Atyniad

Castell Caernarfon (Cadw)

Caernarfon Castle
Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd

Atyniad Information

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Toiledau
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Activities offered

  • Safle Hanesyddol

Take a look around

1 / 7
Caernarfon Castle
Caernarfon Castle
Caernarfon
2 / 7
Caernarfon Castle
Caernarfon Castle
Caernarfon
3 / 7
Caernarfon Castle
Caernarfon Castle
Caernarfon
4 / 7
Caernarfon Castle
Caernarfon Castle
Caernarfon
5 / 7
Caernarfon Castle
Caernarfon Castle
Caernarfon
6 / 7
Caernarfon Castle
Caernarfon Castle
Caernarfon
7 / 7
Caernarfon Castle
Caernarfon Castle
Caernarfon

About Castell Caernarfon (Cadw)

Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd.

Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.

Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.
Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru.

Caernarfon Castle
Caernarfon Castle

Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.

Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.

Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.

Lleoliad

53.13939, -4.27644

Like what you see at Castell Caernarfon (Cadw)
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Castell Caernarfon (Cadw). © Castell Caernarfon (Cadw) 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig