Rafftio yn y De: Caerdydd
Mae plant o dan ddeg a dechreuwyr wrth eu bodd yma, felly beth sy’n denu’r padlwyr proffesiynol i gwrs Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd? Y gyfrinach yw’r pwmp sy’n addasu llif y dŵr yn ôl gallu pob rafftiwr. Pa faint bynnag o brofiad sydd gennych, yng nghanolfan rafftio ddiweddaraf Cymru, a agorodd yn 2010 ym Mae Caerdydd, fe gewch chi’r holl gyffro y byddech yn ei gael wrth rafftio ar hyd yr afon, a hynny ar un cwrs 254 metr. Bydd yr adrenalin yn siŵr o bwmpio, yn ôl yr arbenigwyr – mae’n gyflym, mae’n hwyl, a phrin y gwelwch chi unrhyw ddŵr gwastad.
Bryony Rees, hyfforddwr rafftio:
'Ton syrffio ydy Vicarious ac rydyn ni’n taflu pawb i mewn gyda’i gilydd i gael eu gwlychu at eu crwyn. Mae pawb wrth eu bodd.'

Rafftio yn y Canolbarth: Y Gelli Gandryll
Does unman cystal â rhannau uchaf Afon Gwy i fforio mewn rafft, heblaw efallai am yr Alban. Gallwch dreulio diwrnod yn crwydro am bymtheg milltir ar hyd yr afon naturiol hon gyda chwmni Black Mountain Rafting. Ar ôl dysgu’r technegau padlo ar ddŵr tawel, braf fe ewch ymlaen yn raddol i roi cynnig ar ddŵr gweddol arw a rhaeadrau bach Gradd 3, ac ar ôl bod ar yr afon am ddwy awr, byddwch yn gwibio drwy’r tonnau cryfion. Wedyn byddwch yn barod am ail hanner y daith! Ac am daith hyfryd yw honno, meddai’r arbenigwyr.
Mike Smith, uwch-hyfforddwr rafftio:
'Pwll dwfn yr ‘Hell Hole’ yw’r lle i bobl gael y cyffro mwyaf, fel arfer mewn tonnau rhwng 4 ac 8 troedfedd, ond dwi wedi mynd â phobl drwodd pan oedd y dŵr yn cyrraedd 16 troedfedd.'
Rafftio yn y Gogledd: Y Bala
Mae’r dŵr gwyllt yn arllwys yn syth o argae i fyny’r afon i Ganolfan Dŵr Gwyn Cymru. Felly, yn wahanol i’r llif ysgafn a gewch chi ar afonydd eraill yng Nghymru, mae Afon Tryweryn yn cynnig gwerth dros hanner milltir o raeadrau bach nerthol gradd 3-4. Does dim angen bod ofn – bydd arbenigwyr yn eich tywys bob cam o’r ffordd, ac maen nhw’n dweud mai’r rafftwyr mwyaf petrusgar sy’n gwenu fwyaf ar ddiwedd y daith. I gael blas ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl, ewch â’r teulu am antur ychydig llai mentrus gyda Tryweryn Safari.
Paul Bayliss, pen-hyfforddwr:
'Mae’n rhaid i chi badlo’n galed i fynd drwy’r rhaeadrau chwim yn y Fynwent (neu gallech eistedd ar y gwaelod a gobeithio am y gorau) ac ar y Naid Sgïo byddwch yn plymio dros ddwy res o gerrig.'

Rafftio yn y Gogledd: Llangollen
Dim un pwmp, na’r un argae. Rafftio naturiol yw’r syniad ar Afon Dyfrdwy, mewn lle cyfleus nid nepell o dref brydferth Llangollen. Fe gewch chi hwyl hefyd, meddai tîm White Water Active. Y rhaeadrau Gradd 2-4 ger Llangollen ddenodd yr hyfforddwr canŵio Olympaidd Jim Jayes yma, ac maen nhw’n cynnig digonedd o gyffro mewn awyrgylch diogel.
John Higgins, pen-hyfforddwr rafftio:
'Cynffon y Neidr: yma mae’r afon yn mynd drwy fwlch cul ac yna mae tu blaen y rafft yn diflannu’n llwyr – gwych!'