Fy Nghymru gan Huw Brassington

Mae Pen Llŷn yn gyrchfan naturiol arbennig i redwyr, beicwyr a cherddwyr brwd. Mae ei amrywiaeth o dirweddau'n cynnig rhywbeth ar gyfer galluoedd a gofynion gwahanol, p'un a ydych am wthio eich hun yn llwyr drwy fentro i'r tirweddau gwyllt, neu bod ychydig yn fwy hamddenol ond mwynhau rhywfaint o adrenalin wrth i chi fynd.

Yma, yn y gornel ysblennydd hon o Gymru, gallwch wneud y ddau.

Cefais fy ngeni dafliad carreg i ffwrdd yn Llandwrog, ac o fy nhŷ galla i droi i'r chwith tuag at Eryri neu droi i'r dde tuag at Ben Llŷn. Yn amlach na pheidio, dw i'n troi i'r dde. Pan fydd gennych chi rywle sydd â chymaint o harddwch ar garreg eich drws, rydych chi'n teimlo'ch hunan yn cael eich tynnu'n ôl dro ar ôl tro.

 

Os oes gen i ras ar y gweill, dw i bob amser yn mynd i Uwchmynydd. Dyma un o fy hoff lefydd yn y byd ac mae'n lle gwych i ymarfer. Parciwch ym mhentref bach arfordirol Aberdaron i'r dwyrain o Uwchmynydd, neu yn un o feysydd parcio cyfagos yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac ewch tuag at lwybr yr arfordir. Gallwch gerdded, rhedeg neu eistedd yma a mwynhau'r olygfa. 

Mae Uwchmynydd ar ben de-orllewinol Pen Llŷn, ac mae Llwybr yr Arfordir yn troelli o'i amgylch. Dw i'n aml yn ymuno â'r darn yma o'r llwybr ac yn ei chael hi'n anodd dod oddi arno gan fod harddwch y lle bob amser yn fy rhyfeddu. Ar ddiwrnod clir gallwch weld Iwerddon, Ynys Môn ac Ynys Manaw. Ac yn syth o'ch blaen mae Ynys Enlli, lle ro'n i'n arfer mynd ar wyliau'n aml pan o'n i'n blentyn.

Dw i wedi gweld bywyd gwyllt anhygoel yma, o frain coesgoch, i forfilod danheddog a dolffiniaid. Pan fydda i'n meddwl am galon Pen Llŷn, dyma lle dw i'n meddwl amdano. Mae'n anhygoel.

Dyn yn eistedd ar graig gydag Ynys Enlli yn y cefndir

Huw Brassington yn eistedd ar graig yn Uwchmynydd, sef pen de-orllewinol Pen Llŷn, gydag Ynys Enlli yn y cefndir

Er mwyn amrywio fy ymarfer, dw i'n neidio ar y beic ac yn mynd ar daith ar hyd tir cymysg Pen Llŷn. Un lle sy'n ddelfrydol ar gyfer hynny ydy Nant Gwrtheyrn, islaw i bentref Llithfaen ar arfordir gogleddol Pen Llŷn. Y lle yma ydy'r abwyd sy'n fy nhynnu tuag at yr arfordir. Wrth feicio yma fe fyddwch chi'n mynd lawr y dyffryn tuag at y môr, gyda golygfa anhygoel o'ch blaen. Mae'n ffyrnig, yn wyllt ac yn newid yn gyson, sydd bob amser yn gwneud i fi fod eisiau dod yn ôl.

Os ydych chi'n chwilio am her go iawn, rhowch gynnig ar feicio yn ôl i fyny'r dyffryn. Dydy hon ddim yn daith i'r gwangalon, ond rhowch gynnig arni os ydych chi'n teimlo y gallwch chi. Mae sawl rhan lydan lle gallwch stopio ar y ffordd i fyny i ddal eich gwynt a mwynhau'r golygfeydd unwaith eto. Ond cyn i chi adael Nant Gwrtheyrn, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i gael paned a chacen yng Nghaffi Meinir

Ac ni fydd unrhyw daith i Ben Llŷn yn gyflawn heb ymweld â Phorthdinllaen, pentref pysgota diarffordd mewn cilfach gudd ar arfordir gogleddol Pen Llŷn. Allwch chi ddim cyrraedd y pentref mewn car, felly gallwch redeg yn gyflym dros y pentir a chyrraedd y lle mewn deg munud, neu mae'n daith gerdded o ugain munud o'r maes parcio. Pa bynnag un y byddwch yn ei ddewis, fe gewch wobr werth chweil ar ôl cyrraedd - un o'r golygfeydd mwyaf godidog yng Nghymru.

Cychod bach ar y traeth gyda'r môr yn y cefndir
Llun yn edrych i lawr ar draeth Porthdinllaen gyda thai yn y tu blaen a'r bryniau yn y cefndir

Traeth Porthdinllaen

Mae'n lle hudol sy'n llawn o'n hanes, ein treftadaeth, a'n diwylliant ni. Mae wedi'i wau ym mhob llwybr, ym mhob bae ac ym mhob mynydd, ac yn dirlun sydd heb ei ddifetha o gwbl.

Mae Porthdinllaen yn lle gwych i gymryd seibiant yn ystod diwrnod o archwilio, ac mae un o dafarndai gorau Pen Llŷn, Tŷ Coch, wedi ei leoli ar y traeth. Does dim syndod bod y lle yma bob amser yn llawn, mae'r bwyd yn wych, maen nhw'n gweini cwrw lleol ac mae'r golygfeydd yn odidog. Rhowch gynnig ar flasu peint o Gwrw Llŷn - mae'n cael ei fragu dafliad carreg i ffwrdd yn Nefyn, a gallwch ymweld â'r bragdy hyd yn oed.

Wrth gwrs, does dim rhaid i chi fod yn rhedwr traws gwlad neu'n frwd dros chwaraeon fel fi i werthfawrogi Pen Llŷn. Mae'r darn bach yma o'r nefoedd ar y ddaear ar gael i bawb, ond mae rhywbeth gwirioneddol arbennig ynglŷn â mwynhau'r lle ar droed, wrth ddringo'r bryniau a'r llwybrau arfordirol, neu ar gefn beic.

Mae'n lle hudol sy'n llawn o'n hanes, ein treftadaeth, a'n diwylliant ni. Mae wedi'i wau ym mhob llwybr, ym mhob bae ac ym mhob mynydd, ac yn dirlun sydd heb ei ddifetha o gwbl.

Llun o adeiladau ar y traeth, gyda bryniau gwyrdd y tu ôl.
Llun o fad achub yn yr orsaf yn wynebu'r môr, gyda'r traeth ar yr ochr dde

Traeth Porthdinllaen

Byddwch yn ddiogel!

Ewch i AdventureSmart.uk am wybodaeth am sut i aros yn ddiogel wrth archwilio Cymru.

 

Golygfa o Ynys Enlli o ben de-orllewinol

Golygfa o Ynys Enlli o ben de-orllewinol Pen Llŷn, sef Uwchmynydd

Straeon cysylltiedig