Heb draffig, mae hi’n haws. Mae’r llwybrau di-draffig hyn yn ddiogel ac yn rhwydd i’w beicio, ac yn tywys eich teulu drwy rai o ardaloedd brafiaf Cymru. Dewch â’ch beics eich hun neu llogwch feics ar ôl cyrraedd. Bydd hi’n antur heb ei hail i’r teulu i gyd.
Mae gan Gymru gannoedd o filltiroedd o lwybrau beicio di-draffig a thraffig ysgafn, a hynny diolch i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae nifer o’r llwybrau hyn hefyd yn cysylltu ag ardaloedd gwyliau, parciau gwledig ac atyniadau hanesyddol, sy’n gyfle i gyfuno’ch reid ddi-draffig â rhai o olygfeydd gorau’r wlad. Does dim angen eich beic eich hun arnoch chi chwaith – mae digonedd o lefydd sy’n llogi beics ar gael. Y cyfan fydd ei angen arnoch fydd awr neu ddwy rydd. Mae’n ffordd rad iawn o roi profiad bythgofiadwy i’r teulu.
Llwybrau beicio i’r teulu o gwmpas Cymru
Llwybrau beicio yn y gogledd
Llwybr Mawddach, Eryri
Mae Llwybr Mawddach yn llwybr beicio heb ei ail i’r teulu. Mae’r golygfeydd yn odidog wrth i’r llwybr ddirwyn o dref farchnad Dolgellau i dref glan môr Abermaw, a hynny ar hyd glannau bendigedig Aber Mawddach.
Beth i’w ddisgwyl: Llwybr gwastad, rhwydd ar hyd hen reilffordd, bron yn gyfan gwbl ddi-draffig (ar wahân i ddarnau byr iawn ar y dechrau ac yn y trefi). Mae’r aber hwn ymhlith yr harddaf yn y wlad, lle gwelwch chi bontydd pren enwog, olion yr hen ddiwydiant adeiladu llongau, gwarchodfa natur Cors Arthog yr RSPB, a’r mynyddoedd hollbresennol ar y gorwel.
Lluniaeth: Mae digonedd o gaffis, tafarndai a llefydd hufen iâ yn Nolgellau ac Abermaw, tra bo tafarn George III yn Llynpenmaen, sy’n dyddio yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, yn lle campus am hoe ar y ffordd.
Hyd: 19 milltir yno ac yn ôl. Neilltuwch ddwy i dair awr i gael taith hamddenol braf.
Llogi beics: Dolgellau Cycles amdani, sy’n gallu cynnig beics addas i’r teulu i gyd, yn ogystal â threlars.
Lôn Las Cefni, Ynys Môn
A hwnnw’n mynd o Langefni i Falltraeth, bydd modd i’r teulu cyfan feicio’n rhwydd ar Lôn Las Cefni i lawr at y môr, gyda’r opsiwn o fynd ar antur bellach yn y naill ben. Dyma lwybr beicio gorau Ynys Môn i ddechreuwyr.
Beth i’w ddisgwyl: Mae mwyafrif y llwybr hynod wastad hwn yn cyd-redeg â Chors Ddyga ar hyd glannau afon Cefni – cadwch lygad am ddyfrgwn! Mae’n mynd heibio i warchodfa’r RSPB, ac ar hyd y Cob a godwyd i adennill tir ffermio o’r forfa heli. Mae modd reidio ymhellach wedyn yn y ddau ben. Yn y top, anelwch drwy warchodfa natur goediog Nant y Pandy gyda’i lwybr estyllod a’i gerfluniau, a dringo am gronfa ddŵr Llyn Cefni. I lawr ger y môr, dilynwch y llwybrau oddi ar y ffordd drwy Goedwig Niwbwrch lle cewch gip, efallai, ar wiwerod coch ymysg coed pinwydd Corsica. O fan hyn, cerddwch draw i draeth ac ynys Llanddwyn.
Hyd: 12 milltir bob ffordd. Dwy neu dair awr, gydag amser i stopio.
Lluniaeth: Fe gewch chi bopeth yn nhref sirol Llangefni, tra bo llefydd braf hefyd ym mhentrefi Malltraeth a Niwbwrch.
Llogi beics: Yn Llangefni, ewch i weld y criwiau cyfeillgar yn Anglesey Bikes neu CycleWales, neu os am feic trydan, Anglesey Electric Bike Hire amdani.
Llwybr Beicio Lôn Eifion, Caernarfon
Mae llwybr beicio Lôn Eifion yn un hynod o boblogaidd yn y gogledd, a hwnnw’n mynd o Gaernarfon tua’r de ar hyd rhodfa werdd lydan. Mae’n llwybr tarmac di-draffig o’r naill ben i’r llall.
Beth i’w ddisgwyl: Gan ddechrau yng nghysgod hynod Castell Caernarfon, mae’r llwybr beicio’n cydredeg â Rheilffordd Eryri am blwc cyn gwahanu yn Llanwnda. Llwybr sy’n codi’n raddol bach yr holl ffordd ydy hwn cyn y cewch chi wibio i lawr allt i bentref Bryncir. Bydd y copaon enwog yn gwmni i chi ar hyd y daith – yn enwedig yr Wyddfa, yr Eifl a Chrib Nantlle – tra gallwch chi bicio i sawl pentref cyfagos neu fynd am dro sydyn i Barc Gwledig Glynllifon.
Hyd: 12.5 milltir bob ffordd, felly tua tair awr i gyd.
Lluniaeth: Mae digonedd o lefydd yng Nghaernarfon, ac opsiynau hefyd ym Mhenygroes a’r pentrefi eraill ar y daith. Mae yna gaffi hefyd yng Ngwaith Llechi Inigo Jones yn y Groeslon.
Llogi beics: Ewch i Beics Antur yng Nghaernarfon.
Llwybr Beicio Alwen, Llyn Brenig
Fry ar Fynydd Hiraethog, mae Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig yn lle tawel braf i wneud chwaraeon dŵr, i fynd am dro ... ac i gael antur deuluol ar gefn beic, wrth gwrs. Mae saith o lwybrau beicio i’r teulu i ddewis o’u plith; rydyn ni wedi setlo ar lwybr hyfryd o amgylch Llyn Alwen gerllaw.
Beth i’w ddisgwyl: Gan ddechrau ym maes parcio Llyn Alwen, mae’r llwybr hwn, sy’n addas i’r teulu i gyd, yn arwain drwy goedwig a gweundir cyn dilyn glannau’r dŵr, a hynny ar lwybrau ag wyneb arnyn nhw a llwybrau coedwigaeth. Sylwch y bydd beicwyr yn mynd i gyfeiriad gwrthglocwedd, tra bydd cerddwyr yn mynd glocwedd. Mae bryn go fawr i’w ddringo hanner ffordd ar hyd y llwybr. Mae’r golygfeydd yma’n newid yn gyson dros y gronfa ddŵr a draw am gopaon Eryri. Mae byrddau gwybodaeth ar ochr y llwybr yn eich cyflwyno i’r bywyd gwyllt, y diwylliant a chwedlau.
Hyd: Saith milltir, a llai na dwyawr.
Lluniaeth: Ewch yn ôl i lawr i Gaffi Brenig yn Llyn Brenig am damaid bach i’w fwyta, ac efallai i gael cip ar ddyfrgwn yn ystod yr haf.
Llogi beics: Y ganolfan ymwelwyr amdani i logi beics – mae dewis i bawb o bob oed.
Llwybrau beicio teuluol yn y canolbarth
Llwybr Ystwyth, Ceredigion
Mae hen reilffyrdd yn creu llwybrau beicio penigamp, a dyna’n union gewch chi ar Lwybr Ystwyth, sy’n dilyn hen linell y Great Western Railway a arferai gysylltu Aberystwyth a Thregaron.
Beth i’w ddisgwyl: Mae’r llwybr 21 milltir o hyd yn cyd-redeg â’r afon drwy Gwm Ystwyth cyn dilyn afon Teifi i’r de am Dregaron, a hynny gan mwyaf ar lwybr yr hen reilffordd. Bydd angen diwrnod cyfan i wneud y daith yno ac yn ôl, ond fe allech chi hefyd ddewis rhannau penodol sy’n addas i’ch teulu chi. Mae’r rhan gyntaf o Aberystwyth i Lanilar, sy’n 6.5 milltir o hyd, yn ddewis da. Neu beth am ddechrau yn Llanilar ac anelu am y de ar ddarn 4 milltir rhwydd ar hyd glannau’r afon? Yn y rhan isaf, mae darn braf tu hwnt oddi ar y ffordd sy’n dilyn ymylon Gwarchodfa Natur Cors Caron.
Hyd: 21 milltir i gyd – bob ffordd. Felly dyna i chi ddiwrnod cyfan ar gefn beic. Ond mae modd beicio’r rhannau byrrach, haws hefyd mewn awr neu ddwy.
Lluniaeth: Mae pob math o ddewis yn y rhan uchaf rhwng Aberystwyth a Llanilar – ond prynwch rywbeth i’w fwyta yn Nhregaron os byddwch chi’n dilyn y llwybr i’r gogledd.
Llogi beics: Mae Afan Bike Hire yn Aberystwyth yn cynnig popeth o feics trelar i blant bach i dandemau.
Llwybr Elan, Rhaeadr
Mae cronfeydd dŵr Cwm Elan yn dyst i ddoniau rhyfeddol peirianwyr sifil oes Fictoria, a’r cyfan mewn tirwedd sy’n cael ei gadw’n ddilychwin i sicrhau purdeb y dŵr. A pha ffordd well o grwydro’r ardal hon nag ar lwybrau beics teuluol? Mae naw llwybr i ddewis o’u plith.
Beth i’w ddisgwyl: Mae Llwybr Elan yn gadael cyrion tref Rhaeadr Gwy ar hyd llwybr hen reilffordd, gan basio’r ganolfan ymwelwyr a dringo heibio i gronfeydd y Caban Coch a’r Garreg Ddu, lle mae’r argaeau a’r tyrau dŵr yn werth eu gweld. Mae’r llwybr yn dod i ben ger cronfa ddŵr Penygarreg. Mae’n rhaid dringo’r holl ffordd i ben draw’r rhan olaf yma, ond bydd golygfeydd godidog yr ucheldir yn wobr i chi. Lawr rhiw fydd hi wedyn bob cam o’r ffordd adref.
Hyd: Taith 18 milltir i gyd. Neilltuwch dair awr go dda i fwynhau.
Lluniaeth: Mae caffi da yn y ganolfan ymwelwyr sydd mewn lleoliad strategol cyfleus dros ben, ac mae toiledau ym mhen draw’r llwybr. Mae Rhaeadr yn dref hyfryd, gyda digonedd o lefydd i gael hoe.
Llogi beics: Mae’r hyb beicio yn y ganolfan ymwelwyr yn cynnig gwasanaeth llogi llawn, a hefyd yn gallu golchi beics ar eich rhan.
Llwybrau beicio yn y gorllewin
Port Talbot i Barc Coedwig Afan
Dyma daith feicio i’r teulu sy’n dechrau ar y tywod yn Nhraeth Aberafan ac yn gorffen, gwta saith milltir wedyn, yn ucheldiroedd trwchus Coedwig Afan.
Beth i’w ddisgwyl: Mae llwybr Cwm Afan yn eich tywys ar ddringfa raddol, hamddenol o lefel y môr, wrth i’r tarmac di-draffig gefnu ar brysurdeb diwydiannol Port Talbot a chyrraedd llwybr hardd drwy goetir ar lan yr afon. Pen y daith fydd canolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan – neu efallai mai dim ond dechrau antur arall fydd hyn! Mae yma lwybrau beicio mynydd sy’n addas i’r teulu, a fan hyn hefyd y mae Amgueddfa Glowyr De Cymru. Mae’n werth dweud bod y llwybr beicio yn parhau i ben uchaf y cwm, lle mae’n ymuno â rhwydwaith o lwybrau sy’n cysylltu holl gymoedd y de.
Hyd: Taith 13 milltir i gyd. Dwy awr yno ac yn ôl, ond fe allwch chi ddisgwyl treulio ychydig o amser yn crwydro parc y goedwig.
Lluniaeth: Mae popeth y byddwch chi’i angen yng nghanolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan, gyda digonedd o opsiynau eraill yn ôl ar yr arfordir.
Llogi beics: Mae’r Afan Valley Bike Shed yn arbenigo mewn beics mynydd i ymdopi â’r llwybrau lleol drwy’r goedwig.
Parc y Mileniwm, Llanelli
Mae Llwybr Arfordir y Mileniwm yn ymestyn am 13 milltir ar hyd glan y môr yn Sir Gâr. Llwybr sy’n glynu at y tywod ydy hwn, a ffefryn ymhlith teuluoedd ar gefn beics.
Beth i’w ddisgwyl: Os mai dyma’ch tro cyntaf chi, hanner ffordd ar hyd y llwybr yn Noc y Gogledd ydy’r man cychwyn gorau. Penderfynwch wedyn ai troi eich trwynau am y dwyrain wnewch chi, heibio i Gwrs Golff Machynys (a ddyluniwyd gan Jack Nicklaus) a’r fflamingos sy’n byw yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli, neu anelu am y gorllewin tuag at harbwr Porth Tywyn ac yn eich blaenau am Barc Gwledig Pen-bre lle mae’r atyniadau’n niferus (traeth, llethr sgïo, golff gwyllt, llwybrau natur a mwy). Mae’r llwybr yn wastad ac yn rhwydd y naill ffordd neu’r llall, gyda golygfeydd gwych dros y gwlâu cocos am benrhyn Gŵyr. I deuluoedd sydd â phlant ifanc iawn, mae modd mentro ar y llwybr mewn pedair rhan fer unigol.
Hyd: Neilltuwch hanner diwrnod os byddwch chi’n beicio’r 13 milltir cyfan yno ac yn ôl, ond mae’n ddigon rhwydd dewis a dethol llwybrau byrrach.
Lluniaeth: Mae caffis a chyfleusterau i’w cael bob ryw ddwy filltir, felly fydd hyn ddim yn broblem.
Llogi beics: Parc Gwledig Pen-bre.
Llwybrau beicio di-draffig yn y de
Caerdydd i Gastell Coch
Dyma daith wych i deuluoedd a beicwyr amhrofiadol, wrth i’r llwybr di-draffig eich tywys o ganol Caerdydd yr holl ffordd at dyrau tylwyth teg Castell Coch.
Beth i’w ddisgwyl: Mae Taith Taf yn ymestyn am 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, ond mae’r rhan chwe milltir hon yn ffordd dda i deuluoedd grwydro gwyrddni ein prifddinas ar gefn beic, a chael cyfle i weld castell hynod ar yr un pryd. Os byddwch chi’n llogi beics yn y parc, mae’r llwybr yn un tarmac rhwydd wedyn ar lan afon Taf. Mae darn byr (ond tawel) ar y ffordd drwy bentref Tongwynlais cyn i chi gyrraedd Castell Coch, a dringfa fer, serth at y castell ei hun. Gan hynny, efallai y byddai’r daith hon yn fwy addas i blant hŷn. Os ydy’r plant yn iau, mae pedlo o amgylch Parc Bute yn ffordd hyfryd o dreulio awr neu ddwy. Mae llefydd diogel i barcio beics y tu allan i Gastell Caerdydd a Stryd y Castell.
Hyd: Ni fydd y daith, sy’n 12 milltir i gyd, yn cymryd mwy na ryw awr a hanner – ond rhowch o leiaf awr arall i chi’ch hun i edmygu’r castell.
Lluniaeth: Mae sawl caffi ym Mharc Bute neu ar ei gyrion, gan gynnwys Caffi’r Tŷ Haf yn y parc a Chaffi’r Castell yn y castell ei hun (does dim angen prynu tocyn i fynd i mewn). Mae dwy ffynnon ddŵr ym Mharc Bute hefyd.
Llogi beics: Mae gan Pedal Power ganolfannau llogi yng Nghaeau Pontcanna a Bae Caerdydd, ac maen nhw’n gallu cynnig beics hygyrch. Os byddwch chi’n llogi eich beics o’r bae, ychwanegwch dair milltir bob ffordd at eich taith.
Llwybr Peregrine, Trefynwy
Llwybr byr, di-draffig yn bennaf, ydy Llwybr Peregrine sy’n eich tywys dros y ffin i Loegr, gan ddilyn afon Gwy ar hyd un o’i rhannau hyfrytaf. Teithio rhyngwladol, felly, ond heb yr ôl-troed carbon.
Beth i’w ddisgwyl: Gan ddechrau yn nhref hardd, hanesyddol Trefynwy, mae’r llwybr yn dilyn glannau afon Gwy cyn mynd drwy Geunant Gwy. Ryw ddwy draean o’r ffordd, fe groeswch chi’r ffin i Loegr a chyrraedd Symonds Yat. Cadwch olwg am hebogiaid tramor uwch eich pen – dyma un o’r llefydd gorau ym Mhrydain i weld yr adar ysglyfaethus ysblennydd hyn. Trowch yn ôl wedyn am Drefynwy – tref hyfryd iawn.
Hyd: Taith 11 milltir i gyd. Dwy awr o reidio linc-di-lonc.
Lluniaeth: Mae digon o ddewis yn Nhrefynwy, a hefyd yn Yat Symond (Symonds Yat) – ond sylwch nad oes dim byd rhwng y ddau le.
Llogi beics: Mae gan Launch Bikes yn Nhrefynwy bopeth sydd ei angen arnoch chi.