Gogledd Cymru

Prestatyn i Rhyl

Mae Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn rhannu’r un llwybr ar hyd y darn hwn. Mae’r pellter o Brestatyn i Rhyl yn tua 6 milltir (9km). Mae’r llwybr wedi’i wneud o darmac llyfn neu concrid yr holl ffordd, ac mae’n wastad ar y cyfan gydag ychydig o lethrau a rampiau yn unig. Mae’r golygfeydd sy’n edrych allan am y môr yn arbennig – eangderau llydan o dywod gyda’r nifer helaeth o felinau gwynt Fferm Wynt Alltraeth Gogledd Hoyle yn sgleinio yn y pellter. Mae yna doiledau ar y promenâd ym Mhrestatyn a Rhyl a chaffis a siopau hufen iâ ar y ffordd. Os ydych yn amseru’r daith yn gywir, gallwch ddal y trên yn ôl.

Pellter: Tua 6 milltir (9km) un ffordd

Arwyneb: Tarmac a choncrid llyfn

Amser: Caniatewch 4 i 5 awr

Darllenwch ragor: Teithiau cerdded mynediad hwylus ar Lwybr Arfordir Cymru

 

Golygfeydd o dyrbinau gwynt yn y môr ac awyr yn machlud y tu ôl.

Fferm Wynt Alltraeth Gogledd Hoyle, Prestatyn

Conwy i Ddeganwy

Mae palmentydd a darn byr o ffordd i’w dilyn ar y daith hon. O faes parcio Beacons ym Marina Conwy, dilynwch y llwybr cerdded o gwmpas y dyfroedd tawel. Yna, defnyddiwch y palmentydd llyfn ar Ellis Way a Morfa Drive nes ydych yn cyrraedd y llwybr trwy’r Warchodfa Natur Leol Coedwig Bodlondeb. Yng Nghei Conwy rydych yn mynd heibio’r Tŷ lleiaf ym Mhrydain ac yna’n cyrraedd Castell Conwy. Defnyddiwch ochr ddistaw y stryd gan fod grisiau ar y palmant. Croeswch bont yr afon ar y palmant a dilynwch y llwybr llyfn ger yr afon i Farina Deganwy, sy’n edrych i lawr yr aber. Mae toiledau yng Nghei Conwy a Marina Deganwy ac mae nifer o lefydd i gael rhywbeth bach i’w fwyta.

Pellter: Tua 3 milltir (4km) un ffordd

Arwyneb: Palmant a tharmac, adrannau byr ar y ffordd

Amser: Caniatewch 2 i 3 awr

Darllenwch ragor: Taith y ddau farina

Golygfa yn edrych dros y dŵr tuag at Gastell Conwy
View of a marina with a stone breakwater and houses behind

Castell Conwy a Chei Conwy

Abergele i Landdulas

Mae’r llwybr hwn yn ddelfrydol gan ei fod bron yn hollol wastad ac mae’r wyneb yn darmac llyfn yr holl ffordd. Mae’n cael ei rannu gyda’r llwybr beicio felly byddwch yn wyliadwrus o feicwyr a cherddwyr. Ar un ochr mae gwrychoedd deiliog a llethrau, ac ar yr ochr arall mae morgloddiau, traeth llydan a’r môr. Mae Tides Café yn y maes carafanau tua dwy ran o dair o’r ffordd yn le gwych i gael seibiant. Fel rydych yn cyrraedd Llanddulas, mae’r llwybr tarmac yn ymdroelli’n ysgafn trwy laswelltiroedd ac ar draws pont sy’n croesi’r afon Ddulas.

Pellter: Tua 3 milltir (5km) un ffordd

Arwyneb: Tarmac llyfn

Amser: Caniatewch 2 i 3 awr

Darllenwch ragor: Gwyliau hygyrch yng Ngogledd Cymru

Canolbarth Cymru

Aberporth i Dresaith

Mae yna olygfeydd hardd dros Fae Ceredigion yma, ac efallai y gwelwch chi ddolffiniaid ymhlith y tonnau. Dechreuwch ym maes parcio Capel Brynseiol oddi ar Heol y Graig, i’r dwyrain o Fae Aberporth. Mae’r llwybr yn eich arwain ar hyd y clogwyn i’r dwyrain tuag at Dresaith, heibio’r cildraethau creigiog nes cyrraedd rhaeadr fechan. Yna ewch yn ôl ar hyd yr un llwybr. Mae nifer helaeth o adar i’w gweld o’ch cwmpas. Cadwch lygad am glochdar y cerrig, corhedydd y waun a hyd yn oed brain coesgoch prin. Mae yna feinciau picnic ar hyd y ffordd. Mae toiledau hygyrch ar gael ar draeth Aberporth yng Nglanmordy, ac mae Cwtch yn gaffi cyfeillgar gyda golygfeydd o'r traeth. 

Pellter: Tua 1 milltir (1.6km) yna ac yn ôl

Arwyneb: Tarmac llyfn

Amser: Caniatewch 2.5 awr

Darllenwch ragor: Dewch o hyd i atyniadau hygyrch Canolbarth Cymru

Gorllewin Cymru

Pen Sant Gofan

Mae llwybr tarmac tua hanner milltir o hyd yn arwain o’r maes parcio i wylfa gwyliwr y glannau. Mae grid gwartheg ar un rhan ond gallwch ei hosgoi drwy fynd trwy giât mochyn llydan. Ydych chi awydd antur go iawn? Mae Llwybr Arfordir Cymru’n rhedeg ar hyd pen y clogwyn. Wrth fynd tua’r gorllewin o’r maes parcio ar hyd y llwybr, mae’r wyneb yn gerrig rhydd, sy’n addas ar gyfer treiciau a sgwteri symudedd. Cadwch ar y llwybr gan fynd heibio cildraethau smyglwyr a ffurfiannau creigiog garw, yr holl ffordd at ddwy golofn anferth o galchfaen yn Stack Rocks, sy’n aml wedi’u gorchuddio gan luoedd o adar y môr. Mae rhai graddiannau a gatiau yn y rhan yma.

Mae’r ardal hwn yn rhan o faes tanio byw ac mae’n aml ar gau i’r cyhoedd. Sicrhewch fod modd i chi ymweld â’r ardal drwy ffonio 01646 662367 neu ewch i dudalen gwybodaeth tanio Castlemartin ar wefan Llywodraeth y DU.

Pellter: 1.1 milltir (1.8 km) taith yna ac yn ôl i gwylfa gwyliwr y glannau
7 milltir (11km) taith yna ac yn ôl i Stack Rocks

Arwyneb: Tarmac/cerrig rhydd

Amser: Caniatewch 90 munud i’r olygfan

5 i 6 awr ar gyfer Stack Rocks

Darllenwch ragor: Mynediad i bawb ar arfordir Sir Benfro

Wooden boat skeleton sculpture alongside the coast path with sandy beach in the background

Traeth Aberporth

Bae Abertawe i Bier y Mwmbwls

Mae llwybr yr arfordir o amgylch Bae Abertawe yn llyfn a gwastad – hawdd i deithio ar ei draws am dros 7 milltir (11km). Dechreuwch yn harbwr Abertawe ble mae nifer o opsiynau parcio a bwyta. Mae’r promenâd yn ymestyn o gwmpas y bae. Mae yna barc ar y mewndir gyda chaffis a siopau i gael paned neu hufen iâ. Ymhellach ymlaen, croeswch bont Blackpill dros y Clun i gyrraedd y prom yn y Mwmbwls. Gallwch barhau’r holl ffordd at y pier. Mae yna doiledau hygyrch yng ngorsaf bad achub y Mwmbwls (allwedd radar yn ofynnol).

Am daith llawer byrrach dechreuwch yn y Mwmbwls ym meysydd parcio Knabb Rock neu Swansea View ac ewch i lawr am y pier ac yna’n ôl.

Pellter: 7 milltir (11km) un ffordd

Arwyneb: Tarmac llyfn a choncrid

Amser: Caniatewch 4 i 5 awr

Darllenwch ragor: Taith epig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru

Menyw ar treic gorweddol ar lan y môr

Crwydro rhan hygyrch o'r llwybr rhwng Bae Abertawe a'r Mwmbwls

Llwybr Arfordirol y Mileniwm

Dechreuwch yng Nghei’r Mileniwm ym maes parcio Doc y Gogledd, Llanelli. Mae toiledau a chaffi ar gael ym mistro St. Elli’s Bay a’r Ganolfan Ddarganfod. Mae’r promenâd llyfn a gwastad yn cynnig golygfeydd gwych ar draws y traeth ac mae cerfluniau ar hyd y llwybr. Parhewch dros bont y rheilffordd i’r olygfan rhyfeddol wrth y Cerflun Nodwydd. Mae llyn ym Mharc Dŵr y Sandy sydd â hwyaid ac elyrch ynddi. Ymlaen i Pwll, gyda cherfluniau tirwedd i’w hedmygu. Wrth fynd heibio Caffi’r Pafiliwn rydych yn cyrraedd Porth Tywyn gyda’i harbwr, marina a goleudy. Os parhewch ymlaen byddech yn mynd heibio hen Harbwr Pen-bre gyda thwyni tywod a’r aber sy’n llawn bywyd gwyllt, gan gyrraedd Parc Gwledig Pen-bre. Mae toiledau a chaffi yn y ganolfan ymwelwyr.

Pellter: 4 milltir (6.5km) un ffordd

Arwyneb: Tarmac llyfn a choncriwch 2 i 3 awr un ffordd

Darllenwch ragor: Atyniadau hygyrch yng Ngorllewin Cymru

 

Aerial shot of sea, beach and path
Golwg o’r awyr o lwybr arfordirol ac arfordir

Llwybr Arfordirol y Mileniwm rhwng Llanelli a Phorth Tywyn 

De Cymru

Traeth Aberafan

Mae’r llwybr hir o dywod aur ar draeth Aberafan yn hyfryd mewn bron unrhyw dywydd. Mae pellter o tua 3 milltir (5km) o un pen i’r llall. Mae gan y promenâd lwybr tarmac llyfn ac mae’n hollol wastad. Yn ogystal, mae yna feysydd parcio mewn sawl lleoliad a thoiledau anabl hefyd. Rydych yn debygol o weld syrffwyr a syrffwyr barcud ar bigau’r tonnau, tra bod y tywod yn denu adeiladwyr cestyll tywod. Ar lan y môr byddwch yn gweld cerfluniau, gerddi, cae chwarae i blant, parc sglefrio a pharc dŵr yn yr haf. Mae caffis a chiosgau ar gael er mwyn archebu rhywbeth i’w fwyta neu i gael hufen iâ yn yr haul.

Pellter: Tua 3 milltir (5km) un ffordd

Arwyneb: Tarmac llyfn

Amser: Caniatewch 2.5 awr

Darllenwch ragor: Traethau Cymreig gwych gyda mynediad rhwydd

Taith Canolfan Ymwelwyr Gwlypdiroedd Casnewydd

Os ydych yn hoffi’r syniad o gyfuno gwylio adar gyda’ch trip, mae’r Ganolfan Ymwelwyr Gwlypdiroedd Casnewydd RSPB yn cynnig y ddau. Mae llwybr hygyrch 3 milltir (4.5km) o hyd yn arwain o’r ganolfan ymwelwyr, gan fynd heibio coetiroedd a glaswelltiroedd ble mae’n bosibl i weld tegeirian ar ddiwedd y gwanwyn, i lawr at ran o Lwybr Arfordir Cymru. Rydych yn mynd heibio goleudy Dwyrain Wysg sy’n 120 mlwydd oed, gyda golygfeydd ar draws y tiroedd mwdlyd a chyfleoedd i weld adar hirgoes fel y crëyr bach copog a phibydd y mawn. Hefyd, mae yna lwybr cerfluniau a phont sy’n arnofio. Mae toiledau hygyrch a chaffi yn y ganolfan ymwelwyr. Gallwch logi ysbienddrych hefyd.

Pellter: 3 milltir (4.5km) taith yna ac yn ôl

Arwyneb: Carreg galed

Amser: Caniatewch 2 i 4 awr

Darllenwch ragor: Atyniadau hygyrch yn Ne Cymru

Merch mewn cadair olwyn gyda rhieni ar lwybr o flaen goleudy
Dau blentyn mewn cadeiriau olwyn gyda'u rhieni ar lwybr gyda brwyn o'u hamgylch.

Diwrnod allan teuluol yng Nghanolfan Ymwelwyr Gwlypdiroedd Casnewydd

Straeon cysylltiedig