Cymru: nefoedd i syrffwyr drwy’r flwyddyn gron

Gyda dros 1,680 milltir o arfordir, mae Cymru’n cynnig profiad syrffio heb ei debyg. Mae’r ffaith bod yr arfordir hwnnw’n agos at Fôr Iwerydd, bod ganddo amrediad llanw gwych, a bod yma harddwch eithriadol yn sicrhau hynny. Yn wir, mae yma bopeth o donnau traeth sy’n addas i ddechreuwyr, i donnau cwbl wych sy’n torri ar greigiau ac oddi ar benrhynnau i’r rheini sy’n fwy o hen lawiau yn y môr.

Pan fyddwn ni’n sôn am ‘syrff da’, i bob diben rydyn ni’n sôn am ddau beth gwahanol. Yn gyntaf, tonnau dibynadwy – rhywle lle cewch chi donnau da y rhan fwyaf o’r adeg. Yn ail, tonnau sy’n fwy anodd eu canfod, ond bod iddyn nhw siâp perffaith. Boed chi’n gwibio ar don hir sy’n torri oddi ar benrhyn, neu’n rhuthro ar don tu chwith allan, mae gan Gymru bopeth dan haul i roi gwefr i syrffwyr.

Syrffiwr yn cyrcydu ar fwrdd syrffio y tu mewn i don sy’n cyrlio’n gyflym, gyda dŵr yn creu twnnel o’i amgylch.

Patrick Langdon-Dark, y syrffiwr proffesiynol o Gymru, yn syrffio yn nhraeth Llangynydd, Gŵyr, Gorllewin Cymru

Llefydd syrffio dibynadwy i syrffwyr profiadol

Yn gyntaf, ble i ddod o hyd i don sicr – y llefydd dibynadwy. O’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain, mae digonedd o donnau ar gael sy’n torri ar dywod, gyda digon o ffenest i’r Iwerydd i gael tipyn go lew o ymchwydd. Yn amlycaf yn eu plith, mae bae siâp pedol Llangynydd, yn agos at ddinas Abertawe. Yma, mae tair ardal wahanol o donnau traeth. Ymhellach i’r gogledd, mae’r tonnau’n mynd yn fwy heriol. Yn ôl tua’r dwyrain, mae Rest Bay ym Mhorthcawl lai na phum munud o’r draffordd, ac mae yma opsiynau ym mhob llanw.

Syrffiwr yn gafael mewn bwrdd syrffio gyda gwair uchel a môr yn y cefndir.
Llun agos o don yn cyrlio yn y môr gyda dŵr gwyrddfelyn, a thraeth a thwyni i’w gweld yn y cefndir o dan awyr glir.

Y syrff yn Nhraeth Llangynydd, Gŵyr, Gorllewin Cymru

I’r gorllewin wedyn, mae gan drindod o draethau yn Sir Benfro, sef Freshwater West, Niwgwl a Phorth Mawr, i gyd amrywiaeth anhygoel o fanciau tywod. Mae’r olaf o’r rhain yn arbennig o dda i’r rheini sy’n anturio ar fyrddau byr – dim syndod mai dyma gartref rhai o’r cystadleuwyr newydd gorau yn y wlad ar hyn o bryd fel Josie Hawke neu’r brodyr Buick.

Ton yn torri yn y môr ger y lan yn Freshwater West, Sir Benfro, Gorllewin Cymru, gyda chlogwyni a bryniau glaswelltog yn y cefndir.

Pam fod Freshwater West yn Sir Benfro yn denu pobl rif y gwlith

Gan droi ein trwynau am y gogledd, ac ymhellach i gysgod Iwerddon, mae modd syrffio y rhan fwyaf o ddiwrnodau – yn nhywod Borth a Thywyn, er enghraifft, ac wedyn ym Mhorth Neigwl ar drwyn eithaf Pen Llŷn. Os nad yw’r daith odidog rhwng y llefydd hyn yn ddigon i danio’r dychymyg, bydd grym y dyfroedd gleision yn sicr o wneud hynny.

Syrffiwr yn uchel ar don sy’n cyrlio, gydag ewyn gwyn a dŵr garw’r cefnfor oddi tano.

Porth Neigwl, Pen Llŷn, Gogledd Cymru

Pan fydd y syrffio yng Nghymru’n magu stêm

Y tu hwnt i’r tonnau arferol, serch hynny, ar y diwrnod iawn mi ddewch chi o hyd i gyfleoedd syrffio prinnach ond mawr eu bri. Cyn i mi sôn am y perlau mwy rhyfeddol ym myd syrffio Cymru, mae’n werth crybwyll bod weithiau donnau dibynadwy yn ogystal â rhai arbennig i’w cael mewn ambell le, fel y tonnau mawrion yn Aberafan ym Mhort Talbot neu’r Harbour Trap yn Aberystwyth. Byddwch yn gwrtais wrth y bobl leol, ac arhoswch am eich tro os byddwch chi’n padlo i’r môr yn y naill neu’r llall o’r llefydd hyn ar ddiwrnod da!

Syrffiwr mewn siwt wleb ddu yn reidio ton gyrliog gyda phelydrau haul euraidd yn goleuo brig y don.
Ton yn torri yn y môr ger y lan gydag adeiladau dinesig yn y cefndir o dan awyr glir.

Tonnau enwog Aberafan, Port Talbot, sy’n torri tua’r chwith, gyda champws Prifysgol Abertawe yn y cefndir

Prinnach, ond yr un mor wych, yw’r llefydd cwbl neilltuol sy’n rhoi gwledd i’r syrffiwr crwydrol. Pan fydd Môr Iwerydd yn gyrru storm fawr i’n cyfeiriad, bydd cilfachau ym mhob cwr o’r wlad yn troi’n llefydd anhygoel, cyn belled â’ch bod chi’n barod i wisgo neopren a dioddef ychydig o frath y gwynt. Efallai mai’r llefydd gorau sydd â gwely tywod yn hyn o beth yw De Aberllydan ger Ystagbwll, a chredwch neu beidio, traeth y de yn Ninbych-y-pysgod. Ar ddiwrnod pan fydd y torheulwyr wedi hen gilio yn ôl i’r swyddfa am y gaeaf, gall gwynt de-orllewinol cryf anfon casgenni carlamus sy’n sicr o roi’r gwefr i’r ffyddloniaid. Er bod y rhain yn llefydd tra adnabyddus, mae angen rheoli’ch disgwyliadau wrth anelu yno. Bydd rhai o syrffwyr gorau’r byd yn cystadlu am rai o donnau gorau’r byd ar ddiwrnodau o’r fath, ac er bod croeso i syrffwyr sy’n ymweld o lefydd eraill, braint yr hen lawiau profiadol yn aml fydd dal y don fwyaf. Gwyliwch, gwrandewch, ac achubwch ar y cyfleoedd pan fyddan nhw’n dod! Mae tonnau yr un mor gyffrous i’w canfod ym Mhen Llŷn hefyd, os cadwch chi’ch clustiau ar agor a gofyn y cwestiynau iawn.

Ton yn torri yn y môr ger y lan gydag adeiladau dinesig yn y cefndir o dan awyr glir.
Ton gyrliog yn y môr gydag arfordir creigiog, gwyrdd yn y cefndir o dan awyr glir.

Traeth y de yn Ninbych-y-pysgod gyda’r gaer ar Ynys Catrin y tu ôl iddo, a thonnau siâp tiwb oddi ar arfordir Pen Llŷn

Tonnau sy’n torri ar greigiau ac oddi ar benrhynnau Cymru: i’r profiadol a’r anturus

Yn achos tonnau sy’n torri ar greigiau ac oddi ar benrhynnau – sef trysorau pennaf y crwydrwr rhyngwladol – mae gan Gymru ddigonedd i’w gynnig. Y ffactor hollbwysig yn hyn o beth yw ein hamrywiaeth eithriadol o wyntoedd a llanw. Efallai y bydd y gwynt yn ddolefus ar y tir ar un ochr i’r dref neu’r penrhyn, ond allan ar y môr yr ochr arall, bydd yr amgylchiadau’n berffaith. Does dim enghraifft well o hyn na’r creigiau ar hyd arfordir deheuol Gŵyr, i’r gorllewin o Borth Eynon, lle mae’r glannau troellog, creigiog yn cuddio dros hanner dwsin o berlau yn y tywydd iawn. Pan fydd y llanw a’r gwynt yn cyd-dynnu, mae’r posibiliadau’n wefreiddiol. Mewn tywydd stormus ym Mae Langland, sy’n meithrin doniau syrffio cyson, fe gewch chi donnau sy’n torri oddi ar benrhynnau, ar greigiau ac ar y traeth i gyd mewn un llanw. Os byddan nhw yn ôl ar y glannau hyn ar ôl crwydro’r byd, gallwch chi ddisgwyl cwmni’r syrffwyr proffesiynol Patrick Langdon-Dark ac Alys Barton, ymhlith eraill.

Syrffiwr yn yr awyr uwchben ton gyda’r bwrdd ar ogwydd, ac ewyn, cefnfor a chefndir creigiog i’w gweld.

Patrick Langdon-Dark, y syrffiwr proffesiynol o Gymru, yn syrffio ym Mae Langland, Gorllewin Cymru

Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg hefyd yn lle penigamp am donnau sy’n torri ar greigiau ac oddi ar benrhynnau, ac fel yng Ngŵyr, y gyfrinach yw gwneud ychydig o ymchwil i’r gwynt a’r llanw. Mae gwneud hynny wedi galluogi syrffwyr fel Logan Nicol, a fu’n bencampwr cenedlaethol sawl tro, i feithrin ei arddull unigryw. Os byddwch chi’n barod i fynd i chwilota ar droed, mawr fydd eich gwobr ym mhen draw’r llwybr. Os am feysydd parcio a sesiwn fwy cymdeithasol, mae trefi syrffio Porthcawl a Llanilltud Fawr ar naill ben yr arfordir hwn, gyda thonnau da sy’n torri oddi ar benrhynnau yn y naill a’r llall – yn enwedig yn y gaeaf. Mae amrywiaeth tebyg, ond llawer mwy anghysbell, o donnau sy’n torri ar greigiau i’w cael yn Sir Benfro, er y bydd angen cyfnewid yr esgidiau cerdded am gwch yn achos rhai ohonyn nhw, a chanfod rhywun profiadol i’w lywio. Ond bydd antur yn eich aros, serch hynny.

Syrffiwr yn mynd drwy’i bethau ar frig ton gydag ewyn, cefnfor ac awyr yn y cefndir.

Callum Thomas, y syrffiwr o Gymru, yn syrffio oddi ar benrhyn Porthcawl, De Cymru

Llefydd syrffio llai adnabyddus a thywydd prin

Yn olaf, mae’n rhaid crybwyll glannau Ceredigion, sydd ddim mor adnabyddus, ond sydd â thonnau yr un mor drawiadol yn torri oddi ar benrhynnau. Mae’n siŵr mai’r rhain, fodd bynnag, yw’r tonnau mwyaf prin ac anodd i’w canfod, gan nad ydyn nhw’n hoff o’r gwynt de-orllewinol arferol. Ond gall gwynt de-ddwyreiniol, sy’n ffenomenon brin, greu ymchwydd rhyfeddol yr holl ffordd i’r gogledd at odreon Eryri. Fan hyn, mae’r anwadalwch yn rhan o’r cyffro.

Craig wedi’i gorchuddio’n rhannol gan y lli ar draeth tawel gyda chlogwyni yn y pellter ac awyr gymylog.
Traeth tywodlyd gyda thonnau, clogwyni creigiog yn y cefndir, ac ychydig o bobl yn mwynhau’r dŵr o dan awyr fymryn yn gymylog.

Llangrannog a Thraeth Tresaith, Ceredigion, Canolbarth Cymru

Y gair olaf o gyngor wrth syrffio yng Nghymru

A dyma ddod at y cyngor pwysicaf y byddwn i’n ei roi i unrhyw un sy’n ymweld â Chymru i chwilio am donnau, ar wahân i ofalu bod gennych chi’r siwt wleb iawn i’r tymor iawn. Cadwch eich llygaid ar agor o hyd, yn barod i ddarganfod. Oherwydd yn y wlad hon, gall pethau newid yn gyflymach nag yn unrhyw le arall y gwn i amdano yn y byd. Ar yr olwg gyntaf, efallai mai clwstwr garw o greigiau yn nannedd y gwynt welwch chi. Ond gwta funudau wedyn, bydd hi fel canfod trysor aur ym mhen draw enfys. A hynny’n aml gydag enfys go iawn uwch eich pen, hefyd. Ydy, mae cyffro’r chwilio’n gallu gwneud syrffio yng Nghymru yn wefreiddiol dros ben. Os bydd y tywydd yn troi, mae digon o lefydd yng Nghymru i roi croeso gwresog i chi, ond hyd yn oed wedyn, peidiwch â chefnu ar y môr am ormod. Efallai fod sesiwn orau’ch bywyd, mewn lle tawel ymhell o’r torfeydd, ar fin cyrraedd pan fydd y gwynt yn troi’r tro nesaf.

Y tu mewn i don werdd gyda phelydrau haul, arfordir a bryniau i’w gweld yn y cefndir o dan awyr gymylog.

Gallai’r amgylchiadau syrffio mewn rhai lleoliadau yng Nghymru greu un o’ch teithiau mwyaf cyffrous erioed

Straeon cysylltiedig