Activity

Pedal Power Inclusive Cycling Charity

Pedal-assist side-by-side & standard 2-wheel bike with child seat
Yn Pedal Power, mae gennym amrywiaeth o feiciau y gall y cyhoedd eu llogi o'n dau safle yng Nghaerdydd. Rydym yn elusen beicio, a'n cenhadaeth yw galluogi pawb i fwynhau manteision beicio (a'r rhyddid i grwydro ein dinas hardd)!

Activity Information

Get in touch

Location:
Safle Carafannau Caerdydd, Pontcanna, Caerdydd
Telephone:
02920 390713
Email:
bookings@cardiffpedalpower.org.uk
Website:
https://www.cardiffpedalpower.org/

Social

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Croeso i Anifeiliaid Anwes
  • Cyfleusterau Hygyrchedd
  • Cyfleusterau Symudedd
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Activities offered

  • Seiclo

Take a look around

1 / 2
Cardiff
2 / 2
Cardiff

About Pedal Power Inclusive Cycling Charity

Yn Pedal Power, mae gennym ystod o feiciau y gall y cyhoedd eu llogi o’n dau safle yng nghanol Caerdydd. Rydym yn elusen seiclo, a’n cenhadaeth yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau manteision seiclo (a’r rhyddid i grwydro’n dinas hardd a’r cyffiniau)! Mae gennym y fflyd fwyaf o feiciau safonol a hygyrch yng Nghymru (ac un o'r rhai mwyaf yn y DU), gan gynnwys beiciau gwthio cyffredin, beiciau plant, E-Feiciau, treiciau a beiciau ochr yn ochr. Mae ein prif safle ym Mhontcanna, ger canol y ddinas, ac mae ar agor trwy gydol y flwyddyn. Mae wrth ymyl Llwybr Taf a pharciau bendigedig Caeau Llandaf, Parc Bute a Thiroedd y Castell. Mae ein hail safle ym Mae Caerdydd, sy’n cynnig gwasanaeth llogi tymhorol yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Mae’r lleoliad perffaith i grwydro’r Bae a’r Morglawdd, yn ogystal â Phenarth a Bro Morgannwg sydd gerllaw.
Man gwyrdd hardd Parc Carafannau Caerdydd yw lleoliad ein safle ym Mhontcanna. Mae caffi hygyrch lle gall pawb (gan gynnwys eu cŵn!) ymlacio a mwynhau te, coffi a diodydd oer yn ogystal ag ystod o gacennau wedi’u gwneud yn lleol a chawliau cartref, brechdanau, lapiau a brechdanau crasu. Mae tŷ bach hygyrch ar y safle hefyd.
Rhaid archebu ymlaen llaw i logi o'n safle ym Mhontcanna. Mae croeso i bobl alw heibio ein safle ym Mae Caerdydd.

Lleoliad

51.48922, -3.1975

Like what you see at Pedal Power Inclusive Cycling Charity
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Pedal Power Inclusive Cycling Charity. © Pedal Power Inclusive Cycling Charity 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig