl yn dod a’r gorau o fyd llenyddiaeth, celf, comedi, chwaraeon… a llawer mwy at ei gilydd bob blwyddyn.

Mae digonedd ar gael i’r rhai bach...

Mae’n ŵyl deuluol iawn, gyda phlant ysgolion y ddinas yn cael llwyfan arbennig yn yr ŵyl i berfformio. Ac ar ôl perfformio… mae angen chwarae, felly mae ardal blant enfawr yn Tafwyl! Dyma’r lle gorau i’r plant greu, chwarae a mwynhau... o sgiliau syrcas i weithgareddau crefft a garddio ecogyfeillgar, mae digon i’w diddanu drwy’r penwythnos.

Merch fach yn dawnsio yn Tafwyl, gyda Chastell Caerdydd yn y cefndir

Hwyl i bob oed

…ac i bobl ifanc yn eu harddegau

Mae Yurt T yn ardal brydferth i bobl ifanc, sy’n wych ar gyfer ymlacio gyda ffrindiau, gwrando ar fandiau ifanc, ac arbrofi gyda cholur glitter gŵyl neu weithdai hwla-hoop!

Merch yn perfformio ar blatfform gyda hwla hwps

Digonedd o hwyl yng Nghastell Caerdydd

Ond beth am bobl ddi-Gymraeg?

Nod Tafwyl yw dathlu’r celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth a chyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd, felly mae croeso i bawb. Mae nifer o sesiynau sy'n addas i ddysgwyr a siaradwyr newydd o bob lefel. 

Llun o Tara Bethan o'r grŵp Lleden yn perfformio ar lwyfan Tafwyl yn gwisgo trowsus aur
Alys Williams yn canu mewn pabell

Lleden ac Alys Williams

Danteithion di-ri

Mae ardal fwyd Tafwyl yn ŵyl yn ei hun gyda nifer o stondinau bwyd stryd a bariau yn rhan o’r ŵyl. Mae gwledd ar gael gydol y penwythnos, gyda rhai o ddarparwyr bwyd gorau'r ardal yn gosod eu stondinau yng ngerddi’r castell. Ymysg ffefrynnau’r gorffennol mae The Bearded Taco, Brother Thai, Meat & Greek, Hard Lines a Ffwrnes.

Menyw yn gweini bwyd o stondin
Llun o bobl yn gwerthu diodydd o garafan lliwgar

Dewis gwych o fwyd a diod

Mwy o wybodaeth...

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Tafwyl am y newyddion diweddaraf:

Facebook Tafwyl

Twitter Tafwyl

Instagram Tafwyl

Straeon cysylltiedig