Yr amgueddfa
Dros gyfnod o 180 o flynyddoedd, mae Amgueddfa Abertawe wedi casglu tipyn bach o bopeth, o bethau cyffredin i bethau anghyffredin. Mae'r casgliad eclectig yn cynnwys eitemau o hanes cyfoethog Abertawe yn ogystal â darnau celf o ddiwylliannau o gwmpas y byd.
Dyluniwyd yr amgueddfa, a adeiladwyd ym 1841, fel lle i archwilio, arbrofi a dysgu. Mae’r nodau hynny’n berthnasol o hyd, gyda'n harddangosfeydd, rhaglenni ysgol a chasgliadau cyfoes. O esgyrn Oes yr Iâ sy'n cael eu harddangos yn ein Horiel Archaeoleg i arddangosfeydd cerddoriaeth sy'n dathlu doniau di-rif ein dinas, bydd ein harddangosfeydd a’n harddangosiadau’n sicr o ddenu’ch sylw.
Yr Orielau
Archaeoleg
Mae Abertawe'n enwog am ei chanfyddiadau archeolegol sylweddol, gan gynnwys Menyw Goch Pen-y-fai (Pafiland) sy'n adnabyddus ar draws y byd. Bydd eich taith ddarganfod yn dechrau gyda dannedd malu’r Mamoth anferth ac yn gorffen gyda modrwy alar aur brydferth a'i hysgythriad bygythiol 'Prepared be to follow me'.
Y Mymi
Mae'r amgueddfa'n gartref i Fymi Abertawe, Tem Hor, a oedd yn offeiriad dilladu i'r duw Atum. Fe’i cyflwynwyd i Abertawe ym 1888 gan Syr Francis Grenfell, ac mae Hor wedi helpu i gyflwyno diwylliant yr Hen Aifft i'r ddinas ddiwydiannol Gymreig hon. Mae ef bellach yn byw yn ei ystafell ei hun, ac mae'r amgueddfa'n eich croesawu i ddod i ymweld ag ef a dysgu am ei fywyd a'i farwolaeth cymhellol.
Oriel Hanes
O fywyd ysgol i longau a diwylliant, mae gan yr oriel hon ychydig o bopeth sy'n adrodd stori Abertawe. Dewch i weld y paentiad nas darganfuwyd o'r blaen gan y meistr o'r Iseldiroedd, Jacob Jordaens neu cymerwch gip ar ail-gread o gegin Gymreig draddodiadol.
Cerameg
Mae gan oriel cerameg yr amgueddfa gasgliad amrywiol iawn o grochenwaith Abertawe sy’n cael ei ddefnyddio fel casgliad cyfeirio. Nid yw'r casgliad hwn ar gyfer y rheini sy'n dwlu ar grochenwaith yn unig – beth am geisio dod o hyd i'r mwg a ddefnyddiwyd i chwarae cast neu edmygu’r platiau botanegol hyfryd sydd wedi'u paentio â llaw?
Mae gan yr amgueddfa ddwy oriel ychwanegol hefyd sy'n cynnwys arddangosfeydd dros dro. Cymerwch gip ar ein gwefan i weld yr hyn sy'n cael ei arddangos ar hyn o bryd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mynediad am ddim
WiFi am ddim
Mae parcio ar gael ym maes parcio Dewi Sant
Rhagor o wybodaeth am feysydd parcio Abertawe: www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio
Oriau agor: Dydd Mawrth i ddydd Sul 10:00 i 16:30 (mynediad olaf am 16:15)
WiFi am ddim
Mae parcio ar gael ym maes parcio Dewi Sant
Rhagor o wybodaeth am feysydd parcio Abertawe: www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio
Oriau agor: Dydd Mawrth i ddydd Sul 10:00 i 16:30 (mynediad olaf am 16:00)