Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Canol ein prifddinas neo-glasurol yw cartref Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle mae llawer i’w weld o dan y to cromennog Edwardaidd hardd. Mae arddangosfa Esblygiad Cymru yn tywys ymwelwyr o ddechreuad y Glec Gyntaf hyd heddiw, gyda dinosoriaid a mamothiaid gwlanog i’w gweld ar hyd y daith. I fyny’r grisiau, fe gewch un o gasgliadau celf gorau Ewrop, sy’n cynnwys nifer o weithiau yn arddull argraffiadaeth ac ôl-argraffiadaeth. Bob dwy flynedd, mae hefyd yn gartref i wobr celf gyfoethocaf y Deyrnas Unedig, Artes Mundi.

Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd parhaol, mae’r Amgueddfa'n cynnal nifer o arddangosfeydd dros dro sy’n newid yn gyson. Edrychwch ar wefan yr Amgueddfa Genedlaethol i ddarganfod beth sydd ymlaen cyn i chi ymweld.

 Deinosor yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Cerflun yn yr amgueddfa
 Dyn a dynes yn edrych ar gelf.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Dyma’r atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd yng Nghymru, a hynny am reswm da. Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnig profiad llawn o fywyd yng Nghymru ar draws y canrifoedd. Yr hyn sy’n denu yw’r parc y tu allan lle ceir dros 40 o adeiladau hanesyddol gwreiddiol sydd wedi cael eu hailgodi yma, a hynny’n cynnwys ffermydd, siopau, rhes o dai teras y mwyngloddwyr, adeilad sefydliad y gweithwyr, tafarn, melin wlân, becws, ac eglwys o’r 12fed ganrif. Mae’r arddangosfa dan do wedi elwa o fuddsoddiad £30 miliwn, ynghyd â gweithdy newydd ar gyfer arddangosfeydd crefft a gweithgareddau. Mae hefyd gwerth mynd am dro i erddi hardd Castell Sain Ffagan, sy’n blasty o’r 16eg ganrif.

 Y tu allan i Storfeydd Gwalia, St Fagan's.
Bwthyn coch wrth ymyl cae gyda choed y tu ôl iddo

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Er mwyn plymio’n ddwfn i hanes diwydiannol Cymru, anelwch am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Yn ganolbwynt i ardal forol y ddinas, mae’r amgueddfa dechnolegol hon yn dathlu’r gwaith cloddio, gwaith haearn a thechnoleg trafnidiaeth a newidiodd y tirlun yng Nghymru, heb anghofio straeon pobl go iawn oedd y tu ôl i’r holl fentergarwch. Mae digonedd o greiriau difyr o’r Chwyldro Diwydiannol, a syniadau newydd am sut mae gwyddoniaeth yng Nghymru yn helpu i lunio’r dyfodol.

 Y tu mewn i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Tyrchwch yn ddyfnach (yn llythrennol) i’n treftadaeth ddiwydiannol yn Big Pit, sy’n deyrnged fyw i’r diwydiant glo a’r cymunedau oedd yn cyd-fynd â’r diwydiant hwnnw. Yr uchafbwynt (neu efallai y dylen ni ei alw’n isafbwynt?) yw’r daith danddaearol lle byddwch yn teithio 90m o dan y ddaear i gael gweld sut oedd yr hen bwll glo yn gweithio. Mae llawer i’w weld ar y wyneb hefyd, yn cynnwys y baddondai pen pwll a’r injan droi anferth oedd yn codi’r glo a’r gweithwyr i fyny o grombil y ddaear am dros 50 o flynyddoedd. Mae’r cyfan wedi ei osod o fewn tirlun diwydiannol unigryw sydd wedi ei ddynodi’n Safle Treftadaeth Byd gan UNESCO.

Wagons a thwr pen y pwll yn Big Pit.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Lechi Cymru

Roedd Chwarel Dinorwig yn galon i’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, ble roedd unwaith 17,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi yno. Mae’r Amgueddfa Lechi yn adrodd hanes diddorol am sut y newidiodd llechi y tirlun a’r bobl. Mae nifer o’r rhai sy’n gweithio yno heddiw yn gyn-chwarelwyr sy’n dod â’r stori gyfan yn fyw ac sy’n mwynhau arddangos eu sgiliau cain wrth iddyn nhw hollti llechi.

Amgueddfa Wlân Cymru

I bob un person yng Nghymru, mae yna dair dafad, a bu’r diwydiant gwlân yn ganolog i’n heconomi gwledig ers yr Oesoedd Canol. Mae’r Amgueddfa Wlân, wedi ei lleoli yn yr hen Felin Cambria yn Nyffryn Teifi, yn arddangos y broses ddiddorol o drin gwlân o’r cnu i’r defnydd – roedd yn cael ei ddefnyddio i wneud popeth o grysau a siolau, i flancedi a dillad gwely, cardiganau a charpedi.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Yn 75OC, adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghaerllion a fyddai’n gwarchod yr ardal am 200 mlynedd. Saif Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar safle un o dim ond tair caer barhaol a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid ym Mhrydain, gydag olion rhyfeddol yno, sy'n cynnwys yr amffitheatr a’r baddondai mwyaf cyflawn yn y Deyrnas Unedig, a’r unig farics llengol sydd wedi goroesi ac sydd ar gael i’w gweld yn Ewrop gyfan.

Straeon cysylltiedig