Bydd dyn yn cyrraedd rhyw oedran pan mae’n sylweddoli na fydd e fyth yn cyflawni rhai o’i uchelgeisiau. Mae’n bur annhebygol y caf chwarae dros Gymru bellach, na chanu ar y prif lwyfan yn Glastonbury. Ond dydw i ddim mor hen â hynny, wedi’r cyfan. Dwi’r un oed â Kylie Minogue, mewn difri’ calon. Os ydy hi’n medru cerdded yn y ’sgidiau uchel ’na, siawns na fedra i ddysgu sut i syrffio.

Ble mae dechrau?

Penrhyn Gŵyr, wrth gwrs, yw un o’r mannau mwyaf poblogaidd, ond dwi'n petruso braidd ar ôl gweld yr olwg ar y syrffwyr yno, yn gorweddian yn eu campyrfans, gyda’u gwalltiau ffasiynol a’u tatŵs, yn siarad rhyw iaith sy’n gwneud iddynt swnio fel Klingons o Galiffornia.

Wrth lwc, mae digonedd o lefydd eraill yng Nghymru. Efallai yr af i lawr i Arfordir Treftadaeth Morgannwg, neu’r traethau eang ym Mhorthcawl. Efallai y gallwn ddod o hyd i donnau haws eu reidio yng nghyffiniau Aberystwyth, neu ryw gornel dawel o Ynys Môn neu Ben Llŷn. Heb anghofio Sir Benfro - dwi'n mynd yno bob blwyddyn beth bynnag, felly os aiff popeth yn anghywir, mater bach fydd dychwelyd i’r bwthyn am wydraid o gwrw ac ychydig o faldod.

Mae’r Porth Mawr ger Tyddewi yn draeth penigamp. Un o’r goreuon, yn wir. Yma mae Academi Syrffio Cool Water yn rhoi gwersi ar y traeth, gan ddarparu’r holl offer (siwt wlyb, bwrdd syrffio ac ati) sydd ei angen ar ddyn yn ei oed a’i amser sydd ar fin gwneud ffŵl o’i hun. 

Image of a person with their back towards the camera, facing the beach and the sea, with a surfboard under their arm
Syrffio ym Mae Dwnrhefn, Southerndown

Bwrw i’r dwfn

Dwi wedi cael lle ar ddosbarth dwy awr i ddechreuwyr. Mae’r prentisiaid eraill yn amrywio o blant weddol fach i dadau gweddol fawr (un ohonynt yn hŷn na fi, hyd yn oed). Ar ôl gwisgo’r gêr i gyd, i ffwrdd â ni tuag at ran dawel o’r traeth lle mae’r tonnau’n ysgafnach, ac yn bwysicaf oll, lle nad oes neb arall i ni fwrw yn ei erbyn.

Cyn i ni wlychu’n traed, cawn sgwrs am ddiogelwch a rhywfaint o theori. Y syniad yn y bôn yw ein bod ni’n cerdded i’r dŵr tan iddo gyrraedd ein botwm bol, a cheisio dal ambell don. Ar ôl meistroli hynny, byddwn yn rhoi cynnig ar sefyll ar ein traed. Mae’n swnio’n ddigon didrafferth. O dan arweiniad yr hyfforddwr rydyn ni’n ystwytho rhywfaint, yn rhedeg ar hyd y traeth i gynhesu (diolch i’r drefn – mae’n llawer haws torri’r ias pan mae rhywun yn chwysu) ac i ffwrdd â ni.

Rwy’n ei chael hi’n weddol hawdd dal y tonnau, fel mae’n digwydd. Mae’n fater o aros am don digon mawr sydd ar fin torri, gwthio’ch hun tua’r lan a llusgo’ch hun i fyny ar y bwrdd. Gorweddwch, a mwynhewch. Hyd yn hyn, mae’n debyg iawn i gorff-fyrddio.

Mae’r her fawr yn dod nesaf: sefyll ar fy nhraed. Gallwch chi wneud hyn mewn dwy ffordd. Y ffordd amlwg yw mynd ar eich pedwar, a chodi gan bwyll ar eich pengliniau cyn sefyll yn syth. Rwy’n hen law ar y symudiad yma, wedi’i wneud e gannoedd o weithiau wrth godi fy allweddi oddi ar y llawr wrth ddod adref ar ôl noson ar y cwrw. Ond mae’n dipyn mwy o her wrth reidio ewyn y don a hithau ar fin torri. Felly disgyn i’r môr yw fy hanes i, yn go aml.

Y ffordd arall i fynd o’i chwmpas hi ydy mynd amdani, a neidio’n syth oddi ar eich bol i fod ar eich traed, heb drafferthu codi ar eich pengliniau. Mae’r ffordd yma’n anodd (rhowch gynnig arni’r FUNUD HON ar y carped, i weld sut hwyl gewch chi arni). Ond â finnau’n ffyddiog o lwyddo, dwi'n mynd amdani. Ac i mewn i’r dŵr â fi.

Gall unrhyw un ei wneud e

Aiff awr wlyb heibio wrth wneud hyn. Dwi'n cael digon o hwyl, ond dwi ddim yn ei deall hi. Mae rhai o’r plant ar eu traed yn barod. Mae hyd yn oed yr hen ŵr (sy’n gorfod bod o leiaf dair blynedd yn hŷn na fi) wedi dod yn weddol agos ati unwaith neu ddwy.

Yna mae’n digwydd. Dwi'n dal ton, yn codi’n drwsgwl ar fy mhengliniau ac yn sefyll yn araf ar fy nhraed, fel rhyw blanhigyn trofannol yn blodeuo, ac mae’n rhaid i mi ddweud mod i’n ddigon o sioe yn sefyll yn dalsyth ar y bwrdd. Mae fel cael fy nghario gan garped hud, gyda holl rym Môr Iwerydd oddi tano, a minnau’n sefyll arno â’m coesau ar led fel un o hen dduwiau’r môr. Wrth gwrs, petasech chi yma’n gwylio o’r traeth fe welsech chi rywbeth go debyg i hen ŵr musgrell yn simsanu ei ffordd yn ara’ deg dros ddeng modfedd o ewyn OND DOES DIM OTS GEN I, DWI’N SYRFFIO.

Dwi’n gwneud tair eiliad o hyn cyn disgyn oddi ar y bwrdd. Ond mae’r tair eiliad honno wedi dangos i mi pam fod pobl yn gwneud yr holl ffỳs am syrffio. Mae’n teimlo fel sgïo, y tro cyntaf i chi wibio drwy’r powdwr. Neu’r adeg mae’ch traed yn codi o’r ddaear wrth baragleidio am y tro cyntaf, neu’r eiliad pan ewch chi dros gan milltir yr awr ar gefn beic modur, neu pan fyddwch chi’n camu o ddrws yr awyren gyda’ch parasiwt. Dwi wedi gwneud pob un o’r rheiny, ac mae syrffio’n brofiad sy’n cymharu’n dda.

Dwi’n gwybod pam fod pobl yn gwirioni ar syrffio. Pam fod pobl yn treulio’u holl amser yn gwneud hyn, ar foreau rhewllyd yn y gaeaf pan mae’r môr yn ferw gwyllt, yn mwmial rhywbeth mewn Klingon wrth aros am y don berffaith.

Felly mae’n wir, fe ALL unrhyw un syrffio. Dwi'n mynd yn ôl i’r dŵr fy hun yr haf yma. Y tro hwn dwi'n gobeithio para mwy na phump eiliad.