Newidiodd fy mywyd yn llwyr saith mlynedd yn ôl pan anafwyd fy asgwrn cefn. Nawr mae arnaf angen ffyn baglau, cyfarpar orthotig, cadair olwyn neu dreic i symud o gwmpas. Ond yn bendant dydw i ddim am roi’r gorau i fy mreuddwyd o deithio’r 871 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Gyda ffrindiau’n cerdded y rhannau na fedraf eu cyrraedd, rwy’n gwneud fy rhan i godi arian i’r Uned Anafiadau’r Asgwrn Cefn ar y ffordd.

Dyma rai o fy hoff rannau hyd yn hyn.

Abergele, Conwy

Mae hwn yn llwybr hir hyfryd ar hyd arfordir gogledd Cymru. Rwyf wedi’i ddewis gan ei fod yn hollol gyfleus gyda sawl caffi, tafarn a lleoedd parcio i’r anabl.

Llwybr cylchol Llanfairfechan i Glan y Môr Elias

Gan gychwyn o bromenâd Llanfairfechan, mae’r llwybr 4 milltir hwn yn mynd ochr yn ochr â’r traeth, morfeydd heli a thrwy warchodfeydd natur. Gyda digonedd o adar, mae'n daith wych i'r rhai sy'n hoff o fyd natur, ac mae'n rhoi'r cyfle i edmygu'r golygfeydd allan i Ynys Seiriol. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r meinciau pren yng ngwarchodfa natur Glan y Môr Elias, wedi eu cerfio gydag enwau a lluniau o’r adar y gallwch chi eu gweld.

 

Darllenwch fwy am brofiad Amanda o grwydro arfordir Gogledd Cymru ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.

eisteddodd y person ar dreic modur, ar lwybr arfordirol concrit gyda glaswellt i'r chwith ac awyr las uwchben.
Golygfa ar draws traeth tywodlyd allan i'r môr gyda'r llanw allan ac awyr las uwchben.

Amanda Harris ar Lwybr Arfordir Cymru yn Llanfairfechan

Penrhyn Sant Gofan, Sir Benfro:

Er mai hon yw un o’r rhannau byrraf i fi, yn sicr dyma fy ffefryn hyd yn hyn. Mae’r olygfa’n rhyfeddol ac yn golygu y gallwn gael profiad go iawn o natur wyllt a garw arfordir Cymru. Roeddwn yn falch iawn gweld bod lle parcio i’r anabl i’w gael yn yr ardal ddigon anghysbell hon, ond hyn y gwn i, doedd dim toiledau ac yn sicr doedd dim caffi.

Bae Abertawe

Adran boblogaidd iawn sy’n hollol gyfleus a chyda sawl caffi, tŷ bwyta a chyfleusterau gwych bob pen. Mae gweld goleudy’r Mwmbwls yn y pen pellaf o Farina Abertawe yn gallu’ch digalonni, ond mae’n deimlad o lwyddiant ar ôl cyrraedd yno a chael hufen iâ haeddiannol iawn!

 

Porth-cawl, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r promenâd ym Mhorth-cawl yn hen ffefryn gyda digonedd o feinciau a pharcio ar ymyl y ffordd at hyd y tu blaen. Ac erbyn hyn mae’n bosibl dilyn y llwybr bob cam o gwmpas Rest Bay ac ymlaen heibio’r cwrs golff ar y llwybr, lle nad oes grisiau, ac allan tuag at dwyni Cynffig.

Straeon cysylltiedig