Beth am gyrsiau glan-môr fel Royal Porthcawl – gynhaliodd Pencampwriaeth Agored Hŷn 2014 – neu’r Celtic Manor Resort byd-enwog yng Nghasnewydd, lleoliad Cwpan Ryder bythgofiadwy 2010.  Rydym hefyd yn enwog am ein hymlyniad naturiol at ‘golff fel y dylai fod’ sy’n golygu y cewch chi groeso cynnes ar y cwrs ac yn y tŷ clwb. Dydyn ni ddim yn ffuantus yma, felly gallwch ddisgwyl profiad hamddenol a chynnes, sy’n canolbwyntio’n amlwg ar golff rhagorol.

Dau golffiwr yn sefyll ar gwrs golff
Golygfa o gwrs golff gyda choed ac awyr las

Royal Porthcawl Golf Club a Celtic Manor Resort, De Cymru

Ar y cwrs

Mewn gwirionedd, y rhan anoddaf o chwarae yma yw cael amser i gynnwys popeth. Am fod cynifer o gyrsiau heriol yn mynnu eich sylw, byddwch chi’n dymuno ymweld am o leiaf benwythnos – neu’n well byth, am fwy o amser.  Os penderfynwch chi aros a chwarae, fe gewch chi ddewis o lety sydd yr un mor amrywiol a chroesawgar â’n cyrsiau golff. Mae gennym bob math o lety, o dai preswyl clyd ar y cwrs i gyrchfannau golf moethus.

Rhwng tir a môr

Dyw hi’n fawr o syndod fod Cymru, â’r môr yn amgylchynu 870 milltir o arfordir ar hyd tair ochr y wlad, yn enwog am gyrsiau glan-môr ysbrydoledig. O gwrs Conwy, sy’n un ar gyfer Cymhwyso ar gyfer y twrnamaint Agored yn y gogledd, i’r Royal Porthcawl yn y de, mae teithio ar hyd arfordir Cymru’n bererindod na ddylai’r un ffan o gyrsiau lincs mo’i golli.  Ar hyd y ffordd fe ddewch chi ar draws cwrs eiconig Nefyn a’r Ardal.

Ar lain cul o benrhyn sy’n ymwthio oddi ar ogledd Pen Llŷn i Fôr Iwerddon, mae’n cael ei ymdebygu’n aml i chwarae ar ddec llong filwrol sy’n cario awyrennau.  Ac yng nghysgod mawreddog Castell Harlech, mae cwrs glan-môr garw’r Royal St Davids yn llawn drama. Ymysg yr uchafbwyntiau eraill mae Aberdyfi – hoff gwrs yr awdur chwaraeon adnabyddus Bernard Darwin, a ‘lincs yn yr awyr’ enwog Pennard.

Baner las ar gwrs golff gyda 'Clwb Nefyn' wedi'i ysgrifennu arno
Golygfa o'r morlin gyda chychod yn y môr

Clwb Golff Nefyn, Gwynedd

Peintio’r byd yn ‘grîn’

Ond dim ond rhan o’r stori yw’r cyrsiau lincs. Mae ein bwydlen golff yn llawn o flasau i fodloni pob archwaeth. Yng nghwrs mynyddig Cradoc, mae parc hardd wedi’i amgylchynu â choed aeddfed yn cyfuno â golygfeydd ysgubol dros gopaon uchaf Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Â’i hanner yng Nghymru, hanner yn Lloegr, mae cwrs Llanymynech, ar ben y bryn, yn unigryw am ei fod yn gadael i golffwyr chwarae mewn dwy wlad yn yr un rownd. Dyma ble dysgodd y chwaraewr Cwpan Ryder chwedlonol, Ian Woosnam, feistroli’r gêm.  Ar hyd glannau Afon Dyfrdwy mae cwrs heriol Dyffryn Llangollen yn un o gyrsiau gwledig gorau’r wlad.

Yn y de, mae’r Pil a Chynffig yn cyfuno naw twll parc â naw twll glan-môr ymysg y twyni tywod, i gynnig y profiad golff hybrid eithaf, yn ein barn ni, byddwch chi wrth eich bodd ar ein lawntiau golff gwych - golff, yn cael ei chwarae yng ngwir ysbryd y gêm, ffioedd grîn sy’n siwtio’r pwrs, hyd yn oed, a’r croeso arbennig hwnnw na chewch chi mohono yn unman arall. Yn syml, golff fel y dylai fod.

Three men playing golf on the green with the sea in the distance

Glwb Golff y Pîl a Chynffig, Pen-y-Bont ar Ogwr

Straeon cysylltiedig